Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cefndir

Creodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau”) y fframwaith i gael trefn gyson ar gyfer cydweithio rhanbarthol rhwng llywodraeth leol, sef Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau). Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu CBCau drwy Reoliadau.

Cafodd y rheoliadau a oedd yn creu pedwar CBC yng Nghymru (“y Rheolau Sefydlu”) eu gwneud ar 17 Mawrth 2021, a sefydlwyd y CBCau canlynol ar 1 Ebrill 2021:

Bydd y pedwar CBC yn cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Byddant hefyd yn gallu gwneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd.

Yn wahanol i drefniadau cyd-bwyllgorau eraill, mae CBCau yn gyrff corfforedig annibynnol sy’n gallu cyflogi staff, dal asedau a chyllidebau, a chyflawni swyddogaethau.

Un o’r prif egwyddorion sy'n sail i ddatblygiad fframwaith deddfwriaethol CBCau yw bod CBCau yn aelodau o’r ‘teulu llywodraeth leol’ a, lle bo hynny’n briodol, dylent fod yn ddarostyngedig i raddau helaeth i'r un pwerau a dyletswyddau â phrif gynghorau. Y bwriad yw osgoi, cyn belled â phosibl, ei gwneud yn ofynnol i CBCau wneud pethau mewn ffordd sy’n anghyfarwydd i lywodraeth leol neu greu gweithdrefnau, rhwymedigaethau neu bwerau newydd ac anghyfarwydd a allai gynyddu beichiau gweinyddol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cynhwysfawr ar y Rheoliadau Sefydlu drafft a sefydlodd y pedwar CBC rhanbarthol ledled Cymru a’r drefn reoleiddio ehangach a fyddai’n gymwys i’r CBCau.

Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Chwefror 2021. Roedd cefnogaeth gref, yn enwedig gan awdurdodau lleol, i CBCau fod yn ddarostyngedig i’r un pwerau a dyletswyddau â phrif gynghorau yn y ffordd y maent yn gweithredu; bod â’r un fframwaith llywodraethu a gweinyddu yn fras; a bod â disgresiwn priodol ynghylch manylion trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru)  (“Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2”) rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Hydref 2021. Yn gyffredinol, teimlai ymatebwyr fod y rheoliadau'n adlewyrchu'r egwyddor sylfaenol y dylid trin CBCau fel aelod o'r teulu llywodraeth leol. Gosodwyd Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2 yn y Senedd ar 9 Tachwedd a chânt eu trafod ar 30 Tachwedd 2021. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, daw Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2 i rym ar 3 Rhagfyr.

Mae’r dull o ddatblygu’r model CBCau hyd yn hyn yn parhau'n yn un o gyd-ddatblygu a chydweithio â llywodraeth leol. Y bwriad yw parhau â’r dull gweithredu hwn wrth roi’r Rheoliadau CBCau ar waith.

Y dull cyffredinol o ymdrin â’r rheoliadau

Roedd y Rheoliadau Sefydlu yn rhan o’r cam cyntaf o gyflwyno'r fframwaith deddfwriaethol y byddai'r CBCau yn gweithredu o’i fewn. Cafodd y Rheoliadau Sefydlu eu gwneud ochr yn ochr â nifer o offerynnau statudol, a oedd yn sicrhau y byddai’r CBCau o’r diwrnod cyntaf yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau y byddai disgwyl iddynt fod yn berthnasol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru; a hefyd i sicrhau llywodraethu a goruchwyliaeth briodol (a restrir yn Atodiad A er hwylustod).

Roedd y Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2 yn rhan o ail gam sefydlu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer CBCau ac roeddent yn darparu ar gyfer agweddau ar y trefniadau gweithredol i CBCau. Roeddent yn darparu ar gyfer rolau rhai 'swyddogion gweithredol' i gefnogi gwaith y CBC yn ogystal â rhai darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff CBC, i swyddogaethau'r CBC gael eu cyflawni gan bobl eraill, er enghraifft ei staff neu ei is-bwyllgorau, ac ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion. Roeddent hefyd yn gwneud nifer bach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol i roi effaith lawn i'r darpariaethau. Gwnaed y Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2 ochr yn ochr â nifer o offerynnau statudol sy'n cwblhau'r modd y cymhwysir y dyletswyddau cyrff cyhoeddus hynny y byddid yn disgwyl eu cymhwyso i gorff cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y cam nesaf (a'r trydydd) hwn, sef testun yr ymgynghoriad hwn, yn parhau â'r broses o sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol y bydd CBCau'n gweithredu o'i fewn. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i CBC fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a phanel dyfarnu Cymru i CBCau a’u haelodau. Maent hefyd yn darparu i CBC fasnachu a chynnal gweithgarwch masnachol. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r CBC gyhoeddi ei gyfansoddiad a chanllaw i'r cyfansoddiad, yn ogystal â chynnwys nifer o fân ddarpariaethau mewn perthynas â chyllid, achosion cyfreithiol, cofnodion / dogfennau, materion staffio a'r gweithlu, a diwygiadau amrywiol eraill. Y bwriad hefyd yw cynnwys darpariaeth ar gyfer trosolwg a chraffu yn y drydedd set hon o reoliadau cyffredinol, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn.

Yna bydd pedwerydd cam (a set o reoliadau) yn rhoi'r ddarpariaeth sy'n weddill ar waith, gan gynnwys darpariaeth ar reolau sefydlog a chymhwyso trefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol iddynt. Bydd hyn yn cydategu'r gofynion sydd eisoes ar waith o ran tryloywder eu gwaith a hygyrchedd a chyfranogiad y cyhoedd. Byddwn yn ymgynghori ar y cam hwn yn y gwanwyn, 2022.

Yr ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriad cynhwysfawr a gynhaliwyd ym mis Hydref 2020, a oedd yn ystyried y dull gweithredu cyffredinol ar gyfer datblygu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer CBCau, ac ar yr ymgynghoriad ar y Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2 ym mis Gorffennaf 2021.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y cam nesaf hwn o’r dull gweithredu ar gyfer datblygu’r fframwaith deddfwriaethol ehangach a chymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith hwnnw.

