Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Rwy’n falch o ymateb i’r argymhellion a wnaed gan Grŵp Tasglu Parcio ar y Palmant Cymru, a’u cylch gwaith oedd ymchwilio i’r broblem a dod o hyd i ateb ymarferol y gellir ei weithredu cyn gynted â phosibl.

Yn sylfaenol, mae palmentydd ar gyfer pobl i'w defnyddio er mwyn eu diogelwch ac nid ydynt wedi'u bwriadu fel lle i barcio cerbydau. Mae parcio ar y palmant yn berygl i gerddwyr, rhieni â chadeiriau gwthio, a'r rhai sydd ag anawsterau symud. Gall hyd yn oed arwain at arwahanrwydd cymdeithasol i rai pobl, gydag ofn gadael cartref, oherwydd ei bod yn teimlo'n anniogel. Yn ogystal â’i gwneud yn anodd i bobl ddefnyddio eu strydoedd, gall parcio ar balmentydd achosi difrod sylweddol hefyd, sy’n costio miloedd o bunnoedd i awdurdodau lleol yng Nghymru i’w hatgyweirio bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth uchel i alluogi ac annog mwy o bobl i wneud teithiau bob dydd ar droed. Fodd bynnag, ni all hyn ddigwydd oni bai bod parcio cerbydau wedi'i reoli'n ddigonol. Dyma pam mai fy mwriad yw ymchwilio i newidiadau rheoliadol a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol weithredu.

Mae deddfu i fynd i'r afael â phryderon ynghylch parcio ar y palmant yn rhan o gyfres o fesurau trafnidiaeth i gynorthwyo i greu lleoedd cyhoeddus, sy'n hybu iechyd a lles pobl. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn gallu rheoli a gwella eu hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Rwy’n ddiolchgar i Phil Jones a gadeiriodd y Grŵp Tasglu, yn ogystal â phawb ar y Grŵp sydd wedi cyfrannu a helpu i gynhyrchu’r  adroddiad hwn.

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn y Gynhadledd Teithio Llesol yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2019, sefydlu Grŵp Tasglu (GTPP) i ymchwilio i'r problemau sy'n gysylltiedig â pharcio ar y palmant a chyflwyno argymhellion i’w ddatrys.

Ar hyn o bryd nid yw'n drosedd parcio ar balmentydd yng Nghymru, fodd bynnag, gall yr Heddlu orfodi'r drosedd bresennol o achosi rhwystr diangen i unrhyw ran o'r briffordd ond anaml y gorfodir y drosedd hon.

Ystyriodd y GTPP greu trosedd newydd ar gyfer parcio palmant trwy ddeddfwriaeth sylfaenol, fodd bynnag, gan adlewyrchu ar y profiad yn yr Alban canfuwyd ei bod yn broses hir a chymhleth. Daeth y GTPP i’r casgliad ei bod yn fwy effeithlon a chyflym i gyflwyno is-ddeddfwriaeth a fyddai'n ychwanegu'r drosedd o rwystr mewn perthynas â'r palmant at y rhestr o droseddau parcio yn Neddf Rheoli Traffig 2004. Byddai hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio gorfodaeth sifil i weinyddu’r drosedd o rwystrau diangen ar y palmant, sydd ar hyn o bryd yn cael ei orfodi gan yr heddlu yn unig.

Gwerthfawrogir y bydd yn rhaid parhau i barcio rhywfaint ar balmentydd ar strydoedd cul heb unrhyw barcio amgen.

Bydd grŵp yn cael ei sefydlu gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu canllawiau gorfodi newydd ar gyfer awdurdodau lleol, a fydd hefyd yn helpu i sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru. Gwneir unrhyw newidiadau y mae'n ofynnol eu gwneud i ddogfennau canllaw'r DU, megis Rheolau’r Ffordd Fawr, mewn ymgynghoriad â Adran Drafnidiaeth y DU.

Yn amodol ar ddatblygiad polisi pellach ac ymgynghori, y nod yw dechrau gorfodaeth sifil ar rwystrau diangen o balmentydd erbyn Gorffennaf 2022, a bydd cynllun cyfathrebu a strategaeth hyrwyddo yn cael eu datblygu i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol bod gorfodaeth yn cael ei gynyddu o'r dyddiad hwn. Bydd gweithrediad y drefn orfodi newydd yn cael ei fonitro a'i werthuso'n agos i sicrhau llwyddiant a nodi unrhyw newidiadau pellach y gallai fod eu hangen.

Cafwyd cynrychiolaeth o ystod eang o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, sydd â diddordeb mewn parcio ar y palmant ar y GTPP, sy'n rhoi hygrededd i ganlyniadau ac argymhellion eu hadroddiad. Daethant i'r casgliad bod parcio ar y palmant yn broblem ddifrifol ledled Cymru ac y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddelio â hi. Cynigir yn awr i gyflawni hyn trwy newid ymddygiad gyrwyr, trwy godi ymwybyddiaeth bod palmentydd ar gyfer cerddwyr ac nid ar gyfer cerbydau parcio, a'i ategu gyda'r ataliad o orfodi effeithiol.

Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn holl argymhellion GTPP mewn egwyddor ac mae'r tabl canlynol isod yn nodi'r ymateb i bob un o'r argymhellion a wnaed gan y GTPP a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen.

Rhif yr Argymhelliad

Argymhelliad Adroddiad y Grŵp Tasglu

Ymateb Llywodraeth Cymru

1.

Dylai’r Senedd basio is- ddeddfwriaeth er mwyn ychwanegu’r drosedd sydd eisoes yn bodoli o dan Reoliad 103 o Reoliadau Cerbydau Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986, i’r graddau y mae’n gymwys i droedffyrdd, at y rhestr o dramgwyddau gorfodadwy er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio mesurau gorfodi sifil mewn perthynas â pharcio ar y palmant.

Mae Atodlen 7 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 yn nodi'r tramgwyddau sy'n destun gorfodaeth sifil. Mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i lunio deddfwriaeth eilaidd, yn amodol â’r weithdrefn negyddol yn y Senedd, i ddiwygio Atodlen 7 o’r DRT i ychwanegu troseddau pellach i’r graddau y maent yn ymwneud â cherbydau llonydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ond yn cynnig gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a mireinio'r cynnig polisi hwn ymhellach.

Wrth gyflwyno rheoliadau, byddant yn ymgynghori â chynrychiolwyr perthnasol prif swyddogion yr heddlu a chymdeithasau awdurdodau lleol, fel y bo'n briodol.

2.

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r ddeddfwriaeth berthnasol i nodi sut gellir symleiddio'r broses Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yng Nghymru.

Bydd Gweinidogion Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol yn y broses hon fel a nodir yn Argymhelliad 3.

3.

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r ddeddfwriaeth berthnasol i nodi sut gellir symleiddio'r broses Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu effaith y rheoliadau gweithdrefnau gorchymyn rheoleiddio traffig dros dro, sydd wedi dod i rym yn ystod yr epidemig Coronafeirws, gyda'r bwriad o benderfynu a oes angen unrhyw newidiadau parhaol i'r broses.
 

4.

Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio ei chanllawiau Statudol a Gweithdrefnol presennol ar Fesurau Gorfodi Parcio Sifil er mwyn cynghori awdurdodau lleol ynghylch sut i ddefnyddio eu pwerau gorfodi newydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Awdurdodau Lleol, PATROL, Cyd-bwyllgor (Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain), y Tribiwnlys Cosb Traffig, Cymdeithas Parcio Prydain, a phartïon eraill i ddatblygu canllawiau newydd ar gyfer awdurdodau lleol Cymru.
 

5.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Adran Drafnidiaeth y DU i ddiwygio Rheolau’r Ffordd Fawr er mwyn rhoi gwybod i ddefnyddwyr ffyrdd bod parcio ar y palmant yng Nghymru yn ddarostyngedig i fesurau gorfodi sifil.
 

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Adran Trafnidiaeth y DU ynglŷn â newidiadau i Reolau’r Ffordd Fawr fe bo’r angen.

6.

Dylai Llywodraeth Cymru ddylunio a chynnal strategaeth cyfathrebu a hyrwyddo effeithiol, ar y cyd ag awdurdodau lleol, er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd bod mesurau gorfodi ar gyfer parcio ar y palmant yn newid ac annog gyrwyr i gydymffurfio.

Bydd y cyngor a baratowyd gan yr is-grŵp Cyfathrebu a Newid Ymddygiad o'r Grŵp Tasglu 20 mya yn cael ei ddefnyddio i lywio a chefnogi datblygiad strategaeth gyfathrebu a marchnata effeithiol ar gyfer y newid yn y drefn o orfodi parcio ar y palmant.

7.

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu fframwaith monitro a gwerthuso fel y gellir asesu effaith ac effeith iolrwydd y drefn orfodi newydd.
 

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith monitro a gwerthuso i sicrhau bod y drefn orfodi newydd mor effeithiol â phosibl.

8.

Dylai PATROL gasglu data yn dilyn 12 mis cychwynnol o ddechrau gorfodaeth gan awdurdodau lleol i asesu a oes angen unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau neu weithrediadau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda PARTOL i asesu a oes angen unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau neu weithrediadau.

9.

Dylai Llywodraeth Cymru gyflawni'r cerrig milltir allweddol canlynol i alluogi dechrau ar orfodi sifil o barcio ar y palmant erbyn Gorffennaf 2022:

Cyhoeddi Adroddiad y Tasglu - Hydref 2020

Datganiad Gweinidogol yn rhoi'r bwriad i symud ymlaen - Hydref 2020

Pleidlais yn y Cyfarfod Llawn i fwrw ymlaen â’r deddfwriaeth - Hydref 2020

Pasio Offeryn Statudol - Hydref 2021

Cychwyn Offeryn Statudol - Gorffennaf 2022

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ddilyn y rhaglen weithredu a argymhellir a nodir yn yr adroddiad. Bydd yn gwneud Datganiad Llafar ym mis Hydref 2020 i rannu gyda'r Senedd ei bwriadau i ddeddfu er mwyn mynd i'r afael â pharcio ar y palmant. Yn amodol ag ymgynghori, bydd pasio a chychwyn yr Offeryn Statudol yn dilyn y dyddiadau a argymhellir.

10.

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu tîm penodol ar gyfer y prosiect i arwain a chydlynu’r holl dasgau angenrheidiol sy’n ofynnol i gyflwyno mesurau gorfodi sifil ar gyfer parcio ar y palmant.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Tîm Prosiect i fwrw ymlaen â'r rhaglen gweithredu Parcio ar y Palmant fel y gall awdurdodau lleol ymgymryd â gorfodi, erbyn Gorffennaf 2022.