Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd meddygfeydd teulu ledled Cymru yn cael pecynnau o fygydau wyneb, menyg a ffedogau i'w hamddiffyn wrth iddynt drin pobl yr amheuir bod ganddynt Coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pecynnau wedi’u paratoi dros y penwythnos, a byddant yn cael eu dosbarthu i'r 640 o feddygfeydd teulu yng Nghymru yr wythnos hon.

Awdurdododd y Gweinidog Gyfarpar Diogelu Personol hefyd i gael eu rhyddhau o gyflenwadau i'w defnyddio gan staff rheng flaen y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol os bydd angen.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

Mae'r pecynnau hyn yn rhan o fesurau rheoli heintiau cadarn sydd ar waith gennym, ac rwyf am sicrhau pobl ein bod yn gweithio'n agos gyda GIG Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol ledled y wlad i roi ein hymateb arfaethedig ar waith.

Mae'n bwysig bod gan staff gofal meddygol a chymdeithasol rheng flaen y cyfarpar sydd eu hangen arnynt i'w cadw'n ddiogel tra byddant yn helpu pobl yr amheuir bod ganddynt Coronafeirws.

Mae'r mygydau wyneb, y menyg a’r ffedogau yn rhan o gyflenwad sydd gennym yn ein cynlluniau wrth gefn os bydd eu hangen i gefnogi ein GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol.