Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymateb trawsffiniol, sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid, i gefnogi gweithlu Airbus a’r gadwyn gyflenwi ehangach, wedi dechrau ac wedi gwneud cynnydd da, dywedodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Ymateb Rhanbarthol ar Gyflogaeth yr wythnos hon. Sefydlwyd y grŵp gan y Gweinidog, ac roedd y cyfarfod hwn yn cynnwys Airbus, rhanddeiliaid yn y gadwyn gyflenwi, yr undebau llafur a phartneriaid ac asiantaethau allweddol o ogledd Cymru ac ardal ehangach Mersi a'r Ddyfrdwy, i sicrhau bod y cymorth sydd ei angen yn cael ei roi ar waith yn gyflym ac mewn modd effeithiol.

Bydd y grŵp yn darparu trosolwg o’r farchnad lafar, yn ysgogi cydweithio gwell ac yn hwyluso ymateb rhanbarthol cynhwysol drwy ddefnyddio rhaglenni presennol i greu rhagor o gyfleoedd a chyfleoedd gwell ar gyfer swyddi yn lleol.

Mae cynlluniau yn yr arfaeth ar gyfer uwchgynhadledd weithgynhyrchu â ffocws ar Ogledd Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddi sefydlu Tasglu Awyrofod i gefnogi gweithwyr a chymunedau sydd mewn perygl.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o’r effaith drychinebus mae’r argyfwng COVID-19 yn ei chael ar y sector awyrofod, a’r effaith ddinistriol mae’n ei chael ar y diwydiant yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

“Mae ein hymateb yn seiliedig ar gydweithio, gan adeiladu ar y berthynas weithio agos iawn rhwng Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yng Ngogledd Cymru ac ar draws ardal ehangach Mersi a’r Ddyfrdwy. Rydyn ni’n defnyddio’r Grŵp Ymateb Rhanbarthol ar Gyflogaeth i’n galluogi i weithio ar y cyd a chydlynu ymdrechion i gefnogi gweithlu Airbus a’r gadwyn gyflenwi ehangach.

“Mae’n dda gen i fod y grŵp hwn eisoes wedi cwrdd, a hoffwn i ddiolch i’r holl bartneriaid am weithio gyda’i gilydd mewn modd adeiladol. Mae gan y grŵp hon rôl allweddol i’w chwarae wrth gasglu gwybodaeth o’r rhanbarth cyfan, gan weithio’n agos gyda phartneriaid i roi cymorth ar waith mewn perthynas â sgiliau a swyddi.

“Mae gennyn ni bartneriaethau cryf yng Ngogledd Cymru a thros y ffin, ac mae’r rhain bellach yn bwysicach nag erioed. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gan fod hon yn broblem fyd-eang sy’n gofyn am weithredu ar lefel y DU – rhywbeth y byddwn ni’n parhau i alw amdano.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Mae’r Gynghrair yn llongyfarch y Gweinidog ar ymateb yn gyflym i’r newyddion trychinebus gan Airbus. Roeddem yn falch iawn o gael bod yn bartner allweddol yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Ymateb Rhanbarthol ar Gyflogaeth. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gefnogi’r sector awyrofod gan ei fod yn rhan bwysig o’r economi drawsffiniol ehangach. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth yng Nghaerdydd a San Steffan er mwyn sicrhau buddsoddiad at y dyfodol ar gyfer yr ardal drawsffiniol.