Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg: ymateb y llywodraeth
Ein hymateb i argymhellion yr adroddiad ar effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg: canfyddiadau arolwg, a oedd yn dadansoddi gweithgarwch grwpiau cymunedol Cymraeg yn sgil COVID-19. Llywiwyd datblygiad yr adroddiad gan Is-grŵp Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, Cynyddu’r Defnydd o’r Gymraeg. Ychydig wedi cyhoeddi’r adroddiad, cyhoeddodd y Gweinidog Ddatganiad Ysgrifenedig yn nodi argymhellion yr is-grŵp.
Mae’r papur isod yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru i bob un o’r argymhellion hynny. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys nifer fawr o bwyntiau gweithredu. Byddwn ni’n cychwyn ar y gwaith yn syth gan bwysleisio hefyd o’r cychwyn bod meithrin gallu a datblygu a grymuso cymunedol (elfennau mae’r argymhellion yn mynd i’r afael â nhw) yn brosesau tymor hir y byddwn ni’n eu dilyn er mwyn cael y canlyniadau gorau i’r Gymraeg.
Egwyddorion
- Byddwn ni’n gweithio ar y cyd i weithredu’r ddogfen hon sef cyd-greu gyda’n partneriaid, yn yr un modd ag y gwnaethon ni wrth greu’r adroddiad.
- Yn ganolog i’n gweithredu byddwn ni’n cydnabod ac yn annog cysyniad gofodau uniaith Gymraeg - creu gofodau y gallwn ni ddefnyddio’n Cymraeg yn ddi-rwystr ynddyn nhw.
- Lle bo angen newid dulliau gwaith, byddwn ni’n cydweithio ac yn er mwyn cefnogi er mwyn meithrin gallu i wireddu newidiadau.
- Bydd model grymuso cymunedol yn ganolog i’n gwaith - a’r gwaith rydyn ni’n ei ariannu.
- Byddwn ni’n estyn y tu hwnt i fudiadau rydyn ni’n eu hariannu a’r tu hwnt i fudiadau Cymraeg er mwyn denu rhagor i weithredu o blaid ein hiaith. A byddwn ni’n disgwyl i’r cyrff rydyn ni’n eu hariannu wneud yr un fath.
- Byddwn ni’n adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio, yn gwthio ffiniau ac yn arbrofi gyda dulliau newydd o weithio. Ac os na fydd y dulliau newydd hynny, na’r rhai cyfredol yn gweithio, byddwn ni’n agored am hynny, yn dysgu o hynny, ac yn addasu beth rydyn ni’n ei wneud.
Gweithredoedd
Yn ogystal â’r pwyntiau gweithredu penodol sydd ynghlwm wrth bob argymhelliad, byddwn ni’n:
- trafod pa newidiadau y mae eu hangen i’n cynllun grant, neu i dargedau’n cynllun grant, i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu
- sicrhau cydlynu rhwng ein holl waith cyfredol a gwaith newydd a grëir drwy’r ddogfen hon
- ystyried pa gyfraniadau allai fod gan holl adrannau Llywodraeth Cymru i’w gwneud i weithredu’r argymhellion hyn
- cydlynu, ac yn sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw eu rôl ac arwyddocâd eu cyfraniad. Bydd hynny’n sicrhau bod adnoddau prin yn cael eu defnyddio i’r eithaf a’n bod ni’n osgoi dyblygu
- edrych ar y systemau/strwythurau sy’n cefnogi gwaith cyfredol er deall a ydyn nhw’n addas at waith y dyfodol
- ystyried pa ymchwil bellach sydd ei heisiau arnon ni er mwyn bwrw ymlaen â’n gwaith
- seilio gwaith newydd, ac yn addasu gwaith cyfredol ar theori newid fel bo canlyniadau a ddymunir yn eglur o’r cychwyn cyntaf. Byddwn ni’n dysgu ac yn addasu lle na fydd llwyddiant yn amlwg
- archwilio pa fodelau newid/datblygu sefydliadol y dylen ni eu defnyddio er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn yn yr holl waith y byddwn ni’n ei wneud ar y cyd
Argymhelliad 1 – ailddechrau grwpiau cymunedol Cymraeg
Dylai Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Mentrau Iaith ailgysylltu cyn gynted â phosib gyda’r grwpiau cymunedol hynny a nododd yn yr arolwg eu bod yn annhebygol o ailddechrau wedi’r pandemig fesul un i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ei hangen i’w cynorthwyo i ailddechrau gweithredu yn unol â’u dymuniad. Dylid cyflawni hynny gyda gweithredu cymwys i alluogi’r gweithgareddau i ailddechrau gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol lleol er mwyn sicrhau’r gefnogaeth briodol.
Pwyntiau Gweithredu
- Byddwn ni’n ailgysylltu, ar y cyd â phartneriaid perthnasol, gan gasglu gwybodaeth o beth yn union yw’r anghenion lleol. Byddwn ni’n asesu pa gefnogaeth sydd ei hangen ar y grwpiau er mwyn ailddechrau ac yn penderfynu pwy sydd yn y lle gorau i ddarparu’r gefnogaeth honno. Byddwn ni hefyd yn asesu a oes grwpiau/gwaith a allai fod wedi cyrraedd diwedd eu hoes a beth y dylid ei wneud yn lle hyn.
- Byddwn ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r Mentrau Iaith, y grwpiau eu hunain, a phartneriaid perthnasol eraill i gynllunio a gweithredu’r gwaith ailgysylltu ac ailgychwyn hwn.
- Wedi casglu’r wybodaeth hon, awn ati i wahodd cyrff eraill i mewn i’r gwaith o gefnogi’r grwpiau hyn, er enghraifft Cyngor Celfyddydau, Cyngor Chwaraeon a’r Cynghorau Gwirfoddol Lleol (eto, fel ymhob achos yn y ddogfen hon lle enwir sefydliadau neu brosiectau, nid yw’r rhestr yn holl gynhwysfawr).
- Byddwn ni’n cynnal trafodaeth gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru er mwyn sicrhau llif gwybodaeth gyson ynglŷn â chymorth i ail-ddechrau neu ail-godi gweithgarwch gan sicrhau bod yr wybodaeth yn cyrraedd mudiadau neu grwpiau Cymraeg.
- Byddwn ni’n archwilio potensial mentora rhwng cyrff i gyd-feithrin gallu eu pwyllgorau rheoli a’u staff.
Argymhelliad 2: cynhwysedd digidol
Dengys yr arolwg y ceir nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u hallgáu o gymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y rhwystrau sydd yn bodoli o ran diffyg mynediad i rwydwaith ddigidol ac i godi sgiliau digidol.
Pwyntiau Gweithredu
Mae sawl thema yn berthnasol i’r argymhelliad hwn:
- Band Eang (argaeledd daearyddol ledled Cymru)
- Yr angen i feithrin sgiliau digidol/llythrennedd digidol
- A oes gan y bobl/sefydliadau iawn ddigon o offer yn y llefydd iawn
- Yr angen am gael cyfieithu ar y pryd mewn meddalwedd fideogynadledda
Byddwn ni’n:
- adnabod, hwyluso a - lle bo angen - sicrhau creu darpariaeth/cyngor ym maes cynhwysedd digidol drwy gyfrwng y Gymraeg
- adnabod ardaloedd neu feysydd nad oes cefnogaeth ynddyn nhw, gan annog cydweithio a rhannu sgiliau gyda phartneriaid ac eraill ar lefel leol
- cydweithio gyda chwmnïau meddalwedd er mwyn sicrhau bod cyfieithu ar y pryd wedi’i alluogi fel nodwedd y mae modd ei ddefnyddio’n eang
- cydweithio rhwng y maes polisi iaith a pholisi cynhwysedd digidol gyda’r nod o gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y gefnogaeth/ hyfforddiant i uwchsgilio digidol ymhlith grwpiau cymunedol Cymraeg
- cefnogi’r gwaith o feithrin gallu digidol
- sicrhau rhannu gwersi gan sefydliadau Cymraeg sydd eisoes wedi datblygu gweithgarwch digidol yn ystod y pandemig i alluogi sefydliadau eraill gynyddu eu gweithgarwch/sgiliau cyfrifiadurol
- trafod pa synergeddau a allai godi o feithrin perthynas rhwng ein partneriaid a gwaith cynhwysedd digidol
- cysylltu gydag asiantaethau sydd yn cefnogi grwpiau cymunedol ac yn darparu cymorth a chyngor ym maes cynhwysedd digidol drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’u gwaith cyffredinol. Y nod fydd tynnu sylw at hyfforddiant/cefnogaeth ddigidol sydd ar gael. Byddwn ni’n annog cydweithio a rhannu sgiliau gyda phartneriaid ac eraill ar lefel leol a allai gefnogi’r gwaith o gynyddu cynhwysedd digidol
