Y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg
Datblygwyd y Trosolwg a’r Llawlyfr mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid a phobl ifanc, gan ddefnyddio data a chanfyddiadau ymchwil, ac yn unol â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y Gweinidog
Mae cryfhau’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (‘y Fframwaith’) yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn flaenoriaeth drawslywodraethol. Drwy ddefnyddio’r Fframwaith hwn i ymyrryd yn gynnar, gallwn roi cymorth i bobl ifanc sydd mewn perygl o fyw mewn tlodi gydol eu hoes. Mae’r Fframwaith yn darparu glasbrint ar gydweithio i gydlynu adnoddau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
Rydym yn credu mewn Cymru sy’n genedl ail gyfle, ac mewn gweithredu ar y cyd i atal digartrefedd a thlodi. Bydd y Fframwaith hwn yn helpu i wireddu hyn. Yng Nghymru rydym am i’n plant gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu a chyflawni eu potensial.
Mae’r Fframwaith hwn yn cyfrannu at ein nod o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, drwy ein helpu i ailennyn diddordeb pobl ifanc a chodi eu dyheadau, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae’n seiliedig ar adnabod y bobl ifanc 11 i 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn hynny, i ddeall eu hanghenion, rhoi cymorth a/neu ddarpariaeth briodol ar waith a monitro eu cynnydd.
Mae’r Fframwaith hwn yn gweithredu ochr yn ochr â’n Gwarant i Bobl Ifanc. Nod y Warant i Bobl Ifanc, ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed, yw rhoi cyfleoedd eraill i bobl ifanc NEET symud i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (EET). Gyda’i gilydd, gall y Fframwaith a’r Warant i Bobl Ifanc helpu i ddiogelu cenhedlaeth rhag effeithiau’r dysgu a gollwyd a’r oedi wrth ymuno â’r farchnad lafur yn sgil pandemig COVID-19.
Yn achos pobl ifanc 16 i 18 oed mae'r Fframwaith a'r Warant i Bobl Ifanc yn gorgyffwrdd. Mae hyn yn darparu rhwyd ddiogelwch i bobl ifanc yn ystod cyfnod pontio allweddol yn eu bywydau. Un o'r negeseuon allweddol a ddaeth o'r ymgynghoriad â phobl ifanc oedd yr angen am fwy o gymorth i drafod pwyntiau pontio allweddol. Bydd y Fframwaith a’r Warant i Bobl Ifanc yn cyfrannu ar y cyd at ein cerrig milltir cenedlaethol, yn benodol y garreg filltir y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
Mae'r Fframwaith hwn hefyd yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd hyn yn sicrhau y gellir atal digartrefedd yn llawer cynharach a bod pobl ifanc yn cael eu hadnabod a'u cefnogi cyn iddi droi’n argyfwng.
Mae’r Fframwaith, a gyflwynwyd gyntaf yn 2013, wedi arwain at newidiadau gwirioneddol, cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET. Yn gyffredinol, ers i ni gyflwyno’r Fframwaith, mae ffigurau NEET wedi aros yn weddol sefydlog, er gwaethaf effaith y pandemig ar iechyd meddwl pobl ifanc.
Mae cydnabod y cysylltiad rhwng cyfraddau NEET, digartrefedd ac iechyd meddwl gwael yn sail i gyflawni'r Fframwaith. Mae’r Fframwaith yn galluogi partneriaid i gefnogi iechyd meddwl ein pobl ifanc, trwy harneisio gwasanaethau ac adnoddau lles emosiynol a meddyliol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl ifanc.
Rydym yn cydnabod ein bod yn cyhoeddi ‘Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg’ (‘y Trosolwg’) a’r Llawlyfr (‘y Llawlyfr’) mewn cyfnod arbennig o anodd. Mae'r pandemig, yr argyfwng costau byw a gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi creu heriau anhygoel. Mae colli cyllid o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), a chyflwyniad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF y DU), yn golygu bod llai o arian a mwy o gymhlethdod gyda’r cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc i symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r cyllid sydd ar gael drwy SPF y DU yn cynrychioli toriad i bob pwrpas i gyllideb gyffredinol Cymru o dros £1.1 biliwn dros 3 blynedd.
Yn erbyn y cefndir heriol iawn hwn rydym yn ceisio cryfhau’r Fframwaith i sicrhau’r canlynol:
- bod mwy o bobl ifanc yn symud ymlaen i gyrchfan sy'n iawn iddynt pan fyddant yn gadael yr ysgol, boed hynny'n EET
- bod pobl ifanc yn cael eu hatal rhag dod yn ddigartref
- bod pobl ifanc yn profi iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol, o ganlyniad i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy'n ystyrlon iddynt, a lle maent yn teimlo eu bod ar y llwybr cywir
Drwy gyhoeddi’r Trosolwg a’r Llawlyfr, rydym yn nodi’r cyfeiriad o welliant sydd ei angen os ydym am gyflawni’r canlyniadau hyn.
Wrth i ni fwrw ymlaen â’r camau gweithredu yn y Trosolwg a’r Llawlyfr, byddwn yn parhau i ddibynnu ar brofiad ac arbenigedd ein rhanddeiliaid i’n hysbysu am faterion ac i weithio gyda ni i ddod o hyd i ateb. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y llywodraeth ac ar draws sefydliadau i gefnogi pobl ifanc i newid eu bywydau er gwell.
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS
Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle AS
Cyflwyniad
Mae’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (‘y Fframwaith’) yn fecanwaith systematig i adnabod ac ymateb i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, sydd yn NEET a/neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. O dan y Fframwaith, mae prosesau ar waith i adnabod pobl ifanc y mae angen cymorth wedi’i deilwra arnynt sy’n diwallu eu hanghenion, ac i fonitro eu cynnydd. Fe arweinir hyn gan awdurdodau lleol, sy’n gweithio gyda’u partneriaid darparu. Mae'r Fframwaith yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial ac yn atal tlodi a digartrefedd.
Datblygwyd y Fframwaith gwreiddiol gyda'r nod o leihau cyfraddau NEET. Yn y fersiwn ddiweddaraf hon, mae ffocws cryf yn parhau i fod ar atal pobl ifanc rhag dod yn NEET a chefnogi pobl ifanc NEET i gyrraedd cyrchfan gadarnhaol, gan wella eu cyfleoedd bywyd. Mae'r Fframwaith diweddaraf hefyd wedi'i ehangu i gynnwys camau atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae hyn i gydnabod y ffaith y gall yr ‘arwyddion rhybudd’ o unigolyn ifanc yn dod yn NEET orgyffwrdd â dangosyddion y gallai unigolyn ifanc fod mewn perygl o deulu’n chwalu ac o ddigartrefedd (cyfeirir at y math hwn o ddigartrefedd fel digartrefedd ymhlith pobl ifanc).
Mae'r Fframwaith hwn a'r Warant i Bobl Ifanc ar y cyd yn darparu llwybr clir i gefnogi pobl ifanc trwy gydol eu taith addysg a thu hwnt, nes iddynt symud i gyflogaeth neu hunangyflogaeth. Mae'r fersiwn ddiweddaraf hon o'r Fframwaith yn canolbwyntio ar bobl ifanc 11 i 18 oed. Mae’r Fframwaith felly’n gysylltiedig â’r Warant i Bobl Ifanc sy’n cynnig gwell cyfleoedd i bobl ifanc 16 i 24 oed sy’n NEET, i symud i EET, drwy Gymru’n Gweithio.
Cefndir
Mae gan y Fframwaith 6 chydran graidd:
- Adnabod unigolion yn gynnar
- Yn ystod y camau cynnar, adnabod pobl ifanc 11 i 18 oed:
- sydd mewn perygl o ddod yn NEET
- sydd yn NEET
- sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref
- Broceru
- Hwyluso’r cam o gael cymorth priodol i bobl ifanc, gan sicrhau bod gwasanaethau’n cydweithio ac ar gael yn rhwydd i bobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth a/neu sawl angen.
- Sicrhau bod parhad o ran cymorth a chyswllt i bobl ifanc sydd yn y perygl mwyaf.
- Monitro cynnydd
- Monitro pa gefnogaeth a/neu ddarpariaeth a roddir i bobl ifanc agored i niwed.
- Monitro a gwerthuso effaith y gefnogaeth a/neu'r ddarpariaeth hon ar bobl ifanc, fel y gellir gwneud addasiadau, yn ôl yr angen.
- Yn achos pobl ifanc 16 i 18 oed, adnabod y bobl ifanc nad yw eu cyrchfan ar ôl gadael yr ysgol yn hysbys ac yna:
- sefydlu beth maent yn ei wneud (EET neu os ydynt yn NEET)
- sicrhau bod unrhyw un o'r bobl ifanc hyn nad ydynt yn gwneud cynnydd yn cael cefnogaeth o dan y Fframwaith
- Darpariaeth
- Sicrhau bod darpariaeth addas ar gael i bobl ifanc, gan gynnwys:
- darpariaeth prif ffrwd, er enghraifft ysgol, addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith
- rhaglenni cyn-ymgysylltu i sicrhau bod pobl ifanc yn llawn cymhelliant ac yn gallu cymryd rhan mewn dysgu
- ymyriadau i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc
- cymorth penodol i hybu iechyd meddwl, llest a hunan-barch unigolyn ifanc
- cyfuniad o wahanol fathau o ddarpariaeth, fel y bo'n briodol
- Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth
- Sicrhau bod y ddarpariaeth cyflogadwyedd ieuenctid gywir yn ei lle, sy'n galluogi pobl ifanc i symud i gyflogaeth fedrus, gyda chydbwysedd o brofiad gwaith, sgiliau, a llwybrau i gyflogaeth neu hunangyflogaeth.
- Rhoi pobl ifanc ar lwybr sy'n rhoi'r cyfleoedd bywyd gorau posibl iddynt.
- Atebolrwydd
- Partneriaid yn rhannu cyfrifoldeb ac atebolrwydd am gyflawni'r Fframwaith. Awdurdodau lleol sy’n darparu’r arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar gyfer gweithredu’r Fframwaith, tra bod gan bartneriaethau lleol rôl hollbwysig i’w chwarae wrth gefnogi’r broses o’i gyflawni.
- Proses o adolygu a myfyrio gan yr holl bartneriaid cyflawni i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ba mor dda mae'r Fframwaith yn gweithio yn eu hardal leol, a nodi lle gellir gwneud gwelliannau. Mae hyn yn golygu peidio ag edrych ar dargedau perfformiad fel diben ynddynt eu hunain, ond defnyddio'r data sydd ar gael i ysgogi diwylliant o welliant parhaus ymhlith yr holl bartneriaid.
Bydd y modd y cymhwysir pob cydran o'r Fframwaith yn dibynnu ar gam ac oedran yr unigolyn, a'r materion penodol sy’n eu hwynebu.
Mae’r strwythurau sy’n cefnogi’r broses o gyflawni’r Fframwaith eisoes ar waith, ac mae 3 rôl allweddol sy’n helpu i fod yn sail i’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith:
- Mae'r cydlynydd ymgysylltiad a chynnydd (EPC) yn parhau i chwarae rhan hanfodol a strategol wrth oruchwylio'r Fframwaith ar lefel awdurdod lleol. Dylai fod gan bob awdurdod lleol swyddogaeth EPC effeithiol ar waith gyda digon o ddylanwad ar lefel uwch, yn eu hawdurdod lleol a'r sefydliadau partner maent yn gweithio gyda nhw, i gyflawni'r Fframwaith. Bydd yr EPC yn parhau i gydgysylltu partneriaeth leol a fydd yn ei gynorthwyo i ystyried darlun cyffredinol y ddarpariaeth a sut y gallant gydweithio'n llwyddiannus i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn eu hardal.
- Bydd y gweithiwr arweiniol yn parhau i gysylltu â'r bobl ifanc sydd yn y perygl mwyaf ac yn eu cefnogi i aros mewn EET, neu fynd i mewn i EET. Mae gweithwyr arweiniol yn canolbwyntio ar bobl ifanc sydd angen cymorth parhaus a chynnig o ddarpariaeth briodol sy'n bodloni eu hanghenion. Gellir tynnu gweithwyr arweiniol o wasanaethau amrywiol, gan ddibynnu ar ba wasanaeth sydd fwyaf priodol ar gyfer yr unigolyn ifanc. Gan fod pobl ifanc wedi teimlo effaith pandemig COVID-19 ym mhob rhan o’u bywydau, mae’n debygol y bydd galw cynyddol am gymorth mwy dwys gan weithwyr arweiniol. Er mwyn darparu'r cymorth hwnnw, bydd adolygiad gweithiwr arweiniol yn cael ei gomisiynu, er mwyn gwella capasiti a gallu o fewn y system.
- Bydd y cydgysylltydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a ariennir ym mhob awdurdod lleol gan Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref yn cael eu hadnabod yn gynharach, a bod camau ataliol yn cael eu rhoi ar waith i’w cefnogi. Mae'r rôl hon yn cefnogi dull gwasanaethau cyhoeddus o atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid, sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith. Mae cyllid y Grant wedi’i gadarnhau rhwng 2022 hyd at 2023 a 2024 hyd at 2025 ac mae’n cynnwys, y flwyddyn:
- £3.8 miliwn ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, gan gynnwys isafswm o £1.1 miliwn i'w wario ar weithgareddau sy'n ymwneud â'r Fframwaith
- £3.7 miliwn ar gyfer atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys cyllid ar gyfer cydgysylltydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc ym mhob awdurdod lleol
- £2.5 miliwn i gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol trwy weithgareddau gwaith ieuenctid
Mae rhaglenni ESF wedi bod yn ffynhonnell allweddol o gyllid ar gyfer prosiectau sydd wedi’u hanelu at ddarparu hyfforddiant a chymorth i rai o’r bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio fwyaf, a’u hatal rhag dod yn NEET. Mewn nifer o awdurdodau lleol, mae prosiectau a ariennir gan ESF wedi arwain y ffordd o ran gwaith gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET. Ar adeg cyhoeddi (Medi 2022), er bod rhai prosiectau ESF eisoes yn cael eu diddymu’n raddol, bydd rhai yn parhau tan ddiwedd cylch rhaglenni’r UE yn 2023, ond ni fyddant yn cael eu hadnewyddu o dan yr un telerau oherwydd absenoldeb cyllid yr UE yn y dyfodol. Mae arian a ddynodwyd i ddisodli cronfeydd strwythurol yr UE, SPF y DU, yn cynrychioli colled i gyllideb gyffredinol Cymru o dros £1.1 biliwn dros 3 blynedd.
Beth rydym wedi’i wneud ers 2021
Gan weithio tuag at rannu gweledigaeth i wella deilliannau i bobl ifanc o dan y Fframwaith, rydym wedi:
- gwneud ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i gryfhau'r Fframwaith
- sefydlu Tasglu Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid Llywodraeth Cymru, i ddod â swyddogion polisi ynghyd i gydweithio ar yr agenda drawsbynciol hon
- ymgynghori â rhanddeiliaid a phobl ifanc ar y Fframwaith presennol, i nodi beth sy'n gweithio'n dda a meysydd i'w gwella, fel yr amlinellwyd yn ‘Diwygio’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: adroddiad ar yr ymgynghoriad rhanddeiliaid ac ieuenctid’ (2021) ('yr ymgynghoriad ar y Fframwaith')
- ymestyn y Fframwaith i gynnwys atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc
- cydnabod bod gorgyffwrdd a chyd-ddibyniaeth iechyd meddwl a lles emosiynol gwael gyda'r risg o ddod yn NEET, neu o fod yn NEET, a'r risg o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc
- ail-ganolbwyntio’r Fframwaith ar bobl ifanc 11 i 18 oed, i gydnabod ei fod wedi bod ar ei fwyaf effeithiol wrth gefnogi pobl ifanc yn y grŵp oedran hwn
- cyflwyno’r Gwarant i Bobl Ifanc, i roi cymorth i bobl ifanc yng Nghymru, sy’n 16 i 24 oed ac yn NEET, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu i gael gwaith neu hunangyflogaeth
- cyflwyno ‘Llesiant cenedlaethau’r dyfodol: Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol ar gyfer Cymru 2021’, sy’n cynnwys y garreg filltir y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
- cyhoeddi ein cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau ‘Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau: crynodeb,’ sy’n nodi ein dull gyda heriau allweddol, gan gynnwys hyrwyddo cyfranogiad, cynnydd a chyflogaeth ieuenctid
- cyflwyno Twf Swyddi Cymru + (JGW+) i bobl ifanc 16 i 18 oed, i'w symud ymlaen i gyflogaeth neu ddysgu pellach a chynyddu eu hyder a'u cymhelliant, trwy becyn pwrpasol o hyfforddiant a chymorth datblygu
- hwyluso cysylltiadau rhwng cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a chontractwyr JGW+
Yn olaf, ac yn gysylltiedig â’r Trosolwg hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi ‘Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr’, i ddarparu canllawiau ar fynd i’r afael â rhai o’r heriau ymarferol sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Fframwaith.
Gweithgaredd wedi’i gynllunio
I gryfhau’r Fframwaith ymhellach, byddwn yn:
- gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau cynhwysfawr, cyfoes ar adnabod unigolion yn gynnar er mwyn caniatáu ar gyfer mwy o safoni mewn dulliau gweithredu ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys adnabod y rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd, er mwyn sicrhau bod ymatebion i’r materion hyn yn amserol, yn effeithiol ac yn gydgysylltiedig
- comisiynu adolygiad gweithiwr arweiniol i ddeall capasiti a’r gallu yn y system yn well a gwella’r elfennau hyn, yn ogystal ag ystyried cyfleoedd i rannu arfer da a rhwydweithio gan weithwyr arweiniol ar draws awdurdodau lleol a sefydliadau
- monitro lefelau NEET er mwyn pennu cynnydd yn erbyn y garreg filltir genedlaethol, sef bod o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050, ac yn erbyn y Fframwaith a’r Warant i Bobl Ifanc
- gweithio gyda chydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a chydgysylltwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc i fwydo i mewn i adroddiad blynyddol ‘Cyflwr y Genedl’ Pobl Ifanc ar gyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant a’r farchnad lafur, i ddangos cyfraniad y Fframwaith
- parhau i ymgysylltu â chydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a chydgysylltwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc ar ddarpariaeth bellach gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei chyflwyno, a hwyluso'r gwaith o feithrin cysylltiadau rhwng cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a chydgysylltwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc ledled Cymru
- parhau i fonitro effaith diwedd Cyllid Cymdeithasol Ewrop
- cyflwyno cynllun Sgiliau Sero Net yn 2022
Cerrig milltir cenedlaethol
Un o’r prif negeseuon a ddeilliodd o’r ymgynghoriad ar y Fframwaith oedd er bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu ymhlith partneriaid ar gyfer darparu’r Fframwaith, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod atebolrwydd yn cael ei rannu. Bydd ‘Llesiant cenedlaethau’r dyfodol: Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol ar gyfer Cymru 2021’ yn helpu i feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ac atebolrwydd sy’n cael eu rhannu. Bydd y cerrig milltir cenedlaethol, a gyflwynwyd yn dilyn ymgynghoriad Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl, yn ein helpu i asesu cynnydd tuag at y 7 nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’).
Mae’r gwerth ar gyfer y dangosydd a’r garreg filltir a ganlyn yn arbennig o berthnasol i’r Fframwaith:
- Dangosydd Rhif 22: canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
- Carreg filltir: bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050
Mae’r Fframwaith hefyd yn cyfrannu at y dangosyddion a’r cerrig milltir cenedlaethol canlynol:
- Dangosydd Rhif 8: canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
- Carreg filltir: bydd gan 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau ar lefel 3 neu uwch erbyn 2050
- Carreg filltir: bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050
- Dangosydd Rhif 21: canran y bobl sydd mewn cyflogaeth
- Carreg filltir: dileu'r bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd y DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu nifer y bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n cyfranogi yn y farchnad lafur
Cyd-fynd â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru
Mae Cynllun plant a phobl ifanc (‘y Cynllun’) trosfwaol Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r 7 blaenoriaeth drawslywodraethol a fydd yn helpu i gyflawni ein huchelgais i wneud Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, i fyw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol. Mae'r Cynllun hefyd yn nodi cyflawniadau a chynlluniau i fwrw ymlaen â'r blaenoriaethau hyn, gan gynnwys helpu pobl ifanc drwy'r Fframwaith.
Mae'r Fframwaith ei hun yn gysylltiedig â nifer o flaenoriaethau pwysig y llywodraeth ac wedi'i adeiladu arnynt; mae'r adran isod yn amlinellu sut mae'r blaenoriaethau hyn yn cydberthyn i'w gilydd ac â'r Fframwaith.
Cynllun Plant a Phobl Ifanc
Mae ‘Strategaeth ar ddigartrefedd’ (‘y Strategaeth’) Llywodraeth Cymru, yn nodi’n glir na ellir atal digartrefedd drwy dai yn unig a bod gan bob gwasanaeth cyhoeddus a’r trydydd sector ran i’w chwarae wrth gydweithio i atal digartrefedd. Lle na ellir ei atal, mae'r Strategaeth yn ceisio sicrhau ei fod yn brin, am gyfnod byr ac nad yw’n digwydd eto. Rhaid i weithio mewn partneriaeth felly fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fwy na mater tai yn unig, ac mae gan hyfforddiant, codi ymwybyddiaeth ac addysg ran allweddol i'w chwarae i’w atal.
Os ydym am ddod â digartrefedd ymhlith pobl ifanc i ben, mae angen inni fynd i’r afael â’i achosion sylfaenol, drwy adnabod y rhai sydd mewn perygl yn gynharach a rhoi mesurau ar waith i leihau’r ffactorau risg hynny. Amlygodd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ‘Atal digartrefedd pobl ifanc’ (2018), dystiolaeth gref i gefnogi ymyriadau mewn ysgolion. Awgrymodd ddull cydweithredol rhwng ysgolion a gwasanaethau ieuenctid, gan ddefnyddio offeryn i adnabod y rhai sydd mewn perygl a fframwaith arfer hyblyg ac ymatebol. Gan fod llawer o’r egwyddorion y tu ôl i fodel o’r fath eisoes yn bodoli yng Nghymru fel rhan o’r Fframwaith, arweiniodd hyn at Lywodraeth Cymru yn gweithio ar gryfhau’r offer a’r modelau gwasanaeth presennol hyn i gynnwys dangosyddion ychwanegol er mwyn darparu ffocws cryfach ar atal digartrefedd. Gan fod prosesau’r Fframwaith i adnabod unigolion yn gynnar yn rhai parhaus, yn hytrach nag yn ‘gipolwg’ blynyddol o’r hyn sy’n digwydd ym mywydau pobl ifanc, mae hyn yn galluogi gwasanaethau i ymyrryd cyn gynted â phosibl, cyn iddi droi’n argyfwng.
