Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallwch chi helpu a chefnogi pobl Wcráin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Yn sgîl ymosodiad Rwsia ar Wcráin mae degau lawer o filoedd o bobl Wcráin wedi gorfod ffoi o’u cartrefi. Mae’n bosibl mai dyma ddechrau'r argyfwng dyngarol mwyaf yn Ewrop ers degawdau.

Safwn gyda thrigolion Wcráin wrth iddynt ymladd yn ddewr yn erbyn yr ymosodiad rhyfelgar creulon a chwbl anghyfiawn hwn.

Deallwn y bydd llawer o bobl yng Nghymru am wneud popeth o fewn eu gallu i'w helpu yn eu hangen.

Gyda llawer o lwybrau logistaidd ar gau a systemau cludo o dan bwysau sylweddol, gallai anfon nwyddau corfforol ychwanegu mwy o straen at y sefyllfa ar lawr gwlad.

Rhoddion ariannol

Mae rhoddion arian parod i sefydliadau sy'n ymateb i'r argyfwng yn Wcráin yn caniatáu i nwyddau brys gael eu cyrchu yn lleol.

Gallwch helpu drwy roi rhodd ariannol i'r elusennau canlynol:

Cynnig cartref i ffoaduriaid o Wcráin sydd eisoes yng Nghymru

Rydym yn dal i fod angen cartrefi diogel, addas ar gyfer y llu o unigolion, cyplau a theuluoedd o Wcráin sydd wedi cyrraedd Cymru ac sy’n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd.

Gallwch helpu drwy gynnig lle i aros yn eich cartref neu eiddo rydych yn berchen arno.

Noddi pobl yn Wcráin i ddod i'r DU

Mae cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU yn galluogi pobl yn y DU i noddi fisa i rywun yn Wcráin ddod i fyw yn y DU.

Rhaid i chi allu darparu llety diogel ac addas ar eu cyfer am 6 mis neu fwy. 

Rhagor o wybodaeth a chofnodi eich diddordeb yng nghynllun Cartrefi i Wcráin (ar GOV.UK).

Os nad ydych eisoes yn adnabod rhywun yn Wcráin i'w noddi, gall gwasanaeth Ailosod Cartrefi i Wcráin eich helpu i ddod o hyd i'r un gorau i'ch cartref a'ch cefnogi trwy'r broses.

Unwaith y byddwch yn gwybod pwy rydych am ei noddi, gallwch eu helpu i wneud cais am fisa o dan Gynllun Noddi Wcráin (ar GOV.UK).

Unwaith y bydd pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn setlo yn eu hardaloedd, efallai y bydd angen rhai eitemau neu gefnogaeth leol arall. Gallai fod gan gymunedau rôl i’w chwarae yn hyn o beth.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gofyn am wirfoddolwyr. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a mudiadau gwirfoddol i drefnu ffyrdd i bobl helpu. Unwaith y bydd hyn wedi’i wneud, byddwn yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi mynegi diddordeb i weld sut y gallant helpu.

Er mwyn cofnodi diddordeb, anfonwch e-bost i refugees@gov.wales. Fe wnawn ni rannu eich manylion â phartneriaid fel y nodir yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Cymorth cyfieithu

Os gallwch gynnig cyfieithu i bobl o Wcráin, cofnodwch eich diddordeb ar wefan Gwasanaeth Cyfieithu Cymru.

Cynnig swyddi

Llinellau cymorth a chefnogaeth

Gall noddwyr yng Nghymru ffonio’r llinell gymorth yn rhad ac am ddim ar 0808 175 1508. Mae'r Ganolfan Gyswllt yn darparu gwasanaeth llinell gymorth a gwasanaeth olrhain rhwng 09:00 a 17:00.

I bobl o Wcráin a’u teuluoedd:

I unrhyw un y mae’r sefyllfa yn Wcráin yn effeithio arnynt, gallant gysylltu â llinell gymorth Iechyd Meddwl CALL (Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned). Mae ar gael 24 awr y dydd i wrando a rhoi cefnogaeth. Ffoniwch 0800 132737 neu tecstiwch HELP i 81066.