Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Allwn i ddim bod yn falchach o gael fy mhenodi’n Weinidog cyntaf Cymru dros Gysylltiadau Rhyngwladol. Y genhadaeth sydd gen i yw adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd dros 20 mlynedd cyntaf datganoli a helpu i roi Cymru ar dir i ateb heriau’r dyfodol.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig nad yw’r uchelgais o godi proffil rhyngwladol Cymru yn cael ei weld fel cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru yn unig. Hoffwn weld y strategaeth hon yn cael ei chydnabod fel un sy’n cynnig cyfeiriad strategol i bawb sy’n ymwneud â’r byd rhyngwladol, sy’n dod â phawb at ei gilydd, ac sy’n sicrhau ein bod i gyd yn tynnu i’r un cyfeiriad ac yn cydweithio i wneud y gorau o’n hymdrechion. Drwy gydol y broses o’i datblygu, rwyf wedi bod yn awyddus i ymgysylltu â rhanddeiliaid mor eang â phosibl, yn enwedig y tu allan i’r llywodraeth ac ar draws pob sector, i sicrhau bod yr uchelgais a amlinellir yn y ddogfen hon yn adlewyrchu Cymru gyfan.

Mae’r byd yn newid o hyd ac mae Cymru’n newid gydag ef. Mae ein ffyniant yn dibynnu ers tro byd ar fasnach a buddsoddiadau o’r tu allan, gyda chyfleoedd cyffrous yn agor ledled y byd ac yma gartref. Yr her i ni i gyd yng Nghymru yw adnabod y cyfleoedd hyn ac ymbaratoi i fanteisio i’r eithaf arnyn nhw. I’r perwyl hwn, byddwn yn defnyddio’n hasedau i weithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu buddiannau Cymru.

Mae Cymru’n llawer mwy na’i heconomi: mae’n lle o bobl, diwylliant a hanes. Mae’r rhain i gyd yn asedau a all gael eu defnyddio er ein budd yn fyd-eang. Pobl Cymru yw ei hyrwyddwyr gorau a mwyaf effeithiol dros y môr. Mae ein chwaraewyr, ynghyd â’n hartistiaid a’n perfformwyr creadigol, yn llysgenhadon arbennig o bwysig. Yn aml, dyma’r Cymry mwyaf gweladwy a mwyaf “presennol” yn rhyngwladol. Mae’r anthem yn sôn am wlad beirdd a chantorion ac rydym yn hybu’n dwy iaith fel elfennau hanfodol o’n hunaniaeth. Rydym hefyd yn wlad sy’n peri syndod, sy’n llawn moderniaeth a thechnoleg, ac rydym yn herio ystrydebau Cymreig hen-ffasiwn.

Gan mai cyfyngedig yw’r adnoddau, mae angen hoelio sylw ar feysydd penodol o uchelgais. Mae’r strategaeth hon yn nodi’n blaenoriaethau mewn byd sy’n prysur newid tra byddwn hefyd yn dal yn gorfod bod yn hyblyg er mwyn ymateb i amgylchiadau a chyfleoedd newydd ac mae’n croesi pob rhan o’r llywodraeth o ran ei chyrhaeddiad.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llywio popeth a wnawn ac fel cenedl greadigol, genhedlaeth-nesaf, rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r tair colofn, sef Creadigrwydd, Cynaliadwyedd a Thechnoleg. Drwy gydweithio ar draws y llywodraeth a chyda’r gymuned Gymreig ehangach, gallwn godi proffil Cymru’n rhyngwladol a helpu i sicrhau ffyniant i bobl Cymru.

Eluned Morgan AC

Cyd-destun a gweledigaeth

Mae’r strategaeth hon yn nodi’n tri uchelgais craidd a’n gweledigaeth am y pum mlynedd nesaf:

  • Byddwn yn codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
  • Byddwn yn tyfu’r economi drwy gynyddu allforion a denu buddsoddiadau o’r tu allan.
  • Byddwn yn sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Gwlad fach yw Cymru ond mae gennyn ni uchelgais mawr.

Rydym yn genedl Ewropeaidd hyderus sy’n edrych i’r dyfodol, gyda pherthynas ddwfn ers tro byd â’n cymdogion agosaf. Ein pobl yw ein hasedau mwyaf – y tair miliwn a rhagor o bobl sy’n byw yng Nghymru, gan gynnwys llawer o’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac ymhellach i ffwrdd, sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru. Mae gennym wlad sy’n llawn pobl chwilfrydig, fedrus, greadigol a theyrngar, yn gweithio mewn economi amrywiol sy’n ymestyn o lannau Môr Iwerydd i’r ffin â Lloegr.

Fu presenoldeb rhyngwladol cryf erioed yn fwy perthnasol. Yn dilyn y refferendwm ynghylch yr UE yn 2016 a’r ansicrwydd parhaus ynghylch perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop yn y dyfodol, bydd Cymru yn mynd ar drywydd ei lle ar y llwyfan rhyngwladol ag egni newydd.

Roedd Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan yn enghraifft wych o Gymru ar lwyfan y byd. Pwy fyddai wedi dychmygu stadiwm o 15,000 o gefnogwyr rygbi Japan yn canu anthem genedlaethol Cymru mewn sesiwn hyfforddi yn Kitakyushu, wrth i fusnesau o Gymru gyfarfod â buddsoddwyr Japaneaidd gerllaw?

Adeiladwn ar y momentwm hwn. Bydd y strategaeth hon yn nodi’n blaenoriaethau ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol a phartneriaethau economaidd yng nghyd-destun ein hymrwymiadau parhaus i ddatblygu cynaliadwy a chyfrifoldeb dros ddiogelu’r amgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Cymru yw’r unig genedl yn y byd, hyd yn hyn, sydd wedi troi Nodau Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig yn ddeddf gwlad. Mae ein deddf arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, wrth wraidd y strategaeth hon a phob agwedd ar bolisi Llywodraeth Cymru ac rydym yn ceisio gadael gwaddol cadarnhaol parhaol i’n plant ac i blant ein plant.

Mae Cymru wedi gweld newid cyflym yn ei hanes diweddar, gan symud o economi wedi’i seilio ar ddiwydiant trwm a’r diwydiant glo i economi modern amrywiol, uwch-dechnoleg, gwerth-uchel.

Gydag Ewrop y mae’r rhan fwyaf o’n masnach yn digwydd. Mae’n hawliau dynol, cymdeithasol ac amgylcheddol wedi datblygu ar y cyd â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n hymrwymiad i Ewrop a’n partneriaid yn Ewrop yn dal yn gryf a digyfnewid, er bod y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r UE.

Mae cannoedd o gwmnïau o wledydd tramor wedi dewis Cymru fel eu canolfan yn y Deyrnas Unedig. Mae cwmnïau o’r Unol Daleithiau, yr Almaen, Ffrainc, Sbaen, Japan, Canada ac India wedi buddsoddi ledled Cymru ac, yn eu tro, mae cwmnïau o Gymru wrthi’n allforio ledled y byd. Fel llywodraeth, rydym am helpu cwmnïau cartref i allforio rhagor a dangos bod Cymru’n dal yn agored ar gyfer busnes.

Crynodeb gweithredol a blaenoriaethau

Ein tri uchelgais craidd yw:

  • Codi proffil Cymru’n rhyngwladol – byddwn yn adeiladu ar enw da ein gwlad fel man sy’n fwrlwm o greadigrwydd a lle mae pobl yn rhydd i arloesi ac arbrofi.
  • Tyfu’n heconomi drwy gynyddu allforion a denu buddsoddiadau o’r tu allan, gan greu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gofleidio a datblygu technoleg newydd i sicrhau ffyniant.
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein deddf arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn tanlinellu’n hymrwymiad i gynaliadwyedd.

Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y fframwaith Cymru yn y Byd. Mewn cwta bedair blynedd wedyn, mae’r dirwedd ryngwladol wedi newid yn ddirfawr.

Mae’r strategaeth hon, sef ein strategaeth ryngwladol gyntaf, yn nodi sut y byddwn yn cyflawni’n tri uchelgais allweddol, a fydd yn eu tro o fudd i economi Cymru; gan helpu i greu a chynnal gwaith medrus a theg i bobl sy’n byw ledled Cymru a chyfrannu at nod cyffredinol Llywodraeth Cymru o greu Cymru fwy cyfartal, fwy ffyniannus a mwy gwyrdd.

Prif ddiben ein Strategaeth Ryngwladol fydd sicrhau cydweithio rhyngwladol a chyfleu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Bydd y ddau hyn yn helpu i’n gwneud yn fwy cystadleuol ac yn fwy adnabyddus ar y llwyfan byd-eang. Bydd hyn o fudd i bobl Cymru yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid, gartref a thros y môr, i helaethu’n strategaeth i godi’n proffil dros y môr. Mae’r strategaeth hon yn nodi’r gwerthoedd sy’n sail i’n dull gweithredu; ein blaenoriaethau at y pum mlynedd nesaf; ein negeseuon allweddol, ac yn amlygu rhywfaint o’r gwaith llwyddiannus sydd eisoes yn cael ei wneud ledled y byd.

Byddwn yn rhoi hwb i’n delwedd yn y byd drwy’r gwerthoedd allweddol sydd i’w gweld yn y gyfraith arloesol a wnaed yng Nghymru: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae honno’n gofyn inni feddwl yn gynaliadwy ac yn hirdymor ynglŷn â’n holl benderfyniadau polisi, gan sicrhau cydlynedd rhwng y polisïau ac ymwneud â’n dinasyddion. Byddwn yn amlygu’n hanes hir a balch o fod yn genedl groesawgar i bobl o bob diwylliant a gwlad a’n hymrwymiad cadarn i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac i hawliau dynol.

Ein blaenoriaethau

O genedl fach, ddeallus, mae gan Gymru enw da sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’w ffiniau. Mae hyn wedi’i saernïo lawn cymaint ar sail ein sgiliau ym maes chwaraeon â’n harddwch naturiol a’n hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth unigryw a’r amrywiaeth cyfoethog o ryngweithio a welir mewn cymunedau a busnesau sy’n ymestyn o’r eira ar gopaon Eryri i harddwch garw Bae Rhosili.

Byddwn yn adeiladu ar hyn i godi’n henw da a’n proffil yn rhyngwladol gan geisio sefydlu a chynnal y cysylltiadau niferus ac amrywiol sydd gennym ledled y byd â’r Cymry alltud, â myfyrwyr a chynfyfyrwyr ac â’n partneriaid i gyflawni ein blaenoriaethau a chael ein cydnabod yn rhyngwladol fel cenedl sydd wedi ymrwymo i greadigrwydd, cynaliadwyedd a thechnoleg.

Dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn codi’n proffil yn rhyngwladol, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cynyddu’n presenoldeb yn aelod-wladwriaethau’r UE a gweithio i sicrhau mai’r Undeb Ewropeaidd yw ein partner cryfaf o hyd, gan ein bod yn rhannu llawer o werthoedd a llawer o uchelgais polisi gyda nhw, ac yn dymuno parhau i fasnachu gyda nhw mewn modd mor effeithlon â phosibl.
  • Cydweithio â’r Cymry alltud a chynfyfyrwyr Cymru ledled y byd a chynyddu’n arwyddocaol ar y niferoedd yr ydym yn eu cyrraedd i 500,000 o gysylltiadau, gan ganolbwyntio’n gweithgarwch ar themâu allweddol y strategaeth hon.
  • Cydlynu’n gweithgareddau rhyngwladol a grymuso sefydliadau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys chwaraeon a diwylliant, i helpu i agor drysau a mynd i mewn i farchnadoedd newydd sy’n anodd eu cyrraedd a chwyddo llais Cymru dros y môr.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn arbennig y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r Adran Masnach Ryngwladol, y Cyngor Prydeinig a BBC World Service i gynyddu proffil Cymru.
  • Adeiladu ar y Memoranda Cyd-ddealltwriaeth presennol, drwy weithio gyda llywodraethau yn y gwledydd a’r rhanbarthau sy’n bartneriaid allweddol inni i feithrin perthynas lle gall Cymru elwa’n economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

Ar un adeg, Cymru oedd pwerdy’r byd diwydiannol: glo cymoedd y De a yrrodd y chwyldro diwydiannol. Heddiw, mae economi Cymru wedi’i weddnewid ac mae Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro ynni gwyrdd: mae gennym y gwyntoedd, y tonnau a’r dŵr i bweru anghenion ynni’r cenedlaethau nesaf. Rydym mewn sefyllfa i gofleidio a manteisio ar y cyfleoedd sy’n dod yn sgil mwyfwy o ddigideiddio, awtomeiddio a defnyddio deallusrwydd artiffisial.

Un cymhleth ac amrywiol yw economi Cymru. Er ein bod yn dal yn genedl o wneuthurwyr, mae Cymru’n datblygu enw da am ragoriaeth ym meysydd gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg, mewn ymchwilio a datblygu; mewn data ac mewn technoleg ariannol.

Wrth ddatblygu’r strategaeth hon, rydym wedi dewis amlygu tri diwydiant penodol lle mae Cymru’n rhagori ac sy’n dangos sut mae Cymru wedi ymrwymo i greadigrwydd, technoleg a chynaliadwyedd: seiberddiogelwch; dargludyddion cyfansawdd a’r diwydiannau creadigol.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn tyfu’n heconomi drwy wneud y canlynol:

  • Cynyddu cyfraniad allforion i economi Cymru 5%.
  • Sicrhau bod Cymru’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol mewn sectorau economaidd penodol lle rydym yn arweinwyr byd-eang.
  • Hybu prosiectau “magnet”, a fydd yn cyfeirio buddsoddiadau i rannau penodol o Gymru.
  • Sicrhau bod Cymru’n cael ei chydnabod oherwydd effaith ei rhagoriaeth ymchwil ac am mai dyma’r lle gorau yn y Deyrnas Unedig o ran nifer y busnesau newydd sy’n cael eu dechrau gan raddedigion.

Rydym yn falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud i gyflawni’n hymrwymiad i fod yn genedl gyfrifol ar lefel fyd-eang, o blannu coed gartref ac yn Uganda i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd i wella cyfraddau ailgylchu domestig er mwyn dod yn arweinydd byd-eang. Rydym wedi ymrwymo i nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig, sydd wedi’u hymgorffori yn y gyfraith drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Byddwn yn parhau â’n gwaith yn Affrica, drwy raglen lwyddiannus Cymru o blaid Affrica, sydd o fudd i’r gwledydd yr ydym yn gweithio ynddynt ac i Gymru.

Dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn sefydlu Cymru’n genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cael ein hadnabod yn rhyngwladol fel y wlad gyntaf i droi nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig yn ddeddf gwlad drwy hybu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Cynnig cymorth i wledydd a all ddysgu o’n profiad o gynyddu nifer y bobl sy’n siarad iaith frodorol a oedd gynt o dan fygythiad.
  • Cael ein hadnabod fel gwlad sy’n arwain y byd o ran ailgylchu.
  • Sefydlu’n henw da am dwristiaeth antur gynaliadwy.
  • Plannu 15 miliwn yn rhagor o goed yn rhanbarth Mbale yn Uganda erbyn 2025, ar ben y 10 miliwn sydd wedi’u plannu eisoes yn y rhanbarth. Rydym wedi helpu eisoes i ddiogelu ardal o goedwig law sy’n ddwywaith maint Cymru.
  • Cadarnhau’n henw da fel Cenedl Deg – cenedl sydd wedi ymrwymo i Fasnach Deg, Gwaith Teg a Chwarae Teg, yn enwedig drwy’n gwaith ar gydraddoldeb.
  • Sefydlu’n henw da fel Cenedl Noddfa, sydd wedi ymrwymo i hawliau dynol a hybu heddwch.
  • Addysgu myfyrwyr yn ysgolion Cymru i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n ymroi i hybu dinasyddiaeth fyd-eang, fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol newydd.
  • Hybu Cymru fel y wlad a ysbrydolodd y GIG ac sy’n dal at ei werthoedd craidd gan mai hi yw’r wlad gyntaf yn y byd ag asesiadau effaith iechyd statudol.

Sut byddwn ni’n cyflawni’r strategaeth hon?

Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae gan Gymru Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros gysylltiadau rhyngwladol. Er hynny, mae llawer o’r ysgogiadau ynglŷn â chysylltiadau rhyngwladol a masnach yn gorwedd y tu allan i Lywodraeth Cymru, yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae bron pob adran o Lywodraeth Cymru yn cynnwys cysylltiadau rhyngwladol fel rhan o’u gwaith. Bydd y strategaeth hon yn llywio’r gwaith hwnnw ac yn canolbwyntio ymdrechion y llywodraeth i sicrhau bod yna neges gyffredin a chyson i gyflawni’n nod craidd. Rhaid i’r negeseuon a fynegwn yn rhyngwladol fod yn gyson â’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni gartref.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwydwaith o 21 o swyddfeydd dros y môr mewn 12 o wledydd, a fydd yn chwarae rôl allweddol i gyflawni’r strategaeth hon. Byddwn yn cyhoeddi cylch gwaith i’n swyddfeydd gan sicrhau bod amcanion yn cael eu hymgorffori mewn cynlluniau busnes er mwyn mynd ati i ymateb i faterion byd-eang. Byddwn yn atgyfnerthu’n gwaith rhyngwladol ar arfordir gorllewin America i ganolbwyntio ar y meysydd rhagoriaeth sy’n cael blaenoriaeth.

Bydd gwireddu uchelgais y strategaeth hon yn golygu cydweithio â’n partneriaid, sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru; y gymdeithas ddinesig; busnesau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n gweithio yng Nghymru a’r tu hwnt; sefydliadau anllywodraethol ledled y byd, llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol eraill, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn cynyddu’n gweithgareddau gydag aelodau o Gyngor Prydain ac Iwerddon a’r Gymanwlad ac yn darparu adnoddau i’r Cynulliad Cenedlaethol a’i aelodau sy’n ymwneud â’r rhwydweithiau y mae wedi’u sefydlu dros y môr i hybu Cymru a’n buddiannau tramor.

Un pwynt canolog yn ein strategaeth fydd cynnal, a chynyddu, ein cysylltiadau cryf ag Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd. Bydd hyn yn allweddol i lwyddiant y strategaeth. Rydym wedi ymrwymo i gynnal a datblygu swyddfa gref Llywodraeth Cymru ym Mrwsel, fel rhan o Dŷ Cymru ehangach gyda phartneriaid eraill, gan adeiladu ar y presenoldeb effeithiol sydd gennym yno ers tro byd. Bydd ein rôl ni yno’n esblygu wrth i’n perthynas â sefydliadau’r UE a’r Aelod-wladwriaethau newid. Byddwn yn parhau i gydweithio â nhw a phartneriaid eraill, gan gynnwys swyddfeydd rhanbarthol a rhwydweithiau Ewropeaidd eraill ym Mrwsel. Byddwn yn gweithio i ddeall effaith barhaus yr UE ar Gymru, gan ddylanwadu arno ble bynnag y bo modd, ac esbonio sut mae Cymru’n dal yn ymrwymo i’r gwerthoedd a’r polisïau sydd wrth galon yr UE.

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i hasiantaethau i sicrhau bod ein strategaeth a’n negeseuon unigryw Gymreig yn cael eu gwireddu a’u bod yn gyson, lle bo modd, â strategaethau a pholisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn yn gweithio gydag adrannau unigol Llywodraeth y Deyrnas Unedig lle bynnag y bo modd ac yn sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg o gynrychiolaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd yr adolygiad o’r cysylltiadau rhwng y llywodraethau yn ein helpu i sefydlu trefniadau ffurfiol i sicrhau gwell ymgysylltu ynghylch materion rhyngwladol, yn enwedig masnach. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig eraill lle bynnag y bo modd, i sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli’n iawn mewn trafodaethau am faterion tramor a masnach. Byddwn hefyd yn cynyddu’n gweithgarwch yn Llundain er mwyn sefydlu cysylltiadau â’r rhwydwaith presennol o lysgenadaethau gwledydd tramor.

Dyma Gymru

Byddwn yn cydweithio â’n partneriaid yng Nghymru a ledled y byd i adeiladu ar ein brand sefydledig a llwyddiannus ar gyfer Cymru fel lle i fuddsoddi, gweithio, byw, ymweld ac astudio.

Bydd y brand arobryn Cymru Wales yn cael ei ddefnyddio i hybu Cymru i’r byd, ar draws pob sector a marchnad, fel gwlad greadigol, gyfoes o safon, sy’n falch ohoni ei hun, ac sy’n esblygu ar gyfer y dyfodol.

Mae Dyma Gymru yn ddatganiad o fwriad; yn wahoddiad i ganfod ein gwlad ac yn her i ailfeddwl yr hyn roeddech chi’n credu eich bod yn ei wybod am Gymru. Gan ganolbwyntio ar adrodd stori Cymru drwy bobl, busnesau a sefydliadau go iawn ein gwlad, mae’r brand yn greadigol, yn ddilys ac yn fwrlwm o gyfleoedd, syniadau a phrofiadau newydd.

Bydd y brand yn llywio dull marchnata thematig Croeso Cymru. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer yr holl waith i farchnata masnach a buddsoddiadau, gan Fwyd a Diod Cymru, gan ymgyrch lwyddiannus HyfforddiGweithioByw, i recriwtio staff i’r GIG ac i hybu Cymru gan y sector addysg uwch fel lle i astudio.

Fe fyddwn:

  • Yn harneisio’r cyfryngau digidol a chymdeithasol i greu a rhannu straeon o Gymru gyda chynulleidfaoedd ledled y byd.
  • Yn galluogi pobl, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i rannu a defnyddio’r brand a’r deunyddiau marchnata.
  • Yn annog asiantaethau’r Deyrnas Unedig a’n brandiau partner rhyngwladol i weithio gyda ni i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith fyd-eang y brand drwy ymgyrchoedd ar y cyd a phartneriaethau arloesol.
  • Yn parhau i redeg ymgyrchoedd, rhaglenni a phrosiectau sy’n diffinio’r brand i helpu Cymru i fod yn amlwg ar y llwyfan  byd-eang, ar lun y blynyddoedd thematig sydd wedi’u defnyddio hyd yn hyn mewn twristiaeth.
  • Yn datblygu cynllun cyfathrebu digidol i gefnogi’r strategaeth ryngwladol.

Sut byddwn ni’n monitro’n gweithgarwch rhyngwladol?

Byddwn yn cynnal dau gyfarfod y flwyddyn i sicrhau ein bod yn cydlynu’n gweithgareddau ar draws Llywodraeth Cymru a chyda sefydliadau eraill sy’n gweithio dros y môr, gan gynnwys llywodraeth leol, y gymdeithas ddinesig, sefydliadau chwaraeon a diwylliant, er mwyn sicrhau, pan fo’n bosibl ac yn briodol, ein bod yn gallu cydlynu gwaith ac adeiladu ar brofiad a llwyfannau rhyngwladol ein gilydd.

Dyma Gymru: Pobl

Ein tri uchelgais craidd yw:

  • Codi proffil Cymru’n rhyngwladol – byddwn yn adeiladu ar enw da ein gwlad fel man sy’n fwrlwm o greadigrwydd a lle mae pobl yn rhydd i arloesi ac arbrofi.
  • Tyfu’n heconomi drwy gynyddu allforion a denu buddsoddiadau o’r tu allan, gan greu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gofleidio a datblygu technoleg newydd i sicrhau ffyniant. 
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein deddf arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn tanlinellu’n hymrwymiad i gynaliadwyedd.

Gwlad fach yw Cymru ond gwlad sy’n hyderus ac sy’n edrych ymlaen ac allan. Ein hased mwyaf a’n cryfder yw ein pobl – y tair miliwn a rhagor o bobl sy’n byw yng Nghymru a’r cannoedd o filoedd yn rhagor sydd wedi penderfynu ymgartrefu ledled y byd.

Byddwn yn adeiladu ar gryfder ein pobl i hybu Cymru fel cenedl sy’n llawn pobl chwilfrydig, fedrus, greadigol a theyrngar yn gweithio mewn economi amrywiol sy’n ymestyn o lannau Môr Iwerydd i’r ffin â Lloegr.

Y cryfder hwn fel unigolion creadigol a thalentog, yn gweithio ar ein pen ein hunain ac ar y cyd, a fydd yn ein helpu i gyflawni tri nod craidd y strategaeth hon. Rydym yn wlad sy’n llunio ac yn creu; yn ddynion a menywod busnes; yn entrepreneuriaid ac arweinwyr, sydd â chyfoeth o syniadau a breuddwydion.

Cenedl sydd wedi’i hadeiladu ar sail cymunedau cryf yw hon, lle mae pobl yn adnabod ac yn parchu ei gilydd. Er nad yw’n unigryw i Gymru, mae’r ymdeimlad hwn o gymuned a chysylltiad yn gryfder ac yn werth arbennig, na ddylid ei fychanu yn yr oes hon o globaleiddio.

Dyma wlad sydd â record gref o bartneriaeth gymdeithasol, lle mae lleisiau pawb yn cael eu clywed ac yn cael eu cyfrif, a lle mae pobl yn cael eu trin yn deg yn y gwaith.

Byddwn yn hybu Cymru fel lleoliad sydd o fewn dwy awr o Lundain ar y trên. Caerdydd yw’r brifddinas Ewropeaidd agosaf i Lundain a hi yw’r brifddinas sy’n tyfu gyflymaf. Mae gan Gymru gysylltiadau da â gweddill y byd ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd a thrwy’r awyr: mae’n cael ei gwasanaethu gan sawl maes awyr, yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd sy’n tyfu’n gyflym, gyda hediadau rheolaidd i Doha a dinasoedd yn Ewrop.

Byddwn yn hybu Cymru fel gwlad sydd â chysylltedd band eang helaeth ac mae pwynt cyfnewid y rhyngrwyd yng Nghaerdydd yn un o dri man glanio yn unig yn y Deyrnas Unedig, sy’n fodd i ddatblygu technolegau’r dyfodol ac sydd wedi galluogi Cymru i ddod yn gartref i’r ganolfan ddata fwyaf yn Ewrop.

Mae Cymru’n gwerthfawrogi ei phobl, eu hiechyd a’u llesiant. Dyma fan geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mae Cymru’n dal yn ffyddlon i werthoedd sylfaenol y GIG, sef darparu gofal iechyd o safon i bawb am ddim lle mae ei angen. Rydym yn awyddus i rannu’r gwerthoedd hyn a’n harbenigedd gydag eraill, gan gynnwys drwy ein rhaglen lwyddiannus Cymru o blaid Affrica.

Mae Cymru’n wlad sy’n gwerthfawrogi ei phobl, eu hiechyd a’u llesiant. Byddwn yn hybu Cymru fel man geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – gwasanaeth iechyd sy’n dal ar gael am ddim yn y man darparu. Cymro oedd y sylfaenydd, Aneurin Bevan, ac rydym yn awyddus i barhau â’i agwedd flaenllaw ef at iechyd drwy fod y wlad gyntaf yn y byd ag asesiadau effaith iechyd statudol.

Mae Cymru’n wlad wirioneddol ddwyieithog: mae gan y Gymraeg a’r Saesneg yr un statws yn y gyfraith, ac mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu. O sefyllfa lle roedd y Gymraeg o dan fygythiad, mae gennym uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, sy’n golygu bod Cymru mewn sefyllfa berffaith i gefnogi rhanbarthau a gwledydd eraill, yn Ewrop a’r tu hwnt, sydd ag ieithoedd deuol neu leiafrifol, ac i rannu’r hyn y mae wedi’i ddysgu gyda nhw.

Byddwn yn dod yn adnabyddus fel cenedl sydd ar flaen y gad o ran technoleg ieithoedd lleiafrifol a byddwn yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth berfformio ar y llwyfan rhyngwladol, gan sicrhau bod Cymru’n sefyll allan o’r dorf uniaith.

Bydd diplomyddiaeth ddiwylliannol, neu bŵer meddal, yn allweddol i godi’n proffil rhyngwladol. Defnyddiwn ein holl asedau diwylliannol i’r eithaf: ein chwaraeon; ein cerddoriaeth; ein celfyddyd; ein celfyddydau creadigol; ein treftadaeth a’n hanes ond hefyd yr amrywiaeth syfrdanol o bobl sy’n byw ac yn astudio yma.

Mae gan Gymru ddiwylliant cyfoethog ac unigryw, sy’n cael ei ddathlu’n flynyddol mewn digwyddiadau mor hanesyddol a byd-enwog ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Gŵyl Lenyddol y Gelli, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y gwyliau amlwg hyn yn ganolog i’n strategaeth o annog dylanwadwyr rhyngwladol i brofi croeso cynnes Cymru ac i flasu’n diwylliant yn uniongyrchol.

Mae Cymru’n adnabyddus ledled y byd oherwydd ei hangerdd dros ddiwylliant, creadigrwydd, cerddoriaeth a chwaraeon. Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru yn chwifio’r faner pryd bynnag y bônt yn perfformio ac felly hefyd ein sêr chwaraeon elit sydd wedi mwynhau llwyddiant syfrdanol fel timau ac fel unigolion yn y blynyddoedd diwethaf, mewn rygbi, pêl-droed, taekwondo, beicio a nofio, gan helpu i roi hwb i’n statws a’n henw da yn rhyngwladol.

Mae’n henw da ar y maes chwarae a’n hangerdd dros chwaraeon eisoes yn adnabyddus dros y byd, diolch i raddau helaeth i berfformiadau tîm rygbi a thîm pêl-droed Cymru yng nghystadlaethau Cwpan Rygbi’r Byd, twrnamaint y Chwe Gwlad a Phencampwriaeth Ewrop. Byddwn yn adeiladu ar y digwyddiadau chwaraeon mawr hyn i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd Cymru ym maes diplomyddiaeth ddiwylliannol dros y môr a’u defnyddio fel llwyfannau er budd Cymru.

Roedd Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan yn ddiweddar yn fwy na dim ond cystadleuaeth chwaraeon – bu’n daith fasnach fawr a llwyddiannus, gan gynnwys 17 o fusnesau o sectorau technoleg a digidol, creadigol, gofal iechyd ac uwch-weithgynhyrchu Cymru a aeth i Japan yn ystod y twrnamaint i gryfhau cysylltiadau economaidd. Hefyd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru raglen o ddigwyddiadau yn Tokyo, gan gynnwys Tŷ Cymru, sef Pabell Profiad Cymru, yn arddangos diwylliant amrywiol Cymru.

Bydd y ffactorau hyn yn hanfodol i godi proffil Cymru fel cenedl fach, greadigol, yn llawn pobl ddawnus a chyfeillgar ar lwyfan y byd. Byddwn yn cydlynu gweithgareddau gweithredwyr eraill o Gymru dros y môr er mwyn chwyddo’n llais yno.

Mae gan Gymru hanes hir a balch o groesawu pobl o bedwar ban byd i fyw a gweithio yma. Mae llawer o’n cymunedau a’n busnesau yn ffynnu diolch i bobl a ddaeth i Gymru o wledydd tramor. Rydym am weld hynny’n parhau.

Yn dilyn y refferendwm ar yr UE yn 2016, mae’r ansicrwydd hir ynghylch perthynas y Deyrnas Unedig a’r UE yn y dyfodol wedi peri pryder yn naturiol i’r degau o filoedd o ddinasyddion yr UE sydd wedi dod i fyw a gweithio yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfraniad y mae dinasyddion yr UE wedi’i wneud, ac yn parhau i’w wneud, i Gymru a gwnawn bopeth yn ein gallu i gefnogi gwladolion yr UE yng Nghymru.

Mae yma groeso cynnes yng Nghymru i bobl o bob cwr o’r byd. Bu hyn yn wir yn y gorffennol ac mae’n dal yn wir hyd heddiw. Mae pobl sy’n dod i Gymru o wledydd tramor yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru a bywyd Cymru. Ond mae’r rhai sydd wedi penderfynu symud i ffwrdd yr un mor bwysig i Gymru – y Cymry alltud a’n cynfyfyrwyr.

Mae pobl o Gymru wedi ymfudo ledled y byd, o fordaith y Mimosa, a sefydlodd y wladfa Gymraeg ym Mhatagonia dros 150 mlynedd yn ôl, i’r 1.8m o bobl o dras Gymreig yn yr Unol Daleithiau heddiw. Mae’r Cymry wedi cael effaith ddofn lle bynnag y maen nhw wedi ymgartrefu, ar ddiwylliant a gwleidyddiaeth y genedl fabwysiedig. Cafodd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau ei lofnodi gan bump yn hanu o Gymru ac roedd gan o leiaf wyth o Arlywyddion yr Unol Daleithiau hynafiaid Cymreig.

Mae diaspora’r Cymry yn fawr ac amrywiol ac mae’n gaffaeliad amhrisiadwy mewn cysylltiadau rhyngwladol ac i hybu Cymru i’r byd. Heddiw, mae gan Gymru o leiaf 33 o sefydliadau i alltudion, sy’n cynrychioli mwy nag 20,000 o bobl.

Mae ein prifysgolion yn cynnig cyfle i gryfhau ac ymestyn presenoldeb ac effaith ryngwladol Cymru: maent yn sefydliadau pwysig sy’n gysylltiedig â’r byd, ac sydd â chysylltiadau ymchwil sy’n ymestyn yn fyd-eang ac yn gallu denu myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Byddwn yn annog cynfyfyrwyr o brifysgolion a cholegau Cymru i ledaenu’r neges ar ôl dychwelyd i’w mamwlad am eu profiadau yng Nghymru.

Byddwn yn cryfhau’r cysylltiadau â’r Cymry alltud. Rydym am ymgysylltu â 500,000 o Gymry alltud, cynfyfyrwyr a chyfeillion Cymru ledled y byd, gan ddefnyddio’r doreth o wybodaeth sydd ganddyn nhw a’u cysylltiadau i godi proffil Cymru ar lefel fyd-eang. Byddwn yn datblygu ymagwedd newydd gynhwysfawr at y Cymry alltud, gan gydweithio â rhwydweithiau sydd wedi ennill eu plwyf, megis Global Welsh, Wythnos Cymru yn Llundain ac eraill.

Astudiaeth achos: Seren a Streipiau i bobl ifanc drwy gynllun Ivy League Llywodraeth Cymru

Mae mwy o fyfyrwyr o Gymru wedi ymrestru yn rhaglen Ysgolheigion Byd-eang Prifysgol Yale nag unrhyw genedl neu ranbarth arall y tu allan i’r Unol Daleithiau.

Gan adeiladu ar lwyddiant Rhwydwaith Seren wrth gynyddu nifer y disgyblion o ysgolion gwladol Cymru a wnaeth gais i Rydychen a Chaergrawnt ac a gafodd eu derbyn yno, mae’r rhwydwaith wedi creu partneriaeth â phrifysgolion gorau’r Unol Daleithiau, megis Yale a Harvard.

Yn haf 2019, bu’r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr, sef 53, yn cymryd rhan mewn ysgol haf yn yr Unol Daleithiau, gan dreulio pythefnos ym Mhrifysgolion Yale neu Harvard i gael blas ar fywyd prifysgol yn yr Unol Daleithiau.

Mwynhaodd y llysgenhadon ifanc o Gymry brofiad bywyd trawsnewidiol a helpu i hybu Cymru a’u haddysg ragorol eu hunain i gyfoedion ac academyddion o bob rhan o’r byd tra oedden nhw yn sefydliadau’r Ivy League.

Mae myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn yr ysgolion haf wedi mynd ymlaen i ennill lleoedd i israddedigion yn Yale, Harvard a Stanford ac yn cadw cysylltiad â Chymru drwy Rwydwaith Seren.

Yn ddiweddar Cymru oedd yr 17eg wlad yn unig i gymryd rhan yn rhaglen Labordai Addysgu  Byd-eang Athrofa Technoleg Massachusetts (MIT). Mae’r rhaglen hon yn helpu myfyrwyr gwyddoniaeth MIT i dreulio amser yng Nghymru yn cefnogi athrawon a disgyblion gwyddoniaeth mewn ysgolion.

Mae llwyddiant y cyfnewidfeydd myfyrwyr a’r cyfnewidfeydd academaidd hyn wedi arwain at bartneriaethau addysgol arloesol rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau gyda Chomisiwn Fulbright a Rhaglen Ysgoloriaethau Rhyngwladol Gilman, gan sicrhau y bydd mwy o fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau yn dod i Gymru, a sicrhau bod Cymru’n cael ei hybu fel rhywle i astudio ar draws yr Unol Daleithiau, a sefydlu cysylltiadau ymchwil newydd i brifysgolion Cymru.

O ran blaenoriaeth fe fyddwn:

  • Yn codi proffil Cymru drwy weithio gyda’r Cymry alltud, cynfyfyrwyr a sefydliadau partner, gan ganolbwyntio yn y flwyddyn gyntaf ar UDA a Japan a dod o hyd i Gymry dylanwadol ledled y byd. Gwnawn hyn drwy fapio cynfyfyrwyr a Chymry alltud, yn ogystal â gweithgarwch yn gysylltiedig â Chymru sy’n digwydd ledled y byd, i greu cronfa ddata gynhwysfawr o gysylltiadau Cymreig gyda’r nod o greu 500,000 o gysylltiadau mewn pum mlynedd.
  • Yn codi proffil Cymru drwy gydlynu’n gweithgarwch rhyngwladol gyda sefydliadau diwylliannol a chwaraeon allweddol i helpu i agor drysau a mynd i mewn i farchnadoedd newydd, anodd eu cyrraedd, i chwyddo llais Cymru dros y môr.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy hybu Cymru fel cenedl groesawgar yn unol â’n dyhead o ddod yn Genedl Noddfa, sydd wedi ymrwymo i hawliau dynol a hybu heddwch. Byddwn yn cynnal digwyddiad blynyddol yn cydnabod y cyfraniadau sy’n cael eu gwneud gan ein cymunedau o fewnfudwyr sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yn ddathlu’r cysylltiadau rhwng Cymru a’u mamwlad.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy astudio datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang foesegol fel rhan o Fagloriaeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr Cymru’n ddinasyddion gwybodus.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy hybu Cymru fel y wlad a ysbrydolodd y GIG ac sy’n dal at ei werthoedd craidd drwy fod y wlad gyntaf yn y byd sydd ag asesiadau effaith iechyd statudol.

Fe fyddwn ni hefyd:

  • Yn codi proffil Cymru drwy hybu Cymru’n rhyngwladol fel lle i hyfforddi, gweithio a byw i weithwyr gofal iechyd.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy gynyddu ymwybyddiaeth fyd-eang o Gymru fel cenedl ddwyieithog. Adeiladwn ar y gwaith a wnaed yn ystod Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO i ddangos sut y byddwn yn cynyddu’r niferoedd sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg a sicrhau bod gwaddol yn datblygu o ganlyniad i hynny. Byddwn yn rhannu’n llwyddiant gyda gwledydd eraill mewn byd lle mae iaith yn marw bob yn ail wythnos.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy gynyddu’n cyfranogiad yn yr astudiaeth ar Ymddygiad Iechyd ymysg Plant o Oedan Ysgol.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy ddefnyddio Cwricwlwm Cymru 2022 fel bod disgyblion yn gallu parhau â thraddodiad creadigol Cymru ac wedi’u harfogi â’r sgiliau i gystadlu yn yr economi byd-eang, gan gynnwys ieithoedd modern.
  • Yn tyfu’n heconomi drwy gydweithio â sefydliadau addysg i gynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yng Nghymru a byddwn yn pwyso am barhau i gymryd rhan yn Erasmus+ a Horizon 2020 (ac unrhyw raglenni dilynol).
  • Yn codi proffil Cymru, drwy ystyried pa mor ymarferol yw addysgu Mandarin mewn ysgolion uwchradd fel rhan o weledigaeth hirdymor i sefydlu Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr o Tsieina
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy barhau i gydweithio â Fietnam i feithrin ei seilwaith addysgol drwy gyfleoedd hyfforddi, ymchwilio, cydweithredu a chyfnewidfeydd academaidd. Byddwn yn ehangu’r rhaglen hon gyda gwledydd partner eraill.

Astudiaeth achos: HyfforddiGweithioByw

HyfforddiGweithioByw yw prif ymgyrch Llywodraeth Cymru i helpu i recriwtio gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i GIG Cymru. Mae’n hybu’r amgylchedd hyfforddi a gweithio o’r radd flaenaf sydd gan GIG Cymru i’w gynnig a’r ansawdd bywyd sydd ar gael yng Nghymru.

Mae’r ymgyrch wedi’i defnyddio i hybu manteision hyfforddi a gweithio fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru’n fwy byd-eang, gyda phob cyfnod proffesiynol yn yr ymgyrch yn targedu gwledydd gwahanol.

Mae’r ymgyrch feddygol wedi targedu myfyrwyr meddygol, hyfforddeion, meddygon teulu sydd newydd ennill eu cymhwyster a meddygon teulu sy’n agosáu at ymddeol yn gweithio yn y Deyrnas Unedig, India, Awstralia, Seland Newydd a Chanada i’w perswadio i ddod i gwblhau eu hyfforddiant yng Nghymru; i weithio yng Nghymru ac i fyw yng Nghymru, yn y drefn honno, gan ddefnyddio astudiaethau achos a straeon o fywyd go iawn.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae ymgyrch benodol wedi rhedeg yn yr un gwledydd rhyngwladol i recriwtio hyfforddeion seiciatreg graidd ac mae’r canlyniadau wedi bod yn arwyddocaol.

Mae’r ymgyrch nyrsio yn rhedeg ers 2017 ac i ddechrau bu’n targedu nyrsys mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn y Deyrnas Unedig, India, Canada, România, Seland Newydd ac Awstralia. Cafodd cyfnod nesaf yr ymgyrch ryngwladol ei lansio ym mis Ionawr 2020, i gyd-fynd â gwaith recriwtio rhyngwladol y byrddau iechyd a Blwyddyn y Nyrs.

Dyma Gymru: Cynhyrchion

Ein tri uchelgais craidd yw:

  • Codi proffil Cymru’n rhyngwladol – byddwn yn adeiladu ar enw da ein gwlad fel man sy’n fwrlwm o greadigrwydd a lle mae pobl yn rhydd i arloesi ac arbrofi.
  • Tyfu’n heconomi drwy gynyddu allforion a denu buddsoddiadau o’r tu allan, gan greu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gofleidio a datblygu technoleg newydd i sicrhau ffyniant.
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein deddf arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn tanlinellu’n hymrwymiad i gynaliadwyedd.

Mae Cymru yn wlad uchelgeisiol sy’n masnachu’n fyd-eang ac yn agored ar gyfer busnes.

Byddwn yn hybu Cymru fel y lle mwyaf sefydlog yn y Deyrnas Unedig i fuddsoddi ynddo. Mae’n heconomi’n tyfu, yn ffyniannus ac amrywiol, ac yn cynnig cyfleoedd gwych i fasnachu a buddsoddi. Mae Cymru’n gartref i gwmnïau technoleg sy’n arwain y byd, cyfleusterau ymchwilio a datblygu rhagorol, gweithlu medrus ac ymroddgar iawn a thoreth o adnoddau naturiol.

Mae economi Cymru wedi’i hintegreiddio’n agos ag economi’r Deyrnas Unedig, ond rydym yn gwerthu’n cynhyrchion rhagorol ac arobryn ledled y byd. Mae’n masnach ryngwladol yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru, ac un o nodau allweddol y strategaeth hon yw tyfu’n heconomi drwy gynyddu allforion a hybu lefelau uwch o fuddsoddiadau o’r tu allan, gan gefnogi economi Cymru a chreu mwy o gyfleoedd am swyddi yng Nghymru.

Bydd ein llywodraeth ddatganoledig sefydlog, ein gweledigaeth ar gyfer twf, gwaith teg a byw yn gynaliadwy, ynghyd â’n cysylltiadau cryf â gweddill y Deyrnas Unedig; ansawdd bywyd; costau byw is, o’u cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’r gweithlu cymwys a medrus, yn helpu i barhau i ddenu buddsoddiadau o’r tu allan a buddsoddiadau tramor uniongyrchol.

Rydym yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, yn ymwybodol iawn o’r rôl sydd gennym o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a helpu i ddylanwadu ar eraill i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Gall Cymru fod ar flaen y gad o ran y chwyldro ynni gwyrdd, gan ddatblygu ffynonellau newydd o ynni adnewyddadwy o’n moroedd, yn union fel yr ydym ar flaen y gad o ran ymdrechion byd-eang i gynyddu cyfraddau ailgylchu a symud i economi carbon-isel cylchol.

Rydym yn awyddus i ddatblygu’n henw da yn rhyngwladol fel Cenedl Deg, lle rydym yn adnabyddus am ein hymrwymiadau cryf i fasnach deg, gwaith teg a chwarae teg. Ymgorfforir hyn yn ein Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi sydd wedi’i fabwysiadu gan fwy na 200 o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Allforion

Ar adeg o newid ac ansicrwydd sylweddol ledled y byd, mae busnesau Cymru’n dal i fasnachu â gwledydd yn yr holl brif farchnadoedd rhyngwladol. Mae’r mwyafrif o’n hallforion tramor yn mynd i wledydd yr UE, sy’n gwneud y berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yn hanfodol bwysig. Mewn byd ar ôl Brexit, os bydd y Deyrnas Unedig yn dewis mynd ar drywydd cytundebau masnach rydd gyda gwledydd y tu allan i’r UE, daw llanw a thrai cysylltiadau masnach y byd yn bwysicach byth i economi Cymru.

  • £17.2bn oedd gwerth allforion Cymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019. Aeth mwy na 60% o’r allforion tramor hyn i wledydd yr UE.
  • Yn 2018, o’r 259,200 o fentrau gweithredol a oedd ar waith yng Nghymru, roedd gan 103,530 bencadlys yng Nghymru, sef y lefel uchaf ers dechrau cadw cofnodion.
  • Mae bron 1,250 o gwmnïau tramor yn galw Cymru yn gartref, gan gyflogi mwy na 160,000 o bobl. Mae llwyddiant Cymru o ran denu buddsoddiadau uniongyrchol o wledydd tramor dros ddegawdau lawer wedi’i seilio i raddau helaeth ar fynediad i farchnad yr UE o fwy na 500 miliwn o gwsmeriaid.
  • Yn 2018, £405m oedd gwerth twristiaeth o wledydd tramor i economi Cymru.
  • Mae myfyrwyr tramor ym mhrifysgolion Cymru yn cyfrannu mwy na £600m mewn enillion allforio i economi Cymru yn ogystal â chyfoethogi ein hamrywiaeth diwylliannol a lledaenu neges gadarnhaol am Gymru ar ôl dychwelyd adref.

I ble mae Cymru’n allforio? Y 10 cyrchfan allforio orau

  1. Yr Almaen
  2. Ffrainc
  3. UDA
  4. Iwerddon
  5. Yr Iseldiroedd
  6. Gwlad Belg
  7. Yr Emiradau Arabaidd Unedig
  8. Sbaen
  9. Tsieina
  10. Canada

Beth mae Cymru’n ei allforio?

(Sylwch: categorïau allforio swyddogol CThEM yw’r rhain, ond nid yw Cymru’n allforio anifeiliaid byw.)

Allforion Cymru fesul cynnyrch (cyfran ganrannol)
Peiriannau ac offer trafnidiaeth 49.55
Tanwyddau mwynol, ireidiau a deunyddiau perthynol 13.44
Nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu 12.58
Amrywiol eitemau wedi’u gweithgynhyrchu 11.36
Amrywiol eitemau wedi’u gweithgynhyrchu 7.92
Bwyd ac anifeiliaid byw 2.97
Deunyddiau crai, anfwytadwy, ac eithrio tanwyddau 1.47
Nwyddau sydd heb eu dosbarthu mewn man arall 0.55
Diodydd a thybaco 0.15
Olewydd anifeiliaid a llysiau 0.02

Ymadael â’r UE yw’r her fwyaf i’n statws masnachu rhyngwladol ers cenedlaethau. Beth bynnag fo’r dyfodol a beth bynnag fo perthynas y Deyrnas Unedig â’r UE yn y dyfodol, rydym yn glir nad yw ymadael â’r UE yn golygu troi’n cefn ar ein partneriaid masnachu yn Ewrop. Bydd y penderfyniadau a wneir wrth i’r Deyrnas Unedig ddatblygu cysylltiadau masnachu â’r UE a gweddill y byd yn y dyfodol yn diffinio buddiannau economaidd Cymru am flynyddoedd i ddod. Yn yr un modd, byddwn yn croesawu’r ysgogiad newydd ar gyfer cyfleoedd masnachu ledled y byd er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i dyfu’n heconomi.

Gwledydd yr UE (gweler y siart) a Gogledd America yw’n prif bartneriaid masnachu. Rydym yn mynd i mewn hefyd i farchnadoedd newydd yn Asia: cododd Tsieina y gwaharddiad ar gig eidion o Brydain ar ddiwedd 2019, gan baratoi’r ffordd i gig eidion PGI o Gymru sicrhau troedle yn y farchnad Tsieineaidd ac mae Japan wedi agor y farchnad i gig oen o Gymru. Ar hyn o bryd, mae mwy na thraean o gig coch Cymru yn cael ei allforio y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn bennaf i’r UE, sy’n werth tua £200m y flwyddyn. Tsieina yw un o farchnadoedd allforio fwyaf y Deyrnas Unedig o ran bwyd a diod. Gallai allforion cig eidion o Gymru i Tsieina fod yn werth tua £25m y flwyddyn i sector cig coch Cymru.

Mae allforion i’r Dwyrain Canol, yn enwedig yn y sector bwyd a diod, wedi creu cyfleoedd newydd i gwmnïau o Gymru. Mae yna farchnad defnyddwyr cynyddol yn y rhan hon o’r byd, sydd â diddordeb mewn cynhyrchion o safon o Gymru, gydag allforion bwyd i Qatar yn unig yn cynyddu saith gwaith ers 2016. Gallai rhanbarth y Gwlff fod yn farchnad amgen hyfyw i allforwyr sydd fel arfer yn dibynnu ar Ewrop.

Rydym wedi agor swyddfeydd newydd i’r Llywodraeth ym Montréal a Doha, i gydnabod ein cysylltiadau â Gogledd America a’r Dwyrain Canol (gweler Atodiad C i gael y manylion).

Does dim modd anwybyddu’r shifft economaidd fyd-eang o’r gorllewin i’r dwyrain a chynnydd economi Asia. Mae poblogaeth sy’n heneiddio a dirywiad y farchnad ddomestig yn Japan yn golygu bod cwmnïau o Japan yn edrych dros y môr i ategu eu cynlluniau ehangu. Mae De-ddwyrain Asia’n parhau i gynnig cyfleoedd newydd i allforwyr o Gymru, wrth i fyfyrwyr o bob rhan o’r is-gyfandir ddod i astudio yng Nghymru.

Rydym yn credu’n gryf mai cadw perthynas agos ag Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd sydd orau er lles buddiannau economaidd Cymru. Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i negodi perthynas fasnachu effeithiol, ac yn disgwyl bod yn rhan weithredol o’r broses negodi ynglŷn â hyn.

Bydd ein swyddfa ym Mrwsel yn dal yn hanfodol i hybu Cymru yn Ewrop. Bydd yn llwyfan i’n hymgysylltiad â sefydliadau’r UE, ei aelod-wladwriaethau ei genhedloedd a’i ranbarthau. Yn 2018, agorwyd swyddfeydd ym Merlin, Düsseldorf a Pharis. Mae’r rhain yn adlewyrchu pwysigrwydd Ffrainc a’r Almaen fel partneriaid masnachu a’r angen i gydweithio a chynnal ein perthnasoedd â phartneriaid Ewropeaidd gwerthfawr.

Mae magu perthynas newydd yn cymryd amser hir, a dyna pam y mae’n bwysig cadw a meithrin y rhai presennol. Byddwn yn meithrin perthynas agosach â’r Almaen fel partner masnachu mwyaf Cymru a phartner buddsoddi sylweddol. Byddwn yn dathlu hyn gyda blwyddyn ar y thema Cymru yn yr Almaen yn 2021. Byddwn yn meithrin perthynas gryfach â Ffrainc, partner pwysig ar gyfer masnach, twristiaeth, addysg a diwylliant. Gwladolion o’r Almaen ac Iwerddon sy’n byw yng Nghymru yw dwy o’n cymunedau rhyngwladol mwyaf.

Byddwn yn cynyddu’n presenoldeb yn aelodwladwriaethau’r UE ac yn gweithio i sicrhau bod yr Undeb Ewropeaidd a’i haelod-wladwriaethau yn parhau fel ein partneriaid cryfaf.

Iwerddon yw’n cymydog Ewropeaidd agosaf. Ers rhai blynyddoedd, mae gennym swyddfa yn Nulyn er mwyn cydnabod pwysigrwydd y berthynas arbennig hon. Roeddem yn falch iawn o weld Conswliaeth Iwerddon yn ailagor ei swyddfa yng Nghymru ym mis Mai 2019 a byddwn yn annog gwledydd eraill i ddilyn yr esiampl hon. Byddwn yn nodi rhaglen glir ar gyfer cydweithredu ag Iwerddon yn y dyfodol.

Ers datganoli, rydym wedi ffurfioli’r berthynas rhwng y naill lywodraeth a’r llall mewn sawl rhanbarth ac wedi llofnodi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda nifer o ranbarthau Ewropeaidd, gan gynnwys Llydaw, Gwlad y Basg a Galicia. Mae gennym hefyd gydweithrediad cryf, ers tro byd â Fflandrys, Baden-Württemberg a Gogledd Rhine-Westphalia ac wedi llofnodi datganiad o gyfeillgarwch ac undod gyda Thalaith Gogledd Holland yn yr Iseldiroedd, sy’n cynnwys Amsterdam. Mae’r rhain i gyd yn bartneriaid masnachu pwysig presennol ond mae’n perthnasoedd yn ymestyn y tu hwnt i fasnach yn unig (gweler Atodiad B i gael rhagor o fanylion).

Byddwn yn cynyddu’r cydweithio ar draws llywodraethau gyda’r gwledydd a’r rhanbarthau sy’n bartneriaid allweddol inni lle mae Cymru’n elwa’n economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

Rydym ni a llawer mwy o sefydliadau yng Nghymru yn aelodau o nifer o rwydweithiau rhyngwladol. Byddwn yn asesu pa sefydliadau y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau â pherthynas â nhw wrth i berthynas y Deyrnas Unedig â’r UE yn y dyfodol ddatblygu. Bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu seilio ar i ba raddau y mae’r rhwydweithiau’n cyd-fynd â’r strategaeth hon a blaenoriaethau ehangach y llywodraeth a sut y gallant helpu i ddylanwadu ar y polisi rhyngwladol a’i effaith.

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi gwaith y conswliaid anrhydeddus yng Nghymru yn fawr a byddwn yn annog rhagor o wledydd i fabwysiadu’r dull hwn o weithredu er mwyn cryfhau’r cysylltiadau hyn.

Polisi masnach

Mae polisi masnach Cymru yn gorwedd ar sail ein hymrwymiadau ehangach i gynaliadwyedd ac i weithredu fel cenedl gyfrifol ar y llwyfan byd-eang; parchu a diogelu hawliau dynol; cymryd camau i ymateb i argyfwng hinsawdd y byd ac i ddiogelu’n gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr.

Rydym yn credu’n gryf y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnwys Cymru wrth ddatblygu polisi masnach y Deyrnas Unedig.

Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig:

  • Sicrhau polisi masnach sy’n gweithio i bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
  • Ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig a gofyn eu cydsyniad wrth ddatblygu polisi masnach i’r Deyrnas Unedig.
  • Gweithio gyda’r llywodraethau datganoledig ar goncordat masnach.
  • Ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig yn ystod y cyfnod cyn negodi, gan sicrhau bod yna gyfle gwirioneddol i’r gweinyddiaethau datganoledig gyfrannu at y broses datblygu polisi cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud a chyn i’r gwaith negodi â’r UE neu drydedd wlad ddechrau.
  • Beidio â bwrw ymlaen fel arfer â safbwyntiau negodi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â pholisïau datganoledig (er enghraifft, safonau amgylcheddol, amaethyddiaeth a physgodfeydd, darparu gwasanaethau cyhoeddus fel addysg ac iechyd) heb gytundeb y llywodraethau datganoledig.
  • Ymgysylltu â’r llywodraethau datganoledig drwy gydol y gwaith negodi, a chynnwys swyddogion o’r llywodraethau datganoledig yn y timau negodi lle mae’r negodi’n effeithio ar gymwyseddau datganoledig neu faterion sy’n arbennig o berthnasol i Gymru neu’r gwledydd datganoledig eraill.
  • Ymgynghori’n ffurfiol â’r sefydliadau datganoledig pan fydd y gwaith negodi ar ben ond cyn i gytundebau gael eu llofnodi.

Yn gyfnewid am hyn, fe fyddwn ni:

  • Yn bartner adeiladol.
  • Yn rhannu gwybodaeth a dadansoddiadau.
  • Yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi arweinyddiaeth i’r rhanddeiliaid perthnasol.
  • Yn adlewyrchu safbwyntiau negodi cytûn y Deyrnas Unedig wrth gymryd rhan mewn timau negodi.
  • Yn gweithio’n adeiladol gan ddefnyddio’n rhwydweithiau tramor i hybu a diogelu buddiannau Cymru a’r Deyrnas Unedig ehangach.

Buddsoddiadau Tramor Uniongyrchol

Mae Cymru wedi croesawu ac wedi cefnogi busnesau o bob rhan o’r byd, gan eu helpu i ddatblygu, tyfu a gwireddu eu potensial llawn.

Y 10 Marchnad FDI Uchaf

  • UDA
  • Yr Almaen
  • Japan
  • Canada
  • Iwerddon
  • Ffrainc
  • India
  • Yr Eidal
  • Sbaen
  • Y Swistir

(Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru. Perfformiad agregedig buddsoddiadau o’r tu allan 2013-14 i 2017-18)

Mae’r Unol Daleithiau a Chanada yn fuddsoddwyr pwysig yng Nghymru. O’r 1,245 o gwmnïau tramor sy’n gweithredu yng Nghymru, mae bron 25% yn dod o Ogledd America ac yn gyfrifol am un rhan o dair o’r gweithwyr yng Nghymru a gyflogir gan gwmnïau mewn meddiant tramor. Mae graddfa economïau’r Unol Daleithiau a Chanada yn golygu bod cyfleoedd yn gallu codi mewn unrhyw sector ac unrhyw ranbarth bron.

Rydym yn credu bod penderfyniadau buddsoddi’n ymwneud â mwy na manteision economaidd yn unig: mae ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn chwarae rôl gynyddol mewn penderfyniadau buddsoddi. Mae’n Contract Economaidd yn gosod buddsoddiad sydd â phwrpas cymdeithasol wrth ei galon.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar greu a hybu cyfleusterau o’r radd flaenaf yn y byd ar gyfer twf busnes yng Nghymru, gan ddefnyddio “prosiectau magnet” yn gyfleoedd i fusnesau ac fel modd i godi enw da Cymru ar sail ein hasedau, ein sgiliau a’n gallu o ran ymchwilio a datblygu.

Bydd prosiectau magnet yn cael eu defnyddio fel catalyddion i ddenu rhagor o fuddsoddiadau i rannau penodol o Gymru. Byd dy rhain yn cyd-fynd â’n Bargeinion Dinas a Thwf a mentrau Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel Pwerdy Gogledd Lloegr a Chynghrair De-orllewin Lloegr, ac yn hybu Cymru fel lle i brofi technolegau arloesol y dyfodol (ceir enghreifftiau o brosiectau magnet yn Atodiad E). Mae’r Clwstwr Creadigol yn cefnogi ac yn meithrin gwaith ymchwilio a datblygu yn y diwydiant gemau a chyfryngau rhyngweithiol, gan amlygu doniau Cymru yn y diwydiannau creadigol. Consortiwm yw hwn rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Met Caerdydd, ac mae’n cefnogi cynhyrchion o’r cysyniad i’r datblygiad.

Magnet arall yw Ynni Môr Cymru, sy’n dod â datblygwyr technoleg, y gadwyn gyflenwi, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus ynghyd i sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes cynhyrchu ynni môr cynaliadwy. Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Môr yn Sir Benfro a’r Ardal Profion Ynni Môr yn caniatáu i ddatblygwyr byd-eang brofi eu cynhyrchion yng Nghymru, gan harneisio’r pŵer crai oddi ar lannau Cymru.

Cafodd Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, sy’n werth £20m, ei hagor yn swyddogol yn y Gogledd ym mis Tachwedd 2019. Bydd yn galluogi busnesau i ddefnyddio technolegau uwch, gan eu helpu i ysgogi gwelliannau o ran cynhyrchedd, perfformiad ac ansawdd. O’i safle yng nghanol Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, bydd yn canolbwyntio ar sectorau gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys awyrofod, moduron, niwclear a bwyd.

Wrth inni symud i ffwrdd o ddibyniaeth ar ddiwydiant trwm, mae angen i Gymru ddangos wyneb newydd i’r byd: un sy’n fodern, bywiog a chyfoes ac sy’n barod i wynebu a chofleidio dyfodol o fwyfwy o ddigideiddio, awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. Byddwn yn amlygu tri sector gwahanol a chynyddol lle mae gan Gymru arbenigedd, profiad ac uchelgais: seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a chynhyrchu ffilm a theledu. Bydd y tri sector hyn yn helpu i ddangos yr ystod eang o gyfleoedd sydd gan Gymru i’w cynnig.

Byddwn yn parhau i groesawu buddsoddiadau ym mhob sector o’r economi a chanddyn nhw. Rydym wedi dewis y tri maes penodol hyn i ddangos mor amrywiol yr aeth economi Cymru mewn cyfnod cymharol fyr o amser a sut rydym wedi llwyddo i ddatblygu clystyrau o arbenigedd yn y meysydd hyn gyda chefnogaeth benodol. Maen nhw hefyd wedi datblygu, ac wedi ffynnu, yn wyneb ansicrwydd Brexit a hinsawdd ariannol anodd yn sgil y dirwasgiad diwethaf yn y Deyrnas Unedig. Wrth inni symud ymlaen, byddwn yn datblygu rhagor o ganolfannau rhagoriaeth, ochr yn ochr â’r rhai sydd wedi’u dechrau eisoes, y gall Cymru fod yn adnabyddus yn eu sgil a’r rheiny’n cyd-fynd â’n gweledigaeth i hybu Cymru fel gwlad sy’n adnabyddus am greadigrwydd, technoleg a chynaliadwyedd.

Datblygu canolfannau rhagoriaeth

Fel rhan o’r strategaeth hon, byddwn yn amlygu tri sector penodol y mae Cymru’n rhagori ynddynt, gan ddangos ein bod wedi dod yn gartref i ganolfannau rhagoriaeth yn y meysydd hyn. Mae’r dull hwn wedi’i ddefnyddio yn sector bwyd a diod Cymru lle ceir model sydd wedi ennill ei blwyf o greu clystyrau a chymorth sy’n cael ei ddarparu drwy gynllun Arloesi Bwyd Cymru.

Drwy dynnu sylw at y cyfleoedd i fuddsoddi yn y diwydiannau hyn, byddwn yn creu cyfleoedd newydd ac ehangach i bobl a chyflogaeth yng Nghymru, gan roi hwb i ymchwilio a datblygu ac arloesi er mwyn cynnal cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru, gan sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa i wynebu a chofleidio dyfodol o fwyfwy o ddigideiddio, awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial.

Mae’r sectorau hyn wedi’u dewis yn sgil:

  • eu cydnabyddiaeth fyd-eang fel meysydd rhagoriaeth
  • eu cydnerthedd yn sgil Brexit
  • eu cydymffurfiaeth â’r blaenoriaethau yn y Cynllun Gweithredu Economaidd
  • eu cefnogaeth fel canolfannau rhagoriaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • eu potensial sylweddol o ran tyfu
  • eu gallu i hybu Cymru fel gwlad sydd wedi ymrwymo i greadigrwydd, technoleg a chynaliadwyedd. 

Bydd y sectorau hyn yn ein helpu i dynnu sylw’r byd ehangach at y sgiliau sydd ar gael yng Nghymru ac amrywiaeth ein sector gweithgynhyrchu a’n sector creadigol.

Y meysydd yr ydym wedi dewis eu hamlygu fel canolfannau rhagoriaeth yw:

  • Seiberddiogelwch
  • Lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • Y diwydiannu creadigol – teledu a ffilm

Mae toreth o arbenigedd ym mhob un o’r tri maes hwn yn bodoli eisoes yng Nghymru: mae cwmnïau ar flaen y gad o ran cynhyrchu a datblygu ym mhob un o’r tri sector hyn, gan ddarparu sylfaen gadarn a sefydlog y gallwn adeiladu arni yn wyneb yr heriau parhaus a ddaw yn sgil Brexit.

