Disgrifiad o'r termau allweddol a ddefnyddir yn ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod).
Cynnwys
Cyfraddau
Mae tair cyfradd Treth Gwarediadau Tirlenwi:
- cyfradd is ar gyfer deunyddiau anadweithiol sy’n cwrdd â’r amodau a nodir yn y Ddeddf (gweler y canllawiau i gael rhagor o wybodaeth ar ddeunyddiau cymwys)
- cyfradd safonol ar gyfer pob deunydd arall
- chyfradd gwarediadau heb awdurdod ar gyfer gwarediadau trethadwy a wneir yn rhywle ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedig
Mae’r cyfraddau treth ar gyfer 2018-19 i 2020-21 i’w gweld yn y tabl isod.
Cyfradd safonol |
Cyfradd is |
Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi |
|
---|---|---|---|
2018-19 |
£88.95 y dunnell |
£2.80 y dunnell |
£133.45 y dunnell
|
2019-20 |
£91.35 y dunnell |
£2.90 y dunnell |
£137.00 y dunnell |
2020-21 |
£94.15 y dunnell |
£3.00 y dunnell |
£141.20 y dunnell |
Codir gwarediad trethadwy ar safle tirlenwi awdurdodedig ar y gyfradd safonol, . Mae hyn yn oni bai bod y deunydd sy'n cael ei waredu:
- yn cynnwys un neu fwy o ddeunyddiau cymwys yn unig
- neu'n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau
Ac os felly, codir y gyfradd is.
Bydd gwarediad trethadwy sy'n cael ei wneud yn unrhyw le oni bai am safle tirlenwi awdurdodedig yn ddarostyngedig i dâl yn ôl y gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi. Mae hyn waeth beth fo:
- natur y deunydd a waredir
- a waeth pe byddai fel arall yn ddarostyngedig i'r gyfradd safonol neu'r gyfradd is pe bai’n cael ei waredu mewn safle tirlenwi awdurdodedig
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau technegol Treth Gwarediadau Tir.
Cyfnodau cyfrifyddu
Mae pob gweithredwr safle tirlenwi yn cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gyda ni ar gyfer dychwelyd ffurflen Treth Gwarediadau Tir. Rydym rhaid yn dderbyn pob ffurflen erbyn diwrnod gwaith olaf y mis yn dilyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu.
Mae’r rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi’n gweithio’n unol â chwarteri calendr safonol:
- Ebrill i Fehefin
- Gorffennaf i Fedi
- Hydref i Ragfyr
- Ionawr i Fawrth
Felly, un ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer y gweithredwr safle tirlenwi hwnnw yn cynnwys y data ar gyfer unrhyw chwarter penodol.
Fodd bynnag, mae lleiafrif bychan o weithredwyr safleoedd tirlenwi’n gweithio’n unol â chyfnodau amgen o dri mis (er enghraifft Mai i Orffennaf, neu Mehefin i Awst). Byddem yn derbyn y ffurflenni hyn erbyn diwrnod gwaith olaf y mis canlynol (diwedd mis Awst neu ddiwedd mis Medi yn yr enghreifftiau hyn). Mae'r addasiadau a wnaed i ddata a ddarparwyd gan y gweithredwyr hyn wedi'u nodi yn adran Dulliau y datganiadau ystadegol.
Esemptiadau
Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i ni. Nid ydym yn casglu unrhyw ddata ar y gwarediadau esempt hyn. Ar hyn o bryd mae dau warediad esempt:
Amryfal warediad deunydd ar yr un safle
Pan mae’r deunydd wedi cael ei gynnwys eisoes ar ffurflen dreth a bod treth wedi’i thalu wrth ei waredu ar yr un safle. Mae hyn yn sicrhau mai dim ond un waith y bydd gwarediadau lluosog o’r un deunydd ar yr un safle awdurdodedig yn agored i Dreth Gwarediadau Tir.
Mynwentydd anifeiliaid anwes
Mae’n berthnasol i safleoedd tirlenwi awdurdodedig nad ydynt ond yn derbyn gwaredu cyrff neu lwch anifeiliaid anwes marw (ac unrhyw flwch neu wrn sy’n eu cynnwys). Gan fod y gwarediadau mewn mynwentydd anifeiliaid anwes yn esempt, nid oes raid i weithredwyr mynwentydd o'r fath gofrestru gyda ni gyfrif ar gyfer Treth Gwarediadau Tir. Nid yw’r esemptiad yn cwmpasu safleoedd tirlenwi eraill sy’n derbyn gweddillion anifeiliaid anwes a mathau eraill o wastraff.
Rhyddhadau
Gall gweithredwyr safle tirlenwi yn hawlio rhyddhad ar rai gwarediadau trethadwy ar safleoedd awdurdodedig. Mewn achosion hyn, nid ydym yn codi y dreth os bydd y rhyddhad yn cael ei hawlio mewn ffurflen dreth. Caiff rhyddhadau eu gosod mewn pedwar categori cyffredinol:
- deunydd a dynnir o wely afon, o wely’r môr neu o ddyfroedd eraill drwy garthu
- deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarela
- ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli
- ac adfer safleoedd
Disgownt dŵr
Caiff gweithredwr safle tirlenwi wneud cais i ni am gymeradwyaeth i gymhwyso un neu fwy disgownt. Mae pob disgownt yn perthnasol i ddŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy o ffynhonnell benodol. Gall y disgownt mewn perthynas â dŵr ynwedi’u cyfyngu i achosion cyfiawn pryd y mae angen ychwanegu neu ddefnyddio dŵr.
Caiff gweithredwr safle tirlenwi pan fydd y dŵr yn bresennol fel mater o raid yn y deunydd at y dibenion canlynol:
- bod rhaid ei ychwanegu er mwyn gallu cludo’r deunydd i’w waredu
- bod rhaid ei ychwanegu i echdynnu mwyn
- bod rhaid ei ychwanegu yn ystod proses ddiwydiannol
- ei fod yn deillio’n anochel o ganlyniad i broses ddiwydiannol
- neu bod y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr
Bydd yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi hawlio'r disgownt mewn perthynas â dŵr yn eu ffurflen dreth. Mae hyn drwy ddarparu manylion y tunelledd dŵr i'w ddisgowntio ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu. Nid yw wedi’i gynnwys mewn unrhyw bwysau yr adroddwyd ei fod yn destun y cyfraddau safonol neu is.
I gael rhagor o wybodaeth am esemptiadau, rhyddhadau a disgownt, gweler y canllawiau technegol ar wefan yr Awdurdod a’r ddeddfwriaeth ar gyfer Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Gwarediadau heb eu hawdurdodi
Gallai gwaredu deunydd fel gwastraff fod yn agored i Dreth Gwarediadau Tirlenwi ni waeth ymhle cafodd y gwarediad ei wneud. Gall gwarediadau a wnaed y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig fod yn agored i’r gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi (£137.00 y dunnell ar gyfer 2019-20). Rydym yn cymhwyso y gyfradd hon, yn ddiwahân, i bob deunydd a waredir, ni waeth os yw’r deunydd yn agored i'r gyfradd safonol neu’n gymwys ar gyfer y gyfradd is.
Nid oes yr un o’r esemptiadau neu ryddhadau sy’n gymwys i warediadau ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig ar gael i warediadau anawdurdodedig.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar warediadau heb eu hawdurdodi ar wefan yr Awdurdod.