Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer y cyfnod hyd at Fawrth 2019, dadansoddiad o aelwydydd gydag incwm llai na 60% o ganolrif y DU, yn ôl nodweddion megis oedran, statws economaidd a math o deulu.

Mae'r holl ffigurau yma yn ymwneud â thlodi incwm cymharol yng Nghymru ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.

Prif canfyddiadau allweddol

  • Roedd 23% o'r holl bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2016-17 a 2018-19.
  • Mae'r ffigur hwn wedi aros yn gymharol sefydlog ar gyfer y 16 cyfnod amser blaenorol. Ar 23%, mae’r ffigur ychydig yn is na’r llynedd.
  • Plant yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 28%) ac mae hyn wedi bod yn wir ers peth amser. Dyma’r pedwerydd tro mae’r ffigur wedi bod yn is na 30% ers y cyfnod hyd at 2005-06.
  • Rheswm posibl pam mai plant yw’r grŵp oedran sy'n fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yw bod oedolion â phlant yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu mewn gwaith tâl isel oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.
  • Roedd 22% o oedolion o oedran gweithio yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2016-17 a 2018-19.
  • Mae hyn i lawr o’r 23% a adroddwyd y llynedd. Mae'r ffigur wedi bod o gwmpas 21% i 23% ar gyfer y rhan fwyaf o'r cyfnodau amser ers diwedd y 1990au.
  • Roedd 19% o bensiynwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2016-17 a 2018-19.
  • Gyda 19%, mae'r ffigur yr un peth a adroddwyd y llynedd, ac mae'n dal yn is na'r hyn yr oedd drwy gydol y canol i ddiwedd y 1990au.

Dadansoddiad gan nodweddion economaidd, teuluol, ethnigrwydd ac anabledd

  • Yr oedd oedolion oedran gweithio a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol ar rent yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol o’u gymharu â’r rheini oedd yn rhentu’n breifat neu’n perchen-feddianwyr.
  • Roedd byw mewn aelwydydd lle nad oedd neb yn gweithio yn cynyddu’r tebygrwydd o fyw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion o oedran gweithio a phlant.
  • Roedd plant a oedd yn byw mewn teuluoedd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r rheini a oedd yn byw mewn aelwydydd â chyplau.
  • Roedd y tebygolrwydd o fod mewn tlodi incwm cymharol yn uwch i’r plant hynny a oedd yn byw mewn cartref gyda thri neu mwy o blant.
  • Roedd pobl a oedd yn byw mewn cartrefi lle’r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp ethnig heb fod yn wyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol,
  • Roedd byw mewn aelwyd gyda pherson ag anabledd yn gwneud tlodi incwm cymharol yn fwy tebygol ar gyfer plant a phobl o oedran gweithio, ond nid ar gyfer pensiynwyr.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog ar ôl costau tai, 2007/08 i 2018/19 (oni nodir yn wahanol): tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 79 KB

ODS
79 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.