Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Gallwch helpu pobl o Wcráin drwy gynnig lle iddynt aros yn eich cartref neu mewn eiddo yr ydych yn berchen arno.
Bydd angen i chi wneud cais a darparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi eich hun a'r llety y gallwch ei gynnig.
Bydd Llywodraeth y DU yn trosglwyddo eich cais i'r awdurdod lleol perthnasol a fydd yn cynnig cymorth ymarferol drwy gydol y broses lletya.
Mae pob cynnig yn amodol ar wiriadau diogelu ac archwiliadau eiddo, er mwyn sicrhau bod gwesteion yn cael lle diogel ac addas i aros.
Byddwch yn cael £350 y mis gan Lywodraeth y DU yn ddiolch ac i'ch cefnogi ag unrhyw gostau ar gyfer arhosiad eich gwestai. Mae rhagor o fanylion ynghylch cymhwystra lletywyr ar wefan Llywodraeth y DU.
