Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn adnewyddu Twnelau Bryn-glas ac atgyweirio Pont yr Afon Wysg.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
Casnewydd
Dyddiad dechrau:
29 Chwefror 2016
Dyddiad gorffen:
Gorffennaf 2018
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Ein rhesymau dros wneud hyn

Cafodd y twnelau eu hadeiladu’n unol â hen safonau dylunio ac nid ydynt bellach yn cydymffurfio â’r safonau dylunio presennol. Yn ogystal, mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar Bont yr Afon Wysg a Thraphont Malpas.

Y gwaith

Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ailosod holl systemau mecanyddol a thrydanol y twnelau a hefyd y cerbytffyrdd, systemau draenio a leinin y twnnel. Roeddem hefyd wedi gosod wyneb newydd ar Bont yr Afon Wysg.

Roedd y gwaith adeiladu wedi’i amserlennu er mwyn sicrhau bod y prif waith yn digwydd yn ystod y nos. 

Rydym wedi cwblhau'r gwaith a ddylai olygu na fydd angen gwneud cymaint o weithrediadau cynnal a chadw ar y darn hwn o’r M4.

Am wybodaeth ar gau ffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru.

Amserlen

Dylunio: o 29 Chwefror 2016 am 24 wythnos
Gwaith adeiladu’n cychwyn: 20 Mehefin 2016
Gwaith adeiladu’n gorffen: Gorffennaf 2018

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau