Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Hydref 2021.

Cyfnod ymgynghori:
12 Gorffennaf 2021 i 4 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn gofyn am eich barn ar ganllawiau sy'n cefnogi sefydlu 4 cydbwyllgor corfforaethol (CBC).

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Bydd CBCau yn helpu gyda’r cydweithio rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio datblygu strategol, cynllunio trafnidiaeth a hyrwyddo lles economaidd eu hardaloedd.

Rydym yn ymgynghori ar y canllawiau drafft i gefnogi'r gwaith o weinyddu a llywodraethu CBCau.

Mae'r canllawiau'n cynnwys:

  • aelodaeth CBC a threfniadau cyfansoddiadol
  • materion staffio a'r gweithlu
  • cyfarfodydd a thrafodion CBC
  • llywodraethu a chraffu
  • materion cyllido a chyllidebol.
  • dyletswyddau statudol eraill a fydd yn berthnasol i CBCau.

Dogfennau ymghynghori

Cyd-bwyllgorau Corfforaethol: canllawiau statudol drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.