Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Mae’r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr sy’n bodoli mewn rhannau o Gymru wedi ysgogi teimladau cryf ers rhai blynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, yn aml, mae yna ymdeimlad o anghyfiawnder bod pobl yn gallu cael eu prisio allan o’r farchnad dai leol gan y rheini sy’n prynu ail gartrefi neu gartrefi i’w gosod fel llety gwyliau tymor byr.

Drwy’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru rydym wedi ymrwymo i gymryd camau radical ar unwaith, gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthu i fynd i’r afael â’r effaith negyddol y gall ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ei chael ar y tai sydd ar gael i bobl leol a pha mor fforddiadwy y maent; cyfeirir at sawl un o elfennau’r pecyn hwnnw o fesurau yn y Cynllun hwn.

Mae Cymru wastad wedi bod yn genedl groesawgar, ac rydym eisiau i hynny fod yn wir bob amser. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ond mae gormod o lety gwyliau a gormod o ail gartrefi sy’n wag am ran helaeth o'r flwyddyn yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd yr ardaloedd dan sylw a’r ymdeimlad o gymuned.

Yn aml, mewn cymunedau Cymraeg a’r ardaloedd o’u cwmpas y mae’r ail gartrefi. Gall hyn arwain at batrymau perchenogaeth tai sy’n effeithio’n andwyol ar ddefnydd o’r Gymraeg yn yr ardaloedd dan sylw.

Pan na fydd pobl ifanc, yn benodol, yn gallu byw a gweithio yn eu cymunedau Cymraeg, mae’n amlwg bod hyn yn cael effaith ar y Gymraeg fel iaith gymunedol ac ar gynaliadwyedd y cymunedau hyn.

Fel sy'n aml yn wir, mae'n haws disgrifio'r broblem a'r angen i weithredu nag yw hi i’w datrys. Rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o leddfu'r pwysau ar gymunedau lle mae nifer fawr o ail gartrefi.

Aethom ati i ymgynghori ar fersiwn ddrafft o'r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg cyfredol hwn, y cawsom bron i 800 o ymatebion iddo. Diolch o galon i bawb a ymatebodd. Ochr yn ochr â fersiwn derfynol y Cynllun, rydym wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gyfrannodd ato.

Ym mis Awst, lansiais y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar faes yr Eisteddfod yng Ngheredigion. Bydd y Comisiwn yn ein helpu i ddatblygu polisïau i gynnal ein hiaith yn y cymunedau hynny a ystyrir, yn draddodiadol, yn gadarnleoedd iddi.

Rydym am i’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg chwarae rhan ganolog yn ein hymateb wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg sydd â lefelau uchel o ail gartrefi. Ond dim ond un rhan o gyfres o bolisïau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyhoeddi yw hyn.

Nid gorfodi cymunedau i ddilyn llwybrau gweithredu penodol yw nod y cynllun. Ei ddiben, yn hytrach, yw grymuso cymunedau i greu a datblygu cynlluniau ar eu cyfer eu hunain. Gwneir hyn drwy dynnu ynghyd ymyraethau sy’n ymwneud â’r economi, tai, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol, er mwyn sicrhau y gall cymunedau Cymraeg barhau i fod yn economaidd ac yn ieithyddol hyfyw.

Mae’r cynllun hwn yn amlinellu rhai o’r adnoddau sydd ar gael i gymunedau sy’n wynebu heriau ym maes tai, a’r cymorth rydym yn ei ddarparu.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac felly hefyd y cyfrifoldeb dros ei dyfodol.

Jeremy Miles AS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Crynodeb Gweithredol

Mae’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn cynnwys y canlynol:

Yr Economi, Tai a’r Gymraeg

Caiff cylch gwaith Bwrdd Crwn yr Economi a’r Gymraeg ei ehangu i gynnwys Tai, a bydd yn goruchwylio gweithrediad y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. Bydd y Bwrdd Crwn yr Economi, Tai a’r Gymraeg yn parhau i ystyried materion sy'n wynebu ein heconomi wledig yng nghyd-destun y Gymraeg. Bydd y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn cydweithio'n agos â rhaglen Arfor 2, a fydd yn darparu pecyn o amrywiol ymyraethau economaidd gyda'r nod o ddiogelu ein cymunedau Cymraeg.

Mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol a arweinir gan y gymuned

Mae gan fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol rôl bwysig wrth gefnogi seilwaith economaidd a chymdeithasol ein cymunedau. Mae gennym enghreifftiau o gymunedau yn dod at ei gilydd i ddiogelu gwasanaethau lleol ac yn datblygu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol newydd a arweinir gan y gymuned (ee siopau, tafarndai a gwasanaethau bws gwledig). Mae rôl hefyd i fentrau o'r fath wrth greu a sefydlu gofodau i bobl siarad Cymraeg lle gall pobl weithio a defnyddio'r iaith, mewn cyd-destun ffurfiol ac anffurfiol.

Rydym wedi darparu cyllid i Cwmpas fel y gallant sefydlu gwasanaeth cyngor a chymorth i helpu cymunedau i adnabod cyfleoedd i sefydlu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol a arweinir gan y gymuned.

Tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned

Nid yw tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned yn fodel newydd o ran deiliadaeth. Serch hynny, ar raddfa gymharol fach y mae'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned helpu cymunedau, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol i ddatblygu opsiynau sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion neilltuol eu hunain. Gall y modelau hyn greu cartrefi fforddiadwy yn unol ag anghenion penodol y gymuned, ac yn bwysicach fyth maent yn eiddo i'r gymuned.

Mae arian hefyd wedi cael ei ddarparu dros y tair blynedd nesaf er mwyn i Cwmpas barhau i gefnogi grwpiau cymunedol i ddatblygu eu huchelgeisiau o ran tai. Mae gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y gefnogaeth hon yn gydnaws â'r pecyn cyllid a nodir uchod, gan gefnogi cymunedau i ddatblygu tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned ar y cyd â'n rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi.

Grŵp llywio asiantaethau eiddo a rhanddeiliaid

Bydd grŵp llywio asiantaethau eiddo a rhanddeiliaid yn cynnwys asiantaethau eiddo, cyfreithwyr, awdurdodau lleol, cynghorwyr ariannol a darparwyr morgeisi. Mae eu profiad, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o'r farchnad dai leol dros y blynyddoedd yn allweddol i ddeall sefyllfa bresennol y farchnad eiddo a'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg.

Ymgyrch tai lleol - Cynllun Cyfle Teg

Byddwn yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau, gwerthwyr eiddo a darpar werthwyr eiddo o'r dewisiadau y gallant eu gwneud, a’r camau y gallant eu cymryd, i gefnogi pobl leol a'u cymunedau. Byddwn yn creu canllawiau penodol ynghylch camau y gall gwerthwyr eiddo eu cymryd i gefnogi anghenion eu hardaloedd lleol, er mwyn rhoi cyfle teg i bobl leol yn y farchnad dai leol.

Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Rydym eisoes wedi sefydlu Comisiwn Cymunedau Cymraeg a bydd yn ystyried yr heriau y mae cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu. Nod y Comisiwn yw meithrin gwell dealltwriaeth o natur heriau ieithyddol, economaidd-gymdeithasol ac ailstrwythuro cymdeithasol yn dilyn COVID-19 a phenderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Comisiwn yn ystyried ystod eang o feysydd polisi a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth o sefyllfa bresennol y Gymraeg o fewn cymunedau. Bydd y Comisiwn yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Llysgenhadon Diwylliannol

Byddwn yn sefydlu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol i fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo ein diwylliant, ein treftadaeth a'r Gymraeg. Ein nod yw gweithio a dysgu ar sail profiadau Cynllun Llysgenhadon Cymru, Ecoamgueddfeydd a chynllun Pencampwyr Iaith Menter Iaith Môn. Byddwn yn datblygu cyfres o fodiwlau a fydd yn cynnwys gwybodaeth berthnasol i gefnogi'r Llysgenhadon Diwylliannol yn eu gwaith.

