Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau ar y galon yn disodli'r cynllun darparu ar gyfer cyflyrau ar y galon. 

Introduction

Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod yn un o’r prif bethau sy’n achosi afiechyd a marwolaethau cyn pryd yng Nghymru. Er bod cyfraddau marwolaeth o ddigwyddiadau difrifol fel trawiad ar y galon wedi gostwng dros y degawdau diwethaf, mae nifer y bobl sy’n byw gyda chyflyrau ar y galon a ffactorau risg cysylltiedig wedi cynyddu. Mae’r duedd hon yn debygol o barhau yn ystod y degawdau i ddod oherwydd ein poblogaeth sy’n heneiddio. Mae’n hanfodol bod clefydau cardiofasgwlaidd yn cael eu hatal yn effeithiol lle bo hynny’n bosibl, a bod cyflyrau risg uchel yn cael eu canfod cyn gynted â phosibl ac yn cael eu rheoli yn y ffordd orau bosibl, lle mae pobl yn cael cymorth ac yn gallu cynllunio eu gofal ar y cyd. 

Gan adeiladu ar waith Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon 2012 a 2017, mae’n rhaid i gam nesaf y gwaith o wella gwasanaethau ar gyfer pobl sydd â chyflyrau ar y galon fynd i’r afael ag amrywiadau, adeiladu ar gonsensws mewn meysydd blaenoriaeth, darparu rhaglenni effeithiol, cynnal yr arweinyddiaeth genedlaethol, ymgysylltu’n lleol a chydweithio â’r trydydd sector. 

Tynnwyd sylw at gyflwyno datganiadau ansawdd yn Cymru Iachach a disgrifiwyd hynny yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol fel y lefel nesaf o gynllunio cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol, gan sicrhau dull tymor hir a chyson o wella canlyniadau. Mae datganiadau ansawdd yn rhan o’r gwaith o ganolbwyntio mwy ar ansawdd a byddant yn rhan annatod o’r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn y dyfodol.

Lansiwyd y Datganiad Ansawdd hwn yn ystod pandemig COVID-19, a gafodd effaith sylweddol ar wasanaethau cardiaidd. Mae’r Datganiad Ansawdd yn cynnwys canolbwyntio ar adferiad ar unwaith yn y tymor byr, yn ogystal ag ystyried y potensial ar gyfer trawsnewid yn y tymor canolig a’r tymor hwy yn ystod y Tymor Seneddol nesaf. 

Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau cardiaidd yn unol â safonau proffesiynol a’r priodoleddau ansawdd a nodir isod. Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’n cael eu cyfarwyddo, eu cefnogi a’u galluogi i ddarparu gwell gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau ar y galon drwy swyddogaeth Gweithrediaeth y GIG. Cyflawnir hyn drwy Fwrdd Rhwydwaith y Galon Cymru. Bydd y rhwydwaith clinigol yn cydweithio i lunio cynllun gweithredu treigl tair blynedd sy’n nodi ac yn blaenoriaethu datblygiadau gwasanaeth yn seiliedig ar y priodoleddau ansawdd a ddisgrifir isod. Bydd manylebau gwasanaeth manwl hefyd yn cael eu datblygu i gefnogi’r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru; bydd y rhain yn cael eu nodi yn Atodiad A wrth iddynt ddod ar gael.

Mae’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu llwybrau clinigol cenedlaethol ac mae’r Fframwaith Diogelwch Ansawdd yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio’r cylch sicrhau ansawdd mewn modd systemig yn lleol. Mae’r datganiad ansawdd hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau sydd wedi’u hoptimeiddio’n genedlaethol er mwyn helpu i wella ansawdd gwasanaethau yn lleol a mynd i’r afael ag amrywiadau diangen mewn gofal.

Mae angen canolbwyntio hefyd ar gydweithio â grwpiau eraill i fynd i’r afael â meysydd fel iechyd cyhoeddus, atal, adsefydlu, gofal i’r rhai sy’n ddifrifol wael neu ar ddiwedd eu hoes, yn ogystal â chydweithredu â chyflyrau eraill fel strôc, diabetes a chlefydau fasgwlaidd.

Priodoleddau ansawdd gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau ar y galon yng Nghymru

Teg

1.    Dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gwella gwasanaethau sy’n cael ei arwain gan Weithrediaeth y GIG drwy ei bwrdd rhwydwaith clinigol ar gyfer cyflyrau ar y galon.

2.    Cydweithredu ar draws byrddau iechyd rhwng gwasanaethau cardiaidd drwy’r rhwydwaith clinigol i sicrhau tryloywder, cefnogi mynediad cyfartal, sicrhau cysondeb o ran safonau gofal a mynd i’r afael ag amrywiadau diangen.

3.    Bydd gwasanaethau ar gyfer pobl sydd â chyflyrau ar y galon yn cael eu mesur a’u dal yn atebol gan ddefnyddio metrigau, archwiliadau clinigol, PROMs ac adolygiadau cymheiriaid sy’n adlewyrchu ansawdd gofal i gleifion a’i ganlyniadau. 

4.    Mae gweithlu’r galon yn cael ei gefnogi a’i ddatblygu i fynd i’r afael â lefelau cadw staff a sicrhau bod hynny’n gynaliadwy, yn cael ei ddosbarthu’n deg ac yn cael ei ehangu i ateb y galw, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol fel ffisioleg y galon a nyrsio arbenigol.

5.    Mynediad cyfartal at dreialon clinigol priodol gyda chefnogaeth seilwaith priodol ar gyfer pob math o ymchwil iechyd i gyflyrau’r galon.

Diogel

6.    Ffocws ar unwaith ar drawsnewid llwybrau ar lefel system er mwyn gallu adfer gwasanaethau i lefelau cyn y pandemig.

7.    Bydd gwasanaethau na allant fodloni’r safonau gofynnol yn cael eu had-drefnu i sicrhau bod modd cyrraedd safonau’n gyson ac yn gynaliadwy. 

8.    Model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau cardiaidd, hyrwyddo gweithio’n ystwyth a gwell mynediad at wasanaethau diagnosteg, ymyriadau ac adsefydlu.

Effeithiol

9.    Bydd y llwybrau seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’u hoptimeiddio’n genedlaethol ar gyfer pobl sydd â chyflyrau ar y galon yn gynhwysfawr ac wedi’u sefydlu’n llawn yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol.

10.    Dull cenedlaethol o wella’r gallu i oroesi ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. 

Effeithlon

11.    Canfod cyflyrau risg uchel – fel pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel a ffibriliad atrïaidd – rhoi diagnosis ohonynt a’u rheoli’n effeithiol.

12.    Dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer systemau gwybodeg sy’n galluogi gofal i gael ei integreiddio yn fwy helaeth ac yn darparu data perthnasol, safonedig o ansawdd uchel i sbarduno gwelliannau i’r gwasanaeth.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

13.    Mae dull cydweithredol o ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi’i sefydlu’n ddiwylliannol ac yn cael ei gefnogi gan ddull cyffredin o ddarparu diagnosis, triniaeth a gofal yn y gymuned lle bo hynny’n briodol.

14.    Mae cynllunio gofal ar y cyd yn sicrhau bod pobl y mae cyflyrau’r galon yn effeithio arnynt, neu sydd mewn perygl o’u datblygu, yn cael y canlyniadau sy’n bwysig iddynt.

15.    Mynediad teg at wasanaeth adsefydlu cardiaidd amlddisgyblaethol cynhwysfawr a phwrpasol ar gyfer pob llwybr cysylltiedig â chyflwr y galon.

Amserol

16.    Gwell mynediad amserol at ddiagnosteg ar y cyd â rhaglenni diagnostig cenedlaethol, yn unol ag anghenion cleifion.

Atodia A - manylebau gwasanaeth

Bydd Gweithrediaeth y GIG yn datblygu manylebau gwasanaeth ar gyfer llwybrau cyflwr y galon fel sail i drafodaethau ynghylch atebolrwydd. Ychwanegir y rhain pan fyddant ar gael.