Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, rwyf yn lansio’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Cyhoeddais fy mwriad i sefydlu Comisiwn o’r fath yn gynharach eleni.
Bydd y Comisiwn yn ein helpu i ddatblygu polisïau’r dyfodol ar gyfer cynnal yr iaith yn y cymunedau hynny a ystyrir yn draddodiadol fel ei chadarnleoedd. Dyw hyn ddim yn ymwneud â sefydlu corff newydd, mae'n grŵp o arbenigwyr mewn amryw o feysydd a fydd yn rhoi barn hollol onest i ni am sut mae'r economi, penderfyniadau polisi a demograffeg yn effeithio ar y Gymraeg ar lawr gwlad.
Mae cryfhau seiliau cymunedol ein hiaith yn wyneb newidiadau sosio-economaidd a chymdeithasol yn hanfodol er mwyn cynnal a chynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau hyn, ac felly yn ganolog i weledigaeth Cymraeg 2050-Miliwn o siaradwyr. Er mwyn i'r Gymraeg ffynnu mae angen cymunedau cynaliadwy a chyfleoedd gwaith da yn yr ardaloedd lle mae'n cael ei siarad yn eang.
Mae sefydlu’r Comisiwn hefyd yn adlewyrchu’n hymrwymiad i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws pob elfen o’n gwaith ni yn Llywodraeth Cymru. Sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei hystyried yng nghyd-destun gwaith pob tîm, ym mhob adran ar draws y Llywodraeth, bob tro.
Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cyhoeddi adroddiad cyn pen dwy flynedd. Bydd yr adroddiad hwn yn gwneud argymhellion polisi ac yn ystyried pa ymyraethau allai fod yn fuddiol o ran ymateb i gyd-destunau sosio-economaidd, cymdeithasol ac addysgol sydd yn effeithio ar gynaliadwyedd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Gall hefyd gynnig argymhellion o ran polisi iaith mewn modd mwy uniongyrchol.
Yn ogystal, bydd y Comisiwn yn cynnig dadansoddiad o ganlyniadau cyfrifiad 2021 yn ein cymunedau Cymraeg. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddeall yn well beth yn union yw sefyllfa gyfredol ein hiaith. Bydd y gwaith hwn yn adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol lle y gall fod angen ymyrraeth polisi benodol er mwyn cefnogi a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Yn dilyn cyflwyno argymhellion i’r Llywodraeth ynghylch y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, bydd y Comisiwn wedyn yn ystyried dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd eraill o Gymru.
Bydd y Comisiwn yn cael ei gadeirio gan Dr. Simon Brooks. Rwy’n falch heddiw o gyhoeddi enwau aelodau’r Comisiwn i gyd. Bydd yr aelodau yn gwasanaethu yn ystod y cyfnod pan ystyrir y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol. Dyma’r aelodau:
- Talat Chaudhri
- Lowri Cunnington Wynn
- Cynog Dafis
- Meinir Ebbsworth
- Delyth Evans
- Dafydd Gruffydd
- Myfanwy Jones
- Shan Lloyd Williams
- Cris Tomos
- Rhys Tudur
Fel rwyf wedi dweud sawl gwaith, mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd—felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Bydd rhaid i ni neud rhai newidiadau dewr a pheidio bod ofn mynd i'r afael â materion sydd weithiau’n anodd gyda'n gilydd. Rwy'n siŵr y gallai peth o'r hyn y bydd y Comisiwn yn ei ddweud wrthym fod yn eithaf heriol - ond yn hollbwysig, dyna fydd yn ein helpu i lunio'r camau gweithredu mwyaf effeithiol".
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.