Enwau lleoedd Cymraeg

Mae'r canllawiau statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol wrth ymdrin â cheisiadau ffurfiol i ailenwi eiddo sydd ag enwau hanesyddol. Fodd bynnag, mae'n bosibl i berchnogion tai newid enwau Cymraeg drwy ddulliau llai ffurfiol, ac mae hyn yn cael effaith ar ba mor weladwy yw'r iaith yn ein cymunedau. Nid oes gennym sylfaen dystiolaeth ynghylch graddfa'r broblem hon ar hyn o bryd. Byddwn felly’n comisiynu ymchwil benodol er mwyn edrych ar nifer yr enwau sy'n newid, a sut a ble maent yn newid. Bydd yr ymchwil hon yn llywio camau pellach yn y maes.

Cyflwyniad

Mae'r Cynllun hwn yn ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig â fforddiadwyedd a lefelau uchel o ail gartrefi o safbwynt y Gymraeg, ac yn ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen.

Mae targedau Cymraeg 2050 i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg, yn naratif clir ynghylch cyfeiriad y polisi iaith yng Nghymru. Maent hefyd yn cynnig cyd-destun i'r nod llesiant cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o greu Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Er mwyn i'r strategaeth lwyddo, mae angen i ni gydweithio ar draws y llywodraeth ar lefel genedlaethol a lleol i fynd i’r afael yn holistaidd â materion polisi sydd o bwys strategol i'r iaith, sef:

  • Pwysigrwydd cynnal y Gymraeg fel y brif iaith a siaredir yn ein cymunedau Cymraeg.
  • Mwy o gyfleoedd i blant ac oedolion ddysgu ac, i'r rhai sy’n dysgu neu sydd eisoes yn siarad yr iaith, i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyson ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw.

Rydym yn deall nad yw materion yn ymwneud â fforddiadwyedd ac ail gartrefi wedi eu cyfyngu i gymunedau Cymraeg: mae'r materion hyn yn gyfarwydd ledled Cymru a thu hwnt. Ond heb gynnal cymunedau Cymraeg daearyddol sy’n ieithyddol hyfyw, bydd llai o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol bob dydd. Mae hynny yn ei dro yn bygwth tanseilio ein nod o greu siaradwyr newydd ledled Cymru. Felly mae angen i ni ganolbwyntio ar gynnal gwead cymdeithasol y cymunedau Cymraeg hyn ac osgoi creu sefyllfa lle nad yw'r ddysgl yn wastad, gan arwain at newid yr iaith gymunedol ar raddfa uwch, o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Rydym yn aros am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â'r Gymraeg, a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o natur ieithyddol ein cymunedau a'r heriau sy'n eu hwynebu.

Nod y Cynllun hwn yw grymuso cymunedau i greu a datblygu cynlluniau ar eu cyfer eu hunain drwy gydweithio ar becyn o ymyraethau. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r cynllun peilot yn Nwyfor ar nifer o bolisïau i gefnogi a gwarchod y Gymraeg ar lefel gymunedol. Rydym am sicrhau'r amodau cywir er mwyn i bobl, yn enwedig pobl ifanc, allu fforddio byw a gweithio yn ein cymunedau Cymraeg, yn ogystal â chefnogi pobl sy'n dymuno dychwelyd i'r cymunedau lle cawsant eu magu. Caiff yr ymyraethau eu fframio o fewn cyd-destun cyfiawnder cymdeithasol, i hyrwyddo cymunedau teg a chytbwys, lle mae poblogaeth lewyrchus yn byw ac yn gweithio o fewn y cymunedau, i sicrhau eu bod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg – Y Cyd-destun

Mae cryn dipyn o sylw wedi’i roi, yng Nghymru, y DU a thu hwnt, i’r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu yn enwedig pobl ifanc wrth chwilio am dai fforddiadwy o ansawdd i’w prynu neu eu rhentu yn eu hardaloedd. Yn aml, mae’r anawsterau hynny’n gysylltiedig ag ail gartrefi.

Fel y nodwyd mewn adolygiad diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, gall ail gartrefi gyfrannu at chwyddiant prisiau tai a lleihad yn y stoc sydd ar gael i bobl leol. 

Yn ei adroddiad, a gomisiynwyd gan Academi Hywel Teifi, Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru, darparodd Dr Simon Brooks ddadansoddiad o effeithiau posibl niferoedd mawr o ail gartrefi ar ein cymunedau. Amlinellodd hefyd yr heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg a'r angen i’w cynnal.

Wrth geisio datrys y materion hyn, nid ydym, drwy wneud hynny, am greu heriau newydd. Rydym wedi sefydlu ardal beilot i dreialu nifer o ymyraethau ac i asesu eu heffeithiolrwydd o ran rheoli ail gartrefi a'u heffaith ar fforddiadwyedd. Gan weithio gyda Chyngor Gwynedd, Grŵp Cynefin a Pharc Cenedlaethol Eryri, mae'r peilot ar waith yn Nwyfor ar hyn o bryd.

Rydym yn cydnabod cyfraniad pwysig perchnogion ail dai a busnesau llety gwyliau tymor byr i economïau lleol. Rydym hefyd yn deall manteision llety gwyliau tymor byr fel ffynhonnell incwm atodol o fewn ein cymunedau gwledig a ffermio. Gall hyn yn ei dro helpu i gynnal llawer o ffermydd teuluol a busnesau eraill, a helpu pobl i fyw a gweithio yn eu cymunedau. Bydd pennu a chynnal y cydbwysedd priodol o ran ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn egwyddor allweddol wrth i ni weithredu ein hymyraethau.

Mae gennym enw da fel gwlad groesawgar sy'n rhoi gwerth ar ei diwydiant twristiaeth. Wrth weithredu yn y maes hwn, mae angen i ni ddod o hyd i gydbwysedd iach fel y gall cymunedau barhau i ffynnu.

Ein Hymateb

Yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, amlinellwyd sut mae methiannau yn y farchnad dai yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru, ond bod yr effaith hon yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau lleol. Mae ymateb polisi effeithiol, felly, yn galw am gyfuniad o ymyraethau ar lefel Cymru gyfan ac ar lefel leol. Fe wnaethom ymrwymo i fanteisio ar ystod o fesurau deddfwriaethol ac ariannol posibl, gan gynnwys defnyddio systemau cynllunio, eiddo a threthu. Amlinellodd Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Plaid Cymru y pecyn o gamau a fyddai’n cael eu gweithredu yn eu cyd-ddatganiad ym mis Gorffennaf.

Gan weithio gydag awdurdodau lleol, ac yn unol â’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio, rydym wedi mabwysiadu dull sy'n ceisio mynd i'r afael â materion creiddiol sy'n effeithio ar fforddiadwyedd tai mewn cymunedau arfordirol a gwledig.

Rydym wedi ymestyn pwerau awdurdodau lleol i godi treth gyngor ar gyfradd bremiwm, yn ôl eu disgresiwn, ar ail gartrefi a thai gwag—o 1 Ebrill 2023, bydd yr uchafswm y gallant ddewis ei godi yn cynyddu o 100% i 300%. Rydym hefyd wedi newid y rheolau ynghylch llety gwyliau tymor byr, sy'n golygu bod rhaid i’r llety fod ar gael i’w osod am o leiaf 252 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis er mwyn cael talu ardrethi annomestig (yn hytrach na’r dreth gyngor), a’i fod yn cael ei osod am o leiaf 182 o ddiwrnodau yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd hyn yn sicrhau bod perchnogion a'u gwesteion yn gwneud cyfraniad teg i’w cymunedau.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i wneud newidiadau mawr i'r system gynllunio. Bydd y rheoliadau’n cyflwyno tri dosbarth newydd o ddosbarthiadau defnydd: prif breswylfa, ail gartref a llety gwyliau tymor byr. Gall awdurdodau cynllunio lleol, lle bydd ganddynt dystiolaeth a lle rhoddir Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar waith, ei gwneud yn ofynnol wedyn i berchnogion eiddo ofyn am ganiatâd cynllunio er mwyn newid y ffordd y defnyddiant eu heiddo o un dosbarth i’r llall. Byddwn hefyd yn cyflwyno newidiadau i’r polisi cynllunio cenedlaethol a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol reoli'n well nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau tymor byr mewn cymunedau.

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr. Bydd y cynllun yn ei gwneud yn ofynnol cael trwydded er mwyn cynnig llety i ymwelwyr, gan gynnwys llety gwyliau tymor byr, a bydd yn help i godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth, a gwella data at ddiben gwneud penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni ynghylch cynigion ar gyfer cynllun trwyddedu.

