Neidio i'r prif gynnwy

Yn ein hymrwymo i gyhoeddi a chynnal datganiad yn disgrifio sut rydym yn bodloni'r safonau a nodwyd yn y Protocol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Ein dogfennau

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth eang o ystadegau i Gymru fel a ganlyn:

  • cyhoeddiadau cyntaf: cyhoeddi data newydd
  • bwletinau: dadansoddiadau newydd o ddata sydd eisoes yn gyhoeddus, sy'n aml yn fwy manwl, gan gynnwys bwletinau methodolegol
  • penawdau ystadegau: darparu dadansoddiad unigol byr neu fynegbost i ddadansoddiad a gynhyrchwyd gan adran arall
  • mae tablau data manwl ar gael drwy wasanaeth StatsCymru
  • gwefannau rhyngweithiol: defnyddir y rhain er mwyn darparu mynediad haws i’w defnyddio a rhyngweithiol i ffynonellau ystadegol allweddol

Ystadegau Cenedlaethol

Mae’r mwyafrif o'n datganiadau a'n bwletinau yn Ystadegau Cenedlaethol. Maent wedi eu hasesu gan Awdurdod Ystadegau'r DU ac yn cydymffurfio’n llawn â’r  Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Serch hynny, mae'r egwyddor sy'n sail i'r protocol sef trefniadau cyhoeddi agored, yn berthnasol i'r holl ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru.

Cost a fformat y dogfennau

Bydd yr holl allbynnau ystadegol rheolaidd yn cael eu rhyddhau ar y rhyngrwyd, am ddim.

Rhag-gyhoeddiad

Yn gyffredinol, ceir amserlenni penodedig ar gyfer paratoi cyhoeddiadau cyntaf chwarterol a misol, a chaiff y dyddiadau cyhoeddi eu datgan chwe mis ymlaen llaw. O ran allbynnau eraill, mae'r mis y bwriedir eu cyhoeddi yn cael ei ddatgan chwe mis ymlaen llaw, a'r union ddyddiad o leiaf bedair wythnos ymlaen llaw.

Mis a dyddiadau yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw ar y calendr i'w cyhoeddi cyn hir.

Amser cyhoeddi

Yn gyffredinol, caiff pob allbwn ystadegol eu cyhoeddi ar y wefan am 9:30am ar ddiwrnod gwaith arferol. Cyhoeddir hefyd drwy e-bost i ddefnyddwyr ystadegau hysbys a drwy cyfryngau cymdeithasol.

Fformat y dogfennau

Prif Ystadegydd y Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gynnwys, amseriad a fformat pob dogfen ystadegol. Caiff unrhyw ddatganiad polisi gan y Gweinidog Cymraeg ei gyhoeddi ar wahân. 

Gweld ystadegau cyn eu cyhoeddi

Mae'r Ddeddfwriaeth yn datgan bod modd i Weinidogion Cymru a'u swyddogion gael gweld unrhyw gyhoeddiadau hyd at bum niwrnod gwaith cyn eu cyhoeddi (hyd at 24 awr yn achos ystadegau sy'n sensitif o safbwynt masnachol). Hynny er mwyn i'r gweinidogion allu ymateb yn llawn pan fo cwestiynau'n codi amdanynt ar ôl eu cyhoeddi. Rydym yn cadw cofnod o'r gweinidogion a'r swyddogion sy'n cael gweld data at y diben hwn.

Yn ogystal, gall nifer gyfyngedig o swyddogion weld ystadegau cyn eu cyhoeddi er mwyn sicrhau ansawdd y data. Cedwir trywydd archwilio, a hysbysir y swyddogion hynny sy'n cael gweld deunydd o'r fath o'u cyfrifoldebau mewn perthynas â chyfrinachedd.

Nodau diogelwch

Cyn eu cyhoeddi, nodir 'SWYDDOGOL - SENSITIF' ar bopeth sy'n cynnwys ystadegau nad ydynt yn gyhoeddus eto. Nodir datganiad safonol ar yr holl ystadegau y mae gweinidogion a'u swyddogion yn cael eu gweld cyn eu cyhoeddi sy’n pwysleisio na ddylid eu hanfon ymlaen at unrhyw un arall na rhoi adroddiad ar eu cynnwys.

Yr iaith Gymraeg

Mae allbynnau ystadegol yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog os ydy’r dystiolaeth yn dangos bod anghenion defnyddwyr yn ddigonol. Mae hyn yn unol â'n gofynion o dan y Safonau Iaith Gymraeg ac God Ymarfer ar gyfer Ystadegau ar ddiwallu anghenion defnyddwyr.