Ers 2019 hyd at 2020, rydym wedi darparu cyllid o £3.7 miliwn y flwyddyn i awdurdodau lleol, drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal digartrefedd. Mae hyn wedi gosod y sylfaen ar gyfer cynnwys digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn y Fframwaith. Roedd adborth o'r ymgynghoriad ar y Fframwaith yn cefnogi'r dull hwn. Mae'r Fframwaith felly i'w ddefnyddio i adnabod pobl ifanc a allai fod mewn perygl o ddod yn ddigartref er mwyn mynd ati i weithio gyda nhw’n gynharach. Mae hyn yn ategu’r camau gweithredu ehangach sy’n cael eu cymryd ar draws y llywodraeth a phartneriaid tuag at ein nod hirdymor o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru fel y nodir yn ‘Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: Cynllun gweithredu lefel uchel 2021-2026.’
Cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol
Mae gan iechyd meddwl a lles rôl arwyddocaol i’w chwarae yng ngallu unigolyn ifanc i gymryd rhan a datblygu i fod yn EET. Mae ymchwil a wnaed gan SKOPE ac Ysgol Llywodraeth Blavatnik, Prifysgol Rhydychen, ‘What accounts for changes in the chances of being NEET in the UK?’ yn dangos y cysylltiadau rhwng iechyd meddwl gwael a chyfraddau NEET. Ategwyd hyn gan adborth gan randdeiliaid yn yr ymgynghoriad ar y Fframwaith. Mae angen ffocws ar iechyd meddwl a lles yn fwy nag erioed, oherwydd effaith y pandemig, a’r cyfyngiadau a oedd yn deillio ohono, sydd wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc (fel y cyfeirir ato yn nogfen Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Llesiant meddyliol plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig COVID-19’ (2021)).
Yn aml gall cefnogi pobl ifanc i symud i EET, neu eu hatal rhag dod yn ddigartref, fynd law yn llaw â chefnogaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl emosiynol. Gallai hyn fod trwy raglenni penodol sy’n canolbwyntio ar les, helpu pobl ifanc i gael mynediad at gefnogaeth ymarferol fel y gallant oresgyn rhwystrau yn eu bywydau, neu roi darpariaeth ddysgu iddynt sy’n diwallu eu hanghenion ac yn rhoi hwb i’w hunanhyder. Yn y modd hwn, dylai cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles helpu i fod yn sail i’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith.
Gwarant i Bobl Ifanc
Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad uchelgeisiol yn y Rhaglen Lywodraethu, sydd wrth wraidd ymdrechion i hwyluso’r cyfnodau pontio anodd yn y farchnad lafur sy’n wynebu ein pobl ifanc. Mae’n darparu strwythur ymbarél sydd uwchlaw’r holl ddarpariaeth addysg a hyfforddiant i bobl ifanc 16 i 24 oed, a’i nod yw creu taith syml i bobl ifanc beth bynnag fo’u hamgylchiadau a’u cefndir.
Mae Cymru’n Gweithio yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad rhwydd at y Warant i Bobl Ifanc trwy ei wefan. Fel y gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd annibynnol, mae mewn sefyllfa ddelfrydol i angori’r Warant i Bobl Ifanc i amrywiaeth o wahanol raglenni a chymunedau ledled Cymru. Mae Cymru'n Gweithio hefyd yn rheoli’r Warant i Bobl Ifanc ac yn adrodd arno.
Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn dwyn ynghyd y sector cyhoeddus, y trydydd sector, y sector preifat, y sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gydweithio i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru, drwy ddarparu’r cynnig gorau posibl.
Mae’r Fframwaith yn rhan allweddol o gysoni’r Warant i Bobl Ifanc â rhai rhaglenni allanol, gan gynnwys rhaglenni a ariennir gan yr ESF, rhaglenni awdurdodau lleol, y Gronfa Adfywio Cymunedol, a rhaglenni DWP, i wneud defnydd llawn o fuddsoddiadau rhanddeiliaid, osgoi cystadleuaeth ac osgoi bod ymdrechion yn cael eu dyblygu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Randdeiliaid y Warant i Bobl Ifanc, sy'n cynnwys cynrychiolydd ar gyfer cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a chydgysylltwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd y grŵp felly'n cydgysylltu ac yn manteisio ar farn y cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd a'u partneriaid lleol i sicrhau bod datblygiadau'n cael eu cyflawni'n effeithiol yn lleol. Yn ogystal, mae gwaith ar y gweill, o 2022, i gynnal sgwrs genedlaethol barhaus gyda phobl ifanc 16 i 24 oed, o bob rhanbarth a chefndir yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar ein grwpiau mwyaf agored i niwed.
Mae gwerthusiad cadarn yn sail i'r Warant i Bobl Ifanc, gyda llais pobl ifanc yn ganolog i'r gweithgaredd hwn. Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn creu darlun o’r dyheadau addysg a chyflogaeth, anghenion cymorth a rhwystrau i lwyddiant i bobl ifanc ledled Cymru drwy grwpiau ffocws, a dulliau arolwg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn darparu gwybodaeth gynnar am beth mae pobl ifanc ei eisiau a'i angen gan y Warant i Bobl Ifanc. Rydym hefyd mewn cysylltiad â Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i gasglu gwybodaeth am anghenion lleol a’r ystod o gymorth sydd ar gael i bobl ifanc mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Bydd fframwaith gwerthuso cynhwysfawr yn cael ei ddatblygu yn 2022 a fydd yn debygol o gynnwys ystyriaethau o ran proses, effaith a lle bo modd, gwerth am arian mewn perthynas â’r rhaglen.
Gwaith ieuenctid
Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rhan allweddol wrth nodi a chefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET neu’n ddigartref, gan weithredu'n aml fel gweithwyr arweiniol neu weithio'n agos gyda gweithwyr arweiniol i gefnogi pobl ifanc.
Nododd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith fod angen i’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol, ynghyd â gwasanaethau cyngor ac arweiniad eraill, gael eu hymgorffori’n well yn y Fframwaith. Gallai’r cam o gyflawni’r Fframwaith wir elwa ar y cysylltiadau sy’n bodoli rhwng y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol a’r cymunedau maent yn eu cefnogi, ac adeiladu ar ddealltwriaeth y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol o anghenion y cymunedau hynny, a sut yr effeithir ar y bobl ifanc maent yn eu cefnogi gan groestoriadedd.
Os byddwn yn datblygu ac yn gwella gwaith partneriaeth rhwng y sectorau gwirfoddol ac awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau gwaith ieuenctid a’r Fframwaith, dylai hyn gryfhau’r gwasanaethau sydd ar gael i bob unigolyn ifanc a diwallu eu hanghenion amrywiol yn fwy effeithiol.
Mae ‘Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru’, y ddogfen weithredu sy’n sail iddi, ‘adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro’ sy’n cyflwyno argymhellion am ddatblygu model darparu cynaliadwy i wasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru, yn ogystal ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion hynny, yn dangos y cyfeiriad ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae bwrw ymlaen â chynigion y Bwrdd yn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu a bydd y ddogfen weithredu’n cael ei diweddaru i adlewyrchu’r gwaith hwn. Byddwn yn ystyried datblygiadau ar yr agenda hon wrth i ni barhau i gymryd camau i gryfhau'r Fframwaith.
Mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol
Cenhadaeth ein cenedl yw mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan helpu i gyflawni safonau uchel a dyheadau i bawb. I'r perwyl hwnnw, dylid edrych ar bolisïau addysg o’r safbwynt a ydynt yn mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
Mae cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu i fwrw ymlaen â dull system gyfan wrth symud y maes polisi hwn yn ei flaen. Mae’r cynllun gweithredu yn pwysleisio pwysigrwydd codi dyheadau plant a phobl ifanc drwy ddarparu cymorth priodol ar eu cyfer mewn addysg cyn ac ôl-16.
Cenhadaeth ein cenedl yw mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan helpu i gyflawni safonau uchel a dyheadau i bawb. I'r perwyl hwnnw, dylid edrych ar bolisïau addysg o’r safbwynt a ydynt yn mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
Ysgolion Bro
Developing Community Focused Schools is a key aspect of the Programme for Government commitment to tackling the impact of poverty on educational attainment and ensuring high standards for all. The framework for Community Focused Schools supports the development of family engagement, wider community partnerships and greater multi-agency working. These elements support a whole-system approach by:
- maximising the positive impact that parents and carers can have on their children’s learning and development
- linking to services and groups within the community, including those in the third sector, in order to offer opportunities and respond to wider community-based needs
- supporting the development of multi-agency working to ensure that information is shared about the needs of children and young people so that appropriate support and interventions are available
The role of the Family Engagement Officer within Community Focused Schools will provide a lead point of contact for EPCs, Youth Homelessness Co-ordinators and local partnerships, helping to ensure young people have positive transitions into EET when they leave school.
Rhannu data
Nodwyd rhannu data fel her yn ystod yr ymgynghoriad ar y Fframwaith. Daeth Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 i rym yn 2018. (Er hwylustod cyfeirio, mae’r ddogfen hon yn cyfeirio at GDPR, ac yn trafod deddfwriaeth diogelu data’n gyffredinol.) Mae adnoddau ar ddiogelu data ar gael ar Hwb i ysgolion a cholegau. Yng Nghymru, mae rheolyddion data yn unrhyw sector yn gallu defnyddio ‘Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru’. Mae hyn yn golygu, os yw ysgol neu goleg yn rhannu gwybodaeth yn gyfreithlon â sefydliadau sy’n cymryd rhan, yna gall y rhannu hwn ddigwydd o dan fframwaith y cytunwyd arno, a gynlluniwyd i’w helpu i gydymffurfio â chyfraith diogelu data. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllaw ‘Pontio ôl-16 a rhannu data yn effeithiol: canllaw byr i ysgolion a darparwyr dysgu’ (2018) sy’n cynnwys crynodeb o ddeddfwriaeth ategol, a rhestr wirio o arferion da y gallai ysgolion a cholegau eu defnyddio i gryfhau prosesau rhannu gwybodaeth.
Serch hynny, mae'r anawsterau a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Fframwaith ynghylch rhannu data rhwng sefydliadau yn creu heriau o ran monitro cynnydd pobl ifanc sy'n cael cymorth o dan y Fframwaith. Credwyd bod hyn oherwydd rhwystrau i rannu data a hefyd dealltwriaeth wahanol o ofynion GDPR. Nid yw’r her hon yn unigryw i’r Fframwaith, er enghraifft, mae adroddiad Estyn ‘Partneriaethau ôl-16, Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau’ (2021) hefyd yn nodi pryder ynghylch gofynion GDPR. Mae gwaith yn cael ei wneud ar draws nifer o feysydd i wella’r broses o rannu data:
- Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol Caerdydd i gynnal astudiaeth i archwilio dichonoldeb cysylltu data a gedwir gan Gyrfa Cymru â setiau data gweinyddol eraill, er enghraifft, yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r canfyddiadau wedi’u nodi yn ‘Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Gyrfa Cymru’.
- Roedd y Prosiect Gwybodaeth Pontio, dan arweiniad Colegau Cymru, yn cefnogi proses pontio dysgwyr yn symud o'r ysgol i addysg bellach yn ystod pandemig COVID-19. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys tynnu sylw at fanteision gwahanol ddulliau a dreialwyd ledled Cymru ac ystyried sut y gellid gwella’r broses o rannu gwybodaeth rhwng ysgolion a cholegau, i gefnogi proses pontio dysgwyr yn y dyfodol. Nod y prosiect Ôl-16 a Phontio, fel rhan o'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio, yw cefnogi darparwyr yn hyn o beth trwy ei ffrwd waith Llwybrau a Phontio Dysgwyr. Mae’r agwedd hon ar y prosiect yn cynnwys gweithio gyda dysgwyr a rhanddeiliaid ehangach, i nodi a datblygu mesurau cymorth sy’n cyd-fynd ag un neu fwy o’r canlynol:
- caffael gwybodaeth dreiddgar am alluoedd, anghenion a phriodoleddau dysgwyr
- rhannu gwybodaeth am ddysgwyr a'u hanghenion ag ymarferwyr perthnasol mewn ffordd ddiogel ac amserol i gefnogi cynnydd dysgwyr
- cymorth datblygedig i ddysgwyr symud rhwng sectorau addysg a hyfforddiant ac i'r gweithle
Casgliad
Mae datblygu Trosolwg a Llawlyfr y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid wedi’i lywio gan drafodaethau manwl gyda rhanddeiliaid a phobl ifanc, data sydd ar gael a chanfyddiadau ymchwil, yn ogystal â datblygiadau polisi cysylltiedig. Wrth baratoi’r Trosolwg a’r Llawlyfr, ein nod yw diwallu’r anghenion a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Fframwaith, sef mwy o eglurder ynghylch sut mae’r Fframwaith yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu atynt, a chanllawiau ymarferol i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Fframwaith.