Adroddiad yn nodi’r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch cyffredinrwydd ac effeithiau perchnogaeth ail gartrefi ledled Cymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwaith ymchwil ar ail gartrefi
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi canfyddiadau gwaith ymchwil ar sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â chyffredinrwydd ac effeithiau perchnogaeth ail gartrefi ar gymunedau ledled Cymru. Mae’r gwaith ymchwil yn archwilio’r sylfaen dystiolaeth ynghylch diffinio ail gartrefi, eu heffeithiau ac ymyriadau cysylltiedig.
Mae’r adroddiad yn adeiladu ar grynodeb o’r dystiolaeth, a gyhoeddwyd cyn cwblhau’r gwaith ymchwil sylfaenol a gynhaliwyd yn ystod y prosiect hwn. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn rhoi manylion gwaith maes a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid â’u gwaith yn ymwneud ag ail gartrefi. Mae’r rhanddeiliaid yn cynnwys swyddogion cynllunio a thai awdurdodau lleol, cynghorau cymunedol, grwpiau ymgyrchu, asiantau tai, cymdeithasau tai, aelodau o’r Senedd ac academyddion.
Adroddiadau
Ymchwil i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ar ail gartrefi , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Hannah Browne Gott
Rhif ffôn: 0300 062 8016
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.