Neidio i'r prif gynnwy

Camau gweithredu sy’n ofynnol i gyflawni’r weledigaeth

Ym mis Ebrill 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan (ULEVTF), sy’n amlinellu ei chynlluniau ar gyfer gwefru ceir a faniau trydan yng Nghymru. Fe’i hysgrifennwyd yng nghyd- destun Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru ac mae’n sefydlu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer gwefru yng Nghymru:

"Erbyn 2025, bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael at seilwaith gwefru cerbydau trydan ar yr adeg ac yn y man lle y mae arnynt ei angen.

Amlygir pedwar prif ganlyniad i gyflawni’r weledigaeth hon: cynnydd yn y ddarpariaeth wefru gyfan, profiad gwefru o ansawdd da, dull cynaliadwy (sy’n cyd-fynd â’r agenda ddatgarboneiddio) a buddion lleol.

Mae’r strategaeth wedi’i seilio ar yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy: gan gydnabod yr angen am newid dulliau teithio a gwneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol i helpu i gyflawni targedau datgarboneiddio.

Mae’r camau gweithredu’n darparu modd targedig o wella buddion lleol, cymdeithasol ac amgylcheddol, a sicrhau budd economaidd trwy fuddsoddi mewn seilwaith gwefru ledled Cymru a’i wasanaethu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei rôl alluogi wrth ddarparu seilwaith gwefru cerbydau trydan, a bydd yn gweithio gyda phob darparwr i fynd i’r afael â’r ddarpariaeth sel o seilwaith gwefru ledled Cymru o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Mae’n hanfodol bod y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio i wireddu’r strategaeth hon.

Mae cyfleoedd masnachol clir i ddarparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan. Ein nod yw sicrhau darpariaeth genedlaethol lawn a allai olygu bod angen grwpio lleoliadau adenillion isel ac uchel yn fasnachol i gyflawni’r nod hwnnw.

Bydd y camau gweithredu a amlinellir ar y tudalennau canlynol yn cael eu datblygu a’u gweithredu hyd at 2030 yn unol ag amserlen y strategaeth. Fe allai fod yn briodol i weithredu targedig barhau ar ôl 2030, yn dibynnu ar yr amodau cyffredinol ar y pryd.

Mae graddfa amser benodol wedi cael ei neilltuo i bob cam gweithredu i helpu i’w gyflawni.

Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu hwn, a fydd yn cael eu monitro a’u hadolygu’n flynyddol i helpu i olrhain cynnydd tuag at seilwaith gwefru gwell.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ysgogiadau rheoleiddio a chynllunio, yn ogystal â chanllawiau cynllunio defnydd tir, tir ac adnoddau cyhoeddus, cyllid, a rhaglenni cymorth targedig, fel y bo’n briodol, i helpu i wireddu hyn.

Byddwn yn gweithio gyda’r sector trydan i sicrhau bod pŵer ar gael ar gyfer y seilwaith gwefru sy’n ofynnol.

Bydd hyn yn cynnwys defnyddio ynni adnewyddadwy ac ymgysylltu â chymunedau yn unol â pholisïau eraill Llywodraeth Cymru.

Bydd partneriaethau’n allweddol i fwrw ymlaen â’r weledigaeth. Bydd cydweithio ar draws sefydliadau cyhoeddus, preifat, nid er elw ac academaidd yn creu casgliad grymus ac integredig o sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau.

Deilliannau Camau gweithredu Canlyniadau disgwyliedig
Darpariaeth wefru gyfan

1. Seilwaith gwefru                     

2. Optimeiddio’r ddarpariaeth ynni            

3. Gwella’r ddarpariaeth gwefru chwim

Gwell darpariaeth wefru mewn lleoliadau cyhoeddus allweddol.

Sefydlu grŵp cysylltiadau i ddatblygu datrysiadau rhwydwaith hyfyw.

Rhwydwaith gwefru chwim ar draws rhwydwaith cefnffyrdd strategol Cymru erbyn 2025.

