Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel Senedd, mae gennym ymrwymiad a rennir i ddatgarboneiddio ac rydym wedi gosod targedau sero-net sy'n dangos sut y gall Cymru arwain y ffordd ar yr her fyd-eang sy'n ein hwynebu. Rhaid i'n huchelgeisiau gael eu llywio gan gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac rwyf wedi ymrwymo i sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes hwn.

Er mwyn gwthio tuag at gyflawni ein nodau, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod heddiw wedi dechrau gwaith ymchwil manwl iawn ar ynni adnewyddadwy. Bydd y gwaith ymchwil gan grŵp craidd bach o arbenigwyr o'r sector a'r tu allan i roi mewnbwn a her. Diben yr ymarfer yw nodi'r cyfleoedd sydd gennym yng Nghymru i gynyddu cynhyrchu adnewyddadwy yn sylweddol, ystyried y rhwystrau a'r camau sydd eu hangen i'w goresgyn. Byddwn yn edrych ar gamau tymor byr, canolig a hirdymor, ac wrth wneud hynny byddwn yn canolbwyntio ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru. Cytunwyd ar Gylch Gorchwyl y grŵp hwn heddiw a gellir ei ddarllen yn Atodiad A.

Rhagwelir y bydd canlyniadau cynnar y trafodaethau yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Senedd cyn gwyliau'r Nadolig mewn Datganiad Llafar. Fy mwriad yw y bydd y datganiad hwn yn cael ei gefnogi gan gynllun gweithredu yn nodi'r ffordd orau o oresgyn y materion a nodwyd.

Gwaith Ymchwil Manwl Ynni Adnewyddadwy – Cylch Gorchwyl

Diben

Diben yr ymarfer yw nodi rhwystrau i gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn sylweddol a nodi camau i oresgyn y rhwystrau. Byddwn yn edrych ar gamau tymor byr, canolig a hir, ac wrth wneud hynny byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru.

Bydd yr ymchwil manwl yn:

  • Ystyried maint y buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd ei angen i gyflawni dyletswyddau statudol Cymru.
  • Nodi'r posibilrwydd o berchnogaeth gymunedol o fewn prosiectau cynhyrchu adnewyddadwy'r sector preifat a'r rôl ehangach i gymunedau weithio mewn partneriaeth â datblygwyr yng Nghymru.
  • Ystyried sut i gynyddu'r budd i Gymru o ddatblygiadau sy'n eiddo masnachol, lle nad oes perchnogaeth.
  • Ystyried maint y cyfle i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a arweinir gan y cyhoedd a'r gymuned yng Nghymru.
  • Ystyried sut i gefnogi twf/datblygiad cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd a'r gymuned yng Nghymru
  • Herio'r sefyllfa bresennol ar gyfer cyflawni yng Nghymru a nodi camau blaenoriaeth i gefnogi mwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru.

Aelodaeth o'r grŵp

Bydd yr ymchwil manwl yn cynnwys grŵp craidd bach o feddylwyr beirniadol dan arweiniad y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, o'r sector a'r tu allan i roi mewnbwn a her. Bydd y Dirprwy Weinidog yn cadeirio cyfarfodydd, gyda'r ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru. Dewiswyd yr Aelodau ar sail eu harbenigedd a'u profiad unigol; gan na ddylid dirprwyo presenoldeb o'r fath heb gytundeb y Dirprwy Weinidog.

Enw

Sefydliad

Dr Jenifer Baxter

Protium Green Solutions

Pete Capener

Bath and West Community Energy

Dr Mike Colechin

Cultivate Innovation ac Aelod o'r Bwrdd Cynghori Hyblyg

Dr Jeffrey Hardy

Coleg Imperial Llundain

Andrew Jeffreys

Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru

Sarah Jennings

Cyfoeth Naturiol Cymru

Anthony Kyriakides

Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Hywel Lloyd

Sefydliad Materion Cymreig

Dan McCallum

Awel coop

Sarah Merrick

Ripple Energy

Guy Newey

Energy Systems Catapult

Robert Procter

Ynni Cymunedol Cymru

Dr Nina Skorupska

Renewable Energy Association

Beth Warnock

Energy Systems Catapult

Dr Chris Williams

Clwstwr Diwydiannol De Cymru a Tata Steel

Dr Mike Jenkins

Llywodraeth Leol

Rhys Wyn Jones

Renewable UK Cymru

Cefnogir y grŵp gan drafodaethau grŵp â ffocws lle bo angen sy'n cwmpasu pynciau penodol lle mae'r grŵp yn teimlo y byddai arbenigedd a barn ychwanegol yn ychwanegu gwerth. Bydd cwmpas y trafodaethau grŵp â ffocws hyn yn cael eu llunio gan gyfarfodydd cychwynnol y grŵp ymchwil manwl.

Amseru

Bydd yr ymarfer yn dechrau ym mis Hydref gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd (dim mwy na dau yr wythnos) cyn toriad Nadolig y Senedd. Cyhoeddir canlyniadau'r adolygiad mewn Datganiad Gweinidogol cyn toriad y Nadolig.

Gall y grŵp gyfarfod yn achlysurol yn dilyn y datganiad hwn os nodir camau gweithredu sy'n gofyn am waith tymor hwy.

Cyfathrebu

Cynhelir trafodaethau yn y grŵp ar sail Chatham House ac ni fydd unrhyw ohebiaeth am ganlyniad terfynol y trafodaethau oni chytunir yn gyntaf â Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Cylch Gorchwyl hwn ac yn dosbarthu nodiadau cyfarfodydd i'r grŵp.