Ym Mhennod 1 rydym yn gofyn am sylwadau ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Mae’r offerynnau hyn yn darparu ar gyfer:

  • ymddygiad aelodau o CBC
  • trefniadau os bydd aelod o CBC y Canolbarth, y Gogledd, y De-ddwyrain neu’r De-orllewin yn cael ei atal
  • y pŵer i fasnachu a chynnal gweithgarwch masnachol
  • materion ariannol pellach mewn perthynas â CBCau
  • achosion cyfreithiol
  • materion sy'n ymwneud â chofnodion, dogfennau a hysbysiadau
  • darpariaeth bellach ar staffio a'r gweithlu
  • nifer bach o ddarpariaethau amrywiol gan gynnwys dyletswydd i baratoi cyfansoddiad a darpariaeth mewn perthynas â thrin gwybodaeth a thir a ddelir gan CBC.

Mae Pennod 2 yn gofyn am farn ar faterion sy'n ymwneud â chymhwyso ac anghymhwyso aelodau a swyddogion CBCau.

Mae Pennod 3 yn gofyn am farn ar dull gweithredu arfaethedig o ran trosolwg a chraffu ar y Cyd-bwyllgorau, i'w gynnwys yn Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Mae Pennod 4 yn gofyn am farn ar ddiwygiadau arfaethedig i nifer o reoliadau i gorchmynion sy'n gysylltiedig â chymhwyso'r cod ymddygiad drwy Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 ac mewn perthynas â diwygiadau a wnaed i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 gan Reoliadau Cyffredinol Rhif 2.

Mae rhagor o fanylion am Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 wedi’u hamlinellu isod.

Pennod 1: trosolwg o Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022

Cyffredinol

Fel y trafodwyd mewn ymgyngoriadau blaenorol gall y fframwaith deddfwriaethol sy’n rheoleiddio’r gwaith o weinyddu a llywodraethu awdurdodau lleol fod yn gymhleth ac mae'n cynnwys darpariaethau amrywiol ar draws nifer sylweddol o offerynnau. Y bwriad, lle bynnag y bo modd, yw cyfuno darpariaeth am bynciau unigol yn yr un set o reoliadau, gan gyfyngu ar nifer y setiau o reoliadau cyffredinol sy’n ofynnol ar gyfer CBCau. Roedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 yn cyd-fynd â’r Rheoliadau Sefydlu, ac roedd yn cynnwys y set gyntaf o ddarpariaethau sy’n gymwys i CBCau yn gyffredinol. Roedd y Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2 yn darparu ar gyfer yr ail set o ddarpariaethau sy'n gymwys i CBCau yn gyffredinol. Mae Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer y drydedd set.

Mae’n werth nodi, mewn rhai achosion, y gallai fod angen gosod gorchmynion a rheoliadau ategol/annibynnol ochr yn ochr â’r rheoliadau mwy cyffredinol uchod i ddarparu’n llawn y sail ddeddfwriaethol sy’n ofynnol ar gyfer CBCau, ond bydd y rhain yn cael eu cadw i’r lefel isaf bosibl. Mewn rhai achosion lle mae'r rhain eisoes wedi'u nodi yn y rhannau perthnasol isod, mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn am gymhwyso'r rheoliadau / gorchmynion hynny, er enghraifft ym Mhennod 4.

Mae naw rhan i Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Rhan 1: cyflwyniad
Rhan 2: ymddygiad
Rhan 3: trefniadau os bydd aelod o'r CBC yn cael ei atal dros dro
Rhan 4: gweithgareddau masnachol ac endidau rheoledig
Rhan 5: materion ariannol mewn perthynas â CBCau
Rhan 6: achosion cyfreithiol
Rhan 7: cofnodion, dogfennau a hysbysiadau etc.
Rhan 8: materion staffio a'r gweithlu
Rhan 9: darpariaethau amrywiol

Rhan 2: ymddygiad

Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer cymhwyso cod ymddygiad i aelodau CBC drwy gymhwyso Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”).

Mae Rhan 3 o Ddeddf 2000 yn darparu ar gyfer fframwaith moesegol i lywodraeth leol. Mae'r fframwaith yn cael ei gymhwyso i ‘awdurdodau perthnasol’ ac mae'n cynnwys cyflwyno codau ymddygiad statudol, gyda gofyniad i bob awdurdod perthnasol fabwysiadu cod sy'n ymdrin ag ymddygiad aelodau a swyddogion, a chreu pwyllgor safonau ar gyfer pob awdurdod perthnasol. Fel ‘awdurdodau perthnasol’ bydd CBCau hefyd yn ddarostyngedig i nifer o ddarpariaethau yn Rhan 5 o Ddeddf 2000, gan gynnwys darparu ar gyfer taliadau mewn achosion o gamweinyddu ac ar gyfer indemnio aelodau a swyddogion awdurdodau perthnasol. Er nad yw'n cael ei adlewyrchu yn y drafft, y bwriad yw y bydd y Rheoliadau hefyd yn cymhwyso a39 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (ac felly a265 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875) i CBCau. Mae'r darpariaethau hyn yn amddiffyn rhag atebolrwydd personol i aelodau unigol a swyddogion awdurdodau lleol sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd yr awdurdod os cafodd y weithred a wnaed gan y person (neu'r contract a wnaed gan y person) ei wneud yn wirioneddol at ddibenion cyflawni swyddogaethau statudol.

Mae Rhan 2 hefyd yn darparu ar gyfer achosion pan oedd aelod o CBC yn gweithredu neu’n honni bod ganddo hawl i weithredu fel aelod o CBC tra oedd wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o CBC.

Effaith y diwygiadau a wneir i Ran 3 o Ddeddf 2000 gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 fyddai y bydd a53 o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i CBCau sefydlu pwyllgor safonau.

Nid yw'r drafft ymgynghori o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) ar hyn o bryd yn ymestyn yr opsiwn o greu cyd-bwyllgor safonau i CBCau gan fod CBCau eisoes yn dwyn ynghyd nifer o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol y bydd pwyllgor safonau CBC yn gallu tynnu ei aelodau o'u plith.

Er hynny, byddem yn croesawu barn ynghylch a fyddai manteision wrth roi'r pŵer i CBCau sefydlu cyd-bwyllgor safonau ag awdurdod perthnasol arall ac, os felly, gyda pha fath neu fathau o awdurdod perthnasol y dylid eu grymuso i sefydlu cyd-bwyllgor safonau.

Rhan 3: trefniadau os bydd aelod o CBC yn cael ei atal dros dro

Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer y trefniadau angenrheidiol os bydd aelod o'r CBC (aelod o'r cyngor neu aelod o'r Awdurdod Parc Cenedlaethol) yn cael ei atal dros dro neu ei atal yn rhannol rhag gweithredu fel aelod ar y CBC, yn benodol penodi aelod dros dro os caiff yr aelod ei atal dros dro. Gan y darperir ar gyfer aelodaeth pob CBC yn y Rheoliadau Sefydlu unigol ar gyfer pob CBC, mae Rhan 3 yn diwygio pob un o'r Rheoliadau Sefydlu.

Effaith y diwygiadau a wneir i'r Rheoliadau Sefydlu gan Ran 3 yw bod aelod dros dro a benodir naill ai gan gyngor neu Awdurdod Parc Cenedlaethol i'w drin fel pe bai'n aelod o'r cyngor (neu'r Awdurdod Parc Cenedlaethol) i'r graddau nad yw'r aelod sydd wedi'i atal dros dro yn gallu gweithredu felly.

Mae rheoliad 7(2) o Reoliadau Sefydlu CBC hefyd yn darparu, pan fo aelod o'r cyngor, am unrhyw gyfnod, yn methu â chyflawni ei swyddogaethau (e.e. absenoldeb salwch neu absenoldeb gofalu), fod rhaid i'r cyngor cyfansoddol y maent yn aelod ohono benodi aelod arall o'i weithrediaeth i gyflawni'r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod o'r cyngor am y cyfnod hwnnw.  

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran aelod o'r cyngor fod yn ddarostyngedig i'r un cod ymddygiad â'r aelod a chael yr un buddion / mesurau diogelu â phe baent yn aelod. Er hynny, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddarpariaeth ynghylch sut y mae'r ‘aelod arall’ yn Rheoliad 7(2) i'w drin. Y bwriad felly yw defnyddio Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 i ddiwygio'r Rheoliadau Sefydlu i sicrhau bod yr ‘aelod arall’ yn cael ei drin yr un fath â'r aelod o'r cyngor y mae wedi'i benodi i arfer ei swyddogaethau.

Rhan 4: gweithgareddau masnachol ac endidau rheoledig

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer y pŵer i fasnachu a chynnal gweithgarwch masnachol gan CBC a nifer o ddarpariaethau cysylltiedig mewn perthynas ag endidau rheoledig CBC.

Mae adran 95 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“Deddf 2003”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn yn awdurdodi awdurdodau penodol i fasnachu mewn unrhyw un o'u swyddogaethau arferol drwy gwmni. Mae adran 96(1) o Ddeddf 2003 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amodau ar y ffordd y caiff y pŵer hwn i fasnachu ei arfer, tra bo adran 96(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau hyn yng Nghymru roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer y pŵer i fasnachu. Mae Rhan 4 yn diwygio a95 o Ddeddf 2003 i gynnwys CBCau yn y diffiniad o awdurdod perthnasol.

Arferodd Gweinidogion Cymru eu pwerau yn adrannau 95, 96(1) a 123 o Ddeddf 2003 i wneud Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 (“y gorchymyn masnachu”).

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ar gynigion mewn perthynas â'r amodau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru eu bodloni i wneud pethau at ddiben masnachol gan ddefnyddio'r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol, a oedd ar gael i awdurdodau lleol cymwys trwy Ddeddf 2022. Fel rhan o'r ymgynghoriad, nododd Llywodraeth Cymru hefyd ei bwriad i ailwneud y gorchymyn masnachu er mwyn adlewyrchu'r newidiadau i'r diffiniadau o ‘awdurdodau perthnasol’ yn adran 95 o Ddeddf 2003 a bod y gorchymyn yr un fath i yn debyg i'r hyn yr ymgynghorwyd arno ar gyfer Rheoliadau Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021.

Dangosodd y crynodeb o’r ymatebion i'r ymgynghoriad fod ymatebwyr yn cytuno at ei gilydd y dylai'r un amodau fod yn gymwys i brif gynghorau wrth fasnachu yn eu swyddogaethau arferol ac wrth arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol at ddiben masnachol. Yn dilyn yr ymgynghoriad uchod bwriedir felly ail-wneud y gorchymyn masnachu er mwyn (ymhlith pethau eraill) adlewyrchu'r newidiadau i'r diffiniad o ‘awdurdodau perthnasol’ yn adran 95 o Ddeddf 2003 ac mewn ffordd sy'n adlewyrchu Rheoliadau Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021.

Er mwyn rhoi effaith lawn i'r pŵer i fasnachu ar gyfer CBCau, bwriedir iddo hefyd gynnwys CBCau yn y gorchymyn masnachu sydd wedi'i ail-wneud. Byddem yn croesawu sylwadau ar hyn.

Wrth ystyried y darpariaethau ar gyfer pŵer i fasnachu uchod, gallai hefyd fod o gymorth ystyried darpariaethau statudol eraill sy'n ymwneud â phwerau'r awdurdodau lleol i ymrwymo i gontractau yn gyffredinol. Er enghraifft, ymddengys fod Deddf Llywodraeth Leol (Contractau) 1997 (“Deddf 1997”) (a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997 a wnaed o dan y Ddeddf) yn dal i fod yn fyw mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru. Byddem yn croesawu barn ynghylch a ddylai darpariaethau Deddf 1997 gael eu cymhwyso i CBCau, neu a oes angen eu cymhwyso. O gofio mai cyrff corfforedig â naws gyfreithiol benodol yw CBCau ac o gofio eu his-bwerau o dan Reoliad 14 o'r Rheoliadau Sefydlu, rydym o'r farn, heb fawr o amheuaeth, y gall CBC ymrwymo i gontract wrth arfer ei swyddogaethau. Ond gellid dweud yr un peth i raddau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, ac eto mae Deddf 1997 yn gymwys iddynt.

Yn yr un modd, byddem yn croesawu barn ynghylch a ddylid dod â CBCau o fewn cwmpas Rhan 2 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (“Deddf 1994”). Os yw CBCau i allu masnachu'n fasnachol fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 4 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 mae'n dilyn y gallant geisio cael endidau preifat i gyflawni swyddogaethau penodol ar eu rhan (gan y gellir ystyried bod hyn yn werth gwell neu y gall gynyddu cystadleurwydd masnachol y CBC wrth gyflawni'r swyddogaeth o dan sylw).

Ar gyfer awdurdodau lleol byddai hynny'n cael ei wneud yn gyffredinol o dan Ran 2 o Ddeddf 1994 drwy Orchymyn a wneid o dan adran 70 sy'n pennu swyddogaethau penodol fel rhai y caniateir eu cyflawni gan gyflogeion sef “such person as may be authorised in that behalf by the local authority whose function it is”. Mae Rhan 2 yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae nifer o Orchmynion o dan adran 70 mewn grym ar hyn o bryd sy'n gymwys i awdurdodau lleol Cymru.

Byddem yn croesawu barn ynghylch a ddylai Rhan 2 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 fod yn gymwys i CBCau.

Wrth ystyried y pŵer i fasnachu at ddibenion masnachol, ac mewn trafodaeth â'r rhanbarthau, mae nifer o faterion yn codi mewn perthynas â threfniadau ar gyfer statws TAW CBCau a statws trethi yn fwy cyffredinol. Nid yw’r materion hyn yn rhywbeth y gall rheoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fynd i'r afael ag ef a rhaid eu harchwilio gyda Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r materion hyn ar hyn o bryd.

Rhan 5: materion ariannol pellach mewn perthynas â CBCau

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer nifer o faterion ariannol pellach ac amrywiol mewn perthynas â CBCau. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i CBCau gynnal cronfa gyffredinol (a fewnosodir ym mhob Rheoliad Sefydlu), darpariaeth mewn perthynas â'r contractau cyflenwi cyhoeddus neu gontractau gwaith heb gyfeirio at faterion sy'n daliadau anfasnachol (Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988) gan Weinidogion Cymru tuag at ddyled (adran 39(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003), yswiriant yn erbyn damweiniau (a140C o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) a thanysgrifiadau i gymdeithasau llywodraeth leol (adran 143 o Ddeddf 1972).

Rhan 6: achosion cyfreithiol

Mae Rhan 6 yn gwneud nifer fach o ddarpariaethau mewn perthynas ag achosion cyfreithiol a chymhwyso adran 222 a 223 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i CBCau. Mae adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol erlyn neu amddiffyn achosion cyfreithiol ac, o ran achosion sifil, eu sefydlu yn eu henw eu hunain. Mae adran 223 yn darparu y gall unrhyw aelod neu swyddog awdurdod lleol sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol hwnnw i erlyn, amddiffyn neu ymddangos mewn achosion wneud hynny.

Rhan 7: cofnodion, dogfennau a hysbysiadau etc.

Mae Rhan 7 yn gwneud nifer o ddarpariaethau ar gyfer diogelu, cadw a rheoli cofnodion CBC yn briodol, adneuo dogfennau gyda'r swyddog priodol, archwilio a chopïo dogfennau ac ar gyfer dilysu dogfennau. Mae Rhan 7 hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â hysbysiadau ar gyfer CBCau.

Rhan 8: materion staffio a'r gweithlu

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth bellach ar faterion staffio a'r gweithlu. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i staff gael eu penodi ar sail teilyngdod, hawliau staff i wyliau a lwfansau penodol a sicrhau bod staff CBC yn ddarostyngedig i'r un gofynion o ran tryloywder ac atebolrwydd â chyflogeion awdurdodau lleol neu unrhyw benodiadau cyhoeddus eraill. Mae hefyd yn dod â CBCau o fewn cwmpas Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau i Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006.

Rhan 9: darpariaethau amrywiol

Mae Rhan 9 yn gwneud nifer o ddarpariaethau amrywiol sy'n cymhwyso darpariaeth llywodraeth leol i CBCau. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i CBC baratoi a chyhoeddi cyfansoddiad, darpariaeth mewn perthynas â diogelu i cyhoeddi gwybodaeth ac i CBCau gynnal neu gynorthwyo mewn ymchwiliadau i unrhyw fater yn ardal yr awdurdod.

Pennod 2: cymhwyso ac anghymhwyso

Darperir ar gyfer aelodaeth o CBCau drwy'r Rheoliadau Sefydlu. Nid yw aelodau'n cael eu hethol yn uniongyrchol i'r CBC ei hun. Gan hynny, nid yw llawer o'r darpariaethau sy'n ymwneud â chymhwyso ac anghymhwyso yn berthnasol iddynt neu ni fyddant yn berthnasol iddynt.  

Er enghraifft, mae adran 79 i 82 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu ar gyfer cymhwyso ac anghymwyso o ran dal swydd fel aelod o awdurdod lleol. Oherwydd y ffordd y penodir aelodau i CBC, ni fydd rhannau sylweddol o'r darpariaethau hyn yn berthnasol i aelodaeth o CBC. 

Er hynny, mae adran 80(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn nodi'r swyddi neu gyflogaeth gyda thâl sy'n anghymwyso unigolyn rhag cael ei ethol yn aelod o awdurdod lleol neu i fod yn aelod ohono. Bwriedir iddo wneud darpariaeth yn Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 gan gynnwys CBCau yn y rhestr o awdurdodau perthnasol yn adran 80(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac felly i rywun sydd â swydd â thâl restredig mewn CBC gael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol. 

Yn yr un modd, mae adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn mewnosod adran 80B newydd ‘Anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru a dal swydd neu gyflogaeth leol’ yn Neddf Llywodraeth Leol 1972. Mae hyn yn darparu ar gyfer anghymhwyso  person sy'n dal swydd neu gyflogaeth berthnasol â thâl (gweler adran 80C) rhag bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, (ond nid rhag cael ei ethol fel aelod o'r fath). Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai anghymhwysiad o'r fath fod yn gymwys hefyd i bersonau sy'n dal swydd berthnasol â thâl mewn CBC ac y dylid gwneud y diwygiad hwn yn Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Yn olaf, mae adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu ar gyfer dilysrwydd gweithredoedd a wneir gan bersonau anghymwysedig. Hynny yw bod gweithredoedd a wneir gan berson sy'n cael ei ethol i awdurdod lleol ond y canfyddir yn ddiweddarach ei fod wedi'i anghymhwyso neu nad yw'n gymwys i gael swydd neu ei fod wedi'i anghymhwyso o bosibl, o ganlyniad i dwyll neu gollfarn am weithred droseddol yn parhau'n ddilys. Er nad yw unigolion yn cael eu hethol i'r CBC, byddem am sicrhau bod unrhyw beth a wnaeth yr aelod o'r cyngor ar y CBC tra oedd yn aelod o’r cyngor hefyd yn parhau'n ddilys, fel y byddai ar gyfer awdurdod lleol, pe canfyddid wedyn eu bod wedi'u hanghymhwyso neu nad oeddent yn gymwys i ddal swydd. Y bwriad fyddai darparu ar gyfer hyn yn Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Pennod 3: trosolwg a chraffu

Fel y trafodir yn yr ymgynghoriad ar y Canllawiau Statudol drafft ar Sefydlu CBCau mae'n bwysig bod gwneud penderfyniadau gwleidyddol o fewn CBCau yn dryloyw a bod CBCau yn gallu cael eu dwyn i gyfrif ac yn gallu cael eu herio am y penderfyniadau a wnânt.  Bydd cael trefniadau craffu priodol ar waith yn bwysig er mwyn cyflawni hyn. Y bwriad yw y dylid rhoi trefniadau craffu o'r fath ar waith pan fydd CBCau yn dechrau arfer eu swyddogaethau.

Mae rhywfaint o'r adborth sydd wedi dod i law hyd yn hyn wedi adlewyrchu pryderon ynghylch pa mor briodol ydyw i CBC ei hun sefydlu is-bwyllgor (boed o blith ei aelodau ei hun neu drwy ddewis i cyfethol aelodaeth o'i gynghorau cyfansoddol) i graffu ar ei waith. Teimlwyd hefyd y gallai fod rhywfaint o ddyblygu gan y byddai gwaith CBCau yn destun craffu gan ei brif gynghorau cyfansoddol.

Gan fod craffu'n hanfodol i atebolrwydd democrataidd CBC rydym yn ystyried a fyddai ateb mwy cymesur yn ei gwneud yn ofynnol i CBC wneud trefniadau i un neu fwy o'r cynghorau cyfansoddol graffu ar waith y CBC. Y bwriad yw gwneud y ddarpariaeth hon yn Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Byddai'r dull hwn yn ei gwneud yn ofynnol i CBC ymgynghori â'i gynghorau cyfansoddol, a sefydlu trefniadau trosolwg a chraffu priodol. Gallai hyn fod yn waith craffu gan bob cyngor unigol neu gan gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu sy'n cynnwys y cynghorau cyfansoddol os cytunir mai dyma'r dull gweithredu mwyaf effeithiol ac effeithlon.

Yn y naill achos neu'r llall, y nod fyddai creu, hwyluso a hybu cyswllt democrataidd clir yn ôl i'r cynghorau cyfansoddol. Byddem yn croesawu barn neu sylwadau ar sut y gellid cyflawni hyn.

Cynigir hefyd bod dyletswydd ar bob un o'r CBCau i ddarparu gwybodaeth i'r pwyllgor craffu; mynychu cyfarfodydd pwyllgor os gofynnir iddynt wneud hynny; ac ystyried neu ymateb i unrhyw adroddiad neu argymhellion a wneir gan bwyllgor o fewn y trefniadau y cytunwyd arnynt ac sy'n ymwneud â'r CBC. Gallai hyn fod yn debyg i adran 21B o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Unwaith eto byddem yn croesawu sylwadau ar hyn.

Pennod 4: is-ddeddfwriaeth bellach mewn perthynas â CBCau

Is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”)

Er mwyn rhoi effaith lawn i gymhwyso Rhan 3 o Ddeddf 2000 (ymddygiad) drwy Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 bydd angen diwygio nifer o orchmynion a rheoliadau a wnaed o dan bwerau yn Rhan 3 o Ddeddf 2000 er mwyn cwmpasu CBCau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
  • Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008
  • Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
  • Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
  • Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001
  •  Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol ) (Cymru) 2001

Byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r drefn gronolegol briodol i ddiwygiadau Rhan 3 o Ddeddf 2000 a diwygiadau'r gorchmynion uchod ddod i rym.

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001

Mae'r gorchymyn hwn (a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf 2000) yn pennu'r egwyddorion sydd i lywodraethu ymddygiad aelodau ac aelodau cyfetholedig o awdurdodau perthnasol (a ddiffinnir yn Erthygl 2 o'r gorchymyn) yng Nghymru. Y bwriad fyddai diwygio'r gorchymyn er mwyn cynnwys CBCau yn y diffiniad o awdurdod perthnasol. Byddai'r egwyddorion yn gymwys i aelodau CBCau a'u his-bwyllgorau, gan gynnwys aelodau cyfetholedig o'r ddau.

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008

Mae adran 50(2) o Ddeddf 2000 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi (drwy orchymyn) god enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Y bwriad fyddai diwygio'r gorchymyn fel bod y cod ymddygiad enghreifftiol o fewn y gorchymyn yn berthnasol i aelodau CBCau a'u his-bwyllgorau, gan gynnwys aelodau cyfetholedig o'r ddau.

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

Mae'r rheoliadau hyn (a wnaed o dan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) yn gwneud darpariaeth ynghylch (ymhlith pethau eraill) maint, cyfansoddiad a thrafodion pwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol yng Nghymru.  

Y bwriad fyddai diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 eu hunain. Er hynny, efallai y bydd angen darparu set ar wahân o reoliadau ar gyfer CBCau.

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

Mae'r Rheoliadau hyn (a wnaed o dan adran 73 o Ddeddf 2000) yn darparu i awdurdod perthnasol ymdrin ag atgyfeiriad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu adroddiad ar ganlyniad ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'n darparu i swyddog monitro awdurdod perthnasol ymchwilio a gwneud argymhellion ar faterion sy'n ymwneud ag ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol wneud penderfyniadau ar faterion sy'n ymwneud â'r cod ymddygiad ac unrhyw gamau priodol. Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer hawl i apelio yn erbyn penderfyniad gan bwyllgor safonau ac ar gyfer cyhoeddi adroddiad ar ganlyniad ymchwiliad.

Y bwriad fyddai diwygio'r Rheoliadau er mwyn cynnwys CBCau yn y diffiniad o awdurdod perthnasol.

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001

Bydd cymhwyso Rhan 3 o Ddeddf 2000 i CBCau yn ei gwneud yn ofynnol i CBCau fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac aelodau cyfetholedig y mae'n rhaid iddynt ymgorffori unrhyw ddarpariaethau gorfodol mewn cod ymddygiad enghreifftiol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 50(2) o Ddeddf 2000.

Bydd adran 81(1) a (2) o Ddeddf 2000, o ganlyniad i ddiwygiadau a wneir gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022, yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog monitro CBC sefydlu a chynnal cofrestr o fuddiannau aelodau'r CBC a'i is-bwyllgorau, gan gynnwys aelodau cyfetholedig o'r ddau. Yn ogystal, bydd darpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol sy'n gymwys i'r CBC yn ei gwneud yn ofynnol i'r aelodau a'r aelodau cyfetholedig hynny gofrestru ynn nghofrestr y CBC y cyfryw fuddiannau ariannol a buddiannau eraill ag a bennir yn y darpariaethau gorfodol.

Mae adran 81(4) o Ddeddf 2000 yn darparu nad yw unrhyw gyfranogiad gan aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol mewn unrhyw fusnes a waherddir gan y darpariaethau gorfodol yn fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod os yw'r aelod neu'r aelod cyfetholedig wedi gweithredu yn unol â gollyngiad rhag y gwaharddiad a roddwyd gan bwyllgor safonau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan is-adran (5).

Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y caiff pwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol ganiatáu'r cyfryw ollyngiadau. Y bwriad yw cymhwyso'r gollyngiadau o fewn y Rheoliadau hyn i CBCau.

Rheoliadau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, mae rhan 2 o Reoliadau Cyffredinol Rhif 2 yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i gymhwyso darpariaethau sy'n ymdrin ag anghymhwyso a chyfyngiad gwleidyddol rhai swyddogion i CBCau.

Cyfyngiadau Gwleidyddol

Bydd adran 1(5)-(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989") yn cael ei chymhwyso i CBCau (yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd) gan reoliad 10 o Reoliadau Cyffredinol Rhif 2. Mae hyn yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru bennu telerau ac amodau cyflogaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau cyfyngiadau gwleidyddol yn yr adran. Mae'r pŵer hwn wedi'i arfer ar ffurf Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 (“Rheoliadau 1990”).

Cynigir y dylai'r un amodau sy'n gymwys i swyddi sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol mewn awdurdodau lleol fod yn gymwys i'r swyddi hynny o fewn CBCau. Ar y sail hon, y bwriad yw diwygio Rheoliadau 1990 i gynnwys cyfeiriad at CBCau i sicrhau bod Rheoliadau 1990 yn gymwys i bob person sy'n dal swydd a gyfyngir yn wleidyddol mewn CBC fel y mae i awdurdod lleol. Byddem yn croesawu sylwadau ar hyn.

Y Gymraeg

Roedd yr Ymgynghoriad ar Reoliadau Sefydlu CBCau yn ceisio barn am yr effaith y byddai sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ei chael ar y Gymraeg a chyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Wrth ystyried sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys ystyried y fframwaith rheoleiddio ehangach o dan yr egwyddor y dylid trin Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’.

Darllenwch y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg yn yr un modd â’u cynghorau cyfansoddol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Roedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 yn diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig at y rhestr o gyrff a chategorïau o gyrff sy’n gorfod cydymffurfio â’r safonau. Nododd yr ymgynghoriad ar Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 y bwriad i gyflwyno rheoliadau diwygio yn ddiweddarach eleni, i ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig at Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015, gan sicrhau bod y safonau hynny’n gymwys i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fel y maent i awdurdodau lleol. Cafodd Rheoliadau Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021 eu gosod yn y Senedd ar 9 Tachwedd ac fe'u trafodir ar 30 Tachwedd. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd daw'r rheoliadau i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Mae Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 yn ceisio cymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith deddfwriaethol yr ymgynghorwyd arnynt eisoes yn gyffredinol ac, o’r herwydd, mae’n ddogfen dechnegol gan mwyaf. Fel offeryn annibynnol, mae Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar y defnydd o’r Gymraeg ac mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad blaenorol ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn debygol o fod yn gymwys i’r rheoliadau hyn hefyd.

Er hynny, os oes gennych unrhyw farn am yr effeithiau penodol y gallai Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, byddem yn croesawu eich barn.

Asesiadau effaith

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Fel yn achos yr ymgynghoriad blaenorol ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021, nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar wahân wedi'i lunio mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn a Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig y Canolbarth 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021 a Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin 2021 yn asesu'r costau a'r manteision posibl sy'n gysylltiedig â sefydlu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy reoliadau.

Wrth asesu’r costau a’r manteision posibl, roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ystyried bwriad cyffredinol y polisi, sef y dylid trin Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’, gan gynnwys cymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ehangach. Cafodd y costau sy’n gysylltiedig â chymhwyso i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yr agweddau ar y fframwaith rheoleiddio sydd yn Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 eu hystyried felly fel rhan o’r asesiad effaith rheoleiddiol ar Reoliadau Sefydlu’r CBCau eu hunain.

Mae copi o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd â Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021 a Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin 2021 ar gael ar wefan y Senedd fel rhan o’r dogfennau perthnasol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau hynny.

Asesiad Effaith Integredig

Lluniwyd crynodeb o’r Asesiad Effaith Integredig hefyd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rheoliadau uchod. Roedd yr Asesiad Effaith Integredig yn asesu effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy reoliadau. Yn yr un modd â’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, roedd yr Asesiad Effaith Integredig yn ystyried bwriad cyffredinol y polis, sef y dylai CBCau gael eu trin fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’, gan gynnwys effaith cymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ehangach ar gyfer llywodraeth leol, wrth asesu effeithiau sefydlu CBC.

Cyhoeddwyd crynodeb o gasgliadau'r asesiad hwn fel rhan o'r ymgynghoriad ar Reoliadau Sefydlu CBCau.

Roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r Asesiad Effaith Integredig yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr fel rhan o’r ymgynghoriad ar Reoliadau Sefydlu’r CBCau. Ni fwriedir ymgynghori eto ar y dogfennau hyn.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Fel y trafodwyd eisoes, mae’r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriad cynhwysfawr a gynhaliwyd yn flaenorol ar y dull cyffredinol o ddatblygu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer CBCau, ac ar yr ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y cam nesaf o’r dull gweithredu ar gyfer datblygu’r fframwaith deddfwriaethol ehangach a chymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith hwnnw. Yn benodol, rydym yn gofyn am farn ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Pennod 1

Cwestiwn 1

A yw’r rheoliadau drafft ym Mhennod 1 yn glir? Os nac ydyn, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Cwestiwn 2

A yw Rhan 2 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer cod ymddygiad i aelodau? Os nac ydy, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Cwestiwn 3

A ydych yn credu y dylai'r rheoliadau ddarparu ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau safonau? Os ydych, eglurwch pam.

Cwestiwn 4

A yw Rhan 3 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer trefniadau os bydd aelod o CBC yn cael ei atal? Os nac ydy, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Cwestiwn 5

A ydych yn meddwl y dylai’r rheoliadau drafft hefyd ddarparu i bob aelod dros dro o gyngor i Awdurdod Parc Cenedlaethol gael ei drin yr un fath â'r aelod o'r cyngor y cawsant eu penodi i arfer ei swyddogaethau?
Os nad ydych chi, pam hynny.

Cwestiwn 6

A yw Rhan 4 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer gweithgareddau masnachol ac endidau rheoledig? Os nac ydy, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Cwestiwn 7

A ydych yn cytuno, er mwyn rhoi effaith lawn i'r darpariaethau ar gyfer pŵer i fasnachu yn Rhan 4, y dylid cynnwys CBCau yn y gorchymyn masnachu arfaethedig sydd i'w wneud o dan adran 95 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003? Os nad ydych chi, pam hynny?

Cwestiwn 8

A ydych yn credu y dylai'r canlynol fod yn berthnasol i CBCau ochr yn ochr â darparu'r pŵer i fasnachu:

  • Deddf Llywodraeth Leol (Contractau) 1997
  • Rhan 2 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994.

Cwestiwn 9

A oes unrhyw ddeddfwriaeth arall y mae awdurdodau lleol yn dibynnu arni wrth weithredu'n fasnachol na ddarperir ar ei chyfer ar hyn o bryd mewn rheoliadau?

Cwestiwn 10

A yw Rhan 5 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer y materion ariannol amrywiol pellach hynny a nodir mewn perthynas â CBCau? Os nac ydy, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Cwestiwn 11

A yw Rhan 6 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer achosion cyfreithiol mewn perthynas â CBCau? Os nac ydy, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Cwestiwn 12

A yw Rhan 7 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer ymdrin â chofnodion, dogfennau a hysbysiadau ac ati? Os nac ydy, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Cwestiwn 13

A yw Rhan 8 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer y materion pellach sy'n ymwneud â staffio a'r gweithlu? Os nac ydy, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Cwestiwn 14

A yw Rhan 9 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer y nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol a nodwyd? Os nac ydy, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach

Pennod 2

Cwestiwn 15

A ydych yn meddwl y dylai'r rheoliadau drafft ddarparu'n glir ar gyfer gwneud aelodau a staff CBC yn gymwys neu’n anghymwys ar gyfer swydd? Os nad ydych chi, esboniwch pam.

Pennod 3

Cwestiwn 16

A ydych yn cytuno â'r dull arfaethedig o ddarparu ar gyfer trosolwg a chraffu ar CBCau fel rhan o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022? Os nac ydych, manylwch ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn gliriach.

Pennod 4

Cwestiwn 17

A ydych yn cytuno â'r dull a fwriedir i roi effaith lawn i gymhwyso'r cod ymddygiad i CBCau drwy gymhwyso'r Rheoliadau i Gorchmynion canlynol i CBCau?

  • Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
  • Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008
  • Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
  • Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001
  • Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

Os nad ydych chi, rhowch fanylion.

Cwestiwn 18

A oes gennych unrhyw farn ar gymhwyso Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 i CBCau?

Y Gymraeg

Cwestiwn 19

A oes gennych unrhyw farn am yr effeithiau penodol y gallai Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg? Byddem yn croesawu eich barn.

Cwestiwn 20

Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, mae croeso ichi nodi’r rheini hefyd.

Sut i ymateb

Mae'r cyfnod ymgynghori'n dechrau ar 10 Tachwedd 2021 ac yn dod i ben ar 22 Rhagfyr 2021. Gwnewch yn siŵr bod eich ymateb yn ein cyrraedd cyn y dyddiad cau.

Cewch gyflwyno'ch sylwadau mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Yr Is-adran Trawsnewid a Phartneriaethau Llywodraeth Leol
Y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad.  Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym. I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

 

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.  Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath.  Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a cadw data personol yn ddiogel. 

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb.  Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau perthnasol

Rhif: WG 43817

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd.  Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes arnoch ei hangen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Atodiad A: crynodeb o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Rheoliadau Sefydlu: Cam 1

Cafodd y rheoliadau a oedd yn creu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru (“y Rheolau Sefydlu”) eu gwneud ar 17 Mawrth 2021, a sefydlwyd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig canlynol ar 1 Ebrill 2021.

Offerynnau a ososwyd gyda Rheoliadau Sefydlu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Cafodd y rheoliadau/gorchmynion canlynol eu gwneud gyda’r Rheoliadau Sefydlu ym mis Mawrth 2021.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021  yn ceisio sicrhau, fel rhan o’r defnydd ehangach o fframwaith moesegol llywodraeth leol, bod aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion y CBCau yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad priodol. Mae’r rheoliadau cyffredinol hefyd yn ceisio sicrhau bod y CBC yn rhwym wrth drefn briodol o ran cyfrifyddu, archwilio a rheolaeth ariannol. Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 hefyd yn gwneud nifer fach o fân ddiwygiadau i; gefnogi’r trefniadau angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau rhwng CBCau ac awdurdodau lleol; i sicrhau bod CBC yn trin aelodau’r CBC yn gyfartal; ac i ddarparu y gall CBC ddal asedau a’u gwaredu.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021  (“y rheoliadau diwygio”) yn diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r rheoliadau diwygio yn darparu bod CBCau a sefydlir drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn agored i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg o fewn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Mae Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021  (“y Gorchymyn diwygio”) yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Gorchymyn diwygio yn darparu bod CBCau a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021 (“y rheoliadau diwygio”) yn diwygio Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r rheoliadau diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 lle bo hynny’n berthnasol.

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021

Mae Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021 (“y Gorchymyn diwygio”) yn diwygio’r rhestr o gyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn adran 12(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth ynghylch archwilio cyfrifon cyrff cyhoeddus yng Nghymru a materion cysylltiedig. Mae Rhan 2 yn ymwneud â chyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r Gorchymyn diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rhan 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae'r gorchymyn diwygio hefyd yn gwneud mân ddarpariaethau a darpariaethau canlyniadol ac atodol.

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021 (“y rheoliadau diwygio”) yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (“rheoliadau 2014”) a wnaed o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. (Cafodd y rhain eu gwneud ar 18 Mawrth 2021, yn unol â’r weithdrefn negyddol). Mae’r rheoliadau diwygio’n darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 2014 lle bo hynny’n berthnasol.

Cafodd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 hefyd eu gwneud ochr yn ochr â Rheoliadau Sefydlu’r CBCau ac roeddent yn darparu ar gyfer yr addasiadau perthnasol i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sy’n ofynnol er mwyn i’r CBCau arfer y swyddogaeth cynllunio trafnidiaeth.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021: Cam 2

Gosodwyd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn y Senedd ar 9 Tachwedd a chânt eu trafod ar 30 Tachwedd 2021. Maent yn darparu ar gyfer rolau rhai 'swyddogion gweithredol' i gefnogi gwaith y CBC yn ogystal â rhai darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff CBC, i swyddogaethau'r CBC gael eu cyflawni gan bobl eraill, er enghraifft ei staff neu ei is-bwyllgorau, ac ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion. Maent hefyd yn gwneud nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol i roi effaith lawn i'r darpariaethau hyn.

Offerynnau a osodwyd gyda Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

Gosodwyd y rheoliadau canlynol gyda Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 ym mis Tachwedd 2021. Bydd y rhain hefyd yn cael eu trafod ar 30 Tachwedd.

Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021

Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021 yn diwygio Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (“Rheoliadau Rhif 1”). Mae'r Rheoliadau’n dod â Chyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir trwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 o fewn cwmpas y safonau a bennir gan Reoliadau Rhif 1 ac yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i wneud hysbysiad cydymffurfio mewn perthynas â'r corff hwnnw. Effaith hyn yw y bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff sy'n atebol i gydymffurfio â Rheoliadau Rhif 1 ac y gallai’r safonau penodedig fod yn gymwys iddynt, sef y safonau cyflenwi gwasanaetha,y safonau llunio polisi, y safonau gweithredu, y safonau hybu a’r safonau cadw cofnodion.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 yn diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Rheoliadau’n diwygio ystyr corff cyhoeddus yn adran 6, drwy ychwanegu Cyd-bwyllgor Corfforedig at y rhestr. Effaith hyn yw bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gyrff sy'n gorfod cydymffurfio â Rhan 2 a 3 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn diwygio adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, at y rhestr o awdurdodau perthnasol sy'n ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021

Mae Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021 yn diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig o fewn y diffiniad o ‘awdurdod cyhoeddus’ yn adran 6(9) sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd bioamrywiaeth. O ganlyniad i'r rheoliadau hyn, bydd yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru wrth wneud penderfyniadau.

Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021 yn diwygio adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 er mwyn sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â thir, neu sy'n effeithio ar dir mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn rhoi sylw i’r dibenion o gadw a gwella harddwch naturiol yr ardal.

Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021 yn diwygio adran 11A o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 er mwyn sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â thir, neu sy'n effeithio ar dir, mewn Parc Cenedlaethol, yn rhoi sylw i’r dibenion a bennir yn adran 5(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.  Y dibenion hyn yw cadw a gwella eu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer deall a mwynhau nodweddion arbennig Parciau Cenedlaethol gan y cyhoedd.

Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021

Mae Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 yn diwygio adran 6(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) er mwyn ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, at y rhestr o awdurdodau perthnasol y mae'n ofynnol iddynt wneud a dangos eu cyfraniad at ddileu tlodi plant yng Nghymru.

Bydd yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig, felly, baratoi a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru a'r camau gweithredu y mae'n bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion yn y strategaeth.

Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021 yn nodi'r gofynion o ran paratoi, adolygu, adnewyddu, cyhoeddi ac arolygu strategaeth tlodi plant a baratoir gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig o dan adran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae'r Rheoliadau'n nodi hyd y strategaeth gyntaf ar dlodi plant a strategaethau olynol i'w paratoi gan Gyd-bwyllgor Corfforedig, amseriad a dull eu cyhoeddi a'u harolygu, y gofynion o ran adolygu'r strategaeth tlodi plant a'r gofynion ymgynghori. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011 er mwyn datgymhwyso'r rheoliadau hynny i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Bydd Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021 yn cael eu gwneud ar ôl i Reoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 gael eu gwneud gan fod y pwerau i wneud y gorchymyn wedi'u cynnwys yn adran 5(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.