Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir (atodlen 13) ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog.
Cynnwys
Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn
Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).
DTTT/7035 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog
Mae'r rhyddhad hwn ar gael pan mae trethdalwr yn prynu nifer o anheddau yng Nghymru gan yr un gwerthwr naill ai ar ffurf un trafodiad sydd â’r un dyddiad dod i rym neu fel nifer o drafodiadau cysylltiol (mae trafodiadau’n gysylltiol pan fyddant yn ffurfio rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un prynwr a gwerthwr neu unigolion sy'n gysylltiedig â nhw).
Wrth wneud cais am ryddhad ar gyfer anheddau lluosog, bydd angen i'r trethdalwr ddefnyddio'r cyfraddau uwch ar gyfer eiddo preswyl pan fydd y rheolau ynghylch cyfraddau uwch ar gyfer eiddo preswyl yn berthnasol i'r trafodiad, neu'r prif gyfraddau ar gyfer eiddo preswyl pan nad yw’r rheolau ynghylch cyfraddau uwch ar gyfer eiddo preswyl yn berthnasol (h.y. trafodiad eiddo defnydd cymysg).
Pan hawlir y rhyddhad, penderfynir ar swm y dreth trafodiadau tir sy’n berthnasol i’r gydnabyddiaeth sydd i'w phriodoli i fuddiannau yn yr anheddau drwy gyfeirio at faint o'r gydnabyddiaeth gyfan y gellir ei phriodoli i'r anheddau, wedi’i rannu â nifer yr anheddau (i bennu'r gydnabyddiaeth gymedrig sydd i'w phriodoli i'r anheddau). Os bydd swm y dreth a gyfrifir drwy’r dull hwn yn llai nag 1% o’r gydnabyddiaeth a roddir, mae’r rheol isafswm treth yn dod i rym i sicrhau bod cyfradd dreth effeithiol o 1% o leiaf yn cael ei defnyddio gyda thrafodiadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog.
Maint y dreth trafodiadau tir sy'n berthnasol i'r gydnabyddiaeth sydd i'w phriodoli i fuddiannau mewn tir heblaw anheddau (os o gwbl) yw’r swm a fyddai’n berthnasol yn niffyg y rhyddhad.
Nid yw uwchfuddiannau lesddaliad a rhydd-ddaliad mewn anheddau sy’n ddarostyngedig i lesoedd a roddir am gyfnod cychwynnol o 21 mlynedd neu fwy yn gymwys i gael rhyddhad.
Mae’r rhyddhad yn cynnwys pryniannau ‘oddi ar y cynllun’ pan mae’n bosib nad yw'r gwaith o adeiladu neu addasu’r eiddo ar gyfer defnydd preswyl wedi cychwyn erbyn y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith.
Bydd y rhan fwyaf o bryniannau anheddau lluosog yn ddarostyngedig i’r cyfraddau sy’n berthnasol i drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.
Mae rhyddhad anheddau lluosog yn rhyddhad rhannol gan y bydd elfen o’r dreth trafodiadau tir bob amser yn daladwy yng nghyswllt y trafodiad. Dylid defnyddio cod rhyddhad 50 yn ffurflen dreth y trethdalwr er mwyn hawlio’r rhyddhad.
DTTT/7036 Trafodiadau y mae’r rhyddhad yn berthnasol iddynt
(paragraff 3)
Rheol gyffredinol
Gellir hawlio rhyddhad pan fo'r trafodiad yn 'drafodiad perthnasol’. Mae trafodiad perthnasol yn un lle mae prif destun y trafodiad yn cynnwys:
- buddiant mewn o leiaf dwy annedd neu fuddiant mewn o leiaf dwy annedd ac eiddo arall (er enghraifft, eiddo amhreswyl)
- buddiant mewn un annedd, neu fuddiant mewn un annedd ac eiddo arall, a bod y trafodiad hwnnw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, a bod y trafodiad cysylltiol yn cynnwys buddiant mewn o leiaf un annedd arall.
Mae 'buddiant mewn annedd’ at ddibenion y rhyddhad hwn yn golygu unrhyw fuddiant trethadwy mewn annedd neu dros annedd; felly, mae’n rhaid i bob annedd y mae'r rhyddhad hwn yn berthnasol iddo fod yng Nghymru.
Eithriadau
Ni ellir hawlio rhyddhad anheddau lluosog pan allai'r trafodiad fod yn gymwys i gael rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd. Yn ogystal, nid yw rhyddhad anheddau lluosog ar gael pan ellir hawlio rhyddhad grŵp, rhyddhad ailadeiladu a chaffael neu ryddhad elusennau ar gyfer y trafodiad, hyd yn oed os na hawlir y rhyddhad neu os bydd y rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl.
