Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru lle gall unigolion o bob oedran gael addysg o safon uchel, gyda swyddi i bawb, lle gall busnesau ffynnu mewn economi sero net sy'n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd dros dymor y Senedd hon i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, neb yn cael ei ddal yn ôl, drwy ymrwymiad a rennir i newid bywydau pobl er gwell.

Mae'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn ceisio dangos blaenoriaethau polisi a buddsoddi clir, mae’n ceisio miniogi ein ffocws ar gyflawni ac ar weithgarwch partneriaid, ar gamau gweithredu dros dymor y Llywodraeth hon a fydd yn gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dyma’r meysydd ffocws:

  • Hyrwyddo cyfranogiad, datblygiad a chyflogaeth ieuenctid.
  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd.
  • Hyrwyddo Gwaith Teg i bawb.
  • Cefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio.
  • Codi lefelau sgiliau a chymwysterau, a symudedd y gweithlu.

Meysydd datblygu a gweithredu

Pobl ifanc yn gwireddu eu potensial

Buddsoddi yn y dull system gyfan o ddarparu’r Warant i Bobl Ifanc, a’i gryfhau, i’w gwneud yn hawdd i bawb dan 25 oed gael mynediad at gynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys y bobl ifanc a fydd yn elwa ar 125,000 o Brentisiaethau newydd a gyflwynir gan i roi llwybrau o safon uchel i bobl o bob oedran i swyddi gwell.

Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd

Blaenoriaethu sgiliau a chymorth cyflogaeth i'r rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur, cydgrynhoi rhaglenni cenedlaethol a manteisio'n llawn ar ddarpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau i wneud y defnydd gorau o adnoddau.

Hyrwyddo gwaith teg i bawb

Cefnogi cyflogwyr i greu cyflogaeth o safon uchel, gwella'r cynnig i weithwyr, hyrwyddo arferion cyflogaeth teg, sicrhau gwerth cymdeithasol buddsoddiad ac annog y sector cyhoeddus i ymgorffori'r blaenoriaethau wrth gynllunio'r gweithlu.

Cefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio

Atal pobl rhag disgyn allan o gyflogaeth drwy atal ym maes iechyd, ymyrraeth gynnar, gweithleoedd iach a manteisio'n llawn ar rôl y gwasanaeth iechyd fel cyflogwr angori.

Meithrin diwylliant dysgu i fyw

Ehangu cyfranogiad yn y system sgiliau ar gyfer pobl anabl a grwpiau ethnig lleiafrifol, mynd i'r afael â chymwysterau isel a gwella sgiliau a symudedd gweithwyr iau a hŷn.  

Datblygiadau allweddol

  • Hyrwyddo cydgyfrifoldeb ar gyfer hyrwyddo Gwaith Teg i Bawb, drwy'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), dull system gyfan o ymdrin â'r Warant i Bobl Ifanc, sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), cryfhau gwerth cymdeithasol Llywodraeth Cymru a buddsoddiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a datblygu dull seiliedig ar waith o ymdrin â datblygu economaidd.
  • Blaenoriaethu a chydgrynhoi cymorth cyflogadwyedd cenedlaethol a arweinir gan Lywodraeth Cymru targedu pobl ifanc, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur a'r rhai sydd i mewn ac allan o waith sydd â chyflyrau iechyd hirdymor i ddod o hyd i waith a chamu ymlaen mewn cyflogaeth.  
  • Ehangu'r gefnogaeth i'r rhai sy'n newid gyrfa a gweithwyr hŷn drwy Adolygiadau Canol Gyrfa a Chyfrifon Dysgu Personol i gefnogi gweithwyr i uwchsgilio neu ailsgilio i gael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd gwaith.
  • Mynd ar drywydd concordat cryfach gyda'r adran gwaith a phensiynau gwella ymgysylltiad cynnar a chydgynllunio yng Nghymru ar ddylunio a defnyddio ymyriadau er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth genedlaethol orau er budd pawb.
  • Hyrwyddo gwaith teg i wella'r cynnig i weithwyr yn enwedig mewn meysydd lle mae prinder staff, felly annog cyflogwyr i ddefnyddio cronfa dalent fwy amrywiol, drwy gynyddu amrywiaeth y gweithlu, gwella cyflogau ac amodau, ac amodau gwaith hyblyg.
  • Cryfhau rôl graidd byrddau iechyd lleol o ran atal ac ymyrraeth gynnar drwy bresgripsiynu cymdeithasol, a mwy o gymorth cyflogadwyedd a therapi galwedigaethol i bobl sydd i mewn ac allan o waith sydd â salwch meddwl a chyflyrau iechyd hirdymor.

Yr hyn rydym yn ei fesur yw'r hyn rydym yn ei werthfawrogi

Cyhoeddwyd ein cyfres gyntaf o Gerrig Milltir Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021, i nodi ein nodau tymor hwy i gyflymu cynnydd a sbarduno ymateb ar y cyd ar draws pob corff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dyma’r cerrig milltir a fydd yn sail i'n dull gweithredu:

  • bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i Lefel 3 neu uwch erbyn 2050
  • bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu'n llai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050
  • bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050
  • dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gyda ffocws ar waith teg a chodi cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur
  • dileu'r bwlch cyflog sy'n seiliedig ar rywedd, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050

Dyma’r dangosyddion cenedlaethol sy'n berthnasol i'r Cynllun hwn:

  • rhif 8: canran yr oedolion sydd â chymwysterau ar wahanol lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
  • rhif 16: canran y bobl mewn cyflogaeth sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro a ddim yn chwilio am gyflogaeth barhaol) ac sy'n ennill y Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf
  • rhif 17: gwahaniaeth cyflog ar gyfer rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd
  • rhif 21: canran y bobl mewn cyflogaeth
  • rhif 22: canran y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a fesurwyd ar gyfer grwpiau oedran gwahanol

Mae'r Atodiad Technegol yn nodi'r llwybr presennol, meysydd i gyflymu cynnydd a threfniadau monitro ac adrodd ar gyfer ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau.