Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Gorffennaf i Fedi 2021:

  • bu 355 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 28% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei yrru'n bennaf gan gynnydd mewn gwarediadau wedi’u rhyddhau ac wedi’u disgowntio, a gwarediadau cyfradd safonol oedd â’r ffigwr chwarterol ail uchaf a welwyd hyd yma. Arhosodd gwarediadau cyfradd îs yn gymharol uchel, ychydig yn îs na’r ffigur chwarterol uchaf yn y cyfnod blaenorol (Ebrill i Fehefin 2021).
  • roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £14.1 miliwn o dreth yn ddyledus, y ffigur chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Mae’n cynnydd 29% ers yr un cyfnod yn 2019. Yn adran dadansoddi’r datganiad hwn, rydym yn awgrymu rhai rhesymau posibl dros y cynnydd hwn.
  • efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data. Mae dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Fodd bynnag, mae'r patrwm hwn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan effaith coronafirws (COVID-19).
  • roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 85% yr holl dreth yn ddyledus
  • mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan ACC.

Image
Siart 1a  yn cynnwys pwysau ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl gradd treth a chwarter
Image
Siart 1b  yn cynnwys treth yn ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl gradd treth a chwarter.

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyniad o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

O fis Ebrill 2018, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn newid y Dreth Tirlenwi yng Nghymru. Rydym, Awdurdod Cyllid Cymru, yn casglu a rheoli’r Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r dreth wedi'i llunio a'i gwneud yng Nghymru a bydd y refeniw a gesglir yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth a maent yn trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd.

Diben y dreth yw:

  • lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
  • annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi

Gwerth ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi. Mae gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net.

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon TGT i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Data ar gael dros Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno

Mae ddata ar gael hefyd ar wefan StatsCymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y tudalennau rhestr termau a’r gwybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad
  • mae ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd

Diwygiadau i ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r amcangyfrifon chwarterol yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Gall pob ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan Awdurdod Cyllid Cymru ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol.

Yn yr adran ganlynol, rydym yn disgrifio y dulliau yr ydym yn defnyddio i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni.

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Cyfnodau cyfrifyddu

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd.

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
  • mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol
Image
Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Yn ein gwybodaeth ansawdd allweddol, rydym yn disgrifio sut y gwnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd o Ebrill 2021. Yn y ffurflen newydd, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi unrhyw wastraff wedi'i ryddhau ac unrhyw ddisgownt dŵr mewn rhannau ar wahân o'r ffurflen. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyfuno’r ddau gategori hyn i gyflwyno categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’.

Yn y ffurflen dreth flaenorol, byddai gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi gwastraff wedi’i ryddhau fel gwastraff cyfradd is i ddechrau ac yna'n ei dynnu i ffwrdd mewn rhan ddiweddarach o'u ffurflen. Fodd bynnag, byddai ein datganiadau blaenorol yn adrodd am wastraff wedi’i ryddhau o fewn y categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’ ond nid fel rhan o’r categori cyfradd is, felly nid yw hyn wedi golygu newid yng nghyflwyniad y data dros amser.

Gwarediadau heb awdurdod

Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r hyn dan adolygiad. Pan fydd gennym ddigon o ddata, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein dull o gyhoeddi gwybodaeth am warediadau heb awdurdod.

Ansolfedd cwsmer

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn.

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Dadansoddiad

Cyfraddau treth sy’n berthnasol i Dablau 1a a 1b

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer 2018-19 i 2021-22.

  Cyfradd safonol Cyfradd is Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi 
(ddim yn Nhablau 1a a 1b)
2018-19 £88.95 y dunnell £2.80 y dunnell £133.45 y dunnell
2019-20 £91.35 y dunnell £2.90 y dunnell £137.00 y dunnell
2020-21 £94.15 y dunnell £3.00 y dunnell £141.20 y dunnell
2021-22 £96.70 y dunnell £3.10 y dunnell £145.05 y dunnell

Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]

Pwysau a waredwyd (‘000 tunnell) [2]
  Rhyddhad neu ddisgownt [3] (r) Cyfradd is (r) Cyfradd safonol Cyfanswm [4]
2019-20 142 427 392 962
Ebr-Meh 32 106 110 248
Gor-Med 23 139 116 277
Hyd-Rhag 31 95 80 206
Ion-Maw 56 87 87 230
2020-21 141 521 323 984
Ebr-Meh 46 84 54 184
Gor-Med 42 139 104 285
Hyd-Rhag 30 164 90 284
Ion-Maw 23 134 74 231
2021-22 hyd yn hyn (p) 90 328 260 678
Ebr-Meh (r) 30 173 120 323
Gor-Med (p) 59 155 140 355

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Nodiadau

[1] Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

[2] Mae’r pwysau a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r 1,000 tunnell agosaf.

[3] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[4] Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.

[5] Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.

(p) Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

(r) Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Sylwadau ar Dabl 1a

Yn Ngorffennaf i Fedi 2021, roedd 355 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Dyma'r ffigur chwarterol uchaf a welwyd ers Hydref i Ragfyr 2018 a mae hyn 28% yn uwch na'r un cyfnod yn 2019. Rydym yn cymharu â 2019 ac nid 2020 oherwydd effeithiau’r coronafeirws (COVID-19) yn y flwyddyn honno.

O fewn y cyfanswm hwn, roedd 140 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn yw’r ffigur chwarterol ail uchaf a welwyd hyd yma ac 22% yn uwch na'r un cyfnod yn 2019. Mae adborth gan weithredwyr safleoedd tirlenwi a welodd gynnydd yn awgrymu bod y ffactorau canlynol yn gysylltiedig:

  • dychweliad i'r patrymau tymhorol o waredu gwastraff a welwyd cyn i'r pandemig COVID-19 ddechrau
  • cynnydd yn y ffrydiau gwastraff gan gwsmeriaid presennol gweithredwyr safleoedd tirlenwi
  • ffrydiau gwastraff newydd gan gwsmeriaid newydd

Ar hyn o bryd, nid yw'n amlwg a oes disgwyl i lefel gymharol uchel o warediadau cyfradd safonol y chwarter hwn barhau trwy gydol gweddill 2021-22. Fodd bynnag, rydym wedi sicrhau bod y data a dderbyniwyd gennym yn gyson yn fewnol ar draws pob ffurflen dreth. Gan fod treth eisoes wedi'i thalu ar y gwarediadau hyn, nid oes gennym reswm i gwestiynu cywirdeb y symiau uwch.

Mae’r 155 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd is oedd y ffigur chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Yn ein datganiad blaenorol, gwnaethom adrodd bod y ffigur chwarterol uchaf a welwyd hyd yma yn Ebrill i Fehefin 2021 yn rhannol oherwydd cynnydd ym musnes rhai gweithredwyr safleoedd tirlenwi. Mae'n debyg bod y duedd hon wedi parhau i'r chwarter cyfredol.

Yn Ngorffennaf i Fedi 2021, cynyddodd y pwysau wedi’i ryddhau a’i ddisgowtio i 59 mil tunnell. Dyma'r ffigur chwarterol uchaf a welwyd ers mis Ionawr i fis Mawrth 2019. Mae'r cynnydd hwn yn cyd-fynd ag adborth gan rai gweithredwyr sy'n cyflawni mwy o weithgareddau wedi’u rhyddhau ar hyn o bryd.

Tabl 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]

Treth yn ddyledus (£ miliwn) [2]
  Cyfradd is (r) Cyfradd safonol Cyfanswm [3] Swm y dreth a ryddhawyd [4] (r)
2019-20 1.2 35.8 37.0 0.3
Ebr-Meh 0.3 10.0 10.3 0.1
Gor-Med 0.4 10.5 10.9 ~
Hyd-Rhag 0.3 7.3 7.6 0.1
Ion-Maw 0.3 7.9 8.2 0.1
2020-21 1.6 30.4 31.9 0.3
Ebr-Meh 0.3 5.1 5.4 0.1
Gor-Med 0.4 9.8 10.2 0.1
Hyd-Rhag 0.5 8.5 9.0 0.1
Ion-Maw 0.4 7.0 7.4 ~
2021-22 hyd yn hyn (p) 1.0 25.2 26.2 0.2
Ebr-Meh (r) 0.5 11.6 12.1 0.1
Gor-Med (p) 0.5 13.6 14.1 0.2

Landfill Disposals Tax statistics by reporting period, tax rate and measure on StatsWales (includes data for 2018-19, not presented above) 

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Nodiadau

[1] Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

[2] Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf

[3] Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.

[4] Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.

[5] Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.

(p) Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

(r) Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Sylwadau ar Tabl 1b

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2021 at £14.1 miliwn o dreth yn ddyledus. Dyma'r ffigur chwarterol uchaf a welwyd hyd yma ac mae'n cynrychioli cynnydd o 29% o'r un cyfnod yn 2019. Gyrrwyd hyn i raddau helaeth gan:

  • gynnydd ym mhwysau gwarediadau cyfradd safonol, a ddisgrifir yn y sylwebaeth ar Dabl 1a
  • cynnydd blynyddol yn y cyfraddau treth

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gallu cadw’r effeithiau yma ar wahan i’r tueddiadau mwy cyffredinol yn y data. Ond byddwn angen gwerth sawl blwyddyn o ddata cyn i hynny fod yn bosibl, ac mae effaith coronafeirws (COVID-19) bellach yn gymhlethdod ychwanegol.

Ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2021, roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 85% yr holl dreth a dalwyd. Mewn cyfnodau o dri mis cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80-90%.

Mae’r gwerth ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd yn cynrychioli faint o dreth fyddai wedi bod yn ddyledus pe nad fyddai’r rhyddhad wedi’i ganiatáu.

Image
Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae Tabl 2 isod yn dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.

Tabl 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [1]

  Gwerth taliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (£ miliwn)
2018-19 35.8
Ebr-Med [2] 12.2
Hyd-Rhag 13.5
Ion-Maw 10.1
2019-20 37.2
Ebr-Meh 9.2
Gor-Med 10.1
Hyd-Rhag 10.9
Ion-Maw 7.1
2020-21 33.9
Ebr-Meh 2.5
Gor-Med 9.9
Hyd-Rhag 11.6
Ion-Maw 10.0
2021-22 hyd yn hyn (p) 23.6
Ebr-Meh 8.6
Gor-Med 14.9

 

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Nodiadau

[1] Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.

Commentary on Table 2

Sylwadau ar Tabl 2

Yn Ngorffennaf i Fedi 2021, cawsom £14.9 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 47% yn uwch na'r un cyfnod yn 2019. Fel mewn tablau cynharach, rydym yn cymharu hyn â 2019 ac nid 2020 oherwydd effeithiau’r coronafirws (COVID-19) y flwyddyn honno.

Mae'r tueddiadau yn y data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Fel rheol gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol.

Sylwch hefyd fod Tabl 2 ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Gwarediadau Tirlenwi heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo