Ymgynghoriad ar Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 drafft
Rydym yn ceisio barn ar Orchymyn drafft. Mae'r Gorchymyn yn newid y ffordd y caiff llety hunanddarpar ei drin at ddibenion trethiant lleol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagymadrodd
Ymgynghoriad technegol yw hwn ar y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 drafft (y Gorchymyn Drafft) sydd i’w weld yn Atodiad A.
Mae'r Gorchymyn Drafft yn diwygio'r meini prawf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i eiddo gael ei ddosbarthu fel llety hunanddarpar annomestig at ddibenion trethi lleol. Bwriedir i’r darpariaethau ddod i effaith ar 1 Ebrill 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori cyn hyn ar fwriad y polisi, y sail resymegol a’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y newid hwn. Cafodd yr ymgynghoriad hwnnw ei gynnal rhwng 25 Awst ac 17 Tachwedd 2021. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn am y ffordd y bydd y Gorchymyn Drafft yn cael ei gymhwyso, o safbwynt deddfwriaethol ac yn ymarferol. Bydd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o chwe wythnos a bydd yn cau ar 12 Ebrill 2022.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i Gymru yn unig.
Y meini prawf hunanddarpar
O dan y system drethu leol, mae eiddo sy’n cael ei ddefnyddio i ddarparu llety hunanddarpar (ee llety gwyliau) yn cael ei drin fel busnes ac ardrethi annomestig, yn hytrach na'r dreth gyngor, sy’n cael eu talu arno, ar yr amod ei fod yn bodloni meini prawf penodol sydd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth.
Mae’r ddeddfwriaeth sy'n sail ar gyfer dosbarthu eiddo yn y system drethu leol yn pennu trothwyon sylfaenol ar gyfer gosodiadau tymor byr i’w defnyddio wrth ddosbarthu llety hunanddarpar fel eiddo annomestig. Roedd y ddeddfwriaeth wreiddiol yn destun ymgynghoriad cyn iddi gael ei chyflwyno.
Mae adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (a fewnosodwyd gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 ac a ddiwygiwyd gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2016) yn nodi’r meini prawf ar gyfer dosbarthu eiddo sy’n cael ei ddefnyddio i ddarparu llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion trethi lleol.
Mae'r meini prawf fel a ganlyn:
- mae bwriad i’r eiddo fod ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu ragor yn y 12 mis dilynol
- mae buddiant y trethdalwr yn yr eiddo yn ei alluogi i’w osod am gyfnodau o'r fath
- yn ystod y 12 mis cyn iddo gael ei asesu, mae’r eiddo wedi bod ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu ragor
- yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cyfanswm y cyfnodau byr y mae’r eiddo wedi cael ei osod yn fasnachol mewn gwirionedd yn 70 o ddiwrnodau o leiaf
Os na fodlonir y meini prawf, mae’r eiddo yn cael ei ddosbarthu fel eiddo domestig ac mae'n rhaid talu'r dreth gyngor arno.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod y system drethu leol yn gyfrwng posibl ar gyfer ymateb i bryderon am yr effaith y bydd cyfran uchel o ail gartrefi yn ei chael ar rai cymunedau. O 25 Awst i 17 Tachwedd 2021, cafodd ymgynghoriad ei gynnal a oedd yn gofyn am farn am weithredu premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor, y meini prawf presennol ar gyfer llety hunanddarpar, a’r amodau y mae’n rhaid i lety hunanddarpar eu bodloni er mwyn bod yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach.
Roedd y farn a gasglwyd o’r ymgynghoriad o blaid cynyddu'r trothwyon ar gyfer llety hunanddarpar, a chafwyd amrywiaeth eang o awgrymiadau ar ba lefel yn union y dylid eu pennu. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu diwygio’r ddeddfwriaeth i bennu trothwyon newydd ar gyfer y cyfnod y bydd rhaid bod eiddo yn cael ei osod mewn gwirionedd a’r cyfnod y bydd rhaid bod eiddo wedi cael ei roi ar gael i'w osod. Sicrhau bod rhaid i eiddo hunanddarpar wneud cyfraniad llawer mwy sylweddol i'r economi leol er mwyn cael ei ystyried yn fusnes, gydag ardrethi annomestig yn cael eu talu arno felly yn hytrach na'r dreth gyngor, yw’r bwriad.
Mae'r Gorchymyn Drafft yn diwygio'r cyfnod amser y mae'n rhaid bod eiddo yn cael ei osod mewn gwirionedd, gan ei gynyddu o 70 o ddiwrnodau i 182 o ddiwrnodau (26 o wythnosau). Mae hefyd yn cynyddu’r cyfnod y bwriedir i eiddo fod ar gael i’w osod a’r cyfnod y bydd eiddo wedi cael ei roi ar gael i'w osod, o 140 o ddiwrnodau i 252 o ddiwrnodau (36 o wythnosau). Byddai'r newidiadau hyn yn berthnasol hefyd i feini prawf a gyflwynwyd gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2016, sy’n dweud y gellid cymryd cyfartaledd o nifer y diwrnodau y bydd eiddo wedi cael ei osod mewn gwirionedd pan fo mwy nag un eiddo sy’n cael ei weithredu gan yr un busnes i’w cael ar yr un safle, y cyfeirir ato wedi hyn yn y ddogfen hon fel 'eiddo cyfunol’.
Cydnabyddir y bydd angen cyfnod o amser i’r rhai sy’n gweithredu llety hunanddarpar ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni’r meini prawf newydd ac i gyrff gweinyddol, gan gynnwys awdurdodau lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio, addasu eu systemau a'u prosesau. Felly, bydd unrhyw eiddo sy'n cael ei asesu cyn 1 Ebrill 2023 yn cael ei drin yn unol â'r meini prawf presennol. O 1 Ebrill 2023 ymlaen, bydd y meini prawf newydd yn cael eu defnyddio.
Strwythur y ddeddfwriaeth
Mae'r Gorchymyn Drafft yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae'r darpariaethau yn diwygio is-adran (2BB) drwy roi ffigurau newydd yn lle’r ffigurau presennol sy'n cyfateb i naill ai:
- nifer y diwrnodau y mae’n rhaid bod bwriad i eiddo fod ar gael i'w osod yn y 12 mis sy’n dilyn y diwrnod asesu
- nifer y diwrnodau y mae'n rhaid bod eiddo wedi cael ei roi ar gael i'w osod yn y 12 mis cyn y diwrnod asesu
- nifer y diwrnodau y cafodd eiddo ei osod mewn gwirionedd yn y 12 mis cyn y diwrnod asesu
- nifer cyfartalog y diwrnodau y cafodd eiddo cyfunol (lle y gellid cymryd cyfartaledd o nifer y diwrnodau pan fo mwy nag un eiddo i’w cael ar yr un safle) ei osod mewn gwirionedd yn y 12 mis cyn y diwrnod asesu.
Bydd unrhyw gyfeiriad presennol at 70 o ddiwrnodau ar gyfer y cyfnod y bydd yr eiddo wedi cael ei osod mewn gwirionedd yn cael ei newid yn 182 o ddiwrnodau, a bydd unrhyw gyfeiriad presennol at 140 o ddiwrnodau ar gyfer y cyfnod y bwriedir i’r eiddo fod ar gael i’w osod a’r cyfnod y bydd yr eiddo wedi cael ei roi ar gael i’w osod yn cael ei newid yn 252 o ddiwrnodau.
Bydd y meini prawf diwygiedig yn dod i effaith ar 1 Ebrill 2023.
Mae'r Gorchymyn Drafft hefyd yn cynnwys darpariaeth drosiannol i roi eglurder ynghylch y ffordd y bydd eiddo a fydd yn cael ei asesu cyn 1 Ebrill 2023 yn cael ei drin. Diben Erthygl 3 yw sicrhau bod eiddo sy’n cael ei asesu ar ôl i'r Gorchymyn gael ei wneud a chyn 1 Ebrill 2023 yn cael ei drin yn unol â'r meini prawf presennol, gyda'r meini prawf newydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2023.
Cwestiynau'r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A yw’r diwygiad i is-adran (2BB), sy’n newid y cyfeiriad at '70 o ddiwrnodau' yn '182 o ddiwrnodau', ar gyfer diffinio’r cyfnod y mae'n rhaid bod eiddo neu eiddo cyfunol wedi cael ei osod mewn gwirionedd, yn glir? Os nad yw’n glir, sut y byddai’n bosibl ei wella?
Cwestiwn 2
A yw’r diwygiad i is-adran (2BB), sy’n newid y cyfeiriad at '140 o ddiwrnodau' yn '252 o ddiwrnodau', ar gyfer diffinio'r cyfnod y mae’n rhaid bod bwriad i eiddo fod ar gael i'w osod a’r cyfnod y bydd eiddo wedi cael ei roi ar gael i'w osod, yn glir? Os nad yw’n glir, sut y byddai’n bosibl ei wella?
Cwestiwn 3
A yw'r geiriad yn Erthygl 3 yn ei gwneud yn glir bod eiddo sy’n cael ei asesu cyn 1 Ebrill 2023 yn cael ei drin ar y sail ei fod yn bodloni'r trothwyon presennol?
Cwestiwn 4
A oes unrhyw faterion eraill yn codi o ran cymhwyso’r Gorchymyn drafft yn ymarferol?
Cwestiwn 5
A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynglŷn â’r ffordd y mae’r Gorchymyn Drafft wedi cael ei ddrafftio?
Cwestiwn 6
Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effaith y byddai'r cynigion hyn yn ei chael ar y Gymraeg, ac ar y canlynol yn benodol:
- cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
- peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 7
Eglurwch hefyd sut, yn eich barn chi, y byddai modd llunio’r cynigion, neu eu newid, er mwyn cael:
- effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
- dim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Cwestiwn 8
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.
Y camau nesaf
Bydd yr ymgynghoriad technegol hwn ar y Gorchymyn Drafft ar agor am gyfnod o chwe wythnos. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried a bydd unrhyw ddiwygiadau pellach y gallai fod eu hangen yn cael eu drafftio.
Yn amodol ar y safbwyntiau a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad hwn, bwriedir gosod y Gorchymyn Drafft gerbron y Senedd maes o law er mwyn iddo ddod i effaith cyn gynted â phosibl wedi hynny a chael ei gymhwyso’n ymarferol o 1 Ebrill 2023.
Sut i ymateb
Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 12 Ebrill 2022, drwy un o’r dulliau canlynol:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i hanfon drwy e-bost i LGFR.Ymgyngoriadau@llyw.cymru
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i phostio i:
Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich Hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:
- i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
- i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu i’r data gael eu prosesu neu i gyfyngu ar hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod i ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd sy’n cael ei gwneud ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, cysylltwch â'r canlynol:
Swyddog Diogelu Data
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy'n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o’r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill y data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif WG: WG44595
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.