Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi heddiw y bydd cyllid ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru yn parhau i gael ei dalu i awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant sy'n derbyn taliadau ar gyfer plant yn eu gofal ar hyn o bryd, hyd yn oed os bydd amharu ar y gwasanaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nid yw'n ofynnol i leoliadau gofal plant gau, ac fe fyddant yn parhau ar agor am y tro. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno, pan fo lleoliad yn cael ei gau ar sail cyngor meddygol, neu pan nad oes modd i blant fynychu yn sgil Covid-19, bydd y cyllid yn parhau i fod ar gael.

Bydd cyllid hefyd yn parhau i fod ar gael pan fo nifer y staff yn syrthio i lefel sy'n golygu nad yw'n ddiogel i'r lleoliad barhau i weithredu.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn disgwyl i awdurdodau lleol barhau i dalu am ofal plant sy'n cael ei ddarparu dan Dechrau'n Deg, ac am ddarpariaeth addysg gynnar. 

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, i rieni cymwys sy’n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed. Mae ar gael ledled Cymru.

Wrth gyhoeddi'r penderfyniad, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Rwy'n gwybod ei bod yn amser anodd i ddarparwyr gofal plant Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant. Rwy' am wneud yn siŵr ein bod ni'n cyfyngu gymaint â phosib ar effaith y coronafeirws arnyn nhw. Dyna pam y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dalu am Gynnig Gofal Plant Cymru a darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg.

Mae'n bosib y bydd lleoliadau gofal plant hefyd yn gymwys i gael cymorth dan becynnau cymorth ehangach i fusnesau sy'n cael eu sefydlu ledled Cymru a'r DU.