Rheoli ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder i gefnogi bioamrywiaeth.
Cynnwys
Yr argyfwng natur
Rydyn ni mewn argyfwng natur. Mae ein bywyd gwyllt yn dirywio ac mae angen inni weithredu nawr i'w achub.
Gallwn ni wneud ymylon ffyrdd, parciau a mannau gwyrdd eraill yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Efallai y bydd glaswellt wedi'i dorri'n fyr yn edrych yn daclus ond nid yw fawr o fudd i fywyd gwyllt. Mae gadael i laswellt dyfu a chael rhagor o ardaloedd tebyg i ddolydd gyda blodau gwyllt yn helpu bywyd gwyllt.
Mae anifeiliaid a phlanhigion ar eu hennill os oes ganddyn nhw ardaloedd gwyrdd tebyg i ddolydd
Planhigion
Mae blodau gwyllt, gan gynnwys blodau gwyllt prin, yn tyfu ac yn cynhyrchu hadau, gan ganiatáu iddyn nhw gynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Infertebratau
Mae blodau gwyllt a glaswellt yn darparu bwyd i bryfed, gan gynnwys:
- cacwn
- pryfed hofran
- chwilod
- glöynnod byw
- gwyfynod
- sioncod y gwair
Mae glaswellt hir yn rhoi lloches fel y gallan nhw ddodwy eu hwyau a chwblhau eu cylchoedd bywyd. Mae priddoedd dolydd yn cynnwys niferoedd uchel o bryfed genwair.
Mamaliaid
Mae ystlumod, llygod maes, llygod y gwair, llygon a draenogod yn bwyta'r planhigion a'r infertebratau a geir mewn dolydd.
Amffibiaid
Mae brogaod a llyffantod yn bwyta infertebratau.
Ymlusgiaid
Hefyd, mae neidr defaid a madfallod yn bwyta infertebratau, ac mae nadroedd y gwair yn bwyta brogaod.
Adar
Mae adar bach fel nicos yn bwyta hadau o flodau gwyllt. Mae adar eraill fel gwenoliaid a gwenoliaid du’n bwyta pryfed. Mae cudyllod cochion, bwncathod a thylluanod gwynion yn bwydo ar famaliaid bach.
Achub bywyd gwyllt yw diben newid y ffordd rydyn ni'n torri glaswellt, nid lleihau costau
Gall newid y ffordd rydyn ni'n torri glaswellt greu rhagor o ddolydd blodau gwyllt brodorol. Hyd yn oed os yw rhai o'r lleiniau hyn yn fach, gyda'i gilydd byddan nhw'n gwneud arwynebedd mawr. Wrth i gynefinoedd blodau gwyllt gael eu cysylltu, bydd bywyd gwyllt yn gallu symud o un i’r llall.
Ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder: cefnogi pobl
Yn ogystal â chefnogi bywyd gwyllt, mae pobl yn mwynhau gweld blodau gwyllt. Mae pandemig COVID-19 wedi dangos inni bwysigrwydd natur i'n lles. Mae hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Mae llawer o bobl yn gwybod y gall coed a mawndiroedd storio carbon. Gall hyn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae llai o bobl yn gwybod bod priddoedd glaswelltiroedd hefyd yn gallu storio carbon. Mae glaswelltir sy'n llawn gwahanol rywogaethau'n storio mwy o garbon na glaswelltir lle mae prinder rhywogaethau. Mae dolydd sy'n llawn gwahanol rywogaethau:
- ar hyd ein ffyrdd
- mewn parciau, ac
- mewn mannau gwyrdd
yn gallu ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd.
Mae torri glaswellt yn llai aml yn atal pridd rhag mynd yn rhy gywasgedig. Mae priddoedd mwy llac yn caniatáu i wreiddiau planhigion ddatblygu'n well. Mae hyn yn helpu pridd i amsugno dŵr ac yn lleihau effeithiau llifogydd a sychder.
Pwy sy'n Rheoli Ymylon Ffyrdd a Glaswelltir Amwynder?
Rydyn ni'n gweithio gydag Asiantau Cefnffyrdd i ofalu am ein rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd. Mae cefnffyrdd a thraffyrdd yn ffyrdd prysur iawn. Maent yn cysylltu dinasoedd, trefi a phorthladdoedd mawr. Mae'r M4, yr A470 a'r A55 yn rhai enghreifftiau. Dyma ragor o wybodaeth am ymylon ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd.
Awdurdodau lleol sy'n rheoli'r rhan fwyaf o ymylon ffyrdd eraill. Gall ymylon o amgylch pentrefi ac mewn ardaloedd preswyl dderbyn gofal gan:
- gynghorau cymuned a thref, a
- chymdeithasau tai
Mae glaswelltir amwynder sy'n eiddo cyhoeddus yn derbyn gofal gan:
- awdurdodau lleol
- cynghorau cymuned a thref
- cymdeithasau tai, a
- grwpiau cymunedol
O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth. Gall torri ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder mewn ffordd sy’n gwella bioamrywiaeth helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon.
Mae sefydliadau sy'n amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer rheoli glaswelltir yn hyrwyddo gweithredu:
- drwy gynlluniau cymorth a rheoli corfforaethol
- drwy ymrwymo i'r cynllun Caru Gwenyn
Mae hyn yn annog gweithluoedd i weithio gyda'i gilydd a mabwysiadu dulliau newydd.
Mae Plantlife wedi cynhyrchu rheoli glaswellt ar ymylon ffyrdd: canllaw arfer da (gweler yr adran adnoddau yn https://roadverges.plantlife.org.uk). Roedd hyn mewn cydweithrediad â phartneriaid, gan ein cynnwys ni ein hunain.
Mae Natur Wyllt (monlife.co.uk) wedi datblygu cod gweithredu. Mae hyn yn cynnwys dulliau amgen o reoli glaswelltiroedd. Mae Natur Wyllt:
- yn rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (on monlife.co.uk)
- ac yn cael ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig
- ac yn cael ei ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant
Torri a chasglu
Mae torri a chasglu yn ddull sy'n efelychu ffyrdd traddodiadol o reoli dolydd gwair. Mae'n golygu casglu'r glaswellt ar ôl iddo gael ei dorri. Mae hyn yn bwysig oherwydd:
- ei fod atal llystyfiant, sy'n gallu mygu planhigion bregus marw, rhag cronni
- ei fod yn gadael rhagor o dir agored i ganiatáu i hadau dyfu
- ei fod yn lleihau ffrwythlondeb pridd. Mae hyn yn arafu twf glaswellt sy'n hoff o faethynnau, sy'n tagu blodau gwyllt a glaswellt mân
Diogelwch ar y ffyrdd
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cadw ffyrdd yn ddiogel i ddefnyddwyr. Er mwyn sicrhau y gall defnyddwyr ffyrdd weld, bydd angen inni reoli rhai ardaloedd i sicrhau diogelwch. Efallai y byddwn ni'n torri'r rhain yn amlach:
- cyffyrdd
- ffiniau ymylon
- cylchfannau
Y ffordd rydyn ni'n cefnogi newidiadau
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yw ein menter i greu natur ar garreg eich drws. Mae'n cynnig grantiau cyfalaf i brynu offer fel peiriannau torri a chasglu. Mae'r rhain yn helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus i:
- newid eu harferion torri glaswellt
- ehangu'r ardaloedd lle gallan nhw wella bioamrywiaeth
Yn 2021–22 cafodd pob awdurdod lleol yng Nghymru gymorth o'r ffynhonnell hon. Maen nhw'n newid eu harferion torri glaswellt. Rydyn ni am i ragor o sefydliadau gymryd rhan er mwyn creu rhagor o ddolydd i fywyd gwyllt.
Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn parhau i wella ardaloedd glaswelltir ar gyfer bioamrywiaeth. Mae'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf i’r rhai sy’n rheoli tir yn ddielw yng Nghymru, er enghraifft:
- awdurdodau lleol
- cynghorau cymuned a thref
- cymdeithasau tai
- ysgolion
- y GIG
- eraill sy'n rheoli glaswelltir yn ddielw
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cydgysylltydd Partneriaeth Natur Lleol. Mae ganddyn nhw arbenigedd a gwybodaeth werthfawr. Gallan nhw roi cyngor ar sut i gynyddu natur mewn cymunedau lleol.
Mae Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Rachel Carter, yn cefnogi Cynghorau Cymuned a Thref. Mae Rachel yn rhoi cyngor a chymorth i ddod o hyd i gyllid. Mae hefyd yn cynnig cymorth cyffredinol gyda chynlluniau bioamrywiaeth.
Mae gennyn ni brosiectau wedi'u hariannu gan grantiau i gynyddu maint ein dolydd sy'n llawn blodau gwyllt:
Iddyn Nhw
Ymgyrch yw ‘Iddyn Nhw’ sy’n dysgu pobl mai diben newid y drefn torri porfa yw achub natur.
Mae torri’r borfa’n llai aml ar ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd yn creu cynefin ‘Iddyn Nhw’:
- blodau gwyllt
- infertebratau
- adar
- mamaliaid
- amffibiaid
- ymlusgiaid
Os ydych chi’n gyfrifol am ymylon ffyrdd neu fannau gwyrdd cyhoeddus, hoffem i chi ymuno â ni. Mae angen eich cefnogaeth arnon ni i’w helpu ‘Nhw’ i lwyddo. Rydyn ni wedi creu pecyn o adnoddau i’ch helpu. Ychwanegwch eich logos a’ch manylion eich hun at:
- templed y ffeithlun
- templedi arwyddion y gallwch eu printio
- taflen fer gyda rhai cwestiynau cyffredin
Hoffwn ichi fynd â’r gair ar led am ‘Iddyn Nhw’. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Rhannwch y negeseuon ar eich cyfryngau cymdeithasol. Gyda’ch cymorth, gallwn annog mwy o bobl i dorri porfa’n llai aml a helpu i achub natur.
Astudiaethau achos
Mae nifer o awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ar draws Cymru yn newid y ffordd y maent yn rheoli eu glaswelltiroedd. Cewch eich ysbrydoli gan:
- Brosiect Blodau Gwyllt Sir Ddinbych (ar arcgis.com)
- Torfaen yn newid y system torri glaswellt (ar torfaen.gov.uk)
- Cynefin naturiol gwerthfawr yn cael ei guradu gan Bron Afon (ar brofafon.org.uk)
- Gwirfoddolwyr Caerdydd yn helpu rheoli parciau er lles natur (ar outdoorcardiff.com)
- Plantife Cymru: O wyrdd i wych (ar YouTube)
- Buglife Cymru B-lines: Stryd Y Brython, Rhuthun - Gwella ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd cyhoeddus ar gyfer peillwyr trwy newid patrymau rheoli
- Buglife Cymru B-lines: Ysbryd y Môr, Port Talbot - Gwella ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd ar gyfer peillwyr gydag adfywio naturiol