Yn achos annedd sy’n ddarostyngedig i les a roddwyd am dymor o fwy na 21 o flynyddoedd, ni chaiff unrhyw uwchfuddiant mewn perthynas â’r les honno ei drin fel buddiant mewn annedd at ddibenion y rhyddhad ac felly ni ellir cynnwys y buddiant hwnnw wrth gyfrifo nifer yr anheddau sydd wedi’u prynu gan y trethdalwr.
Ond, nid yw'r rheol les 21 mlynedd yn berthnasol yn yr achosion canlynol:
- os mai corff cymwys yw'r gwerthwr at ddibenion y rhyddhad sy’n berthnasol i lesoedd perchnogaeth a rennir
neu
- os gwneir y trafodiad o dan drefniant gwerthu ac adlesu
- os rhoi buddiant lesddaliad yw’r gwerthiant hwnnw, ac
- os bydd elfen adlesu'r trefniant hwnnw’n cael ei rhyddhau rhag treth drwy hawlio rhyddhad gwerthu ac adlesu.
DTTT/7037 Termau allweddol a diffiniadau
(paragraff 4)
Ystyr ‘priodoli’ yw priodoli ar sail dosraniad teg a rhesymol.
Y ‘gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau’ ar gyfer trafodiad annedd unigol yw hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i'w phriodoli i’r annedd honno, ac ar gyfer trafodiad anheddau lluosog, hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i’r anheddau i gyd.
‘Y gydnabyddiaeth sy’n weddill’ yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad llai’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.
Mae ‘trafodiad annedd unigol’ yn drafodiad y mae ei brif destun yn fuddiant mewn un annedd, neu’n fuddiant mewn un annedd ac eiddo arall.
Mae ‘trafodiad anheddau lluosog’ yn drafodiad y mae ei brif destun yn fuddiant mewn o leiaf ddwy annedd neu’n fuddiant mewn o leiaf ddwy annedd ac eiddo arall.
Pan fydd trethdalwr yn prynu eiddo sy'n cynnwys prif dŷ ac anecs er mwyn hawlio rhyddhad anheddau lluosog mae'n bwysig bod y prif dŷ a'r anecs yn cwrdd â'r meini prawf o fod yn annedd. Mae rhagor o ganllawiau i’w cael yn LTTA/8080.
DTTT/7038 Cyfrifo Faint o Dreth Trafodiadau Tir sydd i'w thalu: Pennu’r dreth sy’n gysylltiedig â chydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau
Pan wneir hawliad am ryddhad anheddau lluosog (MDR), bydd y dreth sy'n ddyledus ar drafodiad yn gyfanswm 2 swm:
- 'treth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau' a lle y bo'n berthnasol,
- 'treth sy’n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sy'n weddill'
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell MDR i’ch helpu i gyfrifo faint o TTT sy'n daladwy gyda hawliad am y rhyddhad.
Mae pedwar cam i’w ddilyn ar gyfer pennu'r swm treth hwn.
- Pennu swm y dreth a fyddai'n daladwy ar y gydnabyddiaeth a roddir am gyfanswm yr anheddau yng Nghymru. Pennir swm y dreth sy'n ddyledus drwy rannu'r gydnabyddiaeth â nifer yr anheddau a brynwyd. Yna pennu'r dreth sy’n ddyledus am y pryniant tybiannol hwnnw o un annedd.
Fel arfer, y cyfraddau sy'n berthnasol ar gyfer y rhan hon o'r cyfrifiad treth fydd y cyfraddau uwch ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl. Ym mhob achos arall, dylid defnyddio'r prif gyfraddau preswyl ar gyfer yr anheddau, er enghraifft pan fo’r anheddau'n rhan o drafodiad eiddo defnydd cymysg.
Pan gaiff 6 neu fwy o anheddau eu prynu, gall y trethdalwr hawlio rhyddhad anheddau lluosog, a byddai cyfanswm yr anheddau yn ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch. Os na fydd rhyddhad anheddau lluosog yn cael ei hawlio, bydd cyfraddau eiddo amhreswyl yn berthnasol i’r gydnabyddiaeth gyfan.
- Lluoswch swm y dreth a bennwyd yng ngham 1 â nifer yr anheddau.
- Y swm a bennwyd yng ngham 2 fydd swm y dreth sy'n daladwy am brynu’r anheddau (gall Treth Trafodiadau Tir ychwanegol fod yn ddyledus ar gyfer y trafodiad os oes cydnabyddiaeth sy'n weddill hefyd sy'n rhan o'r un trafodiad). Ond, ar gyfer trafodiadau cysylltiol sy’n ymwneud ag anheddau, defnyddiwch gam 4 hefyd.
- Rhaid lluosi swm y dreth a bennwyd yng ngham 2 â CA ÷ CCA
pan mai:- CA yw’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i'r anheddau ar gyfer y trafodiad perthnasol, a
- CCA yw cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau
'Cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau' yw:
- ar gyfer trafodiad nad yw'n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw
- ar gyfer trafodiad sy'n un o nifer o drafodiadau cysylltiol:
- cyfanswm y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw, ynghyd â’r
- holl drafodiadau eraill sy'n drafodiadau cysylltiol, ynghyd â
- hynny o'r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw drafodiad cysylltiol arall (boed yn drafodiadau perthnasol ai peidio) nad yw wedi'i gynnwys yn y naill neu'r llall o'r 2 swm o gydnabyddiaeth uchod, ond sydd i’w phriodoli i'r un anheddau sydd wedi’u cynnwys yn y cyfrifiadau
Ystyr 'cyfanswm yr anheddau' yw nifer yr anheddau y cyfeirir atynt wrth gyfrifo cyfanswm cydnabyddiaeth yr eiddo.
Pan fo hynny'n berthnasol, rhaid i'r trethdalwr hefyd ystyried yr isafswm treth. Os yw swm y dreth a gyfrifir uchod yn llai na'r swm hwnnw, y swm hwnnw o Dreth Trafodiadau Tir sy'n daladwy yn hytrach na’r swm sy’n seiliedig ar y cyfrifiad.
DTTT/7039 Cyfrifo faint o Dreth Trafodiadau Tir sydd i’w thalu: pennu'r dreth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaaeth sy'n weddill
(paragraff 7)
Ar adegau gall trethdalwr ymrwymo i drafodiad sy’n cynnwys anheddau a/neu eiddo preswyl ac amhreswyl eraill.
Yn yr achosion hyn, gall y trethdalwr barhau i hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR) yng nghyswllt y gydnabyddiaeth a roddir am yr anheddau.
Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘eiddo preswyl eraill’ rydym yn golygu eiddo nad ydynt yn anheddau at ddiben y rhyddhad hwn.
Rhaid cyfrifo'r gydnabyddiaeth a roddir am yr eiddo arall ar wahân a'i hychwanegu at y dreth sy'n berthnasol i'r anheddau.
Pan fo'r trafodiad yn ymwneud ag un sy'n cynnwys anheddau ac eiddo arall sydd hefyd yn eiddo preswyl, bydd y cyfraddau sy’n berthnasol i drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch yn berthnasol ar gyfer cyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar yr anheddau at ddibenion pennu'r rhwymedigaeth anheddau lluosog.
Ond bydd y prif gyfraddau’n cael eu defnyddio i bennu'r gydnabyddiaeth ar yr eiddo preswyl arall nad yw'n cynnwys anheddau.
Mae hyn gan fod rhaid i'r hawliad am ryddhad anheddau lluosog ystyried pryniant yr anheddau ar wahân i'r eiddo arall a brynwyd. Mae'r un peth yn wir pan fo'r eiddo arall yn eiddo amhreswyl.
Mae’r 'dreth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sy'n weddill' yn cael ei rhoi drwy ddosrannu'r dreth a fyddai wedi bod yn ddyledus ar y trafodiad cyfan. Mae’r swm hwnnw’n cael ei luosi â ffracsiwn. Rhoddir y ffracsiwn drwy rannu'r 'gydnabyddiaeth sy'n weddill' â chyfanswm y gydnabyddiaeth. Mae'r cyfrifiad ychydig yn wahanol os yw'r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol.
Pennir y ffracsiwn priodol gan ddefnyddio'r fformiwla: CSW ÷ (CCA + CCSW).
Pan mai:
- CSW yw'r gydnabyddiaeth sy'n weddill ar gyfer y trafodiad perthnasol
- CCA yw cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau
- CCSW yw cyfanswm y gydnabyddiaeth sy'n weddill
Cyfanswm y gydnabyddiaeth sy'n weddill, ar gyfer trafodiad nad yw'n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, yw’r gydnabyddiaeth sy'n weddill.
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell MDR i’ch helpu i gyfrifo faint o TTT sy'n daladwy gyda hawliad am y rhyddhad.
Pan fo'r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, cyfanswm y gydnabyddiaeth sy'n weddill yw cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad cyfan, llai cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau.
DTTT/7040 Rhyddhad ar gyfer trosglwyddiadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog: trafodiadau 'oddi ar y cynllun'
(paragraff 8)
Os:
- oes cytundeb i brynu adeilad, neu ran o adeilad, a gaiff ei adeiladu neu ei addasu o dan y contract i'w ddefnyddio fel annedd neu anheddau;
- caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol cyn i’r gwaith o godi'r adeilad, neu ran o'r adeilad dan sylw ddechrau, a
- y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad y bernir y caiff y cytundeb ei gyflawni’n sylweddol
at ddibenion y rhyddhad, cymerir mai prif destun y trafodiad fydd buddiant mewn annedd neu ei fod yn cynnwys buddiant mewn annedd.
At y diben hwn, mae contract yn cynnwys unrhyw gytundeb ar gyfer les.
DTTT/ 7041 Cais i drafodiadau partneriaeth
O ran trosglwyddo buddiant partneriaeth y bernir ei fod yn drafodiad tir, caffael buddiant partneriaeth sy'n cael ei drin fel buddiant mawr mewn tir neu dynnu arian yn ôl, ac ati, o bartneriaeth y bernir ei bod yn drafodiad tir, ni all hynny fod yn drafodiad perthnasol at ddibenion y rhyddhad hwn.
DTTT/7042 Rhyddhad ar gyfer trosglwyddiadau sy'n ymwneud ag anheddau lluosog: delio â neuaddau preswyl
Mae’r diffiniad o eiddo preswyl yn darparu ar gyfer delio â ‘llety preswyl i fyfyrwyr’ heblaw am ‘neuaddau preswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch’ fel annedd. Gan hynny:
- mae adeilad (neu ran o adeilad) sy’n cael ei ddefnyddio fel llety preswyl i fyfyrwyr, yn cael ei ddefnyddio fel annedd oni bai ei fod yn neuadd breswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch
- nid yw adeilad (neu ran o adeilad) sy’n cael ei ddefnyddio fel neuadd breswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch yn cael ei ddefnyddio fel annedd, ni waeth pa mor addas ydyw at unrhyw ddefnydd arall
- mae adeilad (neu ran o adeilad) nad yw’n cael ei ddefnyddio ond sy’n fwyaf addas ar gyfer llety preswyl i fyfyrwyr (heblaw am neuadd breswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch) yn addas i'w ddefnyddio fel annedd, ni waeth pa mor addas ydyw at unrhyw ddefnydd arall
- nid yw adeilad (neu ran o adeilad) nad yw’n cael ei ddefnyddio ond sy’n fwyaf addas ar gyfer ei ddefnyddio fel neuadd breswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch yn addas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd, ni waeth pa mor addas ydyw at unrhyw ddefnydd arall
- mae adeilad (neu ran o adeilad) nad yw’n cael ei ddefnyddio ond sydd yr un mor addas ar gyfer llety preswyl i fyfyrwyr neu fel neuadd breswyl yn addas i'w ddefnyddio fel annedd.
Mae'r term 'llety preswyl i fyfyrwyr’ yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at lety wedi ei adeiladu’n bwrpasol neu wedi ei addasu, gyda’i unig ddiben neu ei brif ddiben yn llety myfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch, ac na fyddai'n bodloni'r meini prawf addasrwydd arferol ar gyfer defnydd preswyl fel un annedd. Byddai hyn yn berthnasol mewn achosion lle mae gan y llety lawer o nodweddion arferol annedd neu anheddau ond, er enghraifft, lle mae defnydd fel llety myfyrwyr wedi ei nodi gan ganiatâd cynllunio, ac ni ellir prynu neu waredu unrhyw fuddiant mawr yn yr unedau llety unigol ar wahân.
At ddibenion rhyddhad anheddau lluosog lle mae llety myfyrwyr yn cael ei drin fel llety sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd neu fel llety sy'n addas i'w ddefnyddio fel annedd, bydd maint un annedd yn cael ei bennu ar egwyddorion arferol. Er enghraifft, yn achos bloc o fflatiau sydd ar gael i fyfyrwyr yn unig, pob un ohonynt yn cynnwys ystafelloedd gwely astudio unigol gyda chyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi i'w rhannu, bydd pob fflat o fewn y bloc yn cael ei thrin fel fflat a gaiff ei defnyddio, neu sy'n addas i'w defnyddio, fel un annedd. Fodd bynnag, ni ellir ystyried pob ystafell astudio yn y fflat honno yn annedd ar wahân.
Gweminarau wedi'u recordio
Gwyliwch ein fideos esboniadol byr i gael gwybod mwy am MDR a sut i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus.