Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiadau cynlluniedig

Gall diwygiadau arfaethedig fod o ganlyniad i newidiadau methodolegol, ail-seilio neu argaeledd data terfynol.

Wrth ystyried diwygiadau, bydd y prydlondeb a geir wrth gyhoeddi data dros dro bob amser yn cael ei wrthbwyso gan y dryswch a’r niwed i hyder defnyddwyr y gall diwygiadau ei achosi. Dylai penaethiaid adrannau a ‘Phennaeth y tîm polisi a safonau ystadegol’ benderfynu gyda’i gilydd p’un a ddylid newid gwybodaeth ynteu ei thynnu’n ôl, a chan y Prif Ystadegydd y bydd y gair olaf.

Bydd yr holl allbynnau sy’n cynnwys ystadegau, sy’n agored i ddiwygiadau cynlluniedig, yn cynnwys datganiad diwygiadau, yn datgan p’un a yw’r ystadegau’n rhai dros dro ynteu’n rhai terfynol ac yn tynnu sylw at unrhyw ddiwygiadau. Os bydd yna ddiwygiadau, bydd yn dweud:

  • beth ydynt
  • pam y cawsant eu gwneud (datganiad cyffredinol yn hytrach na disgrifiad o bob newid yn unigol)
  • sut y maent yn effeithio ar unrhyw sylwebaeth neu ddehongliad a gyhoeddwyd o’r blaen

Dilynir ein protocol ar arferion cyhoeddi pan gaiff diwygiadau cynlluniedig eu cyhoeddi. Er enghraifft, caiff yr allbwn a fydd yn cynnwys yr ystadegau diwygiedig ei gyhoeddi ymlaen llaw a’i gyhoeddi am 9:30yb ar ddiwrnod o’r wythnos. Dewisir y dyddiad er mwyn osgoi creu’r argraff fod diwygiadau’n cael eu datgan am unrhyw reswm ar wahân i gywiro’r data yn unig.

Mewn achosion lle mae datganiad neu fwletin yn cael ei ddiwygio i gynnwys yr un data a chyfnodau amser â’r gwreiddiol, defnyddir yr un cyfeirnod ond gyda’r olddodiad (R). Mewn achosion lle mae datganiad neu fwletin yn diweddaru data ar gyfer cyfnodau amser blaenorol, ond hefyd yn cynnwys data ar gyfer cyfnod newydd o amser, defnyddir cyfeirnod newydd. Caiff y data diwygiedig ar gyfer cyfnodau amser blaenorol ei ddangos yn glir fel y cyfryw.

Yn achos diwygiadau cynlluniedig, er mwyn tryloywder, bydd y dudalen we yn ei gwneud yn glir ar ba ddyddiad y gwnaed y diweddariadau a beth oedd y newidiadau hynny, a bydd yr allbwn yn egluro manylion y newid.

Cyn belled ag y bo modd, caiff yr ystadegau diwygiedig eu rhyddhau i’r un cynulleidfaoedd a thrwy’r un cyfryngau. Rhoddir yr un wybodaeth ategol.

Cyhoeddir newidiadau methodolegol sydd heb fod yn ddibwys, a’u heffaith debygol, cyn cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau dilynol, er mwyn rhoi amser i ddefnyddwyr gymryd y materion methodolegol i mewn yn gyntaf.

Caiff diwygiadau eu monitro dros gyfnod o amser am duedd systematig.

Cyfresi amser cyson

Parheir i ymdrechu i roi mynediad i ddefnyddwyr at y cyfresi amser mwyaf diweddar. Lle bo’n briodol, bydd cyfres amser lawn yn dod gyda phob allbwn. Ni ddibynnir ar ddatganiadau rheolaidd i alluogi defnyddwyr i gyfansoddi eu cyfresi amser hwy eu hunain, gan y gall hyn arwain at wallau, yn enwedig os yw ystadegau yn agored i gael eu diwygio.

Pan wneir diwygiadau, darperir cymaint o ôl-ddata cyson ag sy’n ymarferol bosibl, ar yr amod yr osgoir unrhyw oedi pellach cyn rhyddhau’r ystadegau terfynol.

Dylid defnyddio’r rhestr wirio sydd ynghlwm yn Atodiad A, pryd bynnag y gwneir diwygiadau cynlluniedig.

Diwygiadau heb eu cynllunio oherwydd gwallau

Yn ddarostyngedig i awdurdod terfynol y Prif Ystadegydd, dylai penaethiaid adrannau a ‘Phennaeth y tîm polisi a safonau ystadegol’ gyda’i gilydd benderfynu a yw gwall yn ddigon arwyddocaol i warantu newid y wybodaeth neu ei thynnu’n ôl. Os felly, dylid cymryd y camau canlynol. Os nad yw’r gwall yn arwyddocaol, er enghraifft, dim ond gwall argraffyddol, dylid cywiro’r ddogfen yn syml a’i hailosod ar y rhyngrwyd.

Os oes gwallau sylweddol neu wallau a all fod yn niweidiol yn cael eu canfod mewn allbwn, cyhoeddir hysbysiad i dynnu sylw defnyddwyr tra bydd yr ystadegau diwygiedig yn cael eu paratoi.

Caiff yr ystadegau diwygiedig eu rhyddhau cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl. Yn y rhan fwyaf o achosion, ymdrinnir â diwygiadau sydd heb eu cynllunio drwy gynhyrchu allbwn diwygiedig yn ymdrin â’r un data a chyfnodau amser â’r gwreiddiol, ac felly ar gyfer datganiadau neu fwletinau defnyddir yr un cyfeirnod ond gyda’r olddodiad (R). Yn yr ychydig achosion pan fydd datganiad neu fwletin yn cywiro gwallau mewn data ar gyfer cyfnodau amser blaenorol, ond hefyd yn cynnwys data ar gyfer cyfnod newydd o amser, defnyddir cyfeirnod newydd. Caiff y data diwygiedig ar gyfer cyfnodau amser blaenorol ei ddangos yn glir fel y cyfryw.

Cyn belled ag y bo modd, caiff yr ystadegau diwygiedig eu rhyddhau i’r un cynulleidfaoedd a thrwy’r un cyfryngau. Rhoddir yr un wybodaeth ategol.

Symbolau i’w defnyddio

In cases where an entire table is provisional, or is a revised version of a previously published table, the term “provisional or “revised” will be included in the table title, and no symbols will be used in the body of the table.

The following symbols will be used to denote provisional and revised data. No other symbols will be used.

  • ‘p’ for ‘provisional’.
  • ‘r’ for ‘revised’ (to apply to all corrections, whether planned or unplanned)

Revisions will generally be denoted at a cell level using the symbol ‘r’ in any table containing revisions. In cases where the revision applies to the majority of cells in an entire row or column of data, an alternative approach will be to mark the row or column heading with the symbol ‘r’, which will be separate from any other footnote applied. The symbol ‘r’ will be removed if the same data are unchanged when published in a subsequent output.

Provisional status will generally apply to a subset of data within a table, as given in an entire row or column. The relevant row or column headings will be marked with the symbol ‘p’, which will be separate from any other footnote applied. The symbol ‘p’ will be removed when data are finalised.

Both symbols will be clearly explained, either by means of a footnote to a table making use of them, or in a ‘notes’ section describing all the symbols used in the output.

The accepted Welsh translations for these symbols and meanings are as follows.

English: provisional (p); revised (r)

Welsh: dros dro (p); diwygiedig (r)
The symbols are not translated to avoid the need for multiple symbols in bi-lingual tables.

Mewn achosion lle mae tabl cyfan yn un dros dro, neu’n fersiwn ddiwygiedig o dabl a gyhoeddwyd o’r blaen, caiff y term ‘dros dro’ neu ‘diwygiedig’ ei gynnwys yn nheitl y tabl, ac ni ddefnyddir symbolau o fewn corff y tabl.

Defnyddir y symbolau canlynol i ddynodi data dros dro a diwygiedig. Ni ddefnyddir symbolau eraill.

