Rydym yn helpu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i leihau ôl troed carbon eu tai cymdeithasol presennol.
Cynnwys
Cefndir
Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) yn ddull pragmatig o ddatgarboneiddio cartrefi sydd eisoes yn bodoli, ac yn un sy’n edrych ar y tŷ cyfan. Mae'n llawer mwy soffistigedig a phwrpasol na chynlluniau blaenorol. Mae'n ystyried yr adeiladwaith neu’r deunyddiau y gwneir cartrefi ohonynt a'r ffordd yr ydym yn gwresogi ac yn storio ynni. Mae hefyd yn ystyried sut mae ynni'n cyrraedd ein cartrefi.
Mae'r rhaglen ar gael i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol i osod amrywiaeth o fesurau i ddatgarboneiddio cartrefi'r stoc o dai cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli.
Cam 3 ORP
Mae Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3 yn cynnwys blynyddoedd ariannol 2022 – 2025, a phrif themâu’r Rhaglen yw: Gwres Fforddiadwy, Datgarboneiddio a deall y llwybr gorau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni'r cartref hwnnw a'i breswylwyr.
Un o fwriadau'r Rhaglen yw cefnogi Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 wrth i Lywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol weithio tuag at gyflwyno safon newydd.
Mae'r safon arfaethedig newydd yn annog landlordiaid i ystyried materion fel gwres fforddiadwy a datgarboneiddio ar draws eu holl stoc er mwyn llunio cynllun ar gyfer pob tŷ sy'n cael ei ôl-osod.
Mae'r Rhaglen yn croesawu dull profi a dysgu ar gyfer datgarboneiddio cartrefi, gan fabwysiadu awydd am risg sy'n cyd-fynd â'r gweithgareddau entrepreneuraidd sydd eu hangen i ddatgarboneiddio mewn modd effeithiol ac yn effeithlon.
Mae'r Rhaglen yn cefnogi dulliau o ddatgarboneiddio cartrefi sy'n galluogi rhoi sylw i'r seilwaith ehangach sydd ei angen, gan sicrhau bod materion fel sgiliau, caffael, modelau ariannu, dewis deunyddiau a'r economi sylfaenol i gyd yn cael eu hystyried a'u datblygu.
Mae'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn sail i waith parhaus Llywodraeth Cymru o ddatblygu polisïau ac arferion ôl-osod ar draws pob sector. Mae'r Rhaglen yn ceisio deall sut i gael y gwerth gorau drwy ystyried cyfuniad o adeiladwaith, gofod, cynhesu dŵr, ynni, a gwelliannau ar gyfer cartrefi unigol – ac yn nodi llwybr i gyrraedd sero-net ar gyfer pob cartref. Mae hyn yn defnyddio'r egwyddorion a amlinelli'r yn yr adroddiad 'Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell'
Sut i wneud cais
I wneud cais, rhaid ichi:
- Darllenwch ganllawiau’r Rhaglen ôl-osod er mwyn Optomeiddio, sy’n cynnwys manylion llawn am y cynllun
- Cyflwynwch eich Ffurflen Gais wedi’i llenwi ar gyfer y Rhaglen ôl-osod er mwyn Optomeiddio
- Cyflwynwch fanylion eich cynllun a’r daflen gostau ar gyfer y Rhaglen ôl-osod er mwyn Optomeiddio
- Darllenwch y Rhaglen ôl-osod er mwyn Optomeiddio: monitro amgylcheddol ac ynni, sy’n darparu manylion am ofynion monitro’r cynllun
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth, ebost OptimisedRetroFitProgramme@gov.wales.