Rydym hefyd wedi ymgynghori ar wneud newidiadau i'r dreth trafodiadau tir. Mae dwy gyfres o gyfraddau ar gyfer eiddo preswyl—y prif gyfraddau a'r cyfraddau uwch. Codir y cyfraddau uwch pan fydd gan y prynwr, ar ôl cwblhau’r pryniant, fwy nag un eiddo preswyl, ac maent 4 pwynt canran yn uwch na'r prif gyfraddau. Dyma'r cyfraddau uchaf ar gyfer eiddo preswyl ychwanegol yn y DU. Yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym nawr hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai’n golygu bod modd iddynt ofyn am i gyfraddau uwch gael eu codi yn eu hardal nhw mewn perthynas â thrafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.

Byddwn hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno Morgeisi Awdurdodau Lleol.

Fe wnaethom ymrwymo hefyd i fesurau pellach i gynnig cyfran uwch o’r cartrefi sydd eisoes yn bodoli, yn enwedig eiddo gwag, ar gyfer eu perchnogi ar y cyd ar lefel leol. Un cam o’r fath yw cyflwyno Cynllun Cartrefi Gwag cenedlaethol, gan ddarparu £60m i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i helpu i gyflawni’r amcan hwn.

Byddwn yn darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu yn ystod tymor y Senedd hon.

Yn ogystal â’r pecyn o fesurau a gyflwynir ar unwaith ar ail gartrefi, rydym wedi ymrwymo drwy’r Cytundeb Cydweithio i gyhoeddi Papur Gwyn a fydd yn cynnwys cynigion ynghylch hawl i lety addas, rhenti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi yn fforddiadwy i'r rhai ar incwm lleol.

Yr Economi, Tai a'r Gymraeg

Mae angen cynnal economi gref yn ogystal â bod â chyflenwad digonol o dai fforddiadwy er mwyn creu cymunedau bywiog lle gall y Gymraeg ffynnu. Un o'r prif heriau y mae cymunedau Cymraeg, gwledig ac arfordirol yn ei hwynebu yw'r ffaith bod pobl ifanc yn gadael yn barhaus. Mae Adroddiad Interim Arfor yn adlewyrchu’r ffaith bod y mudo hwn yn fater cymhleth. Ni fydd pob person ifanc eisiau aros yn ei ardal, ond mae angen sicrhau bod y dewis i aros ar gael iddynt, a bod y cyfleoedd i ddychwelyd hefyd ar gael i'r rhai sydd wedi gadael am eu prifysgol neu i gael profiadau gwaith.

Mae'r pwyslais ar weithio o bell a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil y pandemig yn creu cyfle o ran hybiau gwaith cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Gallai’r rhain gefnogi pobl i weithio'n agosach i gartref, a chreu'r amodau cywir a'r cyfleoedd i bobl sydd am ddychwelyd i’r ardaloedd lle cawsant eu magu.

Mae rhaglen beilot Arfor wedi treialu ymyraethau niferus, er enghraifft rhaglen Llwyddo'n Lleol, a gefnogodd bobl ifanc i feithrin y sgiliau angenrheidiol a’r hyder i ddechrau busnesau yn eu cymunedau. Gwelwyd diddordeb arbennig mewn cynlluniau grantiau busnes yng Ngheredigion ymhlith pobl ifanc a oedd wedi'i chael yn anodd cael gafael ar gyfalaf i ddechrau eu mentrau eu hunain. Yn yr un modd, grymuswyd mentrau cymdeithasol lleol gan gynllun Cymunedau Mentrus i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol i wneud cymunedau yn fwy cynaliadwy. Roedd cyllid Arfor yn help i droi syniadau yn brosiectau, gan sicrhau bod yr arian yn cael ei gylchredeg yn lleol yn ogystal â chreu cyfleoedd gwaith newydd.

Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bydd pecyn cyllid o £11m dros dair blynedd ar gael i gefnogi rhaglen Arfor 2.

Prif ffocws Arfor 2 fydd adeiladu ar brofiad rhaglen beilot Arfor, ac ymateb i ganfyddiadau gwerthusiad annibynnol y rhaglen. Mae gwerthuso parhaus, rhannu arferion da a datblygu cofnod o’r gwersi a ddysgir yn elfennau canolog o gynnig Arfor 2.

Mae'r pedwar awdurdod lleol wedi cyflwyno eu cynigion i Lywodraeth Cymru, ac mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo'r cyllid ar gyfer Arfor 2, i gyd-fynd â chyhoeddi'r cynllun hwn.

Bwrdd Crwn yr Economi, Tai a'r Gymraeg

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg fydd yn cadeirio Bwrdd Crwn yr Economi, Tai a'r Gymraeg, sef y cyfrwng a ddefnyddir i oruchwylio gweithrediad y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. Mae'n cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol a phenaethiaid eu hadrannau datblygu economaidd, ymarferwyr ac arbenigwyr datblygu economaidd, a chynllunwyr iaith. Bydd y Bwrdd Crwn yn fforwm pwysig i drafod materion lleol gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol. Yn ogystal, bydd y Bwrdd Crwn yn llwyfan pwysig i sicrhau bod ymyraethau rhaglen Arfor 2 a’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwella cynaliadwyedd economaidd a rhagolygon hirdymor holl ddinasyddion y cymunedau hyn.

Bydd y Bwrdd Crwn yn canolbwyntio'n arbennig ar agweddau canlynol Arfor 2 a’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg:

  • Cefnogi’r gwaith o sefydlu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol newydd fel gofodau Cymraeg eu hiaith ble gall pobl weithio a defnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.
  • Mynd ati i ymgysylltu â chymunedau i weld sut y gallant elwa o gynlluniau niferus Arfor.
  • Annog pobl ifanc yn benodol i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael drwy gynlluniau fel Llwyddo'n Lleol i'w helpu i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r economi leol.
  • Cefnogi cymunedau i ystyried syniadau a dulliau arloesol yn seiliedig ar eu hadnoddau naturiol a'u hasedau cymunedol.
  • Rhannu arferion da a gwersi a ddysgwyd ar draws y cymunedau o fewn rhanbarth Arfor.

Mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol a arweinir gan y gymuned

Cymunedau yn Creu Busnesau Cymdeithasol

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd adroddiad ymchwil gymdeithasol gennym ar Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Roedd canfyddiadau'r arolwg yn tynnu sylw at y ffordd gadarnhaol y gwnaeth llawer o grwpiau addasu eu gwaith er mwyn sicrhau bod eu gweithgareddau yn parhau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, nododd hefyd yr heriau yr oedd rhai sefydliadau yn eu hwynebu yn sgil y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus.

Un o argymhellion yr adroddiad oedd cefnogi'r gwaith o sefydlu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol, gyda'r nod o greu gofodau Cymraeg eu hiaith ble gall pobl weithio a chael trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol. Gallai’r safleoedd hyn hefyd fod yn fannau i gymdeithasu a defnyddio'r iaith mewn lleoliad anffurfiol.

Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol eisoes yn rhan bwysig o’r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Rydym wedi hen arfer â chymunedau yn dod ynghyd i ddiogelu amwynderau a gwasanaethau lleol, yn ogystal ag elwa ar adnoddau naturiol sy'n dod â buddion economaidd i gymunedau lleol. Ceir enghreifftiau o fentrau cymdeithasol cymunedol: Cwmni Bro Ffestiniog, Partneriaeth Ogwen a Galeri yng Nghaernarfon, sy’n dangos sut y gall mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol gefnogi a darparu gwasanaeth gwerthfawr i ardal. Y Gymraeg yw iaith gwaith y sefydliadau hyn – yn ffurfiol ac yn anffurfiol, – ac maent yn cynnig cyfleoedd gwaith o ansawdd o ran polisïau cyflog a gwaith teg, gan gefnogi'r economi leol a diogelu gwasanaethau cymunedol hanfodol.

Byddwn yn annog cymunedau eraill i ddilyn eu hesiampl drwy gynnig cymorth ac arweiniad er mwyn helpu i sefydlu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol a chymdeithasol cymunedol, gan greu safleoedd Cymraeg eu hiaith i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

Astudiaeth Achos 1 – Menter Cymdeithasol Gymunedol

Sefydlwyd Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol yn 2013 yn dilyn penderfyniad cynghorau cymuned Llanllechid, Llandygai a Bethesda i gydweithio yn agosach â’i gilydd. Mae gwaith y fenter yn cynnwys:

  • Darparu gwasanaeth clercio i gynghorau cymuned yr ardal.
  • Datblygu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol.
  • Rheoli eiddo a datblygu prosiectau trosglwyddo asedau cymunedol.
  • Cefnogi prosiectau sy’n creu cymuned iach, fywiog a chynaliadwy.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r fenter wedi cynyddu ei phortffolio o eiddo sydd wedi eu hadnewyddu ac sy’n darparu incwm rhent sefydlog. Partneriaeth Ogwen hefyd fu’n gyfrifol am ddatblygu cynllun arloesol Ynni Ogwen – cynllun hydro cymunedol sy’n cynhyrchu 500MWh o drydan adnewyddadwy yn flynyddol. Ers datblygu cynllun Ynni Ogwen yn 2017, mae’r Bartneriaeth wedi mynd ymlaen i ddatblygu nifer o brosiectau amgylcheddol.

Mae gwasanaethu a sicrhau budd i’r gymuned yn greiddiol i holl waith y fenter ac amlygwyd hyn yn ystod cyfnod y pandemig drwy flaenoriaethu prosiectau i helpu pobl fregus yr ardal. Mae staff y fenter wedi tyfu o ddau ar y cychwyn i 24 o swyddogion yn 2022. Mae ei phortffolio o eiddo yn sicrhau budd i drigolion lleol a sicrhau gwasanaethau allweddol. Mae’r rhain oll yn gyfraniad pwysig i’r economi leol. Rhan ganolog o waith Partneriaeth Ogwen yw sicrhau ffyniant y Gymraeg – mae’n ofod uniaith Gymraeg gwbl naturiol ac yn creu sylfaen gadarn i’r iaith drwy ei chynlluniau economaidd a chymunedol uchelgeisiol.

Astudiaeth Achos 2 – Cefnogi mentergarwch o fewn cymunedau

Mae Canolfan Fenter Congl Meinciau yn ffrwyth llafur sawl unigolyn a sefydliad dros gyfnod o rai blynyddoedd mewn ymdrech i geisio sicrhau adnodd ym Mhen Llŷn i sbarduno, cefnogi a hwyluso mentergarwch yn lleol. Ariannwyd y datblygiad gan Gymdeithas Tai Eryri, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop. Mae’r ganolfan wedi ei lleoli ym Motwnnog sy’n ardal wledig ble ceir dibyniaeth ar y diwydiant twristiaeth ac amaeth.

Mae’r ganolfan yn cynnig gofod swyddfa ac adnoddau i fusnesau lleol Llŷn. Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyrsiau sydd yn anelu at helpu sefydlu a datblygu busnesau. Er ei sefydlu yn 2010 mae’r ganolfan wedi:

  • Cynnig cymorth wedi ei deilwra yn arbennig i 30 o fusnesau.
  • Llogi unedau i 25 o denantiaid.
  • Darparu 50 o gyrsiau hyfforddiant i fusnesau lleol.
  • Cynnig cyfleoedd hyfforddiant i 235 o unigolion.

Un o elfennau pwysig gwaith Congl Meinciau yw cynnig cyfleoedd unigryw i bobl allu parhau i weithio yn eu cymuned leol. Mae hefyd yn rhan o’r rhwydwaith Hybiau Cefnogi Pobl Gwynedd.

Tai cydweithredol, tai a arweinir gan y gymuned ac ymddiriedolaethau tir cymunedol

Nid yw tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned yn fodel newydd o ran deiliadaeth. Ceir enghreifftiau helaeth ledled Ewrop ac America o dai cydweithredol sy’n darparu cartrefi fforddiadwy i’r gymuned leol. Serch hynny, ar raddfa gymharol fach y gwelir hyn yng Nghymru ar hyn o bryd.

Gall y model tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned helpu cymunedau, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu opsiynau ar gyfer eu cymunedau. Gall y modelau hyn greu cartrefi fforddiadwy yn unol ag anghenion penodol y gymuned, ac yn bwysicach fyth maent yn eiddo i'r gymuned. Gall y model tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned ddatblygu cartrefi newydd sbon yn ogystal â phrynu a datblygu eiddo o fewn y stoc dai bresennol – yn enwedig eiddo gwag neu dai nad oes fawr o alw amdanynt. Rydym eisoes yn darparu cefnogaeth i grwpiau tai a arweinir gan y gymuned drwy gyfrwng y rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi, a weithredir gan Cwmpas, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned ac ymddiriedolaethau tir cymunedol fel sydd wedi’i nodi yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Ein nod yw adeiladu ar y gwaith hwn drwy ddarparu adnoddau ychwanegol er mwyn helpu i gyflawni'r mentrau hyn mewn cymunedau Cymraeg. Mewn llawer o achosion, efallai y bydd yr angen am dai fforddiadwy yn gymharol fach, ac felly’n anymarferol i lawer o ddatblygwyr preifat ei ystyried. Byddwn felly’n gweithio gyda chymdeithasau tai lleol i archwilio modelau tai cydweithredol neu fodelau tai a arweinir gan y gymuned er mwyn diwallu anghenion lleol na ellir eu cyflawni fel arall. Er bod yr ymyraethau’n canolbwyntio ar gymunedau Cymraeg, gall rhai o'r ymyraethau, yn enwedig mewn perthynas â thai a arweinir gan y gymuned, weithio mewn cymunedau ehangach ledled Cymru.

Astudiaeth Achos 3 – Tai Cydweithredol wedi’u harwain gan y gymuned

Mae Bryn Tyrnol ger Machynlleth, yn eiddo gyda phum ystafell wely ac yn gartref i nifer o bobl dros y blynyddoedd, gan gynnwys ymgyrchwyr, cerddorion, a beirdd. Ers degawdau cynhelir ymgyrchoedd amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol, gweithdai, corau, sesiynau gwerin ac adrodd straeon yno, gyda rôl arbennig fel man sefydlu Gwyl El Sueño Existe. Roedd yr eiddo, a oedd â chwech o drigolion yn eiddo i landlord preifat. Yn 2019, penderfynodd y landlord ei fod am werthu'r eiddo. Felly, er mwyn cadw ethos Bryn Tyrnol yn fyw ac yn nwylo'r gymuned, penderfynodd roi'r cyfle cyntaf i'r gymuned bresennol o denantiaid brynu’r eiddo a hynny am bris gostyngol.

Penderfynodd y chwech o drigolion sefydlu cwmni tai cydweithredol er mwyn sicrhau bod yr eiddo'n parhau’n fforddiadwy i drigolion lleol am genedlaethau i ddod yn ogystal â sicrhau bod gwerthoedd cydweithredol a chymunedol yr eiddo’n parhau.

Cysylltodd y preswylwyr â thîm Cymunedau’n Creu Cartrefi yn Cwmpas er mwyn cael cefnogaeth i lywio drwy’r broses o sefydlu menter gydweithredol a phrynu’r tŷ. Yn ychwanegol â’u cefnogi i osod gweledigaeth a sefydlu fframwaith gyfreithiol, fe wnaeth Cwmpas eu cefnogi drwy hyrwyddo a gyrru cynllun Loanstock y grŵp, tynnu ynghyd ymgynghorwyr i fodelu eu cyllidebau a chyflwyno ceisiadau ariannol ar ran y grŵp. Cyfanswm cost y prosiect oedd £240,000 i brynu'r tŷ (gyda gostyngiad o £35,000 o werth y farchnad gan y perchennog), £7,200 o dreth trafodiadau tir, £3,000 o ffioedd cyfreithiol a £31,000 i addasu’r garej i ychwanegu dwy uned fyw ychwanegol. Ariannwyd y prosiect drwy forgais o £142,000 gan Gymdeithas Adeiladu Ecoleg a benthyciad o £140,000 gan Loanstock (benthyciad heb ei ddiogelu am gyfnod penodol ar ffurf bond llog sefydlog), ynghyd â grant cyfalaf ICF i inswleiddio lloriau a waliau allanol gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).

Bydd menter gydweithredol Tir Cyffredin nawr yn gallu darparu saith uned rhent diogel a chanolfan gymunedol am genedlaethau i ddod. Bellach mae gan y tenantiaid presennol, a oedd yn wynebu digartrefedd os nad oedd modd achub yr eiddo, do diogel dros eu pennau.

Nodau:
  • Helpu cymunedau i sefydlu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol newydd.
  • Helpu cymunedau i ddatblygu opsiynau i gefnogi tai fforddiadwy lleol.
  • Helpu cymunedau i fanteisio ar gymorth ehangach Llywodraeth Cymru i gymunedau Cymraeg ac elwa ohono.
Yr hyn a wnawn:
  • Byddwn yn gweithio gyda Cwmpas (Canolfan Gydweithredol Cymru gynt), i sefydlu gwasanaeth cyngor a chymorth i helpu cymunedau i ganfod cyfleoedd i sefydlu mentrau cymdeithasol neu chwmnïau cydweithredol a arweinir gan y gymuned. Bydd yr arbenigedd a'r wybodaeth helaeth a gronnwyd gan Cwmpas a'i phartneriaid allweddol dros nifer o flynyddoedd yn gaffaeliad gwerthfawr i helpu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol newydd.
  • Bydd Cwmpas yn mynd ati i ymgysylltu â chymunedau i'w helpu i wireddu eu potensial cymdeithasol ac economaidd, ac o ran datblygu tai – potensial y gall y cymunedau hynny ei berchnogi ac elwa ohono.
  • Lle bydd asedau cymunedol i gael eu gwerthu (fel tafarndai, siopau a chyn-addoldai), byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol i chwilio am gyfleoedd iddynt berchnogi'r asedau hyn er budd y cymunedau hynny.
  • Lle bo'n bosibl, byddwn yn annog cymunedau i ymgysylltu'n llawn â blaenoriaethau strategol rhaglen Arfor 2.
Credwn y bydd hyn yn:
  • Helpu cymunedau i ddiogelu asedau a gwasanaethau lleol.
  • Creu swyddi newydd drwy hybu mentrau cymdeithasol a busnesau cydweithredol newydd. 
  • Creu cartrefi fforddiadwy a arweinir gan y gymuned i bobl eu rhentu neu eu prynu.
  • Cynnig cyfran uwch o’r cartrefi sydd eisoes yn bodoli, yn enwedig eiddo gwag, ar gyfer eu perchnogi ar y cyd ar lefel leol.

Gweithio gydag asiantaethau eiddo a rhanddeiliaid perthnasol

Gofynnodd llawer o'r ymatebion i'n Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg drafft am fwy o eglurhad am nodau’r grŵp llywio arfaethedig asiantaethau eiddo a rhanddeiliaid a'i gylch gwaith. Mae asiantaethau eiddo, cyfreithwyr, awdurdodau lleol, cynghorwyr ariannol a darparwyr morgeisi i gyd yn chwarae rhan allweddol yn y farchnad dai. Rhyngddynt, ceir arbenigedd a gwybodaeth sylweddol, ac maent i gyd yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i werthwyr a phrynwyr tai, yn ogystal â'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae disgrifiad eiddo yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr, nid yn unig i ddisgrifio'r eiddo sy'n cael ei werthu ond hefyd i ddarparu gwybodaeth am y gymuned leol, gwasanaethau lleol, cysylltiadau trafnidiaeth, darpariaeth addysg ac amwynderau lleol. Mae'r wybodaeth hon yn rhoi cyd-destun defnyddiol i brynwyr posibl gan eu bod nid yn unig yn prynu cartref newydd, maent yn dod yn aelodau newydd o'u cymunedau. Drwy weithio'n agos â rhanddeiliaid lleol, gallwn ni sicrhau bod y Gymraeg hefyd yn cael ei chydnabod yn ganolog i weithgareddau a gwasanaethau o fewn y gymuned.

Drwy weithio'n agos gydag asiantaethau eiddo a rhanddeiliaid allweddol, gallwn hefyd ddeall yn well y tueddiadau yn y farchnad dai leol. Yn ogystal, drwy gydweithio gallwn nodi cyfleoedd i ddylanwadu ar y broses werthu a phrynu i gefnogi prynwyr sydd eisiau byw a gweithio'n lleol. Mae gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gynlluniau fel Prynu Cartref - Cymru hefyd sy'n gallu helpu pobl i brynu eiddo. Bydd sefydlu grŵp llywio yn rhoi llwyfan i rannu gwybodaeth am gynlluniau penodol a'r cymorth sydd ar gael i helpu pobl i brynu neu rentu eiddo.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae asiantaethau eiddo wedi cefnogi sawl menter i godi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a'r cymunedau lleol ble maent yn rhestru eiddo ynddynt. Er enghraifft, mae asiantaethau eiddo, awdurdodau lleol a'r mentrau iaith wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru drwy ddosbarthu pecynnau gwybodaeth leol. Mae’r rhain yn rhoi gwybodaeth bwysig a defnyddiol i bobl sydd am brynu eiddo yn yr ardal. Un o nodau allweddol pecynnau o'r fath yw sicrhau bod gan bobl well dealltwriaeth o broffil ieithyddol cymunedau.

Astudiaeth Achos 4 – Gweithio gyda rhanddeiliaid

Crëwyd y cysyniad o Becyn Croeso tua 20 mlynedd yn ôl gan fentrau iaith y gogledd-orllewin mewn cydweithrediad ag asiantaethau eiddo ac awdurdodau lleol. Prif nod y pecyn oedd codi ymwybyddiaeth newydd-ddyfodiaid a darpar newydd-ddyfodiaid am y Gymraeg a’r pwysigrwydd fod pobl yn integreiddio’n llawn i’w cymunedau newydd. Mae’r pecynnau yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Sefyllfa a hanes y Gymraeg yn ein cymunedau
  • Polisïau addysg ein hawdurdodau lleol
  • Mynediad at y Gymraeg yn lleol
  • Gwasanaethau ein partneriaid
  • Manteision a chymorth i ddysgu Cymraeg

Yn ddiweddar iawn, mae pecynnau newydd wedi eu datblygu yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd ac Ynys Môn a bellach mae nifer o’r pecynnau ar gael yn ddigidol. Eleni, datblygodd Menter Iaith Môn, mewn Partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn, becyn newydd a’i ddosbarthu’n rhad ac am ddim i bob cartref ar yr ynys. Drwy wneud hyn, bu cyfle i sicrhau bod pob cartref yn derbyn gwybodaeth am fanteision defnyddio a dod yn siaradwyr Cymraeg newydd.

Roedd yn gyfle i dynnu sylw at fusnesau, lleoliadau a sefydliadau fyddai’n gallu cynnig gwasanaeth a/neu gymorth i ymarfer, defnyddio, clywed neu weld y Gymraeg. Mae gwybodaeth fel hyn yn fuddiol i siaradwyr Cymraeg hefyd. Wedi cyflwyno’r pecyn i bob cartref ar yr ynys, mae drysau ar agor yn awr i’r Fenter Iaith barhau â’r sgwrs gydag amrywiol gynulleidfaoedd. Mae hefyd yn adnodd a all gael ei ddefnyddio fel cyfeirlyfr. Gall trigolion yr ynys gyfeirio newydd-ddyfodiaid, ffrindiau o bell, ymwelwyr, cymdogion newydd ayyb at y llyfryn hwn fel cyflwyniad i’r ardal, a’r Gymraeg wrth gwrs.

Ceir linc i’r pecyn yma: Croeso Dwyieithog. Cynhyrchwyd y pecyn gan Fenter Iaith Môn mewn Partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru drwy gyfrwng rhaglen Arfor. Argraffwyd a dosbarthwyd y pecyn gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Nodau:
  • Sefydlu grŵp llywio asiantaethau eiddo a rhanddeiliaid i ddeall y farchnad dai leol yn well ac i rannu gwybodaeth am nifer o gynlluniau sydd ar gael i helpu pobl i brynu neu rentu eiddo.
Yr hyn a wnawn:
  • Fel blaenoriaeth, byddwn yn gweithio gyda'r peilot yn Nwyfor i sefydlu grŵp llywio asiantaethau eiddo a rhanddeiliaid.
  • Byddwn yn cytuno ar gylch gorchwyl y grŵp llywio ac yn nodi cyfleoedd i gydweithredu i archwilio'r potensial i greu dulliau arloesol o gefnogi prynwyr lleol i gael mynediad teg at dai lleol.
  • Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r grŵp llywio ar flaenoriaethau’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a'r peilot yn Nwyfor.
  • Yn dilyn sefydlu'r grŵp llywio yn Nwyfor, byddwn yn gwerthuso ei effeithiolrwydd cyn sefydlu grwpiau llywio mewn cymunedau Cymraeg eraill.
  • Byddwn yn gweithio gyda'r mentrau iaith ac awdurdodau lleol i sicrhau bod pecynnau croeso’n cael eu datblygu ar gyfer ein holl gymunedau Cymraeg.
  • Byddwn yn cydweithio â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a phartneriaid grant eraill ochr yn ochr â'r grŵp llywio i sicrhau bod pobl sy'n symud i gymunedau Cymraeg yn gallu cael gwersi Cymraeg a chyfleoedd i gael mynediad at yr iaith yn y gymuned.
Credwn y bydd hyn yn:
  • Darparu gwell dealltwriaeth o farchnadoedd tai lleol.
  • Rhoi mwy o gymorth i bobl leol gael mynediad at dai.
  • Darparu gwell cyfleoedd i bobl ddysgu am ein hiaith a'n diwylliant.

‘Chwarae teg' i bobl leol sydd am brynu a rhentu

Yn y farchnad fel ag y mae, deallwn y pryderon bod rhai eiddo’n cael eu gwerthu neu eu gosod cyn iddynt gael eu rhestru ar y farchnad. Tynnwyd sylw at hyn mewn ardaloedd lle mae'r galw am eiddo yn uchel. Efallai na fydd pobl leol yn ymwybodol bod eiddo ar fin cael ei roi ar y farchnad.

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i godi ymwybyddiaeth ymhlith gwerthwyr eiddo a darpar werthwyr eiddo o'r dewisiadau a'r penderfyniadau y gallant eu gwneud sydd o fudd i'w cymunedau lleol. Bydd hyn yn cynnwys creu canllawiau penodol ar y camau y gall gwerthwyr eiddo eu cymryd i gefnogi anghenion tai eu hardaloedd lleol.

Bydd y canllawiau hyn yn cynnwys cyngor ar y cyfarwyddiadau y gellir eu darparu i asiantaethau eiddo ac asiantaethau gosod eiddo i'w galluogi i farchnata eiddo o fewn ardal leol ddiffiniedig am gyfnod penodol. Mae hyn yn cynnwys gwerthwyr cartrefi ac eiddo masnachol yn ogystal ag asedau cymunedol. Byddai hyn yn rhoi cyfle i bobl o ardal wedi’i diffinio’n glir gael gweld yr eiddo a gwneud y trefniadau ariannol angenrheidiol i'w brynu neu ei rentu. Yn yr un modd, petai menter gymdeithasol neu gwmni cydweithredol lleol yn awyddus i brynu eiddo, byddai ychydig wythnosau’n cynnig amser digonol i’r cwmni baratoi pecyn ariannol. Byddai hwn yn gynllun gwirfoddol a byddwn yn ei dreialu mewn ardal benodol ac yn gwerthuso ei effeithiolrwydd cyn ei ehangu i ardaloedd eraill. Rydym hefyd yn cydnabod y bydd rhai eiddo, mewn rhai lleoliadau, y tu hwnt i bwerau prynu rhai pobl leol ac felly y gallai cyfnod byr o farchnata lleol fod yn aneffeithiol.

Bydd y canllawiau hefyd yn darparu cefnogaeth i unigolion sydd eisiau gwerthu eu heiddo i bobl leol neu sy'n fodlon gostwng y pris fel y gall eu cartref barhau i fod yn gartref teuluol. Mewn llawer o achosion, mae gwerthwyr eisiau sicrhau y bydd yr eiddo hyn yn parhau i fod ar gael i bobl leol neu i fod yn brif breswylfa. Byddwn yn ystyried sut all gosod cyfamodau sicrhau bod yr eiddo hyn yn gallu parhau i wireddu dymuniadau'r gwerthwr gwreiddiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Byddwn yn treialu'r cynllun hwn yn ardal beilot Dwyfor i ddechrau gyda'r nod o’i ymestyn i ardaloedd eraill wedi i ni werthuso ei effeithiolrwydd.

Astudiaeth Achos 5 – Cyfle teg i deulu lleol

Yn 2020 penderfynodd Angharad Blythe werthu ei thŷ, yng Ngwynedd. Ei bwriad oedd gwerthu’r eiddo i bobl leol.

Roedd Angharad wedi bod yn poeni bod cyfnod y pandemig wedi bod yn argyfyngus i’r farchnad dai yng Nghymru gyda phrisiau tai yn aml yn cynyddu’n gynt na lefel cyflogau lleol. Ac er yn cydnabod pa mor anodd yw’r penderfyniad i werthu eiddo am bris is na chynigion gan bobl y tu allan i’r ardal, roedd Angharad am wneud beth roedd hi’n ei deimlo oedd yn iawn i sicrhau cynaladwyedd cymunedau a pharhad yr iaith Gymraeg.

Gweithiodd gydag arwerthwyr tai lleol i lunio manylion y tŷ a’r gymdogaeth leol gan sicrhau fod y manylion ar gael yn Gymraeg. Defnyddiodd hefyd gyfrif Facebook ‘Rhwydwaith Menywod Cymru’, er mwyn ceisio denu prynwyr lleol neu brynwyr a oedd am ddychwelyd i’r ardal lle cawsant eu magu.

Dywedodd Angharad, “Daeth sawl un i weld y tŷ gyda’r bwriad o’i wneud yn ail gartref, ond faswn i byth wedi gallu cytuno i hynny.

“Mae’r syniad o greu cynllun Cyfle Teg yn gallu helpu pobl fel fi sydd am werthu i bobl leol. Ges i gyngor gwych gan yr asiant lleol a byddai rhoi mynediad at gyngor tebyg i fwy o bobl yn help mawr. Yn enwedig pethau bach fel gofyn i arwerthwr farchnata’r eiddo’n lleol am gyfnod penodol”.

O ganlyniad, mae’r eiddo nawr yn gartref i deulu lleol, wedi i Angharad benderfynu gwerthu ei thŷ i bobl leol am lai na’r pris gofyn ac yn llawer is na chynigion gan bobl o’r tu allan i’r ardal.

Nodau:
  • Cefnogi pobl leol i rentu neu brynu eiddo.
Yr hyn a wnawn:
  • Byddwn yn gweithio gyda phrynwyr eiddo a rhanddeiliaid perthnasol i ddatblygu cynllun gwirfoddol a fydd yn galluogi pobl leol i gael y cyfle cyntaf i brynu neu rentu eiddo.
  • Byddwn yn edrych ymhellach ar sut y gall cyfamodau ar eiddo sicrhau bod eiddo yn parhau i fod yn brif breswylfa i'w berchnogion a bod eiddo ar gael i bobl leol.
  • Mewn partneriaeth ag asiantaethau eiddo a rhanddeiliaid lleol, byddwn yn rhannu'r wybodaeth am yr ystod eang o becynnau fforddiadwy sydd ar gael a all helpu pobl i brynu neu rentu eiddo yn eu hardaloedd lleol.
Credwn y bydd hyn yn:
  • Galluogi mwy o bobl i gael cyfle teg i brynu neu rentu eiddo yn eu hardal.

Llysgenhadon Diwylliannol

Mae Cymru yn wlad groesawgar ac rydym yn annog pobl sy'n ymweld â Chymru neu sy'n penderfynu symud i Gymru i ymddiddori yn ein hiaith a'n diwylliant unigryw. Er bod pecynnau croeso ar gael i helpu pobl i ddysgu am y Gymraeg a'r gymuned leol a'i hanes a'i diwylliant, credwn y byddai sefydlu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol yn ychwanegu gwerth i’r gwaith hwn. Byddai'r Llysgenhadon yn croesawu a chwrdd â thrigolion newydd i roi gwybod iddynt am ein diwylliant a’n treftadaeth unigryw a’r iaith Gymraeg fel eu bod yn teimlo'n rhan o'r gymuned.