Deilliannau ansawdd

4. Safonau ansawdd Cymru

5. Hwyluso rheoleiddioll
 


6. Partneriaeth a chydweithio

Profiad gwell i gwsmeriaid.


Diweddaru’r fframwaith rheoleiddio lle y bo’n briodol i hwyluso nodau datgarboneiddio.

Sefydlu gweithgor i brofi datrysiadau’n feddal.

Buddion lleol

7. Cynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus

8. Annog cyfleoedd i fuddsoddi ac arloesi

9. Creu synergedd

Gwell hyder cyhoeddus yn y newid i gerbydau trydan.             


Busnesau yng Nghymru yn ymwneud â chyfleoedd cadwyn gyflenwi ac arloesi.

Cynllunio gofodol wedi’i gydlynu sy’n cynnwys gwefru.

Canlyniadau

  • Defnyddio pŵer a gynhyrchwyd yn lleol.
  • Strategaeth drafnidiaeth integredig.
  • Cyfleoedd ar gyfer economi gylchol.
  • Buddion lleol o ran ansawdd aer, iechyd a lles.

Darpariaeth wefru gyfan

Darparu seilwaith gwefru trwy gyllid a chydweithio

Bydd Cronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio i gychwyn mentrau a hyrwyddo cydweithio o fewn grwpiau cyflawni.

Bydd prosiectau’n cael eu hyrwyddo ar draws y themâu a amlinellir isod ynghyd â datblygu rhwydwaith o orsafoedd gwefru chwim/eithriadol o chwim ar draws rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru.

  • Hybiau trafnidiaeth aml-ddull gyda gorsafoedd gwefru
  • Gwefru mewn cyrchfannau
  • Gwefru sy’n cefnogi’r economi ymwelwyr
  • Gwefru mewn cymunedau gwledig
  • Hybiau gwefru trefol
  • Gwefru yn y gweithle
  • Gwefru preswyl ar y stryd lle y bo’n briodol

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned i fynd i’r afael ag anghenion pobl nad ydynt yn gallu gwefru gartref, defnyddwyr â nam symudedd a chymunedau gwledig, ymhlith eraill.

Bydd gwaith gydag awdurdodau lleol yn ceisio sefydlu prosiectau sy’n cyd-fynd â Llwybr Newydd, y gellir eu hatgynhyrchu ac addasu eu graddfa ac sy’n cefnogi anghenion lleol.

Bydd integreiddio seilwaith i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, cynlluniau rhannu ceir a mentrau polisi eraill Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau budd i gymunedau ac yn helpu i gyflawni targedau sero-net.

Buddion y cam gweithredu hwn

Bydd hyn yn cefnogi rhannu a lledaenu gwybodaeth ledled Cymru, ac yn grymuso awdurdodau lleol i gyflawni datrysiadau lleol. Bydd cysylltiadau’n cael eu gwneud rhwng cyllid grant Llywodraeth Cymru a phartneriaethau twf gan ddefnyddio grantiau ULEVTF. Bydd cynlluniau rhanbarthol strategol a gofodol yn cael eu cysylltu â chynllunio ynni a buddsoddi mewn seilwaith integredig.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol

  • Darparu un man gwefru cyhoeddus am bob 7 i 11 o gerbydau trydan sydd ar y ffyrdd erbyn 2025. Wrth i ddefnydd gynyddu, bydd y niferoedd hyn yn cynyddu’n gymesur i oddeutu 25 o gerbydau fesul man gwefru.

Cyfrifoldebau

  • Llywodraeth Cymru i weinyddu a chyfeirio cyllid
  • Partneriaid cyflawni i weithredu

Partneriaid cyflawni

  • Awdurdodau lleol
  • Sefydliadau cymunedol
  • Rhanbarthau a phartneriaethau twf lleol
  • Gosodwyr a gweithredwyr mannau gwefru
  • Mathau eraill o wefru cyhoeddus

Mae'r amserlenni tua 10 mlynedd.

