Rhaid i dai y mae cymdeithasau tai a'r awdurdodau lleol yn eu perchen fod mewn cyflwr da fel rhan o'r safon ansawdd ar gyfer tai.
Rhaid i bob tŷ cymdeithasol gael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da. Y cymdeithasau tai a'r awdurdodau lleol â thai rhent cymdeithasol sy'n gyfrifol am sicrhau bod tai yn cyrraedd ac yn cadw’r safon ansawdd tai.
Mae’r safon wedi’i diweddaru i adlewyrchu newidiadau o ran y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo am eu cartrefi. Bydd Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) 2023 yn parhau i wella safon cartrefi pobl, gan osod targedau newydd i fynd i’r afael â datgarboneiddio ac effeithlonrwydd dŵr.
Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) 2023 a ddiweddarwyd, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2024 yn cynnwys y newidiadau sylweddol canlynol i’r safon a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023:
- Atodiad 2 – Canllawiau llawn ar Gydbwyso Allyriadau Carbon ar draws Portffolio Tai (Tudalennau 56 i 59)
- Atodiad 3 – Canllawiau llawn ar Asesiad o’r Stoc Gyfan a Llwybrau Ynni Targed (Tudalennau 60 i 67)
Mae fersiwn hawdd ei darllen hefyd ar gael i gyd-fynd â safon ddiwygiedig SATC 2023.
Fel bod landlordiaid Cymdeithasol yn bodloni’r safon mae’n rhaid i gartrefi:
- fod mewn cyflwr da
- bod yn saff ac yn ddiogel
- cael eu gwresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd a bod wedi'u hinswleiddio'n dda
- cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
- bod wedi’u rheoli’n dda (o ran tai wedi’u rhentu)
- bod wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
- bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y rheini sy'n byw ynddynt, os yw hynny'n bosibl, er enghraifft pobl ag anableddau
Noder – Mae Gweinidogion Cymru yn cynnig pennu rheol(au) benodol mewn perthynas ag ymateb landlordiaid cymdeithasol i leithder, llwydni a pheryglon eraill. Caiff unrhyw reol(au) o’r fath gael ei chyhoeddi fel atodiad i WHQS 2023 pan fydd unrhyw ymgynghori sydd ei angen wedi cael ei gwblhau a phan fydd y fersiwn derfynol o’r rheol wedi cael ei llunio. Pan fydd y rheol(au) wedi cael ei phennu, bydd angen bodloni’r rheol er mwyn cydymffurfio â WHQS 2023.
Rydym yn gweinyddu dwy gronfa ariannol i helpu cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol gyda’u stoc o dai cymdeithasol:
- lwfans atgyweiriadau mawr
- cyllid llenwi bwlch gwaddol
Lwfans atgyweiriadau mawr
Rydym yn rhoi cyllid i 11 o awdurdodau lleol sy'n parhau i reoli a chynnal tai cymdeithasol.
Cyllid rhwng 2024 a 2025
- Caerffili £7,300,000
- Caerdydd £9,570,000
- Sir Gaerfyrddin £6,200,000
- Sir Ddinbych £2,370,000
- Sir y Fflint £4,980,000
- Ynys Môn £2,690,000
- Sir Benfro £4,000,000
- Powys £3,720,000
- Abertawe £9,280,000
- Bro Morgannwg £2,770,000
- Wrecsam £7,520,000
Cyllid llenwi bwlch gwaddol
Rydym yn rhoi cyllid i 10 o gymdeithasau tai i'w helpu i wella eu tai cymdeithasol. Cafodd y cymdeithasau tai hyn eu sefydlu pan drosglwyddodd awdurdodau lleol eu cyfrifoldeb am dai cymdeithasol draw i’r sefydliadau hyn.
Cyllid rhwng 2024 a 2025
- Trivallis (Cartrefi RCT cyn hynny) £7,300,000
- Cartrefi Dinas Casnewydd £6,500,000
- Tai Tarian (Cartrefi NPT cyn hynny) £6,200,000
- Tai Cymunedol Bron Afon £5,800,000
- Tai Calon £4,200,000
- Adra (Cartrefi Cymunedol Gwynedd cyn hynny) £4,100,000
- Cartrefi Cymoedd Merthyr £2,900,000
- Cartrefi Conwy £2,600,000
- Cymdeithas Tai Sir Fynwy £2,600,000
- Barcud £1,600,000