Mae prosiect ecoamgueddfeydd LIVE yn rhaglen ddiddorol sy'n ceisio cefnogi cymunedau arfordirol ym Mhen Llŷn a Phenrhyn Iveragh yn Iwerddon i hyrwyddo eu hasedau naturiol a diwylliannol, gan greu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy. Byddwn yn dysgu o'r wybodaeth a gafwyd drwy'r prosiect Ecoamgueddfeydd ac yn gwneud defnydd o’u profiadau helaeth.

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru datblygwyd gan Cadwyn Clwyd a weithredir gan nifer o awdurdodau lleol a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn darparu'r offer angenrheidiol i alluogi unigolion i gofrestru a gwneud modiwlau penodol sy'n darparu gwybodaeth werthfawr a gwybodaeth am Gymru a'i hatyniadau. Nod y modiwlau yw helpu eraill i ddeall a chael y gorau o'u profiad o ymweld â Chymru.

Mae Menter Iaith Môn hefyd wedi sefydlu Cynllun Pencampwyr Iaith, mewn cydweithrediad â chynghorau cymuned a thref ar draws Ynys Môn, i gefnogi cynghorau unigol i fynd ati i hybu’r defnydd o'r iaith yn y gymuned leol.

Ein bwriad yw gweithio gyda Chynllun Llysgenhadon Cymru, Ecoamgueddfeydd a Menter Iaith Môn i ddarparu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol. Rôl wirfoddol fydd hon i sicrhau nad yw’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan fudiadau lleol megis y mentrau iaith a'r Urdd yn cael ei ddyblygu.

Ein nod yw cydweithio gyda phartneriaid presennol Cynllun Llysgenhadon Cymru drwy dynnu ar eu profiad helaeth. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid presennol ar gyfer y Gymraeg fel y mentrau iaith, yr Urdd, Merched y Wawr a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ogystal, byddwn yn mynd ati i ofyn am gymorth gan sefydliadau yn y gymuned gan gynnwys cynghorau cymuned a thref, er mwyn helpu i greu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol yn ein cymunedau.

Byddwn yn datblygu cyfres o fodiwlau perthnasol a fydd yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i wirfoddolwyr am yr iaith Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru. Byddwn yn cynnal ymgyrch leol i annog pobl leol i gofrestru fel Llysgenhadon Diwylliannol gwirfoddol a rhoi cefnogaeth a chyngor parhaus i'r rhwydwaith.

Byddwn yn annog ein partneriaid sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg i weithio ochr yn ochr â’r Llysgenhadol Diwylliannol ac i rannu gwybodaeth am eu gwaith.

Astudiaeth Achos 6 – Cynllun Llysgenhadon Cymru

Sefydlwyd y Cynllun Llysgenhadon Cymru yn wreiddiol gan Cadwyn Clwyd a’i bartneriaid er mwyn cryfhau'r cyswllt rhwng sefydliadau a oedd yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth. Rhoddwyd gwahoddiad i fusnesau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i fynychu nifer o ddigwyddiadau a gweithdai hyfforddiant. Anogwyd y mynychwyr i ddefnyddio cynnyrch lleol, darparwyd ffeithiau ac ystadegau o effaith twristiaeth ar yr economi leol ynghyd â darparu gwybodaeth gyffredinol am yr ardal.

Ar ôl ymchwilio i Gynlluniau Llysgenhadon eraill ar draws y DU a thu hwnt, penderfynwyd datblygu'r cynllun ymhellach drwy gynnig gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Derbyniwyd cyllid a chymorth swyddog gan Cadwyn Clwyd drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig (ariannwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru) a Chyngor Sir Ddinbych. Cafodd Cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych ei sefydlu o’r newydd yn 2017.

Mae’r cynllun presennol yn darparu hyfforddiant i bobl drwy rannu gwybodaeth am yr hyn y mae diwydiant twristiaeth Sir Ddinbych yn ei gynnig. Y bwriad yw darparu gwybodaeth sylfaenol am adnoddau naturiol, diwylliannol a hanesyddol yr ardal. Yn ganolog i hyn oll y mae gwella ac ehangu profiad a gwybodaeth yn lleol ac i ymwelwyr.

Mae’r cynllun Llysgenhadon yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau hyfforddiant ar-lein ar amrywiol themâu ynghyd ag adnoddau defnyddiol a pherthnasol.

Mae’r cynllun yn parhau i ehangu a bellach ceir ystod eang o Lysgenhadon sy’n cynnwys pobl leol, darparwyr llety ac atyniadau, siopau, tafarndai, myfyrwyr, staff llyfrgell, staff gwybodaeth twristiaeth, tywyswyr a gwirfoddolwyr.

Nodau:
  • Hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg ymhlith trigolion newydd yn ein cymunedau.
  • Sefydlu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol.
Yr hyn a wnawn:
  • Mewn partneriaeth â Chynllun Llysgenhadon Cymru, byddwn yn sefydlu cwrs ar-lein a fydd yn cynnwys cyfres o fodiwlau perthnasol i unigolion sydd am ymgymryd â'r rôl wirfoddol i hybu a chodi ymwybyddiaeth o ddiwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg.
  • Byddwn yn treialu’r Cynllun Llysgenhadon Diwylliannol yn Nwyfor cyn ei ehangu i gymunedau Cymraeg eraill.
  • Byddwn yn parhau i weithio gydag aelodau presennol Cynllun Llysgenhadon Cymru i ddysgu o'u profiadau wrth recriwtio a chefnogi eu llysgenhadon.
  • Byddwn yn annog ein partneriaid ym maes y Gymraeg, y mentrau iaith a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn benodol i weithio'n agos â'r rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol i archwilio sut gall y Llysgenhadon ategu at eu gwaith.
  • Byddwn yn sicrhau bod y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn eitem sefydlog ar agenda Grŵp Hyrwyddo'r Gymraeg. Mae'r Grŵp yn cynnwys y prif fudiadau sy'n hyrwyddo defnydd o'r iaith a bydd yn gallu cefnogi'r mentrau cymunedol sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun.
  • Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y Llysgenhadon Diwylliannol yn ymwybodol o flaenoriaethau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg lleol, yn enwedig y ddarpariaeth trochi iaith hwyr sydd ar gael ym mhob ardal.
  • Os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried ehangu’r Cynllun Llysgenhadon Diwylliannol y tu hwnt i gymunedau Cymraeg.
Credwn y bydd hyn yn:
  • Galluogi mwy o bobl sy'n byw yn ein cymunedau ac sy’n ymweld â nhw i gael gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg.
  • Galluogi mwy o bobl i gymryd camau tuag at ddysgu Cymraeg a dod yn siaradwyr Cymraeg newydd ac felly integreiddio'n llawn yn eu cymunedau newydd.

Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Yn sgil cyhoeddi'r adroddiad Ail Gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru (Mawrth 2021), fe wnaethom gadarnhau y byddwn yn sefydlu Comisiwn i wneud argymhellion i’r Llywodraeth er mwyn diogelu dyfodol yr iaith fel iaith gymunedol. Bydd y Comisiwn yn arwain ar ddadansoddiad ieithyddol-gymdeithasol o sefyllfa'r iaith yn ein cymunedau. Bydd yn ystyried yr heriau y mae cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu ac yn meithrin gwell dealltwriaeth o heriau ieithyddol, economaidd-gymdeithasol ac ailstrwythuro cymdeithasol yn sgil COVID-19 a phenderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ers hanner canrif a mwy, bu dirywiad yng nghryfder y Gymraeg yn nifer o'n cymunedau Cymraeg. Mae'r rhesymau am hyn yn gymhleth ac amlweddog, ond mae materion allweddol wedi cynnwys ailstrwythuro economaidd mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol a gwledig, heriau o fewn y farchnad dai, a mudo ymhlith pobl ifanc wedi hynny. Rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â'r heriau hyn, a bydd gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ein helpu i wneud hynny.

