Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae llawer ystyr i’r gair ‘digidol’ yn ein cymdeithas heddiw. Mae’n golygu mwy na’r cyfrifiaduron, arfau a’r technolegau sy’n newid pob agwedd ar ein bywydau; mae’n llawer mwy na hynny. Mae’n golygu ymdrin â phethau mewn ffordd wahanol.

Mae newidiadau digidol wedi prysuro yn y blynyddoedd diwethaf gan gynnig inni ystod o arfau newydd ar gyfer datrys problemau hen a newydd. Yn ei hanfod, mae gan y digidol y potensial i roi cyfle inni wella’n profiad o’r byd: o gyfoethogi bywydau pobl, cryfhau ein gwasanaethau cyhoeddus a gwaith y llywodraeth, yn ogystal â helpu busnesau i addasu i’r dyfodol.

Bum yn gadeirydd ar banel o arbenigwyr ar ran Llywodraeth Cymru i edrych sut y gallem ffrwyno pŵer y digidol i wella gwasanaethau cyhoeddus.  Dyma ddywed ein hadroddiad Newid y System:

“Mae mwy i newid digidol na thechnoleg. Mae’n golygu newid diwylliant. Mae’n golygu bod yn agored. Mae’n golygu defnyddio data i ddatrys problemau. Yn hytrach na chynllunio  gwasanaethau o safbwynt yr hyn mae bwrdd iechyd neu awdurdod lleol yn credu sydd ei angen ar ddinesydd, mae dull digidol yn golygu dylunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y defnyddiwr terfynol”

Pwrpas y Strategaeth Ddigidol hon i Gymru yw edrych tua’r dyfodol a chreu gweledigaeth genedlaethol ar gyfer mabwysiadu’r digidol ledled Cymru.  Rydym am sicrau bod pobl yng Nghymru yn profi gwasanaethau cyhoeddus modern ac effeithiol, wedi’u chefnogi gan ddefnydd da, moesegol, o ddata.  Rwyf am sbarduno arloesedd yn ein heconomi a chefnogi busnesau i ddatblygu’r cydnerthedd sydd ei angen arnynt i lwyddo. Rwyf am roi’r hyder sydd ei angen ar bobl Cymru i ymwneud â’u cymunedau ac â chymdeithas fodern.  Rwyf am i ddysgwyr o bob oed feddu ar yr wybodaeth, y profiad a’r sgiliau i allu elwa ar economi sydd fwyfwy ddigidol a chyfnewidiol.

Mae pandemig Covid wedi dangos mor bwysig yw’r digidol i ddarparu gwasanaethau modern yn gyflym. Rydym wedi gweld y digidol yn gatalydd pwysig i’n helpu i addasu i’r heriau rydym wedi’u hwynebu.  Rhaid inni gadw’r feddylfryd ystwyth ac ymatebol hon a’i throi’n norm yn hytrach na’r eithriad.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau breision i ddatblygu’r ecosystem i’r newid hwn allu digwydd.  Rydym wedi lansio a buddsoddi yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.  Rydym wedi penodi Prif Swyddogion Digidol newydd ar gyfer Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru, gydag un i’w benodi ar gyfer Iechyd.  Mae fy nghyd-weinidogion a finnau wedi buddsoddi’n drwm mewn Iechyd Digidol (£75 miliwn), ein rhaglen Hwb (£92 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf ac £15 miliwn eleni), Seilwaith Digidol (£26 miliwn), cymorth digidol i fusnesau (£2 miliwn), y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (£4.9 miliwn) a Chynhwysiant Digidol (£2 miliwn).

Gadewch inni gynnal y momentwm hwn, gwella’n sgiliau a diogelu swyddi yng Nghymru.

Rwy’n angerddol dros y digidol, dros wneud bywyd yn well i bobl Cymru a thros helpu busnesau Cymru i gryfhau fel y gallwn gyda’n gilydd ffynnu fel gwlad.  Rydym wedi dod yn bell ond mae llawer iawn eto i’w wneud.  Megis dechrau mae’r strategaeth hon a’r cynllun cyflawni cysylltiedig.

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Image
Lee Waters MS, Deputy Minister for Economy and Transport

Am beth mae’r strategaeth hon?

I beth mae’r strategaeth hon yn dda?

