Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer y cyfleoedd swyddi a grëwyd ac a lenwyd, a gwybodaeth reoli arall o gynllun Twf Swyddi Cymru ar gyfer Medi 2015 to Fawrth 2020.

Twf Swyddi Cymru 2

Cyhoeddwyd y rhaglen Twf Swyddi Cymru 2 ar 13 Mai 2015. Cafodd y swyddi cyntaf eu hysbysebu yng nghanol mis Mehefin 2015 a dechreuodd gyflwyno ym Medi 2015.

Ers cychwyn y cynllun Twf Swyddi Cymru 2 tan 10 Mawrth 2020:

  • Crëwyd a chymeradwywyd(1) 7,575 o gyfleoedd swyddi.
  • Llenwyd 4,166 o gyfleoedd swyddi.
  • Derbyniwyd 54,671 o geisiadau tra oedd 19,459 o ymgeiswyr.

Mae'r data am y cyrchfannau(2) yn dangos fod(3):

  • 2,806 o gyfranogwyr wedi cyflawni cyfle chwe mis, ac o'r rhain roedd 2,424 mewn cyflogaeth, hunangyflogaeth, prentisiaeth neu ddysgu pellach.
  • 905 o gyfranogwyr wedi gadael y cynllun yn gynnar, ac o'r rhain roedd 235 mewn cyflogaeth, hunangyflogaeth, prentisiaeth neu ddysgu pellach.

Nodiadau

(1) Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd am waith a gafodd eu creu a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Bydd y ffigur hwn yn cynnwys cyfleoedd am waith sydd wedi'u tynnu'n ôl cyn i ymgeisydd gael ei recriwtio.

(2) Mae hwn yn cynnwys swyddi a ailgylchwyd. Er enghraifft gallai un cyfle am swydd gynnwys rhywun sydd wedi gadael yn gynnar a rhywun sydd wedi cwblhau cyfle o 6 mis.  Mae'r data am y cyrchfannau yn seiliedig ar y gyrchfan yn syth ar ôl cwblhau cyfle am waith neu ar ôl gadael y cynllun yn gynnar.

(3) Oherwydd bod rhai'n gadael yn gynnar a bod rhai cyfleoedd wedi'u tynnu'n ôl, mae'n anodd cymharu cyfleoedd am swyddi, swyddi a grëwyd a chyfranogwyr. Er enghraifft, lle mae rhywun yn gadael cyfle am waith, gellir rhoi'r cyfle hwnnw i rywun arall - mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd fel rheol pan fydd y person yn gadael y cyfle a roddwyd iddo o fewn y 4 wythnos gyntaf.

Ansawdd

Daw'r data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o'r System Gwybodaeth Reoli a gaiff ei chynnal gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n cael ei lunio o ddarparwyr Twf Swyddi Cymru a Gyrfa Cymru.

Dechreuodd y cynllun Twf Swyddi Cymru cyntaf ym mis Ebrill 2012 a daeth i ben ym mis Ebrill 2015

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.