Gall newidiadau cymdeithasol helpu i wyrdroi rhai o'r tueddiadau hirdymor hyn. Er enghraifft, mae symud gweithleoedd ar-lein yn lleihau'r pellter rhwng ein cymunedau traddodiadol Cymraeg a'n marchnadoedd cyflogaeth yn o leiaf rhai sectorau o'r economi. Gallai hyn helpu i gadw mwy o bobl ifanc yn y cymunedau hyn yn y dyfodol.

Ond bydd hyn hefyd yn cyflwyno heriau o ran cynllunio ieithyddol. Gallai gweithleoedd hybrid olygu bod mwy o bobl yn symud i'n cymunedau Cymraeg. Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig am allu'r system addysg i gefnogi nifer cynyddol o blant o gartrefi di-Gymraeg.

Trwy gymryd agwedd gyfannol at faterion fel y rhain, bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn gwneud argymhellion ar draws nifer o feysydd polisi a fydd yn helpu i ddiogelu a datblygu'r Gymraeg yn y cymunedau hyn.

Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd y Comisiwn yn dadansoddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn ogystal â thystiolaeth ystadegol arall. Bydd hyn yn helpu'r Comisiwn i benderfynu sut y gellir datblygu dulliau ar y cyd o safbwynt cynllunio ieithyddol. Bydd y Comisiwn yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd cymunedau o safbwynt y Gymraeg. Bydd rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys nodi meysydd o sensitifrwydd ieithyddol penodol lle gallai fod yn briodol gwneud argymhellion polisi cyhoeddus wedi'u teilwra neu gymryd camau penodol.

Mae'r Comisiwn eisoes wedi cael ei sefydlu ac wedi dechrau ar ei waith. Bydd y Comisiwn yn llunio adroddiad cynhwysfawr a fydd yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Nodau:
  • Datblygu argymhellion polisi ar draws nifer o feysydd a fydd yn helpu i ddiogelu a datblygu'r Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg.
Yr hyn rydym wedi'i wneud:
  • Lansiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion.
  • Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi penodi arbenigwyr sydd â phrofiad ac arbenigedd mewn ystod eang o feysydd perthnasol i fod yn aelodau o'r Comisiwn.
  • Cynhaliodd y Comisiwn ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi i wneud trefniadau i gasglu tystiolaeth mewn meysydd polisi allweddol.
  • Mae'r Comisiwn wedi cytuno i baratoi adroddiad cynhwysfawr o fewn dwy flynedd.
Credwn y bydd hyn yn:
  • Galluogi gwell dealltwriaeth o'r heriau ieithyddol-gymdeithasol sy'n wynebu ein cymunedau Cymraeg.
  • Gwneud argymhellion i lywio ymyraethau polisi yn y dyfodol ar draws Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth hon.

Enwau lleoedd

Cydnabyddir yn eang bod enwau lleoedd yn rhan gynhenid o dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol. Maent yn arbennig o bwysig i naws weledol a chlywedol cadarnleoedd y Gymraeg, a chydnabyddwn pa mor bwysig yw hi i drysori'r cyfoeth o enwau lleoedd Cymraeg.

Mae sawl math o enw ac mae'r heriau sy'n berthnasol i bob un ychydig yn wahanol. Caiff enwau aneddiadau (er enghraifft, enwau trefi, pentrefi a dinasoedd), er enghraifft, eu safoni gan Gomisiynydd y Gymraeg, ac mae eu henwau fel y cyfryw yn rhai sefydledig ac anaml iawn y byddant yn cael eu newid. Ar lefel gymunedol, fodd bynnag, mae yna gyfoeth o enwau ar gyfer nodweddion daearyddol, daliadau tir ac eiddo, gan gynnwys ffermydd a thai. Mae llawer o'r rhain yn hanesyddol, ond maent yn fwy cyfnewidiol nag enwau aneddiadau.

Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i weithio i ddiogelu enwau lleoedd Cymru, ac mae hyn wedi’i atgyfnerthu gan y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi llunio Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, sef yr unig gofnod statudol o enwau lleoedd hanesyddol yn y DU. Un o’i phrif amcanion yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfoeth o enwau hanesyddol yng Nghymru a'u pwysigrwydd fel rhan o'n treftadaeth ddiwylliannol. Crëwyd y rhestr yn 2017, a sefydlodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru grŵp gorchwyl a gorffen y llynedd i adolygu’r gwaith hyd yn hyn ac i lunio argymhellion at y dyfodol. Cyhoeddodd y grŵp Adroddiad Pum Mlynedd – Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru ym mis Gorffennaf 2022, a oedd yn cynnwys sawl argymhelliad cadarnhaol i wahanol gyrff cyhoeddus eu gweithredu.

Mae newidiadau i enwau tai yn peri pryder ar hyn o bryd. Mae'r canllawiau statudol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried y Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol wrth ymdrin â cheisiadau ffurfiol i ailenwi eiddo. Mae rhai newidiadau ffurfiol yn digwydd, ond yn aml gall arwydd gael ei osod ar dŷ heb newid ei enw yn swyddogol, neu gall enw busnes gael ei ychwanegu at gyfeiriad sy'n bodoli eisoes. Un o'r pethau cyntaf y mae angen i ni ei wneud a dyma un o argymhellion pwysicaf y Comisiwn Brenhinol yw comisiynu ymchwil i sefydlu union raddfa'r broblem. Ar hyn o bryd mae bylchau mawr yn yr wybodaeth sydd gennym ar draws Cymru, ac mae angen mwy o dystiolaeth nid yn unig am nifer yr enwau sy'n newid, ond hefyd sut, pam a ble maent yn newid. Rydym felly’n blaenoriaethu ymchwil yn y meysydd hyn er mwyn gosod sylfaen i gymryd camau pellach i warchod enwau Cymraeg.

Y man cychwyn yn y tymor byr hefyd yw tynnu sylw at fentrau sydd wedi gweithio ar lefel leol i warchod enwau lleoedd. Mae'r rhain yn cynnwys ymyraethau megis pecynnau croeso, prosesau awdurdodau lleol ar gyfer enwi eiddo newydd ac ymgyrchoedd gan grwpiau buddiant lleol. Yn ogystal, byddwn yn archwilio sut y gellir hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd enwau Cymraeg mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, archwilio sut mae gwahanol awdurdodau lleol yn dehongli eu rôl yn y maes hwn, sut i farchnata'r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol yn well, a phecynnau croeso a gwybodaeth well i brynwyr eiddo ar draws Cymru.

Nodau:
  • Diogelu etifeddiaeth ieithyddol Gymraeg ein hamgylchedd adeiledig a'n topograffi.
Yr hyn a wnawn:
  • Byddwn yn comisiynu ymchwil i ddysgu mwy am sut, pam a lle mae enwau lleoedd yn newid, i'n galluogi i ddatblygu ymyraethau polisi wedi'u targedu.
  • O ran enwau daearyddol, yn ogystal â'r ymchwil a grybwyllwyd uchod i ddeall yn well y prosesau y tu ôl i newidiadau, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a busnesau, yn ogystal â chartograffwyr amlwg, i warchod enwau daearyddol yn well yn yr amgylchedd naturiol.
  • Byddwn yn archwilio sut y bydd awdurdodau lleol yn cyflawni eu rôl yn y maes gwaith hwn i sicrhau bod pob cam posibl yn cael eu cymryd i warchod enwau lleoedd.
  • Byddwn yn ystyried y defnydd diweddar o gyfamodau i warchod enwau tai ac yn archwilio sut y gellir defnyddio’r rhain yn ehangach yn y dyfodol.
  • Byddwn yn archwilio'r defnydd o becynnau trawsgludo fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o werth enw eiddo penodol.
  • Byddwn yn ystyried ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o Restr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru a'i hyrwyddo.
Credwn y bydd hyn yn:
  • Ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o rolau gwahanol asiantaethau ac awdurdodau o ran gwarchod enwau lleoedd ac enwau tai Cymraeg.
  • Ein galluogi i lunio ymyraethau priodol i warchod enwau Cymraeg yn well.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o enwau lleoedd Cymreig a hanesyddol o bob math, a mwy o werthfawrogiad o'u gwerth.
  • Gwarchod enwau lleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, fel rhan o'n treftadaeth hanesyddol ac fel arwydd gweledol o’n cymunedau byw.