Seiberddiogelwch

Mae Cymru yn rhan o’r brif ganolfan Ewropeaidd mewn seiberddiogelwch gyda mwy na 500 o aelodau yn yr ecosystem seiberddiogelwch. Mae’r clwstwr cynyddol hwn ar ei ennill o fod yn agos i GCHQ ac arbenigedd yn ne-orllewin Lloegr.

Yn 2017, i gydnabod ein henw da a’n harbenigedd cynyddol yn y dechnoleg hon, cafodd Cymru ei gwahodd i ymuno ag ecosystem fyd-eang y Bartneriaeth Ecosystemau mewn Arloesi a Seiberddiogelwch (EPIC Byd-eang), a sefydlwyd i adeiladu cymuned fyd-eang o arbenigedd i helpu i ddatblygu a rhannu gwybodaeth newydd ym maes seiberddiogelwch arloesol. Mae EPIC Byd-eang ar hyn o bryd yn cynnwys 25 o ecosystemau byd-eang o 10 o wledydd gwahanol ar draws tri chyfandir.

Amcangyfrifir bod sector technoleg Cymru’n werth £8.5bn ac yn tyfu. Mae mwy na 40,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn yr economi digidol gyda’r prif ganolfannau yn canolbwyntio o amgylch Caerdydd a Chasnewydd yn y De, Abertawe yn y Gorllewin a Wrecsam yn y Gogledd.

Mae Cymru yn gartref i fwy na 3,000 o gwmnïau technoleg cartref ac amlwladol, gan gynnwys rhai o’r cwmnïau technoleg mwyaf, gan gynnwys BT, Thales, Qinetiq, Airbus Defence and Space a General Dynamics.

Lled-ddargludyddion cyfansawdd

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd wrth galon llawer o’r dyfeisiau y byddwn yn eu defnyddio heddiw, o ffonau clyfar i lechi a systemau cyfathrebu lloeren. Credwn fod 60% o ffonau symudol y byd yn cynnwys microsglodyn wedi’i wneud yng Nghymru, felly mae darn bach o Gymru ym mhoced y rhan fwyaf o bobl. Dyma stori rydyn ni eisiau ei hadrodd i’r byd. Maent yn ganolog i ddatblygiad y rhwydwaith 5G, ar flaen y gad o ran cynhyrchion arbed ynni sy’n tanlinellu’n hymrwymiad i gynaliadwyedd, fel goleuadau newydd effeithlon iawn a’r genhedlaeth nesaf o gerbydau trydan a thechnegau delweddu newydd at amryw o ddibenion o ddiogelwch i ddiagnosteg iechyd. Gallai’r farchnad fyd-eang mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd fod yn werth £125bn erbyn 2020.

Cymru yw cartref Canolfan Catapwlt y Deyrnas Unedig ar gyfer led-ddargludyddion cyfansawdd a chafodd y cyfleuster haenellau lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd gefnogaeth gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Daw’n hwb ar gyfer y clwstwr technoleg rhanbarthol, CSconnected.

Y diwydiannau creadigol: teledu a ffilm

Y diwydiannau creadigol yw un o’r sectorau cyflymaf ei dwf yng Nghymru, gyda throsiant blynyddol o bron £2bn, ac maen nhw’n cyflogi mwy na 58,000 o bobl. Eisoes mae gan Gymru enw da yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar gyfer cynhyrchu drama deledu o safon, yn arbennig am fod stiwdios mawr yr Unol Daleithiau fel Fox, NBC Universal, Netflix ac HBO yn defnyddio Cymru fel lleoliad cynhyrchu.

Mae gan Gymru hunaniaeth ddiwylliannol gref hefyd sydd wedi’i phortreadu mewn cynyrchiadau fel Hinterland, Keeping Faith a Hidden, ac mewn rhaglenni teledu sy’n enwog yn rhyngwladol gan gynnwys His Dark Materials, Doctor Who a Sherlock.

Dyma lwyfan i adeiladu rhagor o lwyddiant arno, ond hefyd gyfle i ddangos creadigrwydd a doniau Cymru i’r byd, hybu’r Gymraeg a rhoi cyfleoedd mewn twristiaeth o wledydd tramor ac o’r Deyrnas Unedig.

Bydd twf ein diwydiannau creadigol yn cael ei gryfhau yn sgil lansio Cymru Greadigol ar ddechrau 2020 – asiantaeth fewnol yn Llywodraeth Cymru, yn adlewyrchu modelau Cadw a Croeso Cymru, gyda bwrdd allanol o aelodau o’r diwydiant a masnach i gynnig arbenigedd a chyngor. Bydd £5m o gyllid cyfalaf ychwanegol yn cefnogi blaenoriaethau Cymru Greadigol yn 2020-21.

Bydd Cymru Greadigol yn symleiddio dulliau ariannu; yn cymryd rôl arweiniol wrth farchnata a hybu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i’r byd; yn helpu i ddatblygu’r gronfa sgiliau a thalent yng Nghymru; yn codi safonau yn y gweithle ac yn hybu amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws y sector.

Mae’n bwysig nad ydym yn colli golwg ar ein hymrwymiad cyffredinol i gynaliadwyedd wrth inni weithio i dyfu’n heconomi. Mae twf economaidd cynaliadwy yn ganolog i’n dull gweithredu. Mae ein hymagwedd at ddatblygu ynni adnewyddadwy oddi ar y tir, gan gynnwys ynni môr, yn enghraifft o hyn.

Mae datblygwyr o bob rhan o’r byd yn awyddus i fuddsoddi yng Nghymru a bwrw ymlaen â phrosiectau yn nyfroedd Cymru, gan fod gennym un o’r adnoddau ynni morol a’r strwythurau cymorth gorau sydd i’w cael unrhyw le yn y byd. Rydym yn mynd ati ar draws y llywodraeth i hybu a chefnogi datblygiad sector y tonnau a’r llanw yng Nghymru. Mae gennym fusnesau cadwyn gyflenwi a chyfleusterau rhagorol yng Nghymru, sydd mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd yn y sector. Mae’r sector ynni morol yn cefnogi amrywiaeth yn y gadwyn gyflenwi, cydnerthedd a chlystyru, gan ddarparu swyddi carbonisel newydd a chwarae rhan bwysig i gefnogi economïau lleol a chreu cyfleoedd newydd i gymunedau yn yr hybiau ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn.

Ein huchelgais ni yw gweld Cymru’n ennill ei phlwyf fel canolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer ynni’r môr, gan gynnwys ar sail ei gwaith ymchwilio a datblygu parhaus. Byddwn yn cydweithio â chwmnïau i greu’r amodau i brofi technoleg newydd ac i dyfu’r diwydiant; sefydlu ynni’r môr fel sylfaen i economi Cymru ac i allforio ei botensial y tu hwnt i’n glannau.

O ran blaenoriaeth fe fyddwn:

  • Yn codi proffil Cymru drwy gynyddu’n presenoldeb yn aelod-wladwriaethau’r UE a gweithio i sicrhau mai’r Undeb Ewropeaidd yw ein partner cryfaf o hyd. 
  • Yn codi proffil Cymru drwy weithio gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, yr Adran Masnach Ryngwladol, adrannau eraill o lywodraeth y Deyrnas Unedig, y Cyngor Prydeinig a BBC World Service i gynyddu amlygrwydd Cymru.
  • Yn codi proffil Cymru drwy adeiladu ar y Memoranda Cyd-ddealltwriaeth sy’n bodoli eisoes, drwy weithio gyda llywodraethau yn y gwledydd a’r rhanbarthau sy’n bartneriaid allweddol inni i ddatblygu perthynas lle gall Cymru elwa’n economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
  • Yn tyfu’n heconomi drwy gynyddu cyfraniad allforion at economi Cymru 5 y cant.
  • Yn tyfu’n heconomi drwy sicrhau bod Cymru’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol mewn sectorau economaidd penodol lle rydym yn arweinwyr byd-eang.
  • Yn tyfu’n heconomi drwy hybu prosiectau ‘magnet’, a fydd yn cyfeirio buddsoddiadau at rannau penodol o Gymru.
  • Yn tyfu’n heconomi drwy hybu cydweithredu rhyngwladol ym maes ymchwil ar lefel fyd-eang, lle bo’n briodol, a phwysleisio’r effaith sylweddol y mae ymchwil yng Nghymru yn ei chael o’i chymharu â chenhedloedd a rhanbarthau eraill a thanlinellu’n balchder mai dyma’r lle gorau yn y Deyrnas Unedig o ran nifer y busnesau sy’n cael eu dechrau gan raddedigion.

Fe fyddwn ni hefyd:

  • Yn tyfu’n heconomi drwy gynyddu nifer y busnesau yng Nghymru sy’n allforio’n rhyngwladol a byddwn yn parhau i gefnogi a denu buddsoddiadau i Gymru o’r tu allan.
  • Yn tyfu’n heconomi drwy gynyddu allforion gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Yr Undeb Ewropeaidd fydd ein partner pwysicaf o hyd. Byddwn yn cefnogi allforwyr newydd a phresennol wrth iddynt archwilio marchnadoedd newydd, boed hynny fel rhan o weithgarwch busnes-fel-arfer neu mewn ymateb i drefniadau ar ôl Brexit.
  • Yn tyfu’n heconomi drwy sicrhau buddsoddiadau uniongyrchol o safon o wledydd tramor ledled Cymru yn unol ag egwyddorion y Cynllun Gweithredu Economaidd a thrwy ein timau rhanbarthol a sefydliadau eraill ledled Cymru gan gynnwys ein prosiectau magnet, i gyflwyno neges a chynnig clir a phenodol i’n buddsoddwyr.
  • Yn tyfu’n heconomi drwy weithio gyda sefydliadau, fel M-SParc, i hybu entrepreneuriaid, gan ddefnyddio cysylltiadau â Phrifysgol Harvard.
  • Yn codi proffil Cymru drwy barhau i roi blaenoriaeth i farchnadoedd yn yr Almaen, Ffrainc, Iwerddon a Gogledd America a datblygu cyfleoedd newydd yn Asia a’r Dwyrain Canol.
  • Yn codi proffil Cymru drwy ddatblygu cynllun gweithredu i gadarnhau cysylltiadau â’n partneriaid Ewropeaidd sydd â blaenoriaeth, sef Llydaw, Fflandrys a Gwlad y Basg (gweler Atodiad B). 

Astudiaeth achos: bwyd a diod Cymru

Mae gan sector bwyd a diod Cymru enw da ers tro byd ar sail ei ansawdd a’i amrywiaeth, sy’n cyfrannu at gydnabyddiaeth ryngwladol gref. Ym mis Gorffennaf 2019, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch strategaeth bwyd a diod newydd a oedd yn pwysleisio sut gall y sector godi proffil ac enw da Cymru ymhellach fel cenedl fwyd. Mae’r diwydiant hefyd yn adnabyddus am ei ymrwymiad i gyrraedd a chynnal y safonau amgylcheddol a’r safonau lles uchaf, gan ostwng ei ôl troed carbon a lleihau gwastraff. Bydd cydnabod yr ymrwymiad hwn i gynaliadwyedd a thynnu sylw at hyn ar raddfa fyd-eang yn codi proffil Cymru. Mae delweddau o gig oen o Gymru wedi’u defnyddio mewn modd cyson ar y cyd â delweddau o dirwedd Cymru i gyfleu brand sydd wedi’i wreiddio mewn canfyddiadau cadarnhaol o amaethyddiaeth Cymru fel un anarddwys a llesol iawn sy’n gydnaws â’r amgylchedd naturiol.

  • Roedd allforion bwyd a diod Cymru yn 2018 yn werth £539m, sef cynnydd o 2% (£10m) o’i gymharu â 2017.
  • Mae gwerth allforion bwyd a diod Cymru wedi codi 32% ers 2014.
  • Cododd gwerth allforion bwyd a diod Cymru i wledydd y tu allan i’r UE £25m yn 2018.
  • Aeth £145m o allforion i wledydd y tu allan i’r UE yn 2018.
  • Cafwyd gostyngiad o £14m yn allforion bwyd a diod Cymru i’r UE yn 2018. Aeth £395m o allforion bwyd a diod Cymru i’r Undeb Ewropeaidd yn 2018.
  • Allforion i wledydd yr UE yw 73% o holl allforion bwyd a diod Cymru.
  • Roedd y sector blaenoriaeth bwyd a ffermio yn werth £6.8bn yn 2018, yn agos at gyrraedd y targed trosiant o £7bn yn gynnar cyn 2020.
  • Mae 16 o Enwau Bwyd Gwarchodedig, sy’n amrywio o Gig Oen a Chig Eidion Cymru i Gregyn Gleision Conwy, a 169 o Enillwyr y Blas Mawr (2018).
  • Mae gan y gadwyn gyflenwi bwyd a diod drosiant o £19.1bn gan gyflogi 240,200 ar draws arlwyo, manwerthu a chyfanwerthu, amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu.
  • Mae gan y gadwyn gyflenwi CVA o £4.5bn.
  • Mae gan weithgynhyrchu bwyd a diod drosiant o £4.8bn ac mae’n cyflogi 20,400.

Blas Cymru yw’r digwyddiad masnach rhyngwladol mwyaf mewn bwyd a diod yng Nghymru, ac mae’n dwyn ynghyd gynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant bwyd. Denodd y digwyddiad yn 2019 bron 200 o brynwyr, gan gynnwys prynwyr rhyngwladol o’r Almaen, Ffrainc, yr UAE, Qatar a Japan.

Dyma Gymru: Lle

Ein tri uchelgais craidd yw:

  • Codi proffil Cymru’n rhyngwladol – byddwn yn adeiladu ar enw da ein gwlad fel man sy’n fwrlwm o greadigrwydd a lle mae pobl yn rhydd i arloesi ac arbrofi.
  • Tyfu’n heconomi drwy gynyddu allforion a denu buddsoddiadau o’r tu allan, gan greu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gofleidio a datblygu technoleg newydd i sicrhau ffyniant.
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein deddf arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn tanlinellu’n hymrwymiad i gynaliadwyedd.

Mae Cymru’n wlad fach, ddeallus a hyderus, wedi’i thrwytho mewn diwylliant a hanes.

Adeiladwn ar ein cryfderau a hybu Cymru ar lwyfan y byd fel gwlad y gân, yn gyforiog o hen chwedlau, cestyll carreg a dirgelwch Celtaidd. Ond byddwn yn edrych i’r dyfodol hefyd. Mae Cymru’n wlad fodern, wrth galon y cynnydd mewn e-gemau ac e-chwaraeon; gwlad dylunwyr, artistiaid a sêr chwaraeon dawnus a chreadigol; biolegwyr a pheirianwyr sydd ar flaen y gad mewn ynni morol a gwyddor hinsawdd.

Y 10 Marchnad Ymwelwyr Mwyaf

  • Iwerddon
  • Ffrainc
  • Yr Almaen
  • UDA
  • Yr Iseldiroedd
  • Awstralia
  • Sbaen
  • Gwlad Pwyl
  • Yr Eidal
  • Canada

(Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru. Ymweliadau â Chymru o’r Tu Allan 2015-18)

Mae harddwch naturiol Cymru yn cyfareddu pobl ers canrifoedd. Heddiw mae’n bachu cynulleidfaoedd byd-eang newydd wrth i’r dirwedd drawiadol greu’r gefnlen i ddramâu grymus a throeon plot cymhleth mewn ffilmiau a rhaglenni teledu rhyngwladol sydd wedi’u gwneud ar leoliad yng Nghymru.

Bydd proffil rhyngwladol newydd Cymru ar y sgrin fawr a’r sgrin fach yn helpu i gynyddu enw da rhyngwladol Cymru gan ddenu pobl i Gymru. Ac mae’n henw da cynyddol am ymchwil sy’n arwain y byd yn helpu i danio’n heconomi gwybodaeth ac enw da ein prifysgolion dysgedig.

Mae’n celf a’n diwylliant unigryw a grymus, o’r traddodiadol i’r aml-gyfryngol a welwyd yn torri tir newydd yn y Biennale yn Fenis, yn basbort i Gymru i gynulleidfaoedd newydd mewn gwledydd ym mhedwar ban byd. Rhaid inni barhau i ddefnyddio’n cysylltiadau a’n diplomyddiaeth ddiwylliannol i’r eithaf: o amlygu’n sefydliadau diwylliannol rhagorol dros y môr i groesawu sefydliadau rhyngwladol i Gymru.

Byddwn yn parhau i hybu twristiaeth ddomestig a rhyngwladol. Dyma farchnad gynyddol a phwysig yn economi Cymru: yn 2018, denwyd bron 950,000 o ymwelwyr o wledydd tramor, a oedd yn werth rhyw £405m i economi Cymru.

Mae gan Gymru dri Pharc Cenedlaethol a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf ym Mhrydain. Mae gennym rai o’r afonydd a’r traethau glanaf yn y Deyrnas Unedig, a Chymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatblygu llwybr o amgylch yr arfordir cyfan. Mae gan Gymru dri o safleoedd treftadaeth byd UNESCO ac mae un arall, sef diwydiant llechi Cymru, wrthi’n cael ei ddatblygu. Mae’r rhain yn cynrychioli canrifoedd o dreftadaeth ac yn helpu i osod Cymru yn ei chyd-destun byd-eang. Mae rhyw un rhan o dair o Gymru’n dirwedd sydd wedi’i diogelu, ffaith bwysig a fydd yn helpu i ddod ag ymwelwyr i Gymru.

Mae ansawdd a tharddiad bwyd a diod Cymru wedi gwella’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda rhannau o Gymru yn datblygu enw da fel cyrchfannau twristiaeth bwyd mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig. Mae hybu’n bwyd a’n diod ar y llwyfan rhyngwladol yn amlygu’n cynhyrchion rhagorol a’n dulliau cynhyrchu cadarn, yn ogystal ag ymdeimlad o le. Byddwn yn gwella’r arlwy bwyd o Gymru mewn atyniadau i ymwelwyr, ac yn treiddio’n well i’r sector gwasanaethau bwyd er mwyn gwella’r enw da hwn.

Rydym am i Gymru gael ei hadnabod fel arweinydd byd-eang ym maes twristiaeth antur gynaliadwy. Mae buddsoddiadau newydd ac arloesi mewn canolfannau beicio mynydd, llwybrau cerdded, morlynnoedd syrffio mewndirol a gwifrau gwibio wedi adfywio’n henw da yn rhyngwladol ymysg ymwelwyr ifancach newydd.

Bydd ymwelwyr y dyfodol yn chwilio’n fwyfwy am brofiadau dilys, cynaliadwy ac unigryw ac mae ymagwedd Cymru at gynaliadwyedd amgylcheddol a diwylliannol yn rhoi mantais gystadleuol i ni. Mae hyn yn ategu’n hymrwymiad i ddatgarboneiddio a’n huchelgais y bydd Maes Awyr Caerdydd yn dod yn ganolfan yn y Deyrnas Unedig ar gyfer hedfan carbon-isel.

Mae enw da Cymru o ran cynaliadwyedd a gofal i’r genhedlaeth nesaf yn nodwedd allweddol sy’n ein gwahaniaethu oddi wrth wledydd eraill, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymwelwyr rhyngwladol cyfrifol. Mae’r blynyddoedd thematig parhaus mewn twristiaeth wedi rhoi ffocws ac wedi hybu’r neges bod Cymru yn gyrchfan i dwristiaeth antur gynaliadwy. Blwyddyn Darganfod oedd 2019, gan dynnu sylw at arforgampau yn Sir Benfro a gwifrau gwibio yng Ngwynedd wrth inni ddathlu bioamrywiaeth tirwedd Cymru.

Mae Cymru wedi ennill enw da am gynnal digwyddiadau byd-eang o bwys, o Gwpan Ryder yn 2010, Uwchgynhadledd NATO yn 2014, Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017, Ras Cefnforoedd Volvo yn 2018 ac, yn fwyaf diweddar, gemau Cwpan Criced y Byd.

Mae buddsoddi yn Venue Cymru ac agor Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn 2019 wedi creu cyfleoedd newydd i ddenu digwyddiadau ac arweinwyr busnes newydd i Gymru. Dewiswyd y Gogledd yn un o’r rhanbarthau gorau yn y byd i ymweld â nhw yn 2017 gan Lonely Planet ac yn “Rising Star of 2019” gan The Sunday Times Travel.

Byddwn yn adolygu’n hymagwedd at ddenu digwyddiadau mawr er mwyn denu digwyddiadau sy’n cyd-fynd â’r strategaeth hon.

Mae’n diwylliant, ein tirwedd a’n hiaith yn ffynnu, gan greu cefndir diwylliannol dilys i ymwelwyr y dyfodol ei ganfod.

Mewn cyfnod o globaleiddio ac awtomeiddio cynyddol, pan fo datblygiadau ym maes cyfathrebu yn golygu ein bod yn gallu siarad â phawb bron unrhyw le ar y blaned, rydym yn byw bywydau mwyfwy tameidiog. Mae technoleg, sydd wedi gwneud cymaint i wneud y byd yn lle llai, yn ein hynysu y tu ôl i sgriniau’r llechen a’r ffôn. Byddwn yn hybu Cymru fel lle sydd â chymunedau agos, lle mae pobl yn adnabod ac yn parchu eu cymdogion a bod ganddynt gysylltiadau cryf â’u gwlad.

Mae gennym gyfle i grynhoi ac adeiladu ar yr ymdeimlad hwn o gymuned, sydd wrth galon Cymru; y berthynas ddofn hon rhwng pobl a’u cynefin. Bydd cyfleu hanfod Cymru yn ein helpu i wireddu ein nod deublyg o godi’n proffil ar lwyfan byd-eang gorlawn a dangos ein hymrwymiad i’n cyfrifoldebau byd-eang ac amgylcheddol.

Yr iaith yw sylfaen yr ymdeimlad o gymuned. Ymhen pum mlynedd, rydym am i Gymru gael ei hadnabod fel y genedl amlycaf o ran datblygu iaith, drwy ddefnyddio’n profiadau yn y maes i gydweithio â gwledydd ac ieithoedd lleiafrifol eraill. Teimlwn fod gennym lawer i’w gynnig i’r byd yn y maes hwn lle mae iaith yn marw yn y byd bob yn ail wythnos.

Mae’n gwaith ni i ddiogelu a gwreiddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd, a’n strategaeth bresennol i gyrraedd ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, nid yn unig yn ategu datblygiad y Gymraeg yng Nghymru a chreu Cymru wirioneddol ddwyieithog, ond mae iddo’r potensial i gefnogi gwledydd dwyieithog ac amlieithog eraill ledled y byd.

Rydym yn credu bod modd defnyddio’n profiad o ddatblygu a hybu’r Gymraeg i helpu gwledydd eraill mewn tair prif ffordd:

  • Datblygu technolegau iaith, megis cyfieithu peirianyddol, adnabod lleferydd a deallusrwydd artiffisial ar gyfer ieithoedd lleiafrifol
  • Ein dull o drochi iaith yn hwyr – creu canolfannau, sy’n caniatáu i blant a addysgwyd drwy gyfrwng y Saesneg drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg ran o’r ffordd drwy eu gyrfa yn yr ysgol
  • Hybu defnyddio ieithoedd lleiafrifol gan artistiaid wrth berfformio ar y llwyfan rhyngwladol. Mae PYST yn wasanaeth dosbarthu a hyrwyddo byd-eang i artistiaid Cymreig a’u labeli. Mae wedi gosod ac wedi torri recordiau dro ar ôl tro o ran ffrydio cerddoriaeth ar-lein a wnaed yng Nghymru, gan gynnwys cerddoriaeth Gymraeg, ar lwyfannau digidol.

Un o’r tri ymrwymiad craidd yn y strategaeth hon yw sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae hyn yn amlwg wrth gwrs yn y gwaith sy’n mynd rhagddo ledled Cymru i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, gan ddangos bod Cymru’n cymryd ei chyfrifoldebau byd-eang o ddifrif a’i bod yn benderfynol o leihau ei heffaith ar y blaned. Cymru oedd un o’r llofnodwyr a sefydlodd y Cynghrair Dan2, sef cymuned fyd-eang o lywodraethau gwladol a rhanbarthol sydd wedi ymrwymo i weithredu uchelgeisiol yn yr hinsawdd yn unol â Chytundeb Paris. Mae’r Cynghrair yn dwyn ynghyd fwy na 220 o lywodraethau, sy’n cynrychioli mwy nag 1.3 biliwn o bobl a 43% o’r economi byd-eang.

Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae ganddi gynlluniau uchelgeisiol i symud i gymdeithas garbon-isel, gwella ansawdd yr aer a lleihau gwastraff. Yn y maes olaf hwn mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud mewn cyfnod cymharol fyr. Ers dechrau datganoli mae Cymru wedi symud o waelod y cynghrair ailgylchu domestig byd-eang i’r trydydd gorau yn y byd. Mae polisïau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â tharged ar gyfer dyfodol diwastraff erbyn 2050, wedi helpu i symud Cymru i fyny’r tabl cynghrair hwn. Rydym yn awyddus i rannu’n hymrwymiad i ailgylchu a’n profiad o welliant gyda chenhedloedd eraill.

Astudiaeth achos: rhaglen Sêr Cymru

Mewn byd o globaleiddio cynyddol, bywiogrwydd gwlad o safbwynt ymchwilio ac arloesi yw un o’i hasedau deallusol mwyaf gwerthfawr a gall hyn fod yn ffon fesur bwysig o ran ansawdd gynhenid a’r potensial ar gyfer arloesi yn y dyfodol o ran ymgysylltu rhyngwladol, datblygu cysylltiadau byd-eang a mewnfuddsoddi.

Mae cydberthyniad cryf rhwng enw da cenedl mewn ymchwilio ac arloesi a pharodrwydd pobl i ymweld â hi, gweithio, astudio a buddsoddi ynddi a phrynu cynhyrchion a gwasanaethau ganddi.

Cafodd rhaglen Sêr Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ehangu rhagoriaeth a gallu mewn ymchwil yng Nghymru. Erbyn 2018, roedd 12 o gadeiriau newydd mewn ymchwil a mwy na 100 o gymrodyr ymchwil wedi’u penodi. Mae cymrodoriaethau cystadleuol wedi’u dyfarnu i ymchwilwyr o 28 o wledydd gan gynnwys yr Almaen, Awstralia, Canada, Denmarc, yr Eidal, Ffrainc, India, yr Iseldiroedd, Iwerddon, México, Sbaen, Seland Newydd, Sweden, Tsieina, a’r Unol Daleithiau.

A hithau’n gwneud cyfraniad allweddol at berfformiad ymchwil trawiadol Cymru dros y degawd diwethaf, mae rhaglen Sêr Cymru wedi cynyddu capasiti ymchwil Cymru a’i chydweithio rhyngwladol. Rhwng 1997 a 2001, cafodd tua 25% o ymchwil Cymru ei gwneud ar sail ryngwladol. Erbyn 2016, Cymru a sicrhaodd y gyfran fwyaf o’r cydweithredu rhyngwladol ar draws holl wledydd y Deyrnas Unedig gyda bron 70% o’i chyhoeddiadau yn cynnwys cyd-awduron o’r tu allan i Gymru.

Yn 2016, nododd prif gyfnodolyn gwyddoniaeth y byd, Science, hyn:

“Like other countries that see knowledge-growth as a pillar of their economies, Wales has created a science agenda that aims not only to expand academic science but to translate science and technology into applications that lead to economic growth”.

Er mai dim ond 4% o gyfanswm cyflwyniadau’r Deyrnas Unedig sy’n dod o Gymru, dangosodd canlyniadau Cymru yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) fod bron hanner yr ymchwil a gyflwynwyd wedi’i werthuso fel ymchwil sy’n arwain y byd o ran ei heffaith, ac o holl wledydd y Deyrnas Unedig, Chymru a sicrhaodd y gyfran uchaf o effaith pedair seren.

Cymru o blaid Affrica

Ers mwy na degawd, mae Cymru wedi bod wrthi’n datblygu ac yn dyfnhau cysylltiadau a phartneriaethau cymunedol â gwledydd yn Affrica Is-Sahara drwy’r rhaglen lwyddiannus Cymru o blaid Affrica.

Mae’r rhaglen hon sy’n fuddiol i’r ddwy ochr wedi ategu ymagwedd Gymreig unigryw at ddatblygu rhyngwladol cynaliadwy ac undod, sef ymagwedd y gallwn fod yn haeddiannol falch ohoni.

Mae pob un o bartneriaethau Cymru o blaid Affrica yn arddel yr ymagwedd Gymreig at ddatblygu rhyngwladol, lle mae profiadau a gwybodaeth yn cael eu rhannu mewn ysbryd o gyd-barch a dwyochredd.

Mae’r dull bywiog hwn sy’n seiliedig yn y gymdeithas sifil wedi gweld cyfeillgarwch yn tyfu ar draws Cymru ac Affrica, wrth i bobl gydweithio’n ymarferol, yn bwrpasol ac yn ystyrlon tuag at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig.

Mae alltudion o Affrica yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig wrth feithrin a chynnal y cysylltiadau hyn. Gweledigaeth y nodau hyn yw byd cyffredin sy’n datblygu’n gynaliadwy, lle does neb yn cael ei adael ar ôl. Gyda’n cefnogaeth ni, mae Pwyllgor Trychinebau ac Argyfyngau Cymru yn gallu codi mwy o arian, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon, gan ddangos ysbryd hael pobl Cymru ar adegau o argyfwng rhyngwladol.

Heddiw, mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru gyswllt iechyd gweithredol yn Affrica ac mae nifer arwyddocaol o bobl ledled Cymru wedi gweithio â’r 900 a rhagor o sefydliadau yng Nghymru sy’n gweithio yn Affrica ar ddatblygu rhyngwladol a materion undod neu drwy eu cymorth i Fasnach Deg.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd, ym mis Mehefin 2008, i ennill y teitl Cenedl Masnach Deg a ni hefyd oedd gyntaf i ymgorffori’r SDGs yn y gyfraith ddomestig drwy gyfrwng Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Byddwn yn ehangu ac yn ailenwi’r rhaglen Cymru o blaid Affrica fel Cymru ac Affrica, gan gydnabod yn well fod y bartneriaeth rhwng y ddwy yn fuddiol i’r ddwy ochr. Cymerwn gamau ar rywedd a chydraddoldeb yn Uganda a Lesotho.

Byddwn yn parhau i ariannu’r ddarpariaeth cyngor, hyfforddiant, rhwydweithio a chymorth i’r sector. Byddwn yn darparu grantiau bach i sefydliadau yng Nghymru i gynyddu eu heffaith gyda phedair thema gyffredinol: argyfwng yr hinsawdd; dysgu gydol oes; iechyd a bywoliaeth gynaliadwy, ac yn hybu ffocws ar faterion rhywedd a gwell monitro a gwerthuso.

Byddwn yn ehangu’n rhaglen lwyddiannus Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol, sydd wedi gweld bron 200 o bobl yn cymryd rhan mewn lleoliadau wyth wythnos i gefnogi’r SDGs.

Byddwn yn adeiladu ar brosiectau amgylcheddol yn Affrica. Mae Cymru eisoes wedi helpu i ddiogelu arwynebedd o goedwig law drofannol ddwywaith yn fwy na Chymru, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i blannu coeden yn Affrica Is-Sahara ar gyfer pob person yng Nghymru bob blwyddyn mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Byddwn yn gweithio’n agosach gydag Adran Datblygu Rhyngwladol y Deyrnas Unedig ac yn ceisio sicrhau bod mwy o’i chyllid yn cael ei wario yng Nghymru a thrwy sefydliadau a chwmnïau Cymreig.

O ran blaenoriaeth, fe fyddwn:

  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy gael ein hadnabod fel y wlad gyntaf i droi Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig yn ddeddf gwlad drwy hybu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy gael ein hadnabod fel gwlad sy’n arwain y byd o ran ailgylchu.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy blannu 15 miliwn yn rhagor o goed yn rhanbarth Mbale yn Uganda erbyn 2025, yn ychwanegol at y 10 miliwn rydyn ni wedi’u plannu eisoes.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy gynnig cymorth i wledydd sydd am ddysgu o’n profiadau o gynyddu nifer y bobl sy’n siarad iaith frodorol, a oedd gynt o dan fygythiad.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy gadarnhau’n henw da fel Cenedl Deg – sydd wedi ymrwymo i Fasnach Deg, Gwaith Teg, Chwarae Teg, yn arbennig o ran cydraddoldeb.
  • Yn codi proffil Cymru drwy hybu Cymru fel canolfan ar gyfer twristiaeth antur a thwristiaeth gynaliadwy a chynyddu niferoedd yr ymwelwyr.

Fe fyddwn ni hefyd:

  • Yn codi proffil Cymru drwy barchu potensial twristiaeth i gario baner Cymru ar lwyfan y byd, gan weithredu fel ffordd o gyflwyno cynulleidfaoedd newydd i Gymru, creu ymdeimlad o groeso, a chreu cysylltiadau gydol oes â phartneriaid y dyfodol ledled y byd.
  • Yn codi proffil Cymru drwy gynyddu’n buddsoddiad mewn cynhyrchion o ansawdd ryngwladol, sicrhau digwyddiadau mawr a marchnata Cymru fel cyrchfan twristiaeth o’r radd flaenaf. Gwnawn hyn mewn cydweithrediad â’r sector a thrwy ddefnyddio dirnadaeth i lywio’r broses o wneud penderfyniadau.
  • Yn codi proffil Cymru drwy ddatblygu arlwy Croeso Cymru i hybu llwybr unigryw Arfordir Cymru a defnyddio diwylliant Cymru a’r Gymraeg fel ffactor cadarnhaol gwahaniaethol i hybu twristiaeth gynaliadwy i gynulleidfaoedd rhyngwladol.
  • Yn codi proffil Cymru drwy hybu rhagoriaeth ddiwylliannol Cymru a’i henw da mewn chwaraeon ledled y byd gan ddefnyddio digwyddiadau mawr megis Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan fel llwyfan i greu gwaddol ar gyfer y dyfodol.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy ailfrandio ac ehangu rhaglen lwyddiannus Cymru o blaid Affrica yn rhaglen Cymru ac Affrica gan hoelio sylw ar gynaliadwyedd.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy rannu gydag eraill ein profiadau o fynd i’r afael â newid hinsawdd, a dysgu o’u profiadau nhw.
  • Yn dangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy adeiladu ar ein henw da fel llywodraeth ffeministaidd a datblygu cyfleoedd sydd o fudd i’r ddwy ochr i fenywod gyda’n partneriaid yn Uganda a Lesotho.
  • Yn codi proffil Cymru drwy ddefnyddio’n profiad o hybu’r Gymraeg i gydweithio â gwledydd eraill a dod yn arweinydd byd-eang yn y maes hwn.

Astudiaeth achos: Maint Cymru

Plannu coed ym Mbale, Uganda.

Mae 10 miliwn o goed wedi’u plannu yn rhanbarth Mbale yn Uganda gan brosiect Maint Cymru.

Ein huchelgais yn y pum mlynedd nesaf yw plannu 25 miliwn o goed.

Mae coedwigoedd Uganda dan fygythiad difrifol. Maent yn cael eu colli ar gyfradd o 1.8% y flwyddyn. Rhwng 1990 a 2010, collodd Uganda 31% o’i gorchudd coedwigoedd, sef gostyngiad o 5 miliwn o hectarau i 3.6 miliwn o hectarau.

Mae Maint Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu i wrthdroi’r datgoedwigo hwn yn ardal Mount Elgon ym Mbale, yn Uganda. Plannwyd y 10 miliynfed goeden ym mis Hydref 2019 ac fe nodwyd yr achlysur â seremoni plannu coed ym Mbale ac yng Nghaerdydd.

Mae gan y prosiect dri phrif nod:

  1. Lleihau tlodi: cyfrannu at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig drwy wella a diogelu cnydau a diogelwch bwyd, gan arwain at fywoliaeth fwy cynaliadwy.
  2. Addasu at newid yn yr hinsawdd: helpu’r rhanbarth i ddatblygu ei allu i addasu at newid yn yr hinsawdd. Bydd y prosiect yn mynd i’r afael ag effeithiau andwyol datgoedwigo, gor-amaethu, erydiad pridd a thirlithriadau drwy greu newid mewn agweddau a diwylliant o ran plannu coed a chadw’r amgylchedd drwy gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd.
  3. Lliniaru newid yn yr hinsawdd: gall coed a blannwyd gerllaw’r cyhydedd amsugno hyd at ddeg gwaith yn fwy o garbon na’r rhai a blannwyd mewn hinsoddau tymherus. Mae’r prosiect yn lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd, e.e. pren a siarcol, drwy ddosbarthu stofiau coginio sy’n effeithlon o ran tanwydd, ac mae’n archwilio cyfleoedd i ddal a storio carbon a defnyddio’r farchnad garbon wirfoddol i ddod ag incwm ychwanegol i ffermwyr.

Mae’r prosiect hwn yn gysylltiedig hefyd â chynllun Llywodraeth Cymru, Plant! sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn. Mae Plant! yn dathlu genedigaeth pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru drwy blannu dwy goeden. Mae un yn cael ei phlannu mewn coetir newydd yng Nghymru gan sicrhau coed i genedlaethau’r dyfodol, a meithrin perthynas bersonol agos â natur o oedran cynnar hefyd. Coeden ffrwythau a blennir ym Mbale yw’r llall.

Casgliad

Mae gwerth cysylltiadau rhyngwladol i economi Cymru yn aruthrol: gwerth biliynau o bunnoedd o fasnach, degau o filoedd o swyddi, buddsoddiadau enfawr, cyfnewid technoleg, partneriaethau ymchwil, miloedd o leoedd i fyfyrwyr, cysylltiadau byd-eang – bob un wedi’i seilio ar ymwneud Cymru â gweddill y byd.

Mae’r byd sydd ohoni lle rydym yn byw ac yn gwneud busnes yn anwadal, yn newid yn gyflym ac yn hynod gystadleuol. Os nad yw Cymru’n weithgar a deinamig ar lwyfan y byd, bydd y swyddi, y buddsoddiadau a’r cyfleoedd yn mynd i’n cystadleuwyr. Rhaid wynebu’r her, neu wynebu colledion.

Nawr yw’r amser i godi’n huchelgais. Rhaid gwneud mwy, nid llai. Rhaid inni feddwl yn fwy eang, nid yn fwy cul. Rhaid inni weithio mewn partneriaeth i amlhau’n hymdrechion. Mae Cymru yn cyflawni fwyaf pan fydd pawb yn cydweithio fel tîm.

Mae ein gwlad ni wedi cyfrannu cymaint i’r byd. Mae gan ein busnesau a’n entrepreneuriaid byd-eang, ein perfformwyr a’n hartistiaid, enw da ledled y byd. Ysbrydoliaeth ac ymroddiad Cymreig a arweiniodd at greu’r GIG. Mae’n henillwyr Gwobrau Nobel a’n hymchwilwyr, ein chwaraewyr gwych, ein gweithwyr cymorth a’n cymdeithas ddinesig i gyd yn gweithio i wneud Cymru a’r byd yn lle gwell i fyw. Mae gan Gymru werthoedd a phenderfyniad i’w rhannu yn y gymuned fyd-eang.

Rydym yn falch o’n hanes, ond y dyfodol sy’n ein hysgogi. Mae popeth a wnawn yn adeiladu ar gyfer y to sy’n codi. Rydym yn edrych at swyddi yfory ac yn paratoi’n plant i’w gwneud. Rydym yn adeiladu seilwaith a chysylltedd ynni glân a gwyrdd. Rydym yn ymwneud â newid hinsawdd a’r amgylchedd am ein bod yn malio am ein plant, ein hwyrion a’n hwyresau. Rydym am ddysgu gan y goreuon a hybu’r hyn y mae Cymru’n ei wneud yn dda.

Mae’n byd ni’n gyd-ddibynnol ac mae’n buddiannau yn gyffredin. Gwlad Ewropeaidd yw Cymru ac rydym yn coleddu’n perthynas â’n cymdogion. Rydym yn gwneud ein gilydd yn fwy ffyniannus, yn iachach ac yn fwy hyddysg.

Mae’r byd yn eang ac yn newid yn gyson. Rhaid i Gymru newid gydag ef. Bydd ein busnesau’n chwilio am farchnadoedd newydd mewn economïau sy’n tyfu. Rhaid inni ateb heriau yfory a’u cofleidio. Dyna’r hyn y mae’r strategaeth hon yn ceisio ei hybu.

Atodiad A: Rhwydweithiau a chytundebau rhyngwladol

Mae gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru gysylltiadau â’r sefydliadau a ganlyn. Mae’r cysylltiadau’n amrywio o aelodaeth lawn i gyfranogiad achlysurol. Nid rhestr gynhwysfawr mo hon a chaiff ei hadolygu a’i blaenoriaethu wrth i fanylion terfynol perthynas y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael eu pennu. Bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi blaenoriaeth i’r rhwydweithiau hynny lle gallwn fod yn sicr y gallwn ddylanwadu’n rhyngwladol mewn meysydd sy’n greiddiol i’r Strategaeth Ryngwladol.

  • Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewrop
  • Canolfan Arbenigedd Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat Ewrop
  • Cine Regio
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Fioamrywiaeth
  • Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd
  • Cyngor Cymunedau a Rhanbarthau Ewrop
  • Cynghrair Dan2
  • Cymdeithas Rhanbarthau ac Awdurdodau Lleol Ewrop dros Ddysgu Gydol Oes
  • Cymdeithas Telemateg Iechyd Ewrop (EHTEL)
  • Cynhadledd ar Gynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop
  • Cynhadledd Rhanbarthau Morol Ymylol - Dinasoedd a Llywodraethau Lleol Unedig (UCLG)
  • Egni Cefnforoedd Ewrop
  • ERRIN
  • Rhwydwaith Ymchwilio ac Arloesi Rhanbarthau Ewrop
  • Eurochild
  • EUROCITIES
  • Europa Nostra (rhwydwaith treftadaeth ddiwylliannol)
  • EURORAI
  • Cymdeithas Sefydliadau Archwilio Allanol Cyllid Cyhoeddus Rhanbarthol Ewrop
  • Fforwm Llywodraeth Leol y Gymanwlad
  • Grŵp Anifeiliaid Ewrop - Grŵp yr Hinsawdd
  • Gweithredu Diwylliannol Ewrop
  • IETM (Cyfarfod Anffurfiol Theatr Ewrop gynt)
  • Lobi Menywod Ewrop
  • Llwybr Treftadaeth Ddiwydiannol Ewrop
  • Llwyfan Pontio Diwydiant
  • Llwyfan Rhanbarthol Dysgu am Fioamrywiaeth
  • Menter Vanguard
  • Partneriaeth Arloesi Ewrop ar Heneiddio’n Weithredol ac yn Iach
  • Y Pedwar Modur
  • Rhanbarthau â Phwerau Deddfu (REGLEG) - Rhanbarthau dros Ddatblygu Cynaliadwy (rhyngwladol)
  • Rhwydwaith Awdurdodau Lleol Ewrop (ELAN) - Rhwydwaith Cydweithredol Safleoedd Cyfeirio (RSCN)
  • Rhwydwaith dim GMOs
  • Rhwydwaith Ewropeaidd Cymdeithasau’r Gymdeithas Ddinesig Genedlaethol
  • Rhwydwaith Hybu Amrywiaeth Ieithyddol
  • Rhwydwaith yr OECD ar Gysylltiadau Ariannol
  • Rhwydwaith REGAL (‘Rhanbarthau arloesol ac entrepreneuraidd Ewrop dros ddatblygiadau tiriogaethol mewn bwyd a llesiant’)
  • Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO RHN)
  • Rhwydwaith Swyddfeydd y Deyrnas Unedig ym Mrwsel
  • Sefydliad Polisi Amgylcheddol Ewrop
  • Sefydliad Seiberddiogelwch Ewrop
  • Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur

Memoranda Cyd-ddealltwriaeth

Ar ben y sefydliadau hyn, mae Cymru wedi llofnodi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth i ffurfioli perthnasoedd â’r rhanbarthau a’r gwledydd a ganlyn:

  • Catalwnia
  • Chubut
  • Galicia
  • Gwlad y Basg
  • Latfia
  • Lesotho
  • Llydaw
  • Llywodraeth Pobl Neijing (Addysg)
  • Mbale CAP, Bududa ac Ardal Manafwa (Cymru o blaid Affrica)
  • Québec (Aerofod)
  • Sbaen (Addysg)
  • Tsieina (Diwylliant ac Addysg)

Cymdeithas Conswliaid Cymru

Mae nifer o wledydd yn defnyddio conswliaid anrhydeddus i feithrin perthnasoedd â Chymru. Grŵp gwirfoddol o gonswliaid yng Nghymru yw Cymdeithas y Conswliaid. Mae conswliaid anrhydeddus yn cael eu penodi gan lywodraeth y wlad y maent yn ei chynrychioli ac i’r Llywodraeth honno y maen nhw’n gyfrifol.

Ceir rhestr isod o’r gwledydd sydd â chonswliaid anrhydeddus yng Nghymru. Mae gan yr Unol Daleithiau Swyddog Materion Cymreig ond nid conswl anrhydeddus. Byddwn yn annog rhagor o lysgenadaethau i benodi conswliaid anrhydeddus yng Nghymru ac, yn ddelfrydol, i agor conswliaeth.

  • Yr Almaen
  • Belarus
  • Brasil
  • Canada
  • Denmarc
  • Yr Eidal
  • Estonia
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Gwlad Belg
  • Gwlad yr Iâ
  • Gwlad Iorddonen
  • Gwlad Thai
  • Hwngari
  • India
  • Yr Iseldiroedd
  • Israel
  • Japan
  • Kazakhstan
  • Latfia
  • Lesotho
  • México
  • Namibia
  • Norwy
  • România
  • Slofacia
  • Sweden
  • Y Swistir
  • Tunisia

Atodiad B: Y perthnasoedd rhyngwladol sy’n cael blaenoriaeth

Ers datganoli rydym wedi ffurfioli perthnasoedd llywodraeth-i-lywodraeth â sawl rhanbarth ac wedi llofnodi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda nifer o ranbarthau yn Ewrop (gweler atodiad A).

Rydym hefyd wedi cydweithredu’n gryf ers tro byd â Fflandrys, Baden-Württemberg a Gogledd Rhine-Westphalia ac wedi llofnodi Datganiad Cyfeillgarwch ac Undod gyda thalaith Gogledd Holland yn yr Iseldiroedd, sy’n cynnwys Amsterdam.

Mae’n perthynas ag Iwerddon a’r Almaen yn arbennig o gryf. Gwladolion o’r Almaen ac Iwerddon sy’n byw yng Nghymru yw dwy o’n cymunedau rhyngwladol mwyaf. Mae’r ddwy ymysg y pum prif farchnad o ran allforio, mewnfuddsoddi a nifer yr ymwelwyr rhyngwladol.

Mae pob un o’r perthnasoedd hyn â gwledydd a ranbarthau’n flaenoriaeth oherwydd treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyffredin, gwerthoedd cyffredin a buddiannau economaidd a chymdeithasol cyffredin ac fe ddylent fod yn ffocws i’n gweithgareddau cydweithredu o ran gweithgarwch llywodraethau a phartneriaid wrth gydweithio ar brosiectau. Bwriadol yw nifer cyfyngedig y rhanbarthau sydd â blaenoriaeth. Byddai nifer fwy yn arwain at ymdrech wasgaredig gan wneud canlyniadau ystyrlon yn fwy anodd eu cyflawni.

Mae pob un o’r perthnasoedd hyn yn wahanol, a bydd ein dull gweithredu a’n gweithgareddau yn adlewyrchu’r amrywiaeth hwn. Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â rhanbarthau Ewropeaidd eraill gan ei bod yn bosibl nad yw’r perfformiwr gorau mewn unrhyw faes gweithgarwch penodol, na’r cyfleoedd masnachol mwyaf addawol, i’w cael o reidrwydd ymysg ein rhanbarthau partner.

Perthnasoedd â gwledydd

Yr Almaen yw partner masnachu mwyaf Cymru a phartner arwyddocaol o ran buddsoddi; mae Ffrainc yn bartner pwysig o ran masnach, twristiaeth, addysg a diwylliant ac Iwerddon yw’n cymydog Ewropeaidd agosaf o hyd. Gwladolion o’r Almaen ac Iwerddon sy’n byw yng Nghymru yw dwy o’n cymunedau rhyngwladol mwyaf. Mae pob un yn bartneriaid masnachu pwysig y mae gennym gysylltiadau â nhw ers tro byd, a’r rheiny’n ymestyn y tu hwnt i fasnach yn unig.

Mae’r Unol Daleithiau a Chanada yn fuddsoddwyr pwysig yng Nghymru. O’r 1,245 o gwmnïau tramor sy’n gweithredu yng Nghymru, mae bron chwarter yn tarddu o Ogledd America. Mae graddfa economïau’r Unol Daleithiau a Chanada yn golygu bod cyfleoedd yn gallu codi mewn unrhyw sector ac unrhyw ranbarth bron. I gydnabod y synergedd mewn amcanion ac ymagweddau polisi rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Dinas Philadelphia, rydym hefyd wedi sefydlu rhaglen cyfnewid llywodraeth i ddatblygu’r cysylltiadau ymhellach drwy gyfnewid gwybodaeth a phrofiad ar lefel swyddogol.

Perthnasoedd â rhanbarthau

Gwlad y Basg

Mae gan Gymru a Gwlad y Basg gysylltiadau hanesyddol ar sail treftadaeth ddiwydiannol, cysylltiadau helaeth es tro byd ar lefel llywodraethau a sefydliadau ac mae yna gyfleoedd clir i gydweithredu yn yr economi, mewn dysgu, iechyd a diwylliant.

Bernir bod model Gwlad y Basg o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd sy’n cael ei sbarduno gan arloesi yn batrwm ac mae gan y rhanbarth lawer i’w gynnig o ran ei brofiad mewn cynllunio ieithyddol, polisi ariannol, bwyd-amaeth a mentrau cymdeithasol. Mae dewis Cymru fel yr unig ranbarth blaenoriaeth newydd yn eu Strategaeth Rhyngwladoli (2018-20) yn dangos awydd Gwlad y Basg i gael perthynas waith agosach â Chymru, gan gysoni buddiannau ac mae’n dystiolaeth o dwf ein gweithgaredd rhyngwladol a’n proffil ni. Cafodd perthynas y ddwy wlad ei chyfnerthu drwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn 2018.

Llydaw

Dyma berthynas ddwyochrog Ewropeaidd gadarn ac egnïol ac mae’r ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i ddyfnhau eto ar ein cysylltiadau. Mae gwreiddiau’r berthynas yn gorwedd yn ein treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyffredin ac mae iaith a diwylliant yn chwarae rhan bwysig fel y gwelir yn ein hymrwymiad i Ŵyl An Oriant, y bartneriaeth rhwng ein cerddorfeydd, ein hartistiaid a’n hasiantaethau hybu celfyddydau. Er hynny, mae’r berthynas yn un eang ac rydym wedi nodi bwyd-amaeth, ynni’r môr a’r sector seibr fel meysydd ffrwythlon posibl ar gyfer cydweithredu economaidd yn ogystal ag ystyried rhaglen gyfnewid myfyrwyr hirdymor.

Fflandrys

WMae gennym berthynas hanesyddol â Fflandrys a’i llywodraeth, sydd wedi’i chyfnerthu dros y pedair blynedd diwethaf o ganlyniad i weithgarwch i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf ac adeiladu cofeb newydd i’r Cymry. Ceir nifer fawr o ddolenni sy’n cysylltu’n llywodraethau, ein sefydliadau a’n pobl ar draws iechyd, diwylliant, busnes ac addysg uwch gyda’r bartneriaeth strategol rhwng prifysgolion Caerdydd a Leuven. Rydym yn adeiladu cysylltiadau â chorff Masnachu a Buddsoddi Fflandrys a chlystyrau busnes yn Fflandrys i adeiladu ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd rhwng clwstwr B-Hive yn Fflandrys a Seiber Cymru.

Atodiad C: Swyddfeydd Llywodraeth Cymru dros y môr

Asia

India

Bangalore: +91 95 3851 1126
Mumbai (Pencadlys India): +91 22 6650 2222
New Delhi: +91 11 2419 2398

Japan

Tokyo: +81 3 5211 1247

Tsieina

Beijing: +86 10 5811 1811
Chongqing: +86 23 6369 1400
Shanghai: +86 21 6229 0655

Y Dwyrain Canol

Yr Emiradau Arabaidd Unedig

Dubai: (Pencadlys y Dwyran Canol): +971 (4) 309 4201

Gwladwriaeth Qatar

Doha: +974 4496 2009

Ewrop 

Yr Almaen

Berlin (Pencadlys yr Almaen): +49 3020 457135
Düsseldorf: +49 (0) 211 9448-215

Y Deyrnas Unedig

Llundain: +44 (0) 300 025 6789

Ffrainc

Paris: +33 1 44 51 31 36

Gwlad Belg

Brwsel: +32 (0) 473 865 658

Iwerddon

Dulyn: +353 12053795

Gogledd America

Canada

Montréal: +1 514 291 1094

Unol Daleithiau America

Atlanta: +1 (404) 954 7741
Chicago: +1 (312) 970 3802
Efrog Newydd: +1 (212) 745 0415
San Francisco: +1 (415) 617 1355
Washington DC (Pencadlys Gogledd America): +1 (202) 588 6623

Atodiad D: Ein gwerthoedd

Mae’r strategaeth hon wedi’i seilio ar ein gwerthoedd a’n hegwyddorion, a nodir yn y ddeddfwriaeth, y dogfennau allweddol a’r cynlluniau gweithredu a ganlyn.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd wedi troi Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig yn ddeddf gwlad a hynny drwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r saith nod llesiant wedi’u nodi isod.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn unigryw i Gymru. Mae’n effeithio ar bopeth y mae corff cyhoeddus yn ei wneud. Rhaid i bob sefydliad cyhoeddus gymryd i ystyriaeth yr effeithiau hirdymor a gaiff unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud a’r effaith ganlyniadol y gallai ei chreu, o ran ffyniant pobl Cymru, ei hamgylchedd, ei diwylliant a’i chymunedau.

Nod y Ddeddf yw i Gymru ddatblygu atebion hirdymor i broblemau fel tlodi, afiechyd, ansawdd aer gwael, swyddi o ansawdd isel.

Dyma’r saith nod llesiant:

  • Cymru lewyrchus – Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd  byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
  • Cymru gydnerth – Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
  • Cymru iachach – Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
  • Cymru sy’n fwy cyfartal – Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
  • Cymru o gymunedau cydlynus – Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu –  Cymdeithas sy’n hybu ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Hawliau dynol

Yn ddiweddar rydyn ni wedi dathlu 70 mlwyddiant y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol a chyn bo hir bydd Deddf Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig yn dod i oed hefyd – mae’r ddau hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer amddiffyn a diogelu hawliau unigolion yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Ers datganoli, mae Cymru wedi ei dylanwadu’n fawr gan y ddwy ddogfen hyn ac wedi arddel ymagwedd at lunio polisïau a deddfwriaeth sydd wedi’i seilio ar hawliau. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn y gyfraith ddomestig, gan osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i’r Confensiwn.

Cynllun Gweithredu Economaidd

Y Cynllun Gweithredu Economaidd sy’n nodi’n hymagwedd ni at gefnogi’r economi mewn ffordd sy’n cynyddu’n cyfoeth a’n llesiant drwy gyfrwng twf cynhwysol, sef dosbarthiad tecach ar fanteision twf economaidd ar lefel unigol a rhwng gwahanol rannau Cymru.

Hoffem weld economi cryf, gwydn ac amrywiol sy’n cyflawni pethau i bobl Cymru, gan alluogi pobl i wireddu eu huchelgais, galluogi busnesau i lewyrchu a galluogi cymunedau i ffynnu.

Rydym o’r farn bod twf a thegwch yn atgyfnerthu ei gilydd, ac nid yw’n cau ei gilydd allan. Rydym yn chwilio am dwf am ei fod yn gallu hybu tegwch ac fe ddylen ni anelu at Gymru decach, am fod hynny’n gwella’n potensial ar gyfer twf. Mae yna reidrwydd economaidd yn ogystal â rheidrwydd moesol i fynd ar ôl twf cynhwysol. Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym fod anghydraddoldebau’n lleihau’r rhagolygon ar gyfer twf – gan effeithio ar y tebygolrwydd y bydd unigolion yn buddsoddi yn eu haddysg a’u hyfforddiant gan arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth sy’n dod â chost economaidd a diffygion cymdeithasol sydd yn eu tro yn dylanwadu ar ganlyniadau’r economi.

Mae deall natur y cryfderau a’r heriau economaidd sy’n ein hwynebu yn ein helpu i lunio’n hymateb. Nod y camau y byddwn yn eu cymryd yw sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag anawsterau heddiw ac yn gosod sylfeini cadarn at y dyfodol, sef gwaddol cadarnhaol wedi’i seilio ar set o egwyddorion clir.

Craidd y cynllun yw’n Contract Economaidd – perthynas newydd rhwng busnes a’r llywodraeth. Mae’n gofyn i fusnesau sy’n cael cymorth ariannol uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ddangos twf posibl; Gwaith Teg; hybu iechyd, gan gynnwys pwyslais arbennig ar iechyd meddwl, sgiliau a dysgu yn y gweithle a chynnydd tuag at leihau eu hôl troed carbon.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi.

Gwaith teg

Rydym yn credu bod gwaith teg yn gallu helpu i gyflawni economi cryfach, mwy modern, mwy cynhwysol. Mae gwaith teg yn cyd-fynd â hen draddodiadau diwylliannol Cymru o undod cymunedol a chydlynedd cymdeithasol. Gall helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, lleihau tlodi a hybu llesiant. Mae gwaith teg yn cyfrannu at dwf a ffyniant cenedlaethol.

Mae’r Comisiwn Gwaith Teg yng Nghymru wedi diffinio gwaith teg fel hyn:

“bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg, bod ganddynt sicrwydd a’u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau’n cael eu parchu.

“ Nodweddion o fewn y diffiniad: Gwobrwyo teg; llais y cyflogai a chyd gynrychiolaeth; sicrwydd a hyblygrwydd; cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen; amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol; parchu a gwireddu hawliau cyfreithiol.

“ Mae hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant yn hollbwysig i’r chwe nodwedd.”

Partneriaeth gymdeithasol

Rydym yn credu mewn mynd ati mewn partneriaeth gymdeithasol – gweithio gyda staff y sector cyhoeddus a’u cynrychiolwyr a gwrando arnynt – er mwyn creu gwell gwasanaethau i bobl yng Nghymru a diogelu swyddi gweithwyr y gwasanaeth cyhoeddus.

Rydym yn cydnabod bod ymroddiad a rhagoriaeth gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus yn allweddol i drawsnewid. Y weledigaeth sydd gennym yw gweithlu sydd wrth galon y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

Mae’r rhan fwyaf sy’n gweithio yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru hefyd yn ddinasyddion yng Nghymru ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnig mantais ddeuol o ran ymgysylltu â’r gweithlu ac ymgysylltu â dinasyddion a’r ffordd orau posibl i ddeall yr hyn y mae angen ei wneud.

Rydym am i’n gweithlu gwasanaeth cyhoeddus gael llais, a sicrhau bod pobl yn gwrando arno, yn ymddiried ynddo ac yn gweithredu arno am fod gan y llais brofiad uniongyrchol dilys. Mae ymddiriedaeth yn hanfodol er mwyn i wasanaethau cyhoeddus berfformio’n dda. Er mwyn i wasanaethau gyrraedd safon y gorau un, mae angen i ddinasyddion gael eu cynnwys yn llawn mewn cylch di-dor o adborthi a gwella.

Rydym hefyd am gael bargen deg i’n gweithlu gwasanaeth cyhoeddus, sef bargen sy’n parchu hawliau a chyfrifoldebau staff a chyflogwyr ynghyd â swyddogaeth hanfodol yr undebau llafur i wneud gwahaniaeth a llunio dyfodol llwyddiannus i Gymru.

Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Cafodd y cod ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy moesegol i gyflenwi contractau ar ran y sector cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector sy’n derbyn arian cyhoeddus.

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod arferion cyflogaeth anfoesegol yn digwydd mewn cadwyni cyflenwi ledled Cymru a’r tu hwnt.

Bwriad y cod yw sicrhau bod gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi mewn modd moesegol a hynny yn unol â llythyren ac ysbryd deddfau’r Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a’r deddfau rhyngwladol. Mae’n ymdrin ag amryw o faterion cyflogaeth, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol; cosbrestru; hunan-gyflogaeth ffug; defnyddio cynlluniau ymbarél yn annheg, contractau dim oriau a’r cyflog byw.

Mae mwy na 150 o sefydliadau cyhoeddus a phreifat sy’n gweithio yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Cod, sydd ar gael yma Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer.

Y Gymraeg

Y Gymraeg yw un o drysorau Cymru. Mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl.

Ein huchelgais ni fel Llywodraeth Cymru yw gweld nifer y bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050. Mae hyn yn sicr yn uchelgais ymestynnol, ond mae’n her sydd yn ein barn ni’n werthfawr ac yn angenrheidiol os ydym yn bwriadu sicrhau ffyniant y Gymraeg i genedlaethau’r dyfodol. Cafodd y Ddeddf Iaith gyntaf ei phasio ym 1967. Mae statws y Gymraeg wedi’i hymgorffori mewn deddfwriaeth, sy’n cael ei gwneud yng Nghymru ac mae ganddi statws cyfartal â’r Saesneg yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau i gynyddu nifer y rhai sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru wedi’u nodi yn Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg.

Datgarboneiddio

Newid yn yr hinsawdd yw’r her fyd-eang sy’n diffinio’n cyfnod ni. Mae Cytundeb Paris yn gosod y cyfeiriad i’r gymuned ryngwladol ddod at ei gilydd i weithredu ac yn yr adroddiad diweddaraf gan y Panel Rhynglywodraethol ar newid yn yr hinsawdd fe gawsom ein hatgoffa o’r brys sy’n angenrheidiol ar draws y gymuned ryngwladol.

Mae newid yn yr hinsawdd yn fater sy’n croesi ffiniau gwleidyddol a chymdeithasol ac yn aml y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau sy’n teimlo’r effaith fwyaf.

Mae datgarboneiddio yn cynnig cyfleoedd aruthrol i greu economi ffyniannus sy’n deg yn gymdeithasol.

Rydym wedi nodi ymagwedd at dorri allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd mewn ffordd sy’n codi’r manteision ehangach i Gymru i’r eithaf, gan sicrhau cymdeithas decach ac iachach. Mae’n Cynllun Carbon Isel yn nodi 100 o bolisïau a chynigion, sy’n lleihau allyriadau’n uniongyrchol ac yn cefnogi twf yr economi carbon isel.

Mae’r Cynllun Carbon Isel ar gael yma Ffyniant i bawb: Cymru carbon isel Cymru.

Atodiad E: Prosiectau Magnet

Y Canolbarth a’r Gorllewin

  • Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau
  • Ardal Forol Doc Penfro
  • Arloesi mewn Iechyd
  • Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH)
  • Beacon+
  • Campws Arloesi a Menter Aberystwyth
  • AIEC
  • Canolfan Ragoriaeth Sbectrwm Radio y DU
  • Aberystwyth
  • Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer
  • Y Ganolfan Adeiladau Gweithredol
  • Ffatri’r Dyfodol
  • IBERS
  • Aberystwyth
  • Parc Bwyd Hwlffordd
  • Pentref a Champws Llesiant a Gwyddorau Bywyd
  • Porthladdoedd Dŵr Dwfn
  • Prosiect Helix Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf
  • Sgwâr Digidol Canol Abertawe
  • Systemau Awyrennau Dibeilot Cymru
  • Aberporth
  • VetHub1
  • Yr Egin
  • Caerfyrddin

Y De-ddwyrain

  • Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Canolfan Genedlaethol Defnyddio Data (NDEC)
  • Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru
  • Catapwlt y DU
  • Clwstwr lled-ddargludyddion Cyfansawdd
  • Clwstwr Fintech
  • Clwstwr Seiber
  • Clwstwr y Sector Aerofod ac Amddiffyn
  • Gwyddorau Bywyd/Diagnosteg ac Offer Meddygol

Y Gogledd

  • Bargen Twf Gogledd Cymru
  • Canolfan Dechnoleg OpTIC
  • Clwstwr Niwclear
  • Cyfleuster Ymchwil Uwch mewn Gweithgynhyrchu
  • Glannau Dyfrdwy
  • Menai Science Park Ltd (M-SParc)
  • Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol
  • Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd (NRN-LCEE)

© Hawlfraint y Goron 2020
WG41343
ISBN Digidol 978-1-80082-322-8