Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: y sefyllfa bresennol

Mae a wnelo'r ymgynghoriad hwn â chynigion mewn perthynas â'r pwerau y gall awdurdodau lleol yng Nghymru wneud pethau at ddiben masnachol oddi tanynt (y cyfeirir atynt hefyd fel pŵer i fasnachu).

Pŵer cymhwysedd cyffredinol

Mae adran 24 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol (y “pŵer cyffredinol”) i “awdurdodau lleol cymwys”.  Mae'r pŵer cyffredinol yn rhoi'r pŵer i'r awdurdodau hyn wneud unrhyw beth y gall unigolion ei wneud, gan alluogi'r awdurdodau hyn i wneud pethau sy'n wahanol i unrhyw beth y maent hwy, neu unrhyw gorff cyhoeddus arall, wedi'i wneud o'r blaen.

Mae awdurdodau lleol cymwys yn brif gynghorau ac yn gynghorau cymuned cymwys.

Mae cyngor cymuned cymwys yn gyngor cymuned sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn adran 30 o Ddeddf 2021, neu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 35 o Ddeddf 2021, ac yn pasio penderfyniad ei fod yn bodloni'r meini prawf a'i fod yn gyngor cymuned cymwys.    Mae adran 34 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynghorau cymuned cyffredin a sefydlir ar ôl i'r Ddeddf gael ei phasio.

Mae'r meini prawf y mae'n rhaid i gyngor cymuned eu bodloni er mwyn pasio penderfyniad ei fod yn ‘gyngor cymuned cymwys’ fel a ganlyn:

  • Datganwyd bod o leiaf ddau draean o gyfanswm aelodau'r cyngor wedi'u hethol, boed mewn etholiad cyffredin neu mewn isetholiad.
  • Mae clerc y cyngor yn dal unrhyw gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy reoliadau. Mae'r rheoliadau drafft yn nodi y bydd y cymwysterau arfaethedig yn destun ymgynghoriad ar wahân.
  • Mae'r cyngor wedi cael dwy farn archwilio ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, am ddwy flynedd yn olynol.  Mae'n rhaid i'r farn archwilio ddiamod ddiweddaraf fod wedi'i chael yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod y cafodd penderfyniad y cyngor ei basio. 

Cyfyngir ar y gallu i arfer y pŵer cyffredinol gan gyfyngiadau ac amodau penodol fel y'u nodir yn Neddf 2021. 

Ni ellir defnyddio'r pŵer cyffredinol lle y ceir unrhyw gyfyngiad mewn deddfwriaeth bresennol neu unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol sy'n nodi cyfyngiad o'r fath.  Er enghraifft, mae deddfwriaeth mewn perthynas â gwasanaethau, ffioedd a thaliadau statudol, darbodaeth ariannol neu, mewn perthynas â phrif gynghorau, ffurf eu gweithrediaeth, yn cyfyngu ar awdurdodau mewn sawl ffordd ac ni fydd yn bosibl i'r pŵer cyffredinol gael ei ddefnyddio i osgoi'r cyfyngiadau hyn.

Caiff awdurdod lleol cymwys ddefnyddio'r pŵer cyffredinol i wneud rhywbeth at ddiben masnachol drwy gwmni. Fodd bynnag, dim ond petai hefyd yn dibynnu ar y pŵer cyffredinol i wneud y peth hwnnw at ddiben anfasnachol y gallai wneud hynny.  Darperir ar gyfer pŵer awdurdod i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol yn adran 95 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“Deddf 2003”).

Ni all awdurdodau lleol cymwys gynnal gweithgaredd mewn perthynas â rhywun at ddiben masnachol, os yw'n ofynnol cynnal y gweithgaredd hwnnw o dan ddeddfwriaeth.

Mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol cymwys ystyried canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol.

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan Ddeddf 2021 er mwyn gwneud y canlynol:

  • dileu neu ddiwygio darpariaethau statudol y credant eu bod yn atal awdurdodau lleol cymwys rhag defnyddio'r pŵer cyffredinol neu'n eu rhwystro pan fyddant yn defnyddio'r pŵer cyffredinol
  • dileu unrhyw orgyffwrdd rhwng y pŵer cyffredinol a phwerau eraill (er na allant wneud hyn drwy ddiwygio'r pŵer cyffredinol ei hun na chwtogi arno)
  • cyfyngu ar yr hyn y gall awdurdod lleol cymwys ei wneud o dan y pŵer cyffredinol; neu
  • osod amodau ar y defnydd a wneir ohono.

Pŵer i fasnachu mewn swyddogaethau arferol

Mae adran 95 o Ddeddf 2003 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn yn awdurdodi awdurdodau penodol i fasnachu mewn unrhyw un o'u swyddogaethau arferol drwy gwmni.

Mae adran 96(1) o'r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amodau ar y ffordd y caiff y pŵer hwn i fasnachu ei arfer, tra bod adran 96(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau hyn yng Nghymru ystyried canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer y pŵer i fasnachu.

Ers i adrannau 95 a 96 ddod i rym, bu nifer o newidiadau i'r ffordd y mae'r awdurdodau y mae'r ddarpariaeth yn ymwneud â nhw yn cael eu diffinio, er nad yw'r awdurdodau sy'n dod o dan y diffiniad wedi newid.

Cyfeiriai'r adrannau hyn yn wreiddiol at ‘best value authority’ fel y'i diffinnir yn Neddf Llywodraeth Leol 1999 (“Deddf 1999”).  Mewn perthynas â Chymru, roedd hyn yn golygu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned, awdurdod tân ac achub neu awdurdod Parc Cenedlaethol.

Diwygiwyd y gyfundrefn gwerth gorau yn Neddf 1999 gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 ac, o ganlyniad i hynny, disodlwyd cyfeiriadau at awdurdod gwerth gorau yn adrannau 95 a 96 o Ddeddf 2003 gan ‘relevant authority’, fel y'i diffinnir yn adran 95(7).  Roedd y diffiniad o awdurdod perthnasol yn cynnwys awdurdod gwerth gorau fel y'i diffinnir yn Neddf 1999 (mewn perthynas â Chymru, cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned, awdurdod tân ac achub neu awdurdod Parc Cenedlaethol) a chyngor cymuned.

Dileodd Mesur Llywodraeth Leol 2009 awdurdodau yng Nghymru o'r diffiniad o awdurdod gwerth gorau yn Neddf 1999 a diwygiodd y diffiniad o awdurdod perthnasol yn adran 95 o Ddeddf 2003 ymhellach, gan ychwanegu ‘Welsh Improvement Authority’ fel y'i diffinnir ym Mesur 2009 (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, awdurdod tân ac achub neu awdurdod Parc Cenedlaethol).  Mae cynghorau cymuned wedi'u cynnwys yn y diffiniad o hyd.

Ar 1 Ebrill 2021, caiff y diffiniad o awdurdod perthnasol yn adran 95 ei ddiwygio ymhellach gan Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 er mwyn dileu ‘Welsh Improvement Authority’ a mewnosod:

  • cyngor sir neu gyngor bwrdeistref yng Nghymru
  • awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru
  • awdurdod tân ac achub yng Nghymru, sydd wedi'i greu gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo

Arferodd Gweinidogion Cymru eu pwerau yn adrannau 95, 96(1) a 123 o Ddeddf 2003 i wneud Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 (“y gorchymyn masnachu”). 

Pan wnaed y gorchymyn masnachu, roedd adran 95 yn dal i gyfeirio at awdurdodau gwerth gorau ac, felly, mae'r gorchymyn masnachu hefyd yn cyfeirio at yr awdurdodau awdurdodedig fel awdurdodau gwerth gorau.  Fel rhan o'r broses o roi Deddf 2021 ar waith, caiff y gorchymyn masnachu ei ail-wneud er mwyn cyfeirio at yr awdurdodau fel y'u diffinnir yn adran 95 o Ddeddf 2003.

Mae'r gorchymyn masnachu yn gymwys i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol (y cyfeirir atynt yn bennaf fel prif gynghorau yn y ddogfen hon), awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ac mae'n awdurdodi'r awdurdodau hyn i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y maent wedi'u hawdurdodi i'w wneud (ond nad yw'n ofynnol iddynt ei wneud) er mwyn cyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau arferol.  I bob pwrpas, mae hyn yn galluogi masnachu ym mhob gwasanaeth ac eithrio'r rhai y mae'n ofynnol i'r awdurdod eu darparu o dan y gyfraith.

Nid yw'r gorchymyn masnachu yn gwneud unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas â chynghorau cymuned ac, felly, nid yw'r awdurdodau hyn yn awdurdodau a all fasnachu o dan y pŵer yn adran 95 o Ddeddf 2003 ar hyn o bryd.

Mae'r gorchymyn masnachu yn gosod yr amodau canlynol ar y ffordd y caiff y pŵer i fasnachu ei arfer:

  • cyn arfer y pŵer, mae'n ofynnol i awdurdod baratoi a chymeradwyo achos busnes dros y cynnig i arfer y pŵer.
  • rhaid i awdurdodau adennill costau unrhyw lety, nwyddau, gwasanaethau neu staff neu unrhyw beth arall a gyflenwir ganddynt i gwmni yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniant i hwyluso'r broses o arfer y pŵer.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ddau gynnig:

  • Rhagnodi amodau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol cymwys eu bodloni wrth arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol at ddiben masnachol.
  • Ail-wneud y gorchymyn masnachu a galluogi “cynghorau cymuned cymwys” i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar y cynnig i ymestyn y broses o gymhwyso'r Rheoliadau drafft hyn i gynnwys cynghorau cymuned cymwys pan fydd y pŵer cymhwysedd cyffredinol yn cychwyn ar gyfer yr awdurdodau hyn ym mis Mai 2022.

Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau fodloni amodau penodol wrth arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol at ddiben masnachol

O dan adran 28(4) o Ddeddf 2021, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n gosod amodau ar y ffordd y caiff y pŵer cyffredinol ei ddefnyddio a bwriedir i'r pŵer hwn gael ei arfer er mwyn gwneud rheoliadau sy'n nodi amodau y mae'n rhaid i awdurdod lleol cymwys eu bodloni cyn gwneud rhywbeth at ddiben masnachol wrth arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol.

Cyn gwneud rheoliadau o'r fath, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r personau a nodir yn adran 28(7) o Ddeddf 2021.  Bwriedir i'r ymgynghoriad hwn geisio eich barn ar y fersiwn ddrafft o Reoliadau Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021, (“y Rheoliadau drafft”) yn unol ag adran 28(7) o Ddeddf 2021. 

Bwriedir i'r Rheoliadau drafft ddarparu:

  • cyn arfer y pŵer, fod yn rhaid i awdurdod baratoi a chymeradwyo achos busnes dros y cynnig i arfer y pŵer.  Mae'r rheoliadau drafft yn nodi'r gofynion ar gyfer yr achos busnes.
  • os bydd awdurdod wedi cyflenwi unrhyw beth i'r cwmni y mae'r pŵer cyffredinol yn cael ei arfer drwyddo, fod yn rhaid i'r awdurdod adennill ei gostau oddi wrth y cwmni hwnnw

Mae'r rheoliadau drafft yn gwneud darpariaeth debyg, gyda rhai mân addasiadau, i ddarpariaethau'r gorchymyn masnachu. 

Y dull gweithredu a fabwysiadwyd wrth ddatblygu'r Rheoliadau drafft oedd sicrhau bod y gofynion:

Yn gymesur

Y bwriad yw, wrth baratoi'r achos busnes, y bydd awdurdodau yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n gymesur â'r buddsoddiad sy'n cael ei ystyried. 

Wrth baratoi'r rheoliadau drafft hyn, nid ydym yn ceisio rhoi proses rhy feichus na rhy ragnodol ar waith. 

Bwriedir cyhoeddi canllawiau a fydd yn nodi'r disgwyliadau o ran helpu cynghorau i roi'r gofynion hyn ar waith.

Yn gyson â darpariaethau deddfwriaethol cyfatebol eraill 

Wrth ddatblygu'r rheoliadau drafft, ystyriwyd darpariaethau deddfwriaethol eraill ac ati y mae'n ofynnol i gynghorau gydymffurfio â nhw.

Mae’r gofynion a nodir yn y rheoliadau drafft yn cyd-fynd â gofynion eraill megis y Cod Materion Ariannol ac ati.

At hynny, mae prif gynghorau, ac awdurdodau eraill, wedi bod yn arfer eu pŵer i fasnachu o dan y gorchymyn masnachu ers sawl blwyddyn. Mae'r gofynion a nodir yn y rheoliadau drafft yn seiliedig ar y gofynion y mae'n rhaid i brif gynghorau eu bodloni wrth fasnachu yn eu swyddogaethau arferol.

Fel y maent wedi'u paratoi ar hyd o bryd, mae'r rheoliadau drafft yn diffinio awdurdod fel prif gyngor (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru).  Mae hyn i'w briodoli i'r ffaith y bydd y pŵer cymhwysedd cyffredinol yn cychwyn ar wahanol adegau ar gyfer gwahanol fathau o awdurdod. 

Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021, a wnaed ar 3 Mawrth 2021, yn darparu ar gyfer rhoi'r pŵer cyffredinol ar waith ar gyfer prif gynghorau ar 1 Tachwedd 2021 a chynghorau cymuned a thref ar 5 Mai 2022.

Ein bwriad yw dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn dros yr haf ac ystyried a allai fod angen gwneud unrhyw newidiadau cyn gosod y rheoliadau drafft gerbron y Senedd yn yr hydref.  Wedyn, bwriedir iddynt gael eu rhoi ar waith ar 1 Tachwedd 2021, ar yr un pryd ag y bydd y pŵer cyffredinol yn cychwyn ar gyfer prif gynghorau.

Bwriedir diwygio'r rheoliadau drafft rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Mai 2022 er mwyn ymestyn y broses o'u cymhwyso i gynnwys cynghorau cymuned. 

Er bod y gweithrediadau masnachu a gyflawnir gan gynghorau cymuned yn aml o werth ariannol is na'r rhai a gyflawnir gan brif gynghorau ac, felly, y gellid ystyried bod risg is yn gysylltiedig â nhw, erys yr egwyddor o ddiogelu'r awdurdod a chyllid cyhoeddus rhag risg.  Ni waeth beth fo gwerth y cynnig, mae'n hanfodol bod unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o'r materion a ragnodwyd i'w cynnwys yn yr achos busnes.

Bydd yr achos busnes yn helpu cynghorau cymuned cymwys i ystyried y materion allweddol hyn, cyn ac wrth iddynt wneud penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r cynnig ac unrhyw fuddsoddiad cysylltiedig.  Fel y nodwyd uchod, y gofyniad yw paratoi achos busnes y bwriedir iddo fod yn gymesur a bwriedir cyhoeddi canllawiau statudol a fydd yn nodi sut y gall cyngor fynd ati i fodloni'r gofyniad hwn.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft wedi'i baratoi i ategu'r rheoliadau drafft.

Ail-wneud y gorchymyn masnachu a galluogi cynghorau cymuned cymwys i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol

Ar hyn o bryd, mae'r gorchymyn masnachu yn cyfeirio at awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru tra bod adran 95 o Ddeddf 2003, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2021, yn cyfeirio at gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub. 

Mae angen diwygio'r gorchymyn drafft er mwyn sicrhau bod y broses o ddrafftio'r gorchymyn yn cyd-fynd â darpariaethau Deddf 2003 a bwriedir i'r gorchymyn masnachu diwygiedig hwn gael ei wneud cyn i'r pŵer cymhwysedd cyffredinol gael ei roi ar waith ar gyfer pob awdurdod lleol cymwys. 

Wrth wneud y gorchymyn masnachu diwygiedig, cynigir y dylid ymestyn yr awdurdodiad i fasnachu i gynnwys cynghorau cymuned sydd wedi pasio penderfyniad eu bod yn gymwys i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol.

Mae hyn yn golygu y bydd y gorchymyn masnachu diwygiedig yn gymwys i'r canlynol:

  • cyngor sir neu gyngor bwrdeistref yng Nghymru
  • awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru
  • awdurdod tân ac achub yng Nghymru (sydd wedi'i greu gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo)
  • cyngor cymuned sy'n gyngor cymuned cymwys at ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2021.

Er mwyn sicrhau cysondeb, cynigir hefyd y dylid atgynhyrchu'r gofynion mewn perthynas â'r achos busnes a nodir yn y rheoliadau drafft yn y gorchymyn masnachu diwygiedig. 

Gan y bydd y gorchymyn masnachu diwygiedig hefyd yn gymwys i awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol, bydd yr awdurdodau hyn hefyd yn ddarostyngedig i'r gofynion wedi'u diweddaru.  Mae'r diwygiadau i ofynion yr achos busnes yn fân ddiwygiadau ac nid ydym o'r farn y byddant yn gosod baich ychwanegol ar yr awdurdodau hyn.

Os bydd cyngor cymuned yn penderfynu nad yw'n gymwys i arfer y pŵer cyffredinol mwyach, naill ai am nad yw'n bodloni'r meini prawf mwyach neu am nad yw'n dymuno bod yn gyngor cymuned cymwys mwyach, ni fydd wedi'i awdurdodi i fasnachu yn ei swyddogaethau arferol mwyach.

Mae Deddf 2021 yn darparu y gall cyngor cymuned sy'n peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys barhau i ddibynnu ar y pŵer cyffredinol mewn perthynas â phethau y mae wedi'u gwneud wrth arfer y pŵer hwnnw tra roedd yn gyngor cymuned cymwys. Er enghraifft, gall contract yr ymrwymwyd iddo wrth arfer y pŵer cyffredinol barhau, ac nid yw'n cael ei rwystro o reidrwydd, er nad oes gan y cyngor cymuned fel arall y pŵer mwyach i ymrwymo i'r contract hwnnw ac na chaiff ddechrau unrhyw beth newydd.  Cynigir y dylai'r gorchymyn masnachu diwygiedig ddarparu ar gyfer darpariaeth debyg.

Pam rydym yn gwneud y newid hwn

Y gofyniad i baratoi achos busnes

Nid yw'r pŵer cyffredinol yn dileu'r angen i awdurdodau lleol cymwys ystyried yn llawn yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, pam a sut y byddant yn ei gyflawni a'r manteision i'w cymunedau.  Mae angen prosesau gwneud penderfyniadau tryloyw a chadarn o hyd. 

Mae hefyd yn hanfodol bod awdurdodau yn ymddwyn yn ddoeth o ran amlygu eu hunain i risg fasnachol. 

Ni fwriedir i'r amodau a ragnodir gan y rheoliadau drafft osod cyfyngiadau na rheolaethau ychwanegol ar yr hyn y mae'r awdurdod yn defnyddio'r pŵer cyffredinol ar ei gyfer.  Effaith fwriadedig y Rheoliadau hyn yw sicrhau bod awdurdodau yn cymryd camau priodol a chymesur i ystyried goblygiadau arfer y pwerau fel maent yn bwriadu ei wneud yn hytrach na'u hatal rhag arfer y pŵer fel y maent yn dymuno ei wneud.

Mae risgiau amlwg ac, o bosibl, ddifrifol yn gysylltiedig â masnachu.  Er bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod y manteision a fydd yn deillio o allu awdurdodau i wneud pethau at ddiben masnachol o dan y pŵer cyffredinol yn gymhellol, rydym yn cydnabod bod gwneud cyllid cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus yn agored i risg fasnachol yn cyfiawnhau gosod cyfyngiadau gofalus ar b'un a ddylid arfer y pŵer a sut y dylid ei arfer.

Gallai'r cynnig i arfer y pŵer cyffredinol olygu ymrwymiad mawr a pharhaol i unrhyw awdurdod a gallai arwain at ganlyniadau ariannol, gweithredol a strwythurol sylweddol i'r awdurdod.  Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai dim ond gan gydnabod y canlyniadau hyn yn llawn ac ar ôl eu hystyried yn ofalus y dylid gwneud penderfyniad o'r fath.

Rydym o'r farn y bydd y broses o baratoi a chymeradwyo achos busnes yn helpu i sicrhau bod awdurdodau yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth lawn sy'n destun proses graffu ddemocrataidd briodol ymlaen llaw.

Ni ragnodir sut y dylid cymeradwyo'r achos busnes na phwy a ddylai wneud hynny.  Mater i'w benderfynu gan yr awdurdod fydd hwn.  Mewn perthynas â phrif gynghorau, gallai'r penderfyniad gael ei wneud, er enghraifft, mewn cyfarfod o'r cyngor llawn neu gallai'r cyngor wneud trefniadau o dan adran 101 o Ddeddf 1972. 

Ni fyddai angen i'r achos busnes gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru na'i gymeradwyo ganddi mwyach.  Rydym o'r farn y byddai hynny'n gyfystyr ag ymyrraeth ddigyfiawnhad â materion awdurdod a gallai hefyd gael yr effaith anfwriadol o roi gwarantiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw weithrediadau masnachu yn y dyfodol.

Mae'r materion sydd i'w gosod yn yr achos busnes fel a ganlyn:

  1. nodau ac amcanion y cynnig i arfer y pŵer cyffredinol
  2. y costau, y buddsoddiadau a'r adnoddau eraill sydd eu hangen i gyflawni'r nodau a'r amcanion hynny
  3. y canlyniadau ariannol y disgwylir iddynt gael eu cyflawni drwy'r cynnig i arfer y pŵer cyffredinol
  4. unrhyw ganlyniadau perthnasol eraill y disgwylir iddynt gael eu cyflawni drwy'r cynnig i arfer y pŵer cyffredinol
  5. unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â'r cynnig i arfer y pŵer cyffredinol gan gynnwys asesiad o ddifrifoldeb y risgiau hynny, ac unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru'r risgiau hynny.

Mae nodi ac ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â'r cynnig yn agwedd hollbwysig ar y broses o baratoi'r achos busnes gofynnol sy'n gysylltiedig â'r cynnig. Felly, yn ogystal â nodi'r risgiau, mae'n rhaid i'r achos busnes hefyd gynnwys asesiad o'u difrifoldeb ac unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru'r risgiau hynny.  

Mae'r amodau a ragnodir yn y rheoliadau drafft yn seiliedig ar y gorchymyn masnachu yn bennaf, gyda rhywfaint o foderneiddio a rhai mân addasiadau fel y nodwyd yn gynharach yn y ddogfen hon.

Bydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau fodloni'r un amodau, p'un a ydynt yn masnachu yn y swyddogaethau arferol neu wrth arfer y pŵer cyffredinol, yn sicrhau cysondeb ac eglurder o ran y camau y mae angen i awdurdodau eu cymryd cyn masnachu.

Bydd atgynhyrchu gofynion y rheoliadau drafft yn y gorchymyn masnachu diwygiedig yn helpu i gynnal y cysondeb a'r eglurder hwn.

Y gofyniad i adennill costau

Byddai llawer o'r gweithrediadau masnachol y gallai awdurdodau ymgymryd â nhw yn cystadlu'n agored â busnesau eraill, yn y sector preifat gan mwyaf. 

Gallai cystadleuaeth o'r fath helpu i wella effeithlonrwydd ac ansawdd gwasanaethau yn gyffredinol a gallai feithrin cysylltiadau rhwng y ddau sector a chreu cyfleoedd cyflenwi ac is-gontractio i fusnesau lleol.  Fodd bynnag, gallai ystumio'r farchnad, mae'n bosibl bod gan lawer o awdurdodau fwy o adnoddau na rhai cyflenwyr yn y sector preifat ac maent hefyd yn cael eu cefnogi gan arian cyhoeddus yn hytrach nag incwm masnachu yn unig.

Aseswyd bod effaith masnachu gan awdurdodau lleol cymwys ar y sector cyhoeddus ac, yn arbennig, y risg y byddai cyflenwyr yn y sector cyhoeddus yn colli llawer iawn o fusnes, yn gymharol fach.  Fodd bynnag, erys risg ddamcaniaethol o leiaf y gallai gweithrediadau hyfforddi arwain at ganlyniadau annheg a gwrthgystadleuol.

Fel y nodwyd uchod, byddai'n ofynnol i awdurdodau lleol cymwys gyflawni unrhyw weithrediadau masnachu drwy gwmni.  Er y gallai awdurdod yn rhesymol helpu cwmni o'r fath i ymsefydlu, dylai adennill costau gwneud hynny maes o law.  Gallai cymhorthdal neu gyllid parhaus ystumio'r farchnad yn annheg a hefyd olygu bod cyllid cyhoeddus yn wynebu risg fasnachol ormodol.

Felly, rydym yn cynnig y dylid atgynhyrchu darpariaethau'r gorchymyn masnachu sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod adennill costau llawn unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir ganddo i'r cwmni y mae'r pŵer cyffredinol yn cael ei arfer drwyddo at ddiben masnachol.

Galluogi cynghorau cymuned cymwys i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol

Mae cynghorau cymuned yn rhan annatod o lywodraeth leol. Cynghorau cymuned sydd agosaf at bobl a chymunedau lleol yn aml ac, felly, maent mewn sefyllfa unigryw i weld, a darparu, y gwasanaethau hynny a all gael effaith sylweddol ar lesiant unigolyn.  Bydd sicrhau bod y pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gael i gynghorau cymuned sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn rhoi mwy o ryddid i'r cynghorau hyn wasanaethu eu cymunedau.

Mae Deddf 2021 yn nodi meini prawf y mae'n rhaid i gyngor cymuned eu bodloni er mwyn pasio penderfyniad ei fod yn gyngor cymuned cymwys ac arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Gyda'i gilydd mae'r meini prawf hyn yn darparu mesurau gwrthrychol a chymesur o addasrwydd cyngor cymuned i arfer y pŵer cyffredinol, sy'n cwmpasu agweddau democrataidd, llywodraethol a phroffesiynol ar gyngor cymuned.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn, os bydd cyngor cymuned wedi bodloni'r amodau i allu arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol, a fydd yn cynnwys y gallu i wneud pethau at ddiben masnachol wrth arfer y pŵer hwnnw, y dylai'r cynghorau hyn hefyd allu masnachu yn eu swyddogaethau arferol.

Pe na bai cynghorau cymuned cymwys yn cael eu cynnwys yn y gorchymyn masnachu diwygiedig, byddai'n arwain at sefyllfa lle y byddai gan gyngor cymuned cymwys y pŵer i fasnachu lle roedd yn gwneud rhywbeth o dan y pŵer cymhwysedd cyffredinol ond nid mewn perthynas â'i swyddogaethau arferol.

Gallai'r anghysondeb hwn beri dryswch, atal arloesedd a golygu na fydd gwasanaethau yn gwella.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A yw'r rheoliadau drafft yn glir?

Cwestiwn 2

A yw'r gofynion yn y rheoliadau drafft, mewn perthynas â'r achos busnes, yn ymdrin â'r pethau cywir?  A oes unrhyw faterion eraill y dylai fod yn ofynnol i'r achos busnes eu cynnwys?

Cwestiwn 3

A ddylai'r rheoliadau nodi pwy ddylai gymeradwyo'r achos busnes?  Os felly, pwy ddylai wneud hynny?

Cwestiwn 4

Beth yw eich barn am y dull arfaethedig o gymhwyso'r rheoliadau drafft at gynghorau cymuned cymwys?

Cwestiwn 5

A ydych yn cytuno y dylid awdurdodi cynghorau cymuned sy'n gymwys i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol hefyd.  Os nad ydych, pam?

Cwestiwn 6

A ydych yn cytuno y dylai prif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys fod yn ddarostyngedig i'r un amodau wrth fasnachu yn eu swyddogaethau arferol ac arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol?

Cwestiwn 7

A fydd gosod yr amodau wedi'u diweddaru, a nodir yn y rheoliadau drafft, ar awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol, pan fyddant yn arfer eu pŵer i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol, yn arwain at unrhyw ganlyniadau nad ydym wedi'u hystyried?

Cwestiwn 8

Er mwyn mireinio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu sylwadau ar y costau amcangyfrifedig i awdurdodau sy'n gysylltiedig â pharatoi achos busnes.  Byddem hefyd yn croesawu amcangyfrif o unrhyw gostau a allai ddeillio o'r gofyniad i adennill costau oddi wrth y cwmni.

Cwestiwn 9

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r rheoliadau drafft neu'r cynnig mewn perthynas â'r gorchymyn masnachu diwygiedig yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

Cwestiwn 10

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid llunio neu newid y rheoliadau drafft arfaethedig neu'r cynnig mewn perthynas â'r gorchymyn masnachu diwygiedig er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Cwestiwn 11

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Mehefin 2021, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Yr Is-adran Cyllid a Phartneriaethau Gweithlu Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG42115

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.