Argymhelliad 3: clybiau chwaraeon a grwpiau celfyddydol/perfformio
Dylai Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru roi mwy o sylw i rôl clybiau chwaraeon a grwpiau celfyddydol/perfformio yng nghyd-destun cynllunio ieithyddol er mwyn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Pwyntiau gweithredu
Byddwn ni’n:
- trafod â Chyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch pa gefnogaeth sy’n briodol i’w rhwydweithiau o grwpiau cymunedol, celfyddydol a chwaraeon i gynyddu eu defnydd rhyngbersonol o’r Gymraeg
- defnyddio methodoleg datblygu sefydliadol i weld pa gyfraniad y gall sefydliadau eraill hefyd ei wneud i bolisi iaith, drwy ein gwaith sy’n deillio o’n rhaglen ‘Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog’ a gynhelir ar y cyd ag Academi Wales
- gweithio gyda chyrff perthnasol a chontractwyr rydyn ni’n eu hariannu er mwyn sicrhau eu bod nhw’n deall sut i sicrhau bod amcanion ac ysbryd Cymraeg 2050 yn eu gwaith, a’u hannog i ddatblygu prosiectau a pholisïau sy’n ymwneud â’r Gymraeg sy’n ychwanegol i’r hyn sy’n ddisgwyliedig yn y Safonau Cyflenwi Gwasanaethau er mwyn cefnogi’r amcan o gynyddu defnydd rhyngbersonol o’r Gymraeg
- gweithio’n agos gyda rheolwyr grant ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau eu bod nhw’n deall pa gyfraniad y gallan nhw a’u cynlluniau grant ei wneud i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- edrych ar y prosiectau/ymgyrchoedd sydd wedi bodoli yn y gorffennol ac sydd eisoes ar waith i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y sector chwaraeon a chelfyddydol er mwyn gweld beth mae modd ei ddysgu ohonyn nhw
- ystyried, ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, pa fudd cymunedol pellach y gallwn ei greu, gan ddefnyddio hynny er mwyn creu ffocws i waith ddatblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol mewn ardal fydd yr Eisteddfod yn bwriadu ymweld ag ef (h.y. yn y blynyddoedd cyn Eisteddfod)
- gwahodd yr holl sefydliadau perthnasol, i weithio gyda’n gilydd i greu gwaddol strategol hir-dymor pellach i’r Eisteddfod. Mae gwaddol yr Eisteddfod Genedlaethol wrth gwrs eisoes yn sylweddol a’n nod fyddai adeiladu ar y cryfder a’r wybodaeth gymunedol gwerthfawr a grëir er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
Argymhelliad 4: cynllunio iaith micro a swyddogaeth y Mentrau Iaith
Dylid datblygu rôl y Mentrau Iaith i weithio ar lefel micro mewn mwy o gymunedau drwy ehangu ffocws grant Llywodraeth Cymru i’r Mentrau Iaith er mwyn creu cynlluniau i gefnogi gwaith penodol mudiadau cymunedol Cymraeg, a gweithgarwch sy’n unol ag egwyddorion cynllunio ieithyddol ar lefel leol. Dylid gweithredu ar sail egwyddorion datblygu cymunedol ar gyfer ymateb i anghenion lleol (gweler y ddogfen Gweithredu’n Lleol). Dylid ehangu capasiti a chyllid i’r Mentrau iaith er mwyn helpu cyflawni hyn.
Pwyntiau Gweithredu
Rydyn ni’n disgwyl i’r gwaith y byddwn ni’n ei wneud i ymateb i’r argymhelliad hwn gyda’r darnau mwyaf swmpus a thymor hir o’r holl waith sy’n deillio o’r Adroddiad.
Gallai’r heriau y mae Brexit a COVID-19 yn eu codi fod yn arwyddocaol i bolisi iaith yn y tymor hir. Yn sgil COVID-19 yn benodol, rydyn ni’n disgwyl effaith o ran sut rydyn ni’n cymdeithasu, byw ein bywydau, ac yn gweithio. Oherwydd y newidiadau hyn, mae’n amlwg bod angen i’r ffordd rydyn ni’n gweithio esblygu. Byddwn ni’n cyd-drafod ac yn creu disgwyliadau newydd - oherwydd bod y tir rydyn ni’n gweithredu arno wedi newid.
- Byddwn ni’n cydweithio er mwyn sicrhau bod yr adnoddau iawn yn y lle iawn i ailegnïo’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg. Gallai hyn, ymhlith llawer o bethau eraill, olygu buddsoddi cyfalaf er mwyn i sefydliadau fod yn agos at eu cynulleidfa darged. Gallai hefyd olygu bod mudiadau sydd ddim ar hyn o bryd yn gweithredu ym maes polisi iaith, neu ddim yn gweithredu ynddo i’r graddau y gallen nhw, wneud cyfraniad mwy arwyddocaol i ysbryd Cymraeg 2050.
- Byddwn ni’n edrych ar fodelau datblygu cymunedol ledled y byd er mwyn gweld beth gallwn ni ei ddysgu ohonyn nhw ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
- Byddwn ni’n sicrhau bod gwaith diweddar y Mentrau Iaith i greu proffiliau iaith newydd yn rhan lawn o weithredu’r argymhelliad hwn.
- Yn y cyd-destun newydd, byddwn ni’n sicrhau bod gwaith i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn cael ei wneud yn y lle iawn, gan y sefydliad neu’r bobl iawn. Mae gan y Mentrau Iaith rôl a diddordeb amlwg yn y maes - gyda’r Mentrau ac eraill, byddwn ni am greu partneriaethau â sefydliadau eraill er mwyn ychwanegu gwerth pellach at waith cyfredol y Mentrau ac eraill.
- Ein nod fydd datblygu a grymuso pobl i’w galluogi i helpu eu hunain ac wedyn iddyn nhw helpu pobl eraill i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod daearyddiaeth ieithyddol Cymru yn amrywio a byddwn ni hefyd yn ystyried hyn yn ein gwaith.
- Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt am gyfraniad gwirfoddolwyr a sefydliadau lu i fyd cynllunio iaith yng Nghymru. Mewn perthynas agos â nhw, rydyn ni am adeiladu ar eu gwaith a throi’n golygon at ba waith newydd sydd ei angen er mwyn ymateb i’r argymhelliad hwn.
- Bydd angen blaenoriaethu’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Felly wrth i ni wneud gwaith newydd, byddwn ni’n mynd i’r afael â beth y mae angen ei oedi a/neu pa waith sydd angen ei addasu neu ei ddirwyn i ben.
- Bydd ein gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd ymchwil a data yn ganolog i’n gwaith cynllunio.
- Byddwn ni’n adolygu llenyddiaeth ac arfer gorau ym myd datblygu cymunedol yn rhyngwladol er mwyn gweld beth y gellir rhoi ar waith yng Nghymru er bydd y Gymraeg.
- Byddwn ni’n edrych o’r newydd ar ganllawiau Gweithredu’n Lleol - ac yn eu haddasu, a’u diweddaru ar gyfer anghenion cymunedau amrywiol yn sgil y newidiadau uchod.
Byddwn ni’n bwydo’r gwaith hwn i’n rhaglenni cynllunio gwariant
Argymhelliad 5: ariannu prosiectau
Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu dull o ariannu prosiectau i hwyluso a gweithredu ar lefel gymunedol i sicrhau hyfywedd y Gymraeg. Dylai hyn gynnwys creu mecanwaith a fydd yn medru tynnu ar gronfeydd ariannol amrywiol Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cyd-fynd â’r nod o hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg drwy holl weithgarwch y llywodraeth, ar lefel Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
Pwyntiau Gweithredu
Byddwn ni’n:
- cydweithio â chyrff dyrannu grantiau yng Nghymru i ystyried sefydlu cynllun grant bach a/neu gronfa her i gynyddu defnydd rhyngbersonol o’r Gymraeg
- ystyried modelau posibl i ysgogi gweithredu ar lefel gymunedol sydd yn cynnwys grymuso cymunedau. Mi allai’r gwaith hwn gynnwys cronfeydd her, fel y nodwyd uchod, cronfeydd cyfalaf a dulliau ariannu eraill
- adolygu canlyniadau/dylanwad ein gwaith a hynny ar y cyd â derbynwyr grant er mwyn adnabod arfer da a dysgu a dogfennu gwersi a methiannau a’r hyn ddysgwyd er mwyn gwella’r gwaith
- sicrhau bod ysbryd Cymraeg 2050 yn cael ystyriaeth lawn o fewn holl gynlluniau grant perthnasol Llywodraeth Cymru
- tynnu sylw partneriaid perthnasol i gronfeydd ariannol y tu hwnt i grantiau cyfredol a allai gyfrannu at weithredu’r argymhellion hyn
Argymhelliad 6: cydbwysedd rhwng y cenedlaethau
Pwyntiau Gweithredu
Noder proffil oedran hŷn llawer o’r cymdeithasau Cymraeg presennol. Dylid bwrw ati i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr cymunedol er mwyn sicrhau olyniaeth arweinyddiaeth mewn cymdeithasau a grwpiau cymunedol. Gellid cynnig cyfleoedd gwirfoddoli mewn cymdeithasau cyfrwng Cymraeg, ond hefyd brentisiaethau, profiadau gwaith a chyfleoedd i feithrin sgiliau. Gallai hwyluso a chefnogi’r trefniadau fod yn rhan o waith Mentrau Iaith a mudiadau cymdeithasol Cymraeg, ond mae angen hefyd eu hintegreiddio mewn cynlluniau ar draws Llywodraeth Cymru sydd yn datblygu arweinyddiaeth gymunedol ar hyd a lled Cymru.
Byddwn ni’n:
- edrych ar enghreifftiau o arfer da yn y maes o ddenu gwirfoddolwyr/aelodau newydd ac iau a sut gallwn ni ymgorffori hyn o fewn amcanion mudiadau cymunedol cyfrwng Cymraeg
- sicrhau bod ein gwaith i ddatblygu arweinyddiaeth gymunedol yn ymgorffori ysbryd Cymraeg 2050
- cydweithio’n fewnol ac â mudiadau ieuenctid er mwyn datblygu cysyniad o gynllun i greu arweinwyr ieithyddol a chymunedol y dyfodol
- archwilio cyfraniad posibl yr economi gylchol i gefnogi cymunedau/arweinwyr y dyfodol
- edrych ar bosibiliadau creu cynlluniau paru/mentora rhwng y cenedlaethau
- annog ac yn hwyluso cynllunio olyniaeth yn y sefydliadau rydyn ni’n cydweithio â nhw
- archwilio’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a’r byd yn ehangach o ran sut mae creu arweinwyr cymunedol
- dadansoddi beth yw cyfraniad posibl ein gwaith gyda’r Siartr Iaith a’i rhaglenni cysylltiedig yn y sector uwchradd i greu arweinwyr cymunedol ac ieithyddol y dyfodol
- dysgu o brofiad a llwyddiannau Mudiad y Ffermwyr Ifanc, Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfodau Bach, Mudiad Meithrin a’r Mentrau Iaith ac eraill o greu arweinwyr y dyfodol ac yn creu’r cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol
- archwilio beth yw cyfraniad posibl BAC Cymru i gyfrannu at agenda datblygu arweinwyr cymunedol ar gyfer y Gymraeg
- gwahodd Senedd ieuenctid Cymru i gydweithio â ni
- annog paru sefydliadau gwirfoddol gyda chwmnïau sector preifat i gynnig cyfleoedd mentora i swyddogion ifanc
Argymhelliad 7: mentrau cymdeithasol a chydweithredol
Dylid creu mwy o fentrau cymdeithasol/cydweithredol cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli cyfrwng Cymraeg yn ein cymunedau.
Pwyntiau Gweithredu
- Rydyn ni’n cytuno bod gan fentrau/cwmnïau cymdeithasol a chydweithredol gyfraniad sylweddol i’w wneud i gynyddu’r defnydd o’n hiaith - rydyn ni hefyd yn cytuno bod llawer iawn o fuddion eraill yn deillio o’r dull hwn o weithio (yn rhai economaidd, cymdeithasol a chymunedol ayb). Mae’r cyfalaf cymdeithasol-ieithyddol sy’n deillio ohonyn nhw yn fawr a gallai ehangu ar eu nifer ychwanegu ymhellach at ein gwaith i roi Cymraeg 2050 ar waith.
- Bydd y mentrau/cwmnïau newydd hyn yn creu cynnyrch o wahanol fathau. Yn rhai achosion, bydd y cynnyrch yn uniongyrchol berthnasol i’r Gymraeg. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fydd agwedd ieithyddol i’r cynnyrch. Ein ffon mesur ar gyfer gweithio yn y maes hwn fydd faint o gyfraniad y gall sefydliad o’r fath ei gyfrannu’n strategol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan eu gweithwyr, eu partneriaid eu cwsmeriaid a’r gymuned o’u cwmpas. Byddan nhw’n ofodau a/neu’n creu gofodau mae modd defnyddio’n Cymraeg ni yn ddi-rwystr ynddyn nhw.
- Byddwn ni’n edrych ar fodelau gwahanol astudiaethau achos rhyngwladol, er enghraifft Gwlad y Basg (Arrasate-Mondragón), Byddwn ni’n ymgysylltu’n fewnol ac yn allanol i fwrw hyn yn ei flaen.
- Byddwn ni’n edrych ar ein gweithgarwch yn y sector busnes er mwyn gweld sut y gallai’r gwaith hwnnw esblygu, datblygu ac addasu er mwyn cyfrannu at ymateb i’r argymhelliad hwn.
- Byddwn ni’n tynnu ar esiamplau sydd gyda ni yng Nghymru o fentrau cymdeithasol/cydweithredol. Byddwn ni’n gofyn iddyn nhw weithio gyda ni i greu modelau a allai weithredu mewn ardaloedd eraill er mwyn ymateb i’r argymhelliad hwn.
- Byddwn ni’n cydweithio â sefydliadau cenedlaethol sy’n gweithio ym maes mentrau/cwmnïau cydweithredol er mwyn sicrhau eu bod nhw hefyd yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i roi ysbryd Cymraeg 2050 ar waith.
Dylid adeiladu ar gryfder pwyllgorau mudiadau cymunedol Cymraeg gyda ffocws ar wytnwch hirdymor y sefydliad, cryfhau sgiliau rheolaeth ariannol, technoleg gwybodaeth, busnes ac entrepreneuriaeth gymunedol.
Byddwn ni’n:
- gweithio gyda chyrff cymunedol sicrhau eu gwydnwch hir dymor a’u gallu mewnol
- ystsried sicrhau cymorth ar ffurf mentoriaid i helpu mudiadau a grwpiau lleol sydd am greu Menter Gymdeithasol
- edrych ar y gwersi ddysgwyd o raglen Arfor a rhaglenni perthnasol eraill
Dylid creu rhwydwaith cenedlaethol o fentrau cymdeithasol/cydweithredol cyfrwng Cymraeg i annog cydweithio strategol.
Byddwn ni’n:
- edrych ar fodelau posibl ac yn cydweithio â sefydliadau cymdeithasol/cydweithredol sydd eisoes yn bodoli i symud yr argymhelliad hwn yn ei flaen
dysgu o brofiad o fewn Cymru a thu hwnt er mwyn rhannu profiadau ac arfer da sydd yn creu cyfleoedd gwaith drwy’r Gymraeg yn y sector hwn
Argymhelliad 8: strategaethau hybu sirol
Dylai’r Awdurdodau Lleol (ALl) roi llais cryf i fudiadau cymunedol Cymraeg wrth gynllunio a gweithredu eu strategaethau hybu iaith. Dylid plethu at ei gilydd Strategaethau Hybu, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Fforymau Sirol y Mentrau Iaith gyda’r mudiadau cymunedol Cymraeg.
Byddwn ni’n cynnal trafodaethau gydag awdurdodau lleol ac eraill gyda’r nod o:
- sicrhau llais cryf i’r grwpiau cymunedol o fewn y Strategaethau Hybu, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a Fforymau Sirol y Mentrau Iaith
- sicrhau fod y fforymau iaith yn cwrdd yn rheolaidd ac yn datblygu rhaglenni gwaith ar y cyd â phartneriaid eraill a’r gymuned ac yn cefnogi Strategaethau Hybu a’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg
- byddwn ni’n manteisio ar frwdfrydedd cymunedau wrth iddynt baratoi at Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â’n disgwyliadau o’r gwaddol a rôl benodol yr awdurdod lleol yn y cyswllt hwnnw (gweler hefyd ein hymateb i argymhelliad 3)
- byddwn ni’n cefnogi gwaith awdurdodau lleol i ddatblygu a gwireddu eu Strategaethau Hybu drwy ddarparu data a thystiolaeth iddyn nhw. Bydd hyn hefyd o ddefnydd mawr i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg
- cydweithio gyda phartneriaid perthnasol er mwyn sicrhau bod gwaith ar weithredu Strategaethau Hybu sirol yn adlewyrchu’r argymhelliad hwn
pwysleisio bod angen i’r awdurdodau lleol sicrhau eglurder rôl ar gyfer pob sefydliad sydd â rhan yng ngweithredu’r strategaeth, a bod yr holl sefydliadau hynny’n cael gweld cynlluniau arfaethedig mewn da bryd er mwyn sicrhau mewnbwn strategol ac arbenigol
Argymhelliad 9: rhannu gwybodaeth
Dylid sicrhau fod grwpiau cymunedol Cymraeg yn gwybod ac yn manteisio ar gyfleoedd i wella eu sefydliad trwy hyfforddiant, cronfeydd cyllid a chanllawiau perthnasol ayyb
Byddwn ni’n:
- rhannu gwybodaeth am lwyddiannau ein partneriaid a grwpiau cymunedol, ac yn creu ac tyfu diwylliant dysgu gwersi/adfyfyrio ffurfiol (er enghraifft hwyluso gweithdai ynglŷn â llwyddiannau a methiannau)
- hyfforddi’n partneriaid ymhellach ar sut mae cynllunio ar gyfer canlyniadau/deilliannau ieithyddol
- cyhoeddi astudiaethau achos a gwersi a ddysgwyd o waith ein partneriaid, a’n gwaith ni ein hunain, ar ein gwefan
- gofyn i Mentrau Iaith Cymru rannu gwybodaeth gyda’r grwpiau cymunedol mewn dulliau sydd yn addas i ofynion y grwpiau. Gall hyn fod yn newyddlen ar-lein neu mewn Papurau Bro
- trafod gyda sefydliadau megis Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac eraill er mwyn sicrhau bod hyfforddiant a chefnogaeth briodol ar gyfer i gyfrannu at weithredu’r argymhelliad hwn
Dylid sicrhau fod hyfforddiant cynllunio ieithyddol ar gael i grwpiau cymunedol Cymraeg yn ôl y galw.
Byddwn ni’n:
- sicrhau rhaglen hyfforddiant addas i’n partneriaid, ac yn cyplysu hynny â rhagor o hyfforddiant ar gynllunio tuag at ganlyniadau/deilliannau ieithyddol
- adnabod cyfleoedd o’r newydd i gynnig hyfforddiant cynllunio ieithyddol
cyplysu’r hyfforddiant â maes datblygu a grymuso cymunedol â chynnwys cynllunio ieithyddol yn rhan ohono, er enghraifft, hyfforddiant i gynghorau tref a chymuned, sut i gryfhau llais y gymuned leol, ymbweru, hwyluso, cyfathrebu a llywodraethant