Mae’r strategaeth hon wedi’i llunio er lles Cymru gyfan a’i thargedu ar gyfer y rheini sy’n creu, yn dylunio, yn darparu neu’n defnyddio offer a gwasanaethau digidol.  Mae’n nodi cyfres o feysydd blaenoriaeth o dan chwe chenhadaeth a fydd rhyngddynt gobeithio yn cyflymu manteision arloesi digidol i bobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau.

Rydym am iddi roi ffocws i’r newid yng Nghymru a dod ag ymdrechion awdurdodau lleol, academia, cynghorau cymuned, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, addysgwyr, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, y trydydd sector a phartneriaethau cymdeithasol ynghyd. Mae’n esbonio sut y byddwn gyda’n gilydd yn dylunio gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn datblygu’r economi ac yn lleihau anghydraddoldebau.

Bydd y strategaeth hon yn dod â buddiannau’r digidol i bobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau Cymru.

Atebolrwydd ac Arweiniad

Mae gennym ni, Lywodraeth Cymru, rôl amlwg fel arweinwyr y strategaeth hon, ond ni allwn gyflawni’r gweddnewidiad sydd ei angen ledled Cymru ar ein pen ein hunain. I wireddu’r uchelgais a ddisgrifir yn y ddogfen hon, rhaid gweithio mewn partneriaeth, cydweithio a chydgysylltu; a chwalu’r ffiniau presennol rhyngom.

O safbwynt gwasanaethau cyhoeddus, bydd Prif Swyddogion Digidol Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, Iechyd a Gofal ynghyd â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn helpu i’w rhoi ar waith ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.  Bydd gan y Ganolfan ran i’w chwarae hefyd i fonitro’r strategaeth ac adrodd arni.

Cyflawni a Gweithredu

Rydym wedi nodi chwe chenhadaeth yn y strategaeth a byddwn yn ymwneud â phob sector a grŵp rhanddeiliaid i wneud yn siŵr ein bod yn dewis y blaenoriaethau iawn ac yn ymateb i newidiadau dros oes y strategaeth.

Er mwyn troi’r strategaeth yn realiti, byddwn yn canolbwyntio ar y cyflawni.  Dyna pam y bydd cynllun cyflawni’n cyd-fynd â’r strategaeth, yn nodi’r hyn y bydd yn rhaid ei wneud i wireddu’r weledigaeth a ddisgrifir.  Gwyddom y bydd llawer o’n huchelgais yn gofyn am newid diwylliant ac mai dim ond yn y tymor hir y daw llawer o’r canlyniadau rydym am eu gweld.  Bydd ein cynllun cyflawni felly’n un pragmatig, yn nodi’r hyn y gallwn ddisgwyl ei wneud yn y tymor byr i’n helpu ar ein trywydd, law yn llaw ag uchelgeisiau tymor hir.

Cenedlaethau’r Dyfodol

Bydd y strategaeth hon yn ein helpu i gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol.  Gwyddom y gall arloesi digidol arwain at fwy o gyfleoedd economaidd ac at gymdeithas fwy llewyrchus a chydnerth. Bydd rhoi’r sgiliau digidol sydd eu hangen ar bobl a dylunio gwasanaethau o gwmpas y defnyddiwr yn gwella cydlyniant cymdeithasol hefyd, gan greu cymdeithas iachach a mwy cyfartal gyda chymunedau sydd wedi’u cysylltu’n dda sy’n cyfrannu at ffyniant y Gymraeg.

Trwy helpu pobl i weithio o bell, dylunio gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon, defnyddio data’n glyfar a moderneiddio’r dechnoleg rydym yn ei defnyddio, gallwn gefnogi’n huchelgais o ddefnyddio llai o garbon (er y bydd gofyn inni barhau i ystyried effaith net cymell mwy o ddefnydd ar y digidol).

Bydd sicrhau gweddnewidiad digidol go iawn i wasanaethau cyhoeddus yn gyfle i gefnogi’r ffyrdd o weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Darperir gwasanaethau cyhoeddus digidol cydgysylltiedig trwy gydweithio ac integreiddio. Bydd cyd-ymwneud llwyddiannus yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau i bobl fydd yn atal aneffeithlonrwydd a phrofiad anghyson i’r dinesydd. Bydd dylunio gwasanaethau mewn ffordd ailadroddus ac ystwyth sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf yn sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu dylunio ar gyfer y tymor hir.

Sut ydym am wneud hyn

Wrth ddatblygu’r strategaeth hon, rydym wedi rhannu’n syniadau ac wedi gwrando ar yr ymateb. Cyhoeddon ni flog ar-lein am bob un o’r cenadaethau dros gyfnod o ddeufis a gwahodd ymateb. Gwnaethon ni drafod hefyd ag amrywiaeth eang o grwpiau a fforymau, gan gynnwys cynrychiolwyr y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, aelodau Fforwm Hil Cymru, busnesau a chymdeithasau masnach, plant a phobl ifanc a phobl ag anableddau dysgu.

Rydyn ni’n ddiolchgar am yr amrywiaeth o sylwadau a gawsom am y blogiau, trwy’r ffurflen ar-lein, ar y cyfyngau cymdeithasol ac mewn digwyddiadau trafod. Trwy weithio fel hyn, rydym wedi cael profi’n syniadau a chlywed syniadau amrywiaeth eang o bobl a gweld beth yw eu blaenoriaethau. Mae pobl wedi cymryd rhan frwd yn y broses ac rydym wedi addasu’n syniadau cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol hon o’r strategaeth.

Yn gyffredinol, mae’r ddeialog eang rydym wedi’i chael wedi atgyfnerthu’n barn bod y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector ledled Cymru yn gryf eu cefnogaeth i’n gweledigaeth a’n huchelgais. Y prif themâu a godwyd dro ar ôl tro oedd sgiliau digidol, cynhwysiant digidol a chysylltedd digidol. Rydyn ni’n cydnabod bod sgiliau, cynhwysiant a chysylltedd yn rhannau annatod o bob cenhadaeth yn y strategaeth ac yn hanfodol inni allu cyflawni’n uchelgais. Ein hamcan yw sicrhau bod gan bobl y cysylltedd sydd ei angen arnynt, bod ganddynt yr hyder a’r cymhelliant i wneud y defnydd gorau o’r technolegau digidol yn eu bywydau a’u bod yn gallu datblygu’u sgiliau i allu manteisio’n llwyr ar y cyfleoedd digidol yn y gweithle.

Y weledigaeth ddigidol

Mae gweledigaeth glir gennym o’r hyn rydym am ei wneud yng Nghymru i sbarduno’r canlyniadau a ddisgrifir yn y strategaeth hon a’r cynllun cyflawni. Y weledigaeth honno yw:

Y Digidol yng Nghymru: gwella bywydau pawb trwy gydweithio, arloesi a gwasanaethau cyhoeddus gwell

Mae gennym chwe chenhadaeth i gefnogi’n gweledigaeth:

Cenhadaeth 1: Gwasanaethau Digidol

Cyflenwi a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr ac yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.

Cenhadaeth 2: Cynhwysiant Digidol

Rhoi yr ysgogiad, y mynediad y sgiliau a’r hyder i bobl ymgysylltu gyda byd sy’n fwyfwy digidol, yn seiliedig ar eu hanghenion.

Cenhadaeth 3: Sgiliau Digidol

Creu gweithle sydd â’r sgiliau digidol, y gallu a’r hyder i ragori yn y gweithle ac ym mywyd pob dydd.

Cenhadaeth 4: Economi Ddigidol

Sbarduno ffyniant economaidd a cydnerthedd drwy gynnwys a defnyddio arloesedd digidol.

Cenhadaeth 5: Cysylltedd Digidol

Caiff gwasanaethau eu cefnogi gan seilwaith cyflym a dibynadwy.

Cenhadaeth 6: Data a Chydweithredu

Caiff gwasanaethau eu gwella drwy gydweithio, a chaiff data a gwybodaeth eu defnyddio a’u rhannu.

Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol

Darparu a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod yn cael eu dylunio ar sail anghenion y defnyddiwr a’u bod yn syml, diogel a chyfleus

I wir wella gwasanaethau cyhoeddus, rhaid eu dylunio ar sail anghenion y bobl fydd yn eu defnyddio.

Rhaid anelu at y norm o wasanaethau cyhoeddus effeithiol a chydgysylltiedig sy’n diwallu anghenion y defnyddiwr.  Byddwn yn gweithio at set gyffredin o safonau ac o batrymau gwasanaethu – fel bod pobl yn gallu cael at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn gyflym pan fydd eu hangen arnynt, yn enwedig pan fyddant ar eu mwyaf bregus. 

Rydyn ni’n cydnabod hefyd ei bod yn hanfodol seilio’r dylunio ar y defnyddiwr er mwyn darparu gwasanaethau mwy hygyrch a chynhwysol, a chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael eu trin yn gyfartal.  Trwy ddylunio gwasanaethau cyhoeddus ar sail anghenion y defnyddiwr, daw canlyniadau gwell i bawb.  Er enghraifft, gellir cryfhau ein hymrwymiad i’r model cymdeithasol o anabledd trwy ddylunio gwasanaethau o gwmpas y bobl sy’n eu derbyn.

Mae angen arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus arnom sy’n deall beth sy’n bosibl a sut i wireddu’r posibl, gweithlu â’r sgiliau iawn a phobl sy’n hyderus i weithio gyda’r digidol.  Bydd hyn yn arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell a mwy atebol.

Byddwn yn adeiladu ar ein hymrwymiadau hefyd yn Cymraeg 2050 a datblygu gwasanaethau dwyieithog o’r dechrau’n deg, a gwneud penderfyniadau bwriadol i’w gwneud hi’n haws i bobl allu defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg neu yn Saesneg. 

Elfen bwysig o’r strategaeth hon, sy’n hanfodol i ddarparu gwasanaethau gwell, yw rôl y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a lansiwyd yn 2020.  Mae’r CDPS yn hanfodol i’n cynlluniau i wella galluoedd, cynnal safonau gwasanaethau digidol cyson a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus.  Mae’r Ganolfan eisoes yn rhannu arferion da o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yn well, ac yn bwysicach, yn cynnig help a hyfforddiant ar gyfer dylunio gwasanaethau ar sail anghenion y defnyddiwr.

Fel rhan o hyn, bydd angen i ni ailystyried ein systemau, platfformau a gwasanaethau presennol, i sicrhau eu bod yn cael eu datblygu ar dechnoleg fodern a diogel, ar sail anghenion y defnyddiwr ac mewn ffordd agored trwy ffyrdd modern o weithio.

Yn ogystal â darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, mae angen iddyn nhw fod yn ddiogel. Mae’n bwysig felly bod egwyddorion arweiniad, cydweithio a chyd-ddysgu yn cael eu dilyn ar draws y sector cyhoeddus mewn cysylltiad â seiber-ddiogelwch a rhoi’r Cynllun Gweithredu Seiber ar waith.

Disgrifir isod ein huchelgais a’r canlyniadau rydym am eu sicrhau.

Gyda’n gilydd, byddwn yn:

  • dylunio gwasanaethau ar sail anghenion y defnyddiwr, dealltwriaeth a data
  • creu amgylchedd lle bydd arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yn deall y digidol ac yn helpu’u sefydliadau i’w fabwysiadu
  • darparu gwasanaethau sy’n bodloni set gyffredin o safonau gwasanaeth a dylunio
  • gwneud safonau hygyrchedd yn rhan annatod o bob gwasanaeth
  • gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddylunio gwasanaethau, gan eu gwella’n barhaus ar sail adborth fel mai’r digidol yw’r dewis cyntaf
  • creu diwylliant lle’r norm yw darparu profiad di-fwlch i’r defnyddiwr
  • sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus digidol yn ddiogel, sicr a dibynadwy
  • gweddnewid ein ffordd o ddatblygu atebion digidol yn y sector cyhoeddus i fod fod yn fwy agored ac ystwyth

Canlyniadau:

  • bydd gwasanaethau ar gael ar-lein lle bo hynny’n bosibl
  • bydd pobl yn dewis defnyddio gwasanaethau digidol am eu bod yn rhwydd a chyfleus a bod modd eu defnyddio’n llwyddiannus y tro cyntaf heb help
  • bydd pobl yn derbyn gwasanaethau o ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg am eu bod wedi’u dylunio’n ddwyieithog o’r dechrau
  • caiff y data eu defnyddio mewn ffordd foesegol er mwyn deall gwasanaethau cyhoeddus yn well, gwella penderfyniadau a nodi cyfleoedd i wneud pethau’n well
  • bydd gwefannau a gwasanaethau’n agored a hygyrch i drydydd partïon er mwyn gallu darparu gwasanaethau di-fwlch
  • bydd gan wasanaethau naws a golwg cyson

Cenhadaeth 2: cynhwysiant digidol

Rhoi’r cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a’r hyder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion

Mae llawer o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd bob dydd i reoli arian y tŷ, i siopa ar-lein, i gysylltu â gwasanaethau cyhoeddus ac i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.

Mae yna rai pobl fodd bynnag sydd ddim neu sydd ddim yn gallu defnyddio gwasanaethau ar-lein. Gallai sawl rheswm fod am hynny – efallai eu bod yn dewis peidio, neu nid oes cymhelliant neu hyder ganddynt, efallai nad oes ganddynt y sgiliau sylfaenol neu efallai nad oes ganddynt ddyfeisiau neu gysylltedd (am nad ydynt yn gallu’u fforddio efallai).  Maen nhw wedi’u heithrio’n ddigidol.

Rydym am i bobl feddu ar yr hyder digidol i fynd ar y rhyngrwyd a mwynhau’r manteision diri y mae’r byd digidol yn ei gynnig, os mai dyna’u dymuniad. Nid yw darparu dyfeisiau a chysylltedd yn ddigon.  Byddwn yn siarad â phobl a chymunedau i ddeall y rhwystrau i gynhwysiant a dysgu sut gallwn eu helpu i ddatblygu sgiliau a hyder digidol sylfaenol. 

Mae ein Rhagolwg Cynhwysiant Digidol: tuag at Gymru ddigidol hyderus yn esbonio sut y gwnawn ni hyn a chyda pha grwpiau blaenoriaeth. Y grwpiau blaenoriaeth yw pobl hŷn, pobl anabl, y diwaith a’r economaidd anweithgar a thrigolion tai cymdeithasol.  Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu’n sylw hefyd at grwpiau o bobl sydd newydd eu heithrio’n ddigidol oherwydd newid yn eu hamgylchiadau. Rydym am ddeall y rhesymau am hyn a’r effeithiau arnyn nhw.

Pan fydd gan bobl ddigon o hyder a chymhelliant i ddefnyddio’r digidol, byddan nhw’n elwa o safbwynt eu hiechyd a’u lles, byddan nhw’n llai unig ac yn well eu byd yn ariannol o allu prynu pethau’n rhatach ar-lein.  Byddan nhw hefyd yn gallu defnyddio gwasanaethau cyhoeddus digidol a rhaid eu dylunio felly ar sail anghenion y defnyddiwr fel eu bod yn hygyrch ac yn rhoi help neu gefnogaeth yn ôl yr angen.

Ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu cymryd rhan yn ddigidol, neu sy’n dewis peidio â gwneud, byddwn yn dal i gadw at egwyddorion dylunio sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf, fel bod ganddynt ffyrdd eraill o ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Dylai’r rhain fod cystal â’r rhai ar-lein.

Gyda’n gilydd, byddwn yn:

  • dysgu oddi wrth bobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol fel ein bod yn deall eu hanghenion a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu
  • deall pam nad yw rhai am fod ar-lein
  • helpu’r bobl sydd am ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein
  • gwrando ar anghenion pobl o bob grŵp neu ar y rheini sydd â diffyg cysylltiad digidol a diffyg sgiliau a hyder digidol sylfaenol
  • deall y rhesymau dros dlodi data ac effaith hynny, a sut i’w ddatrys
  • deall y cysylltiad rhwng eithrio digidol, tlodi data ac eithrio ariannol a chymdeithasol
  • gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector i sicrhau bod hyder digidol (cymhelliant, hygyrchedd a sgiliau) yn cael ei gydnabod yn rhwystr rhag ymwneud yn ddigidol
  • rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder digidol sylfaenol i weithluoedd ym mhob sector i’w helpu i elwa ar fanteision y digidol

Canlyniadau:

  • bydd llai wedi’u heithrio’n ddigidol
  • bydd pobl yn teimlo bod mwy o gefnogaeth iddynt ac yn fwy hyderus i ddatblygu a defnyddio sgiliau digidol sylfaenol
  • bydd pobl yn gwybod ble i fynd am help i gysylltu’n ddigidol
  • bydd sefydliadau’n dylunio’u gwasanaethau mewn ffordd briodol gan eu bod yn cydnabod y gall diffyg hyder digidol fod yn rhwystr i bobl rhag ymwneud yn ddigidol
  • bydd pawb yn gallu cael at wasanaethau cyhoeddus a’u defnyddio, yn ddigidol a thrwy gyfryngau eraill
  • bydd pobl yn teimlo bod sefydliadau ar draws sectorau yng Nghymru’n eu cefnogi

Cenhadaeth 3: sgiliau digidol

Creu gweithlu sydd â’r sgiliau digidol, y galluogrwydd a’r hyder i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.

Ein nod yw sicrhau bod pawb, o bob oed, cefndir, rhywedd a thras ethnig, wedi’i gynnwys yn ddigidol.  Pan fydd pobl yn teimlo’n hyderus â’u sgiliau digidol sylfaenol, gellir eu cymell i ddatblygu sgiliau digidol uwch sy’n ateb gofynion eu gwaith. Gallai hynny gynnig cyfleoedd yn eu bywyd pob dydd ac yn y gweithle.

Rydym am i bawb ddatblygu sgiliau digidol cyn gynted â phosibl fel bod ganddyn nhw’r hyder i elwa ar yr offer a’r technolegau sydd o’u cwmpas.  Bydd angen i’w sgiliau a’u hyder ddatblygu ar yr un cyflymder ac i’r un graddau â’r newid mewn technoleg.

Mae ein Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn ein helpu i ddatblygu pobl ifanc i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol trwy bwysleisio pwysigrwydd y digidol o’r blynyddoedd cynharaf. Mae’r fframwaith yn dangos sut mae cymhwysedd digidol yn rhan o’r cwricwlwm cyfan ac yn rhoi’r un pwyslais i’r digidol ag i lythrennedd a rhifedd.  

Yn yr un modd, mae Fframwaith Digidol 2030 yn mynegi gweledigaeth ar y cyd i’r digidol mewn addysg ar ôl 16 yng Nghymru.  Mae’n disgrifio’r cymorth digidol sydd ei angen ar y dysgwr ar gyfer ei daith dysgu gyfan, gan gydnabod, er mwyn gallu ei darparu’n effeithiol yn ddigidol, bod yn rhaid wrth arweiniad, prosesau busnes,  diogelwch a seilwaith.

Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld awtomeiddio ac arloesi digidol yn prysuro newidiadau yn y farchnad swyddi. Fel y dywed Adolygiad Brown, bydd y tueddiadau hyn yn debygol o barhau, gan roi rhagor o gyfleoedd i ryddhau gweithwyr rhag gorchwylion diflas gan ailddiffinio sut, pryd a hyd yn oed ble rydyn ni’n gweithio.  Gyda thros 80%  o weithlu 2030 eisoes wedi gadael addysg orfodol, bydd dysgu gydol oes yn dal i fod yn bwysig wrth addasu sgiliau ar gyfer anghenion economi’r dyfodol ac wrth gryfhau gwasanaethau cyhoeddus. 

Mae canlyniadau’r Genhadaeth hon, Cenhadaeth 2 ar Gynhwysiant Digidol a Chenhadaeth 4 ar yr Economi Ddigidol yn dibynnu’n drwm ar ei gilydd, gan bwysleisio pwysigrwydd sgiliau digidol ar gyfer cyflawni’r strategaeth hon.

Gyda’n gilydd, byddwn yn:

  • rhoi’r cyfle i bawb ddatblygu hyder a sgiliau digidol o’r blynyddoedd cynharaf.
  • defnyddio’r digidol fel cyfrwng i wella’r dysgu yng Nghymru
  • rhoi cyfle i ddysgwyr yng Nghymru ddatblygu’u sgiliau digidol i wynebu natur gyfnewidiol eu gwaith a swyddi yn y dyfodol
  • gwella sgiliau digidol y rheini sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
  • alinio’r hyn rydyn ni’n ei wneud dros gyflogadwyedd a sgiliau i hybu cynhwysiant digidol ag anghenion yr economi ddigidol

Canlyniadau: 

  • bydd gan bobl a busnesau hyder digidol ac yn gallu manteisio’n llawn ar y cyfleoedd y gall technolegau digidol eu cynnig
  • bydd gan bobl ifanc alluoedd digidol ac argoelion da i gael swyddi da
  • bydd gan gyrff y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector y sgiliau i ddarparu gwasanaethau ar sail anghenion y defnyddiwr a thrysorir sgiliau digidol a data
  • bydd gan weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru fwy o hyder a sgiliau i ddefnyddio’r digidol wrth ddarparu gwasanaethau
  • bydd cyflogwyr yn cydnabod gwerth sgiliau a thechnolegau digidol ac yn buddsoddi yn anghenion eu gweithlu
  • bydd busnesau yng Nghymru’n gallu cael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i arloesi, gwella a thyfu
  • bydd talentau digidol yn cael eu datblygu a’u cadw ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector yng Nghymru

Cenhadaeth 4: yr economi ddigidol

Sbarduno ffyniant a chydnerthedd economaidd drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol

Yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyffrous i bobl ddatblygu sgiliau a chael defnyddio gwasanaethau, bydd y digidol yn chwarae rhan bwysig yn y broses o adfer economi Cymru yn gyflym yn y tymor byr a’i thrawsnewid yn y tymor hwy. Mae arloesi digidol yn creu rhagolygon newydd i fusnesau, yn denu buddsoddiad a thalent, yn gwella ansawdd swyddi ac yn cefnogi hyblygrwydd gwaith.

Ein Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu'r Economi sy’n disgrifio’n gwerthoedd a’n blaenoriaethau ar gyfer cryfhau’r economi. I gefnogi casgliadau Adolygiad Brown rydym yn cydnabod pwysigrwydd y digidol i gadw economi Cymru’n gystadleuol mewn marchnad fyd-eang a lleihau anghydraddoldeb a lledaenu cyfoeth a llesiant ledled Cymru.  Bydd hynny’n cynnwys wynebu her ddeuol COVID-19 a Brexit ond gan helpu busnesau yr un pryd i nodi a manteisio ar gyfleoedd newydd mewn economi sy’n newid beunydd.

Mae arloesedd digidol yn rhoi cyfle i ni ailffurfio dyfodol gweithleoedd Cymru a rhoi mwy o ddewis i bobl ynghylch ble i weithio a sut.  Mae’r syniadau diweddaraf am ddyfodol y gweithle yn gwyro yn erbyn y swyddfa draddodiadol neu le gwaith ‘canolog’.

Byddwn yn helpu busnesau yng Nghymru i fabwysiadu’r digidol yn gynt er mwyn gweithio’n glyfrach a sbarduno arloesedd, er mwyn iddyn nhw allu manteisio’n llwyr ar y cyfleoedd o’u blaenau. Mae hyn yn cynnwys gweithio â busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu sy’n braenaru’r ffordd mewn meysydd arloesi digidol newydd, yn meithrin talentau ac yn datblygu’r ecosystemau y maen nhw’n gweithio gyda nhw.  Meysydd fel deallusrwydd artiffisial, dysgu peiriant a seiber-ddiogelwch yw’r allwedd i fanteision mawr i economi ddigidol Cymru, yma ac wrth allforio.

Rydym am weld ymgyrch gydgysylltiedig i hyrwyddo buddsoddi mewn ymchwil, arloesi a sgiliau, gan weithio gyda chlystyrau diwydiant a chyweithiau academaidd i wneud i hyn ddigwydd. Cyflawnir hyn hefyd drwy barhau i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer buddsoddi mewn cysylltedd o'r radd flaenaf a gwireddu'r holl fanteision posibl cysylltiedig, fel yr amlinellir yng Nghenhadaeth 5. Bydd hefyd yn hanfodol sicrhau ein bod yn datblygu'r sylfeini sgiliau a amlinellir yng Nghenhadaeth 3 i roi'r gallu sydd ei angen ar fusnesau.

Er mwyn gwireddu ein huchelgeis ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus digidol o ansawdd uchel, mae arnom angen economi ddigidol a all gefnogi’n sector cyhoeddus, ond hefyd bydd angen sector cyhoeddus sy'n deall sut i weithio gyda'r farchnad i gyflawni'r hyn sydd ei angen arni mewn ffordd ymatebol a hyblyg.

Rhaid i Gymru edrych tua’r dyfodol i ddatblygu’i chyfderau yn nhueddiadau digidol y dyfodol. Mae'r sector addysg uwch yng Nghymru yn datblygu cynigion ar gyfer Cyflymydd Cenedl Ddata, gan ddwyn ynghyd ei gallu gyda diwydiant a'r sector cyhoeddus i ysgogi arloesedd ym meysydd deallusrwydd artiffisial a gwyddor data. Gall cynigion o'r math hwn fod yn bwysig i uchelgeisiau Cymru yn y dyfodol ond bydd angen ymrwymiad gan gyllidwyr y DU er mwyn eu gwireddu.

Gyda’n gilydd, byddwn yn:

  • creu amgylchedd yng Nghymru sy’n meithrin ac yn datblygu ecosystem iach ar gyfer darparwyr technolegau digidol a seilