Neidio i'r prif gynnwy

Introduction

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r cynnig i ddileu'r risg i'r rhai sy'n gadael gofal o fod yn atebol am dalu'r dreth gyngor pan fo person arall (nad yw wedi'i eithrio) ar yr aelwyd yn methu â thalu ei dreth gyngor.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i Gymru yn unig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal a'u helpu i bontio i fyd oedolion yn llwyddiannus a byw'n annibynnol.

Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu ac ymgynghori â llywodraeth leol, y trydydd sector a threthdalwyr unigol, daeth is-ddeddfwriaeth i rym yn 2019 i eithrio pobl gymwys 24 oed neu iau sy'n gadael gofal ac sy'n byw yng Nghymru rhag talu’r dreth gyngor.

Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019 yn golygu, pan fo anheddau'n cael eu meddiannu gan un person neu fwy sy'n gadael gofal neu lle mae pob preswylydd naill ai'n berson sydd wedi gadael gofal, yn fyfyriwr neu'n berson â nam meddyliol difrifol, bod yr annedd honno wedi'i heithrio rhag talu'r dreth gyngor.

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2019 yn darparu bod personau sy'n cael eu hystyried yn rhai sy'n gadael gofal yn cael eu diystyru pan fydd awdurdod bilio yn cyfrifo swm y disgowntiau sy'n gymwys i annedd drethadwy yng Nghymru.

Roedd cyflwyno'r is-ddeddfwriaeth hon yn garreg filltir bwysig o ran cyflawni ein hymrwymiad parhaus i wneud y dreth gyngor yn decach.

Fodd bynnag, nid oedd y pwerau galluogi yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth mewn perthynas ag atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth gyngor ar gyfer pobl sy'n gadael gofal neu bersonau eraill.

Beth yw atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol?

Os yw'r rhai sy'n gadael gofal yn byw gyda phriod neu bartner, neu ar aelwydydd â mwy nag un oedolyn, gall yr holl oedolion fod yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu bil y dreth gyngor ar eu cartref. Felly, mae risg o hyd y gallai rhywun sy'n gadael gofal fod yn atebol i dalu'r dreth gyngor pan fo person arall (nad yw wedi'i eithrio) yn methu â thalu ei dreth gyngor. Er nad yw achosion o'r fath yn gyffredin, rydym yn ymwybodol o achosion lle mae'r rhai sy'n gadael gofal wedi bod yn atebol am filiau a rennir.

Dull arfaethedig

Er mwyn rhoi esemptiad i'r rhai sy'n gadael gofal sy'n byw yng Nghymru rhag atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol i dalu’r dreth gyngor, mae newidiadau wedi’u gwneud i ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn galluogi Gweinidogion i bennu mewn rheoliadau na ellir dal y rhai sy'n gadael gofal a ddiystyrir at ddibenion disgownt treth gyngor yn atebol ar y cyd nac yn unigol am y dreth gyngor mewn perthynas ag unrhyw annedd drethadwy.

Er mwyn lliniaru'r risg y bydd y rhai sy'n gadael gofal sy'n byw yng Nghymru yn atebol ar y cyd ac yn unigol am fil y dreth gyngor ar eu cartref, cynigir diwygio'r is-ddeddfwriaeth berthnasol i ddarparu esemptiad i'r rhai sy'n gadael gofal o 1 Ebrill 2022. Os mai'r consensws o'r ymgynghoriad hwn yw cyflwyno'r esepmtiad hwn, bydd ymgynghoriad technegol ar wahân ar yr offerynnau statudol drafft perthnasol yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â bwriad y polisi i ddileu atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am dalu’r dreth gyngor ar gyfer pobl sy’n gadael gofal? Nodwch eich rhesymau.

Cwestiwn 2

Rydym wedi cynnig gwneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth berthnasol i ddileu atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am dalu’r dreth gyngor ar gyfer pobl sy’n gadael gofal. Ydych chi'n cytuno â hyn, neu a allwch chi awgrymu opsiwn eraill?

Cwestiwn 3

Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai’r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 4

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r dull polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac er mwn sicrhau na fydd effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 5

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i’w nodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 21 Tachwedd 2021, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Polisi y Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG43169

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.