Adroddiad yn asesu dyluniad a darpariaeth y Gronfa Iach ac Egnïol. Mae'n cwmpasu'r cyfnod o sefydlu'r Gronfa hyd at chwarter cyntaf gweithredu’r prosiectau.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o’r Gronfa Iach ac Egnïol
Ffocws y gwerthusiad proses hwn oedd asesu dyluniad a darpariaeth y Gronfa a nodi gwersi ar gyfer sut y gellid ei gwella.
Yn benodol, mae'r adroddiad yn trafod sut roedd dyluniad y Gronfa yn ei alluogi i nodi (a llunio) prosiectau addas. Mae'n ystyried marchnata a chyfathrebu'r Gronfa, y broses ymgeisio, a'r canllawiau a'r cymorth a ddarparwyd i ymgeiswyr.
Mae'r adroddiad hefyd yn archwilio'r dull cydweithredol o gynllunio a darparu'r Gronfa gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Adroddiadau
Y Gronfa Iach ac Egnïol: gwerthusiad proses , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Eleri Jones
Rhif ffôn: 0300 025 0536
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.