Sut i newid eich dewis diogelwch WEFO Ar-lein.
Newid eich dewis diogelwch ar gyfer eich cyfrif WEFO Ar-lein.
Ewch i Mewngofnodi i WEFO Ar-lein:
- dewiswch Mewngofnodi
- rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a’ch Cyfrinair a dewiswch Mewngofnodi
- rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun, yr alwad llais neu’r ap dilysu, a dewis Yn eich blaen
- dewiswch eich enw defnyddiwr
- dewiswch Rheoli proffil
- dewiswch Sut rydych yn cael codau mynediad
I newid dewis diogelwch yr ydych eisoes wedi'i osod, ar gyfer yr opsiwn Neges destun, dewiswch Newid
- dewiswch Newid eich rhif ffôn a dewis Yn eich blaen
- dewiswch Iawn a dewis Yn eich blaen
- rhowch Rif ffôn symudol yn y DU a dewis Anfon cod cyrchu
- rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun a dewiswch Yn eich blaen
- rydych chi wedi diweddaru’ch dewis diogelwch, dewiswch Yn eich blaen
I newid dewis diogelwch yr ydych eisoes wedi'i osod, ar gyfer yr opsiwn Glawad llais dewiswch Newid
- dewiswch Newid eich rhif ffôn a dewis Yn eich blaen
- rhowch rif ffôn yn y DU a dewis Anfon cod cyrchu
- rhowch y Cod cyrchu o'r alwad llais a dewiswch Yn eich blaen
- rydych chi wedi diweddaru’ch dewis diogelwch, dewiswch Yn eich blaen
I newid dewis diogelwch yr ydych eisoes wedi'i osod, ar gyfer yr opsiwn Ap dilyswr, dewiswch Newid
- dewiswch Newid eich Ap a dewis Yn eich blaen
- dewiswch Yn eich blaen
- rhowch y Cod cyrchu a ddangosir ar yr ap dilysydd a dewis Yn eich blaen
- rhowch Enw'r ap a dewis Yn eich blaen
- rydych chi wedi diweddaru’ch dewis diogelwch, dewiswch Yn eich blaen
Os ydych am ychwanegu dewis diogelwch newydd a bod angen arweiniad pellach arnoch, cyfeiriwch at Sut i ychwanegu eich dewis diogelwch ychwanegol
Os ydych am ddileu dewis diogelwch sydd eisoes wedi'i osod a bod angen arweiniad pellach arnoch, cyfeiriwch at Sut i ddileu eich dewis diogelwch ychwanegol