Neidio i'r prif gynnwy

“Mae ein gweledigaeth yn glir, hoffwn i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ni yn llawn man lleiaf a defnyddio’r broses o greu gwarged er mwyn mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.”

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyna oedd geiriau’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters wrth iddo gyhoeddi canfyddiadau adolygiad manwl o ynni adnewyddadwy.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog addewid y bydd Llywodraeth Cymru’n blaenoriaethu camau gweithredu i leihau’r galw am ynni a sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o berchnogaeth leol yn cadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Roedd yr adolygiad manwl, a gyhoeddwyd ym mis Hydref eleni, yn cynnwys grŵp craidd bach o arbenigwyr o fewn y sector a'r tu allan iddo i ddarparu mewnbwn ac i herio.
Mewn cyfres o drydariadau, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r panel o arbenigwyr a weithiodd yn galed iawn gyda fi i nodi’r rhwystrau i gyflymu’r broses o ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy.

I gyflawni Sero Net bydd angen inni gynhyrchu pum gwaith yn fwy o ynni gwyrdd yn y 30 mlynedd nesaf.

Diben yr archwiliad oedd nodi pa rwystrau oedd yn bodoli, gosod cynlluniau i’w chwalu ac yn bwysicaf oll, datrys sut i sicrhau y bydd ein cymunedau a’n heconomi’n elwa ar hyn yn y pen draw.

Yn y cyfnod cyn COP26, gwnaethom gyhoeddi Cymru Sero Net sy’n nodi’r camau gweithredu sydd angen i ni eu cymryd yng Nghymru i gyflawni ein hail gyllideb garbon (2021-2025) a gosod y sylfaen ar gyfer lleihau allyriadau yn y tymor hir wrth i ni ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae Cymru Sero Net hefyd wedi ailddatgan ein hymrwymiad i drawsnewid yn sylweddol y ffordd rydym yn cynhyrchu ynni  gan symud i ffwrdd o danwyddau ffosil tuag at gynhyrchu ynni cynaliadwy.

Wrth wneud hyn rydym yn glir bod angen inni ddysgu o’r chwyldroadau diwydiannol pan gafodd asedau naturiol Cymru eu defnyddio heb fawr o fudd parhaol hirdymor i’n cymunedau.

Roedd y cylch gorchwyl ar gyfer grŵp yr adolygiad yn syml: nodi rhwystrau’r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru a nodi’r camau sydd angen eu cymryd i oresgyn y rhwystrau hynny. Gwnaethom edrych ar gamau ar gyfer y tymor byr, canolig a hir, ac wrth wneud hynny mae gen i ffocws penodol ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion fesul pum thema allweddol. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:

  • Mynegiant cliriach ar weledigaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy sydd bellach yn nodi yr hoffwn i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ni yn llawn man lleiaf a defnyddio’r broses o greu gwarged er mwyn mynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd.
  • Cynyddu cynlluniau ynni lleol i lunio cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024 a mapio’r galw am ynni a’i gyflenwad yn y dyfodol i nodi bylchau er mwyn galluogi Cymru i gynllunio ar gyfer system sy’n hyblyg a chlyfar.
  • Ymrwymiad i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal archwiliad o brosesau cyfan trwyddedau morol, cydsynio a chefnogi prosesau cynghori i chwalu’r rhwystrau. Mae hyn yn cynnwys nodi ‘ardaloedd adnoddau strategol’ i nodi ardaloedd priodol ac amhriodol i’w datblygu yn y môr erbyn 2023.
  • Addewid i ystyried ffyrdd o gadarnhau buddsoddiad ychwanegol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru’n blaenoriaethu perchnogaeth leol a chymunedol i sicrhau bod y gwerth economaidd a chymdeithasol lleol mor uchel â phosibl.