Optimeiddio’r ddarpariaeth ynni

Gweithredwyr y rhwydwaith trydan sy’n gyfrifol am gyflenwi pŵer ac mae’n cael ei reoleiddio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac Ofgem.

Byddwn yn gweithio gyda Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNOs) yng Nghymru i fwyafu’r pŵer sydd ar gael i wefru cerbydau.

Byddwn yn cefnogi’r broses o fodloni anghenion gwefru mewn ffordd sy’n effeithlon i’r rhwydwaith trydan. Mae hyn yn golygu cynnwys cynhyrchu adnewyddadwy, storio ynni, technoleg ddeallus a bod yn barod i fanteisio ar fuddion ynni o’r cerbyd i’r grid.

Bydd modelu digidol yn helpu’r broses gynllunio gyda deilliannau gan ddefnyddio rheoli pŵer yn ddeallus, lle y bo’n briodol, i gael y gwerth gorau o’r rhwydwaith trydan.

Bydd grŵp cysylltiadau’n cael ei sefydlu sy’n cynnwys Gweithredwyr Rhwydwaith

Dosbarthu, darparwyr mannau gwefru a’r Llywodraeth. Y nod yw sicrhau bod adnoddau’n cael eu cyfeirio mewn ffordd sy’n hwyluso rhwydwaith gwefru cynhwysfawr.

Mae Ofgem wedi argymell y dylai corff annibynnol newydd gael ei sefydlu i gynnal y system drydan er mwyn bodloni anghenion cerbydau trydan, ar yr un pryd â chynnal cyflenwadau ynni diogel. Bydd y grŵp cysylltiadau’n gweithio’n agos gydag unrhyw gorff annibynnol a sefydlir yn y rhinwedd hwn.

Buddion y cam gweithredu hwn

Bydd sefydlu grŵp cysylltiadau yn cefnogi cydlyniad traws-sector ac yn creu synergedd ar draws rhaglenni buddsoddi mewn seilwaith. Bydd yn helpu i integreiddio cynllunio ar gyfer sero-net, cynhyrchu pŵer a storio ynni yn lleol â chynllunio ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Bydd y grŵp yn helpu i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad sy’n gysylltiedig â hyblygrwydd rhwydwaith.

Dangosydd Perfformiad Allweddol

  • Grŵp cysylltiadau i adrodd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol

Cyfrifoldebau

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu’r grŵp ac yn gweithio gyda phartneriaid i fwyafu’r pŵer sydd ar gael

Partneriaid cyflawni

  • Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu
  • Gweithredwr systemau trawsyrru
  • Darparwyr cyfleustodau eraill

Mae'r amserlenni'n fras o fewn 2 flynedd.

Gwella gwefru chwim ar y rhwydwaith cefnffyrdd strategol

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddarparu mannau gwefru chwim bob 20 milltir ar rwydwaith cefnffyrdd strategol Cymru erbyn 2025.

Bydd camau cyflawni ychwanegol yn cael eu hamlygu gan Lywodraeth Cymru a thargedau’n cael eu gosod sy’n cyd-fynd â’r galw a ragwelir am wefru o fewn y strategaeth, yn ystod y deng mlynedd nesaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda grwpiau sector preifat a chymunedol i gynnal ymarferion caffael cyhoeddus (yn ychwanegol i’r caffael cyhoeddus a gyflawnwyd gan Trafnidiaeth Cymru yn 2021).

Bydd yr ystad gyhoeddus ledled Cymru yn cael ei defnyddio, lle y bo’n bosibl, i gyflwyno safleoedd priodol ar sail ymarfer cynllunio gofodol strategol.

Bydd y safleoedd a amlygir wedi’u seilio ar ddadansoddiad o dystiolaeth a data gofodol.

Bydd safleoedd yn cael eu hamlygu ar sail:

  • y lleoliadau sydd ar gael
  • y galw a ragwelir
  • cyflymder gwefru ac ymddygiad gwefru
  • capasiti cysylltu â’r grid
  • synergedd â phrosiectau a rhaglenni seilwaith / trafnidiaeth eraill a gynlluniwyd

Bydd rhai lleoliadau’n darparu amwynderau a chyfleusterau gorffwys i ddefnyddwyr, y gofynnwyd amdanynt trwy adborth o’r ymgynghoriad.

Disgwylir i ddatblygiadau gysylltu â busnesau lleol a chael adnoddau o’r gymuned, gan ddilyn modelau tebyg i Ystad Rhug, Caerloyw a Tebay.

Buddion y cam gweithredu hwn

Bydd gwella mynediad at wefru chwim yn rhoi’r hyder i yrwyr yng Nghymru deithio’n bell mewn cerbydau trydan ac yn annog defnydd cenedlaethol.

Bydd cyfleoedd economaidd lleol o fudd i economi Cymru.

Dangosydd Perfformiad Allweddol

  • Rhwydwaith o flaengyrtiau gwefru ledled Cymru oddeutu bob 20 milltir ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd strategol erbyn 2025

Cyfrifoldebau

  • Llywodraeth Cymru o ran gosod y fframwaith strategol
  • Trafnidiaeth Cymru o ran goruchwylio’r broses weithredu
  • Bydd y grŵp cysylltiadau’n cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth

Partneriaid cyflawni

  • Mentrau cyflawni gan y sector preifat a’r gymuned
  • Sefydliadau cymunedol
  • Awdurdodau cynllunio lleol
  • Partneriaethau rhanbarthol a thwf

Mae'r amserlenni'n fras o fewn 5 mlynedd.

Deilliannau ansawdd

Datblygu Safon Ansawdd Cymru ar gyfer gwefru

Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gosod safonau cenedlaethol ar gyfer ansawdd y ddarpariaeth wefru. Mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar ddatblygu’r rhain a bydd yn ychwanegu atynt, lle y bo’n briodol, i sicrhau bod anghenion Cymru yn derbyn sylw. Bydd hyn yn cynnwys:

  • safonau ar gyfer dibynadwyedd ac argaeledd.
  • safonau ar gyfer diogelwch personol, hygyrchedd a diogelwch eiddo, yn enwedig ar gyfer y defnyddwyr mwyaf agored i niwed.
  • gofal cwsmeriaid dwyieithog 24/7 yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • parcio a thalu am wefru mewn amgylchedd diogel sydd wedi’i oleuo’n dda.
  • cyfleusterau gwefru ar gael i bawb, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion hygyrchedd.
  • platfformau talu sy’n syml, yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio. Bydd modd talu trwy gerdyn debyd neu gredyd digyffwrdd a system ap gysylltiedig, fel y disgwylir iddo gael ei fynnu gan safonau’r Deyrnas Unedig.
  • safonau cysylltedd digidol a data ar gyfer mynediad agored. Manylebau ar gyfer cipio data i gefnogi’r newid carbon isel.
  • lle y bo’n bosibl, hyrwyddo gwefru sy’n integreiddio cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy.
  • hyrwyddo dylunio cynaliadwy o ansawdd da sy’n cynnwys seilwaith gwyrdd.

Bydd y safonau’n cael eu profi gyda rhanddeiliaid am addasrwydd a pherthnasedd i gyd-destun Cymru, ar yr un pryd â chyd-fynd â safonau presennol y diwydiant a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Buddion y cam gweithredu hwn

Bydd hyn yn darparu dull dibynadwy o sbarduno gwelliant mewn safonau’r diwydiant ar yr un pryd â sicrhau bod ein seilwaith gwefru’n bodloni anghenion poblogaeth Cymru mewn ffordd gyson ac integredig. Bydd yn rhoi eglurder i ddatblygwyr wrth ddarparu seilwaith.

Dangosydd Perfformiad Allweddol

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Safon Ansawdd Genedlaethol i’w defnyddio wrth gaffael yn y sector cyhoeddus erbyn diwedd 2021

Cyfrifoldebau

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu Safon Ansawdd Genedlaethol

Partneriaid cyflawni

  • Trafnidiaeth Cymru
  • Gweithredwyr mannau gwefru
  • Partneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat sy’n ymwneud â chaffael
  • Y Swyddfa Cerbydau Dim Allyriadau gan gyd-fynd â safonau’r Deyrnas Unedig

Mae'r amserlenni'n fras o fewn 2 flynedd.

Hwyluso cyflawni seilwaith

Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu rheoliadau adeiladu i gefnogi’r broses o ddarparu mannau gwefru mewn cartrefi a gweithleoedd ledled Cymru ar gyfer prosiectau adnewyddu ac adeiladu o’r newydd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r diwydiant trydan i hwyluso adolygiad pellach o’r gofynion ar gyfer cyflenwad trydanol i adeiladau er mwyn sicrhau cydnerthedd yn y dyfodol sy’n cynnwys anghenion gwefru posibl.

Bydd polisi a rheoliadau Llywodraeth Cymru yn cael eu hadolygu’n barhaus i gefnogi gwefru cerbydau trydan.

Bydd hyn yn cynnwys p’un a ellir cymryd unrhyw fesurau ychwanegol i gefnogi cynllunio gofodol lleol a rhanbarthol a fframwaith ar gyfer cynlluniau datblygu strategol a lleol.

Bydd Hawliau Datblygu a Ganiateir yn cael eu hadolygu i ystyried cyfatebiaeth yn y diwydiant a mynd i’r afael ag unrhyw anghysondebau mewn rheoli datblygu neu’r ffordd y caiff ei gymhwyso ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd ymgysylltiad a chydweithrediad parhaus ag awdurdodau cynllunio lleol i gefnogi’r broses o ddatblygu dulliau lleol.

Buddion y cam gweithredu hwn

Bydd yn annog dull cyson ac effeithlon o gyflawni seilwaith sy’n barod ar gyfer gwefru.

Bydd defnyddio ysgogiadau cynllunio Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel galluogwr i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cyflawni a amlygwyd gan y rhai sy’n ceisio darparu a buddsoddi mewn gwefru cerbydau trydan.

Dangosydd Perfformiad Allweddol

  • Adolygu polisïau a rheoliadau erbyn 2022 a gwneud diweddariadau, lle y bo’n briodol, i gefnogi’r defnydd o gerbydau trydan

Cyfrifoldebau

  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau lleol
  • Awdurdodau parc cenedlaethol

Partneriaid cyflawni

  • Awdurdodau cynllunio lleol
  • Rheoli adeiladu awdurdodau lleol
  • Archwilwyr rheoli adeiladu cymeradwy

Mae'r amserlenni'n fras o fewn 2 flynedd.

Partneriaeth a chydweithio

Mae cydlynu Gweithredwyr Mannau Gwefru er mwyn penderfynu ar leoliadau addas yn allweddol i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithgor Gweithredwyr Mannau Gwefru sy’n cynnwys sefydliadau preifat, cyhoeddus, nid er elw a chymunedol i geisio cyflawni’r nod hwn.

Bydd y gweithgor yn galluogi rhanddeiliaid i gyfathrebu a rhannu gwybodaeth mewn sector sy’n esblygu’n gyflym yng Nghymru.

Bydd y cyfyngiadau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â seilwaith gwefru yn cael eu hamlygu trwy’r sgyrsiau a’r profiadau hyn a rennir.

Byddwn yn annog profi camau gweithredu a datrysiadau’n feddal yn yr amgylchedd hwn er mwyn gweithio trwy’r cyfyngiadau a chynyddu’r cyfleoedd a amlygwyd i’r eithaf. Bydd profi’n feddal yn y modd hwn yn rhoi hyder a chydnerthedd cyn gweithredu’n llawn. Bydd y grŵp yn ystyried effaith ymyriadau’r farchnad a swyddogaethau rheoleiddio, a’r cyfleoedd ar eu cyfer, a fydd yn cefnogi’r newid i gerbydau trydan.

Buddion y cam gweithredu hwn

Bydd y gweithgor yn darparu swyddogaeth gynghori i gefnogi’r broses o ddatblygu safonau ansawdd a mentrau eraill sy’n dod i’r amlwg yn y sector hwn, a’u profi’n feddal. Bydd yn darparu fforwm i ganiatáu ar gyfer datblygu datrysiadau i sicrhau bod y rhwydwaith yn cyrraedd pob rhan o Gymru. Bydd hyn yn gwella deilliannau tymor hir i gyfateb polisi, strategaeth a chyflawni datrysiadau wedi’u seilio ar y farchnad yn uniongyrchol.

Dangosydd Perfformiad Allweddol

  • Sefydlu gweithgor gweithredwyr mannau gwefru yn 2021

Cyfrifoldebau

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain

Partneriaid cyflawni

  • Awdurdodau cynllunio lleol
  • Gweithredwyr mannau gwefru
  • Sefydliadau cymunedol

Mae'r amserlenni'n fras o fewn 2 flynedd.

Buddion lleol

Cynyddu ymwybyddiaeth o anghenion datgarboneiddio trafnidiaeth

Byddwn yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r seilwaith gwefru cerbydau trydan ledled Cymru. Bydd cyfathrebiadau’n ceisio rhoi gwybodaeth gyson, dryloyw a hygyrch i ddefnyddwyr a’r cyhoedd ehangach.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat i:

  • gynyddu ymwybyddiaeth o’r strategaeth a’r cynllun gweithredu gwefru cerbydau trydan
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid a’r cyhoedd am gynnydd y cynllun gweithredu a’i roi ar waith
  • gwella cydlyniad o ran negeseuon a chydweithredu traws-sector yng nghyd- destun datgarboneiddio
  • rhoi cyngor annibynnol i ddefnyddwyr i gefnogi’r newid i gerbydau trydan, gan gynorthwyo perchnogion cerbydau preifat, y sector cyhoeddus, darparwyr symudedd a rennir a chymunedol a busnesau
  • ymgysylltu â’r cyhoedd ehangach i annog ymddygiad cynaliadwy

Buddion y cam gweithredu hwn

Bydd hyn yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o wefru cerbydau trydan. Bydd gwella ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn cefnogi’r newid i gerbydau trydan. Rhoddir gwybod i ddefnyddwyr a darpar ddefnyddwyr am welliannau yn y dyfodol i brofiad defnyddwyr o wefru yng Nghymru er mwyn gwella canfyddiad y cyhoedd o’r profiad gwefru yng Nghymru.

Bydd gwybodaeth ehangach yn cefnogi defnydd a hyder pob math o ddefnyddwyr, gan gynnwys mewn lleoliad gweithle, ar draws trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau symudedd a rennir ac wedi’u datgarboneiddio.

Pan roddir cyngor annibynnol i ddefnyddwyr, bydd hyn yng nghyd-destun cefnogi’r ymddygiadau trafnidiaeth gynaliadwy a amlinellir yn Llwybr Newydd.

Dangosydd Perfformiad Allweddol

  • Gwell hyder mewn gwefru cerbydau trydan ymhlith y cyhoedd, gan symud Cymru o’r cam arloeswr i gam mwyafrif cynnar aeddfedrwydd y farchnad erbyn 2030

Cyfrifoldebau

  • Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r sectorau cyhoeddus a phreifat

Partneriaid cyflawni

  • Trafnidiaeth Cymru
  • Grwpiau buddiannau cymunedol
  • Grwpiau defnyddwyr
  • Cyrff a sefydliadau masnachu
  • Gweithredwyr mannau gwefru a sefydliadau cyflawni

Mae'r amserlenni tua 10 mlynedd.

Annog buddsoddiad ac arloesedd

Mae Llywodraeth Cymru yn gweld cyfle arwyddocaol i ddatblygu gweithgarwch economaidd ar gyfer busnesau yng Nghymru wrth ddarparu seilwaith i fynd i’r afael ag anghenion datgarboneiddio.

Y mae cyfleoedd posibl yn cynnwys:

  • budd economaidd trwy greu swyddi o gadwyni cyflenwi lleol i gefnogi’r seilwaith cerbydau trydan a thrydaneiddio trafnidiaeth yn ehangach
  • budd lleol trwy rôl mentrau a arweinir gan y gymuned a mentrau nid er elw ochr yn ochr â chyfleoedd ynni adnewyddadwy a storio
  • creu modelau busnes newydd i gynnwys gwefru yn rhan o newid carbon isel integredig ar gyfer Cymru, yn unol â Llwybr Newydd a Cymru’r Dyfodol
  • darparu sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru i gefnogi swyddi gweithredu, gwasanaethu, cynnal a chadw a digidol yn y sector
  • ymchwil ac arloesedd i sbarduno gwelliant parhaus ar draws y diwydiant
  • proses weithredu sy’n ceisio cefnogi amcanion ehangach trwy hwyluso’r amcanion a amlinellir yn Llwybr Newydd a Cymru’r Dyfodol ar gyfer gwelliannau i ansawdd aer, teithio llesol a datgarboneiddio
  • defnyddio clystyrau diwydiannol Cymru i’r eithaf i gefnogi gweithgynhyrchu ac anghenion eraill y gadwyn gyflenwi
  • cyfleoedd economi gylchol (gan gynnwys dylunio, gweithgynhyrchu, gosod, gweithredu a chynnal a chadw, datgomisiynu ac ailgylchu/ailddefnyddio offer)

Buddion y cam gweithredu hwn

  • Bydd hyn yn cyfrannu at ddatgarboneiddio, gwella cynaliadwyedd a chreu gwerth ar draws cylch oes cyfan yr ased, ar yr un pryd ag annog arloesedd a chreu swyddi ar raddfa ehangach

Dangosyddion Perfformiad Allweddol

  • Cwblhau adolygiad o’r gadwyn gyflenwi a chyfleoedd erbyn diwedd 2021
  • Sefydlu rhaglen i wireddu cyfleoedd ar gyfer arloesi a mewnfuddsoddi

Cyfrifoldebau

  • Llywodraeth Cymru

Partneriaid cyflawni

  • Trafnidiaeth Cymru
  • Gweithredwyr mannau gwefru
  • Partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat sy’n ymwneud â chaffael
  • Sefydliadau masnachu
  • Cyrff proffesiynol

Mae'r amserlenni'n fras o fewn 2 flynedd.

Mwyafu synergedd rhwng gwahanol anghenion gwefru

Bwriadwn amlygu mannau lle y gall cynhyrchu adnewyddadwy ynghyd â storio ynni helpu i ddarparu pŵer ar gyfer y rhwydwaith gwefru er budd pobl Cymru.

Gall hyn fod yn ddefnyddiol i gymunedau gwledig, y fflyd sector cyhoeddus a’r system drafnidiaeth integredig, lle y bydd cyfleusterau gwefru a rennir neu a gyd-leolir yn creu synergedd lle y gellir bodloni gwahanol anghenion.

Mae enghreifftiau’n cynnwys hybiau gwefru gwledig a bwerir gan brosiectau adnewyddadwy cymunedol sy’n cynnwys hybiau gwefru, rhannu ceir a thrafnidiaeth gymunedol neu gyfnewidfeydd teithio mewn trefi sy’n cysylltu gwasanaethau trên, bws a lleol â seilwaith teithio llesol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a llywodraeth leol i gefnogi’r broses o integreiddio gwasanaethau teithio aml-ddull ochr yn ochr â seilwaith gwefru trydan.

Byddwn yn amlygu a goruchwylio cydweithio i greu synergedd traws-sector trwy gyfleoedd creu lleoedd o amgylch gwasanaethau lleol a manwerthu ar y stryd fawr yn unol â Llwybr Newydd a Cymru’r Dyfodol.

Buddion y cam gweithredu hwn

Bydd hyn yn helpu tacsis, bysiau a fflydiau cyhoeddus i newid yn gyflymach, yn unol â’r sbardunwyr polisi a rheoleiddio presennol.

Mae gan y newid polisi yn Llwybr Newydd a Cymru’r Dyfodol rôl allweddol wrth annog pobl i newid eu hymddygiad a defnyddio system drafnidiaeth fwy cynaliadwy.

Bydd cydlynu cynllunio gofodol ar raddfa awdurdod lleol a rhanbarthol yn rhoi mwy o werth i fuddsoddiad. Mae’n debygol y gall datrysiadau creu lleoedd (lle y gellir cyd-leoli nwyddau a gwasanaethau) a buddsoddi yn yr adferiad gwyrdd gael eu cyflawni ochr yn ochr â gwefru, neu gan gynnwys gwefru.

Bydd cydweithio’n cefnogi modelau busnes sy’n dod i’r amlwg gan ddarparwyr gwasanaethau e-symudedd i gyfleoedd newydd i ddatgarboneiddio cludo llwythi a danfoniadau.

Dangosydd Perfformiad Allweddol

  • Seilwaith gwefru i’w ystyried yn yr holl gynlluniau datblygu lleol a rhanbarthol perthnasol newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, gan ddechrau yn 2021

Cyfrifoldebau

  • Llywodraeth Cymru i oruchwylio
  • Trafnidiaeth Cymru o ran strategaeth a gweithredu

Partneriaid cyflawni

  • Awdurdodau cynllunio lleol
  • Partneriaethau rhanbarthol a thwf

Mae'r amserlenni'n fras o fewn 5 mlynedd.

Beth nesaf?

Bydd y cynllun gweithredu hwn yn cael ei adolygu a’i fonitro’n flynyddol i olrhain a rheoli cynnydd. Bydd Llywodraeth Cymru, gyda Trafnidiaeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach, yn datblygu’r trefniadau llywodraethu a chyflawni, gan ymsefydlu Pum Ffordd o Weithio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r sector a’r amgylchedd gwefru cerbydau trydan yn esblygu’n gyflym wrth ymateb i sbardunwyr polisi a deddfwriaethol. Mae’r Pum Ffordd o Weithio yn helpu i ddarparu fframwaith i randdeiliaid er mwyn iddynt barhau i ymgysylltu â’r amgylchedd dynamig iawn hwn ar yr un pryd â gweithio tuag at y weledigaeth strategol a amlinellir yn y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru.

Bydd newidiadau technolegol yn dylanwadu ar ffurf y seilwaith gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol, gan gynnwys gwelliannau i dechnoleg batris, microsymudedd, cerbydau awtonomaidd a defnyddio hydrogen a thanwyddau amgen eraill. Wrth i’r farchnad cerbydau trydan dyfu, bydd ymddygiad defnyddwyr yn esblygu. Bydd yr agweddau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd yn rhan o’r broses gyflawni barhaus.

Bydd mabwysiadu’r pum ffordd o weithio a ddiffinnir gan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn helpu i gyflawni’r camau gweithredu nesaf. Mae’r ffyrdd hyn o weithio yn annog cydweithio’n well i gyflawni’r weledigaeth a amlinellir yn y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru.

Tymor hir

Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr â’r angen i ddiogelu’r gallu i fodloni anghenion tymor hir hefyd.

Cynnwys

Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a wasanaethir gan y corff.

Atal

Sut gallai gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

Integreiddio

Ystyried sut gallai amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ac amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Cydweithio

Gweithredu ar y cyd ag unrhyw unigolyn arall (neu rannau eraill o’r un corff) a allai helpu’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant.