Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chynigion i bennu'r cymwysterau y mae'n rhaid i glerc (a elwir hefyd yn ‘Swyddog Priodol’) cyngor cymuned eu dal er mwyn i'r cyngor cymuned fodloni'r ail o'r tri amod cymhwystra i ddod yn ‘gyngor cymuned cymwys’.

Cyd-destun

Mae adran 24 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol (y “pŵer cyffredinol”) i “awdurdodau lleol cymwys”. Mae'r pŵer cyffredinol yn rhoi'r pŵer i'r awdurdodau hyn wneud unrhyw beth y gall unigolyn ei wneud, cyhyd â'u bod yn gweithredu'n rhesymegol ac yn unol â'r gyfraith.

Pennir awdurdodau lleol cymwys yn Neddf 2021 fel prif gynghorau a ‘cynghorau cymuned cymwys’.

Mae ‘cyngor cymuned cymwys’ yn gyngor cymuned sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra a nodir yn adran 30 o Ddeddf 2021, neu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 35 o Ddeddf 2021, ac yn pasio penderfyniad ei fod yn bodloni'r meini prawf.

Mae'r amodau y mae'n rhaid i gyngor cymuned eu bodloni er mwyn pasio penderfyniad ei fod yn ‘gyngor cymuned cymwys’ fel a ganlyn:

  • datganwyd  bod o leiaf ddau draean o gyfanswm aelodau'r cyngor wedi'u hethol, boed mewn etholiad cyffredin neu mewn isetholiad
  • mae clerc y cyngor yn dal unrhyw gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster o fath a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau
  • mae'r cyngor wedi cael barn archwilio ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, am ddwy flwyddyn ariannol yn olynol. Mae'n rhaid i'r farn archwilio ddiamod ddiweddaraf fod wedi'i chael yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod y cafodd penderfyniad y cyngor ei basio.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y rheoliadau drafft sy'n pennu'r cymwysterau arfaethedig o dan yr ail amod.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi cael ei baratoi fel rhan o’r Rheoliadau. Aseswyd costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn fel rhan o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Deddf 2021 (tt 126-127).

Yn fwy cyffredinol, daeth ymgynghoriad ar agweddau eraill ar arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i ben ar 11 Mehefin 2021. Roedd yn ceisio barn ar y cynigion canlynol:

  • rhagnodi amodau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol cymwys eu bodloni wrth arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol at ddiben masnachol
  • ail-wneud y gorchymyn masnachu a galluogi ‘cynghorau cymuned cymwys’ i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol
  • ymestyn y broses o gymhwyso'r Rheoliadau drafft hyn i gynnwys cynghorau cymuned cymwys pan fydd y pŵer cymhwysedd cyffredinol yn cychwyn ar gyfer yr awdurdodau hyn ym mis Mai 2022.

Rhesymeg

Mae'r clerc yn un o brif ffynonellau cyngor i gyngor cymuned ac mae'n hollbwysig bod y clerc yn gymwys i chwarae'r rôl honno o ran arbenigedd ac amser. Mae'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn bŵer deddfwriaethol arwyddocaol a fyddai'n ei gwneud yn bosibl i gynghorau fod yn fwy uchelgeisiol ac arloesol. Mae'n rhaid i'r cyngor fod yn hyderus bod y clerc yn meddu ar yr arbenigedd gweinyddol a deddfwriaethol addas i helpu'r cyngor i'w arfer.

Rydym wedi ystyried y gwahanol ffyrdd o roi sicrwydd bod clerc yn gymwys i chwarae'r rôl hon, gan gynnwys yr achos o blaid pob un o'r canlynol:

  • cymwysterau proffesiynol sy'n cyd-fynd yn fras â'r rôl
  • ‘cyfnod o wasanaeth’ yn rôl clerc fel cymhwyster addas
  • cymwysterau sy'n ymwneud â sectorau penodol.

Mae clerc cyngor yn weithiwr cyflogedig proffesiynol sydd angen sgiliau rheoli, trefnu a chyfathrebu ac sy'n deall y gyfraith, gweithdrefnau gweinyddol, y system gynllunio, prosesau rheoli ariannol a phrosesau ymgysylltu â'r gymuned. Byddai'r ystod o gymwysterau proffesiynol sy'n cyd-fynd yn fras â'r rôl (megis rhai sy'n ymwneud â'r gyfraith neu gyfrifyddiaeth) a'r profiadau a gafwyd o ‘gyfnod o wasanaeth’ yn amrywio o ran y graddau y byddent yn cynnig y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol. Ni fyddai'r naill na'r llall yn cynnig ffordd wrthrychol o roi sicrwydd bod y clerc yn gymwys i helpu'r cyngor i arfer y pŵer hwn. Ni fyddem yn gallu mesur faint o gyfnod o wasanaeth fyddai'n rhoi'r sicrwydd hwn. Ni fyddem yn gallu barnu a yw'r cyfnod hwnnw o wasanaeth wedi dangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol. At hynny, ni fyddem yn gallu mesur i ba raddau yr oedd cymwysterau proffesiynol a oedd yn cyd-fynd yn fras â'r rôl yn gymwys i roi'r sicrwydd perthnasol. Felly, nid ydym yn cynnig y dylid ymestyn yr ystod o gymwysterau i gynnwys cymwysterau proffesiynol fel y rhai sy'n ofynnol i fod yn gyfrifydd neu'n gyfreithiwr, na phennu ‘cyfnod o wasanaeth’.

Byddai pennu cymhwyster sy'n gysylltiedig â sector penodol yn cadarnhau’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth berthnasol fod yn sail i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol newydd. Mae'n cydnabod ac yn atgyfnerthu mai rôl broffesiynol yw bod yn glerc cyngor. Mae hyn yn osgoi'r angen i lunio barn oddrychol ynghylch a ystyrir cymwysterau eraill yn rhai “cyfatebol” ai peidio.

Dewis o gymwysterau

Mae nifer o gymwysterau perthnasol sy'n gysylltiedig â sectorau penodol yn bodoli.

Cydnabyddir bod y Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol (CiLCA) yn cynnig gwybodaeth eang o'r holl agweddau ar waith, rolau a chyfrifoldebau'r clerc, gan gynnwys y gyfraith, gweithdrefnau'r cyngor, cyllid, cynllunio a chynnwys y gymuned.

Yn 2018, cyhoeddodd y Panel Adolygu Annibynnol ei adroddiad ar ddyfodol y sector cynghorau cymuned a thref. Drwy broses ymgysylltu'r Panel â'r sector, wrth iddo gymryd tystiolaeth, nodwyd neges gyson ynglŷn â'r angen i ‘broffesiynoli’ clercod. Daeth i'r casgliad bod angen i gynghorau cymuned gael cymorth proffesiynol drwy staff cymwysedig ac annibynnol ac argymhellodd fod yn rhaid bod pob clerc yn dal cymhwyster proffesiynol neu ei fod yn gweithio tuag at ennill un ac mai'r CiLCA oedd y cymhwyster gofynnol disgwyliedig.

Cydnabyddir y CiLCA yn gyffredinol gan y sector ac mae'n un o'r cymwysterau a bennwyd yn yr amodau i gynghorau plwyf sy'n arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol, fel y'i nodwyd yn: Gorchymyn Cynghorau Plwyf (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Amodau Rhagnodedig) 2021 (‘Gorchymyn 2012’).

Mae cymwysterau perthnasol eraill, sy'n gysylltiedig â sectorau penodol, y gall clercod eu dal, a fyddai'n briodol hefyd i ddangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n briodol i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Maent yn adeiladu ar y CiLCA, gan ystyried pynciau tebyg yn fanylach. Bwriedir i'r cymwysterau uwch priodol gael eu pennu yn y rheoliadau hefyd.

Mae gofyn bod yn ofalus wrth restru'r cymwysterau uwch yn y rheoliadau, gan fod y cwrs perthnasol wedi bodoli ers 1987 ac wedi newid ei enw sawl gwaith ers hynny. Cyflwynwyd y cwrs unigryw hwn ar sawl ffurf gan Brifysgol Swydd Gaerloyw a'r colegau a'i rhagflaenodd rhwng 1987 a 2017.

Roedd y cwrs Tystysgrif Addysg Uwch gwreiddiol (CertHE) yn cael ei ddyfarnu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol. Cafodd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Polisi Lleol ei dilysu yn 1992 a'i hail-lunio unwaith eto yn 2009, gan arwain at y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymgysylltu a Llywodraethu Cymunedol. Yn 2013, cafodd y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Llywodraethu Cymunedol ei dilysu i'w chyflwyno'n uniongyrchol gan Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol ac yn 2017 cafodd ei throsglwyddo i Brifysgol De Montfort. Pennir pob fersiwn o'r cymwysterau lefel 4 yn y rheoliadau drafft, a byddai'r rheoliadau hyn yn cael eu diweddaru pe bai cymwysterau olynol yn cael eu cyflwyno. 

Dyma’r rhestr arfaethedig o gymwysterau a’r cyrff dyfarnu perthnasol:

  • y Dystysgrif mewn Gweinyddu'r Cyngor Lleol (CiLCA), a achredir gan Ascentis
  • y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Llywodraethu Cymunedol, a ddilysir gan Brifysgol De Montfort
  • y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymgysylltu a Llywodraethu Cymunedol, a ddyfernir gan Brifysgol Swydd Gaerloyw
  • y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Polisi Lleol, a ddyfernir gan Brifysgol Swydd Gaerloyw neu hen Goleg Addysg Uwch Cheltenham a Chaerloyw.

Crynodeb

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y cynnig i bennu'r cymwysterau y mae'n rhaid i glerc cyngor cymuned eu dal er mwyn bodloni un o'r amodau cymhwystra i gyngor cymuned arfer pwerau cymhwysedd cyffredinol. Mae'r cymwysterau penodedig arfaethedig yn y rheoliadau drafft fel a ganlyn:

  • y Dystysgrif mewn Gweinyddu'r Cyngor Lleol (CiLCA)
  • y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Llywodraethu Cymunedol
  • y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymgysylltu a Llywodraethu Cymunedol
  • Y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Polisi Lleol.

Ystyrid y byddai ennill unrhyw un o'r cymwysterau a restrir uchod yn dangos dealltwriaeth gadarn o'r ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithredu ac egwyddorion llywodraethu da.

Mae'n rhaid i glerc y cyngor ddal un neu fwy o'r cymwysterau uchod ar y pryd, neu cyn i’r cyngor basio penderfyniad ei fod yn bodloni'r meini prawf a'i fod yn gyngor cymuned cymwys.

Byddai'n annigonol datgan bod y clerc wrthi'n astudio ar gyfer  un o'r cymwysterau, neu ei fod yn bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.

Gweithredu

Ystyrir bod dal y CiLCA yn nod cymesur a gwrthrychol sydd o fewn cyrraedd y mwyafrif o glercod, gan gynnwys clercod rhan amser. Mae cymorth ar gael ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i helpu cynghorau gyda chost lawn cymhwyster y CiLCA yn 2021 a 2022.

Mae'r CiLCA yn ddigon hyblyg i fod yn addas ar gyfer clercod yn yr amrywiaeth eang o gynghorau, ac mae'n galluogi clercod i ddangos eu bod yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth graidd i weithio gyda chyngor cymuned. Unwaith y bydd wedi'i gofrestru ar gyfer y cymhwyster â gweinyddwr Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, bydd gan glerc gyfnod o hyd at 12 mis i greu portffolio o dystiolaeth, gyda chymorth parhaus gan y Gymdeithas i gwblhau'r cymhwyster.

Gall ymgeiswyr sy'n astudio ar gyfer cymhwyster y CiLCA gyflwyno eu portffolio o dystiolaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae aseswr sy'n siarad Cymraeg ar gael i asesu portffolios a gyflwynir yn Gymraeg.

Mae'r Gymdeithas wrthi'n diweddaru cymhwyster y CiLCA ar gyfer Cymru er mwyn cynnwys modiwl penodol ar weithredu'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yng Nghymru.

Byddai'r modwl ar y pŵer cymhwysedd cyffredinol hefyd ar gael fel modiwl ar ei ben ei hun i glercod sydd eisoes yn dal unrhyw un o'r cymwysterau a bennir yn y rheoliadau drafft. Bydd cynghorau am sicrhau bod clercod yn cael y data diweddaraf a gwybodaeth berthnasol am arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Y bwriad yw cynnig y dylai cynghorau gefnogi clercod i astudio'r modiwl ychwanegol hwn yn y canllawiau statudol, y bydd ymgynghoriad arnynt yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn hon. Byddai cymorth gan y llywodraeth i helpu cynghorau gyda chost y modiwl hwn yn 2021 a 2022.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A yw'r math o gymwysterau a bennir yn rhoi hyder ichi fod y clerc yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth graidd i helpu cyngor cymuned i arfer y pŵer cyffredinol newydd?

Cwestiwn 2

A yw disgrifiad pob teitl yn ei gwneud yn glir pa gymwysterau sy'n cael eu pennu?

Cwestiwn 3

A oes unrhyw gymwysterau sectoraidd priodol eraill y dylid ystyried eu cynnwys yn y rheoliadau drafft?

Cwestiwn 4

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r rheoliadau drafft yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 5

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r rheoliadau drafft gael eu llunio neu eu newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Question 6

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 24 Medi 2021, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Is-adran Trawsnewid a Phartneriaethau Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG42765

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.