  • ‘p’ am ‘dros dro’
  • ‘r’ am ‘diwygiedig’ (i’w ddefnyddio ar gyfer pob cywiriad, boed wedi ei gynllunio neu beidio)

Dynodir diwygiadau yn gyffredinol ar lefel cell gan ddefnyddio’r symbol ‘r’ yn unrhyw dabl sy’n cynnwys diwygiadau. Mewn achosion lle mae’r diwygiad yn berthnasol i’r mwyafrif o gelloedd mewn rhes neu golofn gyfan o ddata, dull arall fydd rhoi’r symbol ‘r’ i ddynodi’r rhes neu bennawd y golofn, fydd ar wahân i unrhyw droednodyn arall a ddefnyddir. Tynnir y symbol ‘r’ os bydd yr un data yn aros heb ei newid pan gaiff ei gyhoeddi mewn allbwn diweddarach.

Bydd statws is-set o ddata o fewn tabl, fel y’i rhoddir mewn rhes neu golofn gyfan, fel rheol yn statws ‘dros dro’. Dynodir y rhes neu benawdau’r golofn berthnasol â’r symbol ‘p’, fydd ar wahân i unrhyw droednodyn arall a ddefnyddir. Caiff y symbol ‘p’ ei ddileu pan gaiff y data ei gwblhau’n derfynol.

Caiff y ddau symbol eu hegluro’n glir, naill ai drwy gyfrwng troednodyn i dabl sy’n eu defnyddio, neu mewn adran ‘nodiadau’ yn disgrifio’r holl symbolau a ddefnyddir yn yr allbwn.

Mae’r cyfieithiadau Cymraeg a dderbyniwyd ar gyfer y symbolau hyn a’u hystyron fel a ganlyn.

Saesneg: provisional (p); revised (r)

Cymraeg: dros dro (p); diwygiedig (r)
Nid yw’r symbolau’n cael eu cyfieithu er mwyn osgoi’r angen am symbolau lluosog mewn tablau dwyieithog.

Gohiriadau

Gohiriwyd lle cyhoeddir datganiadau neu fwletinau yn hwyrach na'r dyddiad cyntaf a gyhoeddwyd ymlaen llaw.

Ymdrinnir ag allbynnau a ohiriwyd yn wahanol i ddiwygiadau. Anfonir nodyn at y Gweinidog perthnasol yn egluro’r gohiriad. Caiff hwn ei ddosbarthu hefyd i’r holl staff mewnol, fyddai’n cael eu hysbysu fel rheol wedi i ddata gael ei ryddhau. Caiff dyddiad newydd ar gyfer yr allbwn ei gyhoeddi ymlaen llaw. Dilynir ein protocol ar arferion cyhoeddi, yn cynnwys y cyfyngiadau arferol ar fynediad cynnar breintiedig.

Atodiad A: Rhestr wirio ar gyfer cyhoeddi diwygiadau

  • Dilyn y protocol ar arferion cyhoeddi wrth gyhoeddi diwygiadau.
  • Peidio â chyhoeddi diwygiadau ond pan fyddant yn gwella’n sylweddol allu’r ystadegau i hysbysu penderfyniadau da. (Nid yw hyn yn berthnasol i ddiwygiadau cynlluniedig a fydd yn cael eu cyhoeddi waeth beth fo’u maint).
  • Tynnu sylw at y ffaith fod data diwygiedig ar gael: ychwanegu datganiad at dudalen we'r allbwn perthnasol.
  • Cyhoeddi newidiadau sylweddol mewn methodoleg cyn rhyddhau’r ystadegau yr effeithiwyd arnynt.
  • Ystyried cyhoeddi set ddata arbrofol ar sail hen ddata i ddarlunio’r newidiadau.
  • Cywiro gwallau cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.
  • Tynnu sylw defnyddwyr yr effeithiwyd arnynt at wallau.
  • Dogfennu’r rhesymau am unrhyw ddiwygiadau sylweddol, ac effeithiau’r rhain.
  • Cynnwys ôl-ddata pan fo’n ymarferol wrth ddiwygio cyfres.
  • Sicrhau bod diwygiadau’n cael eu cario drwodd i’r holl allbynnau perthnasol, gan gynnwys, er enghraifft, unrhyw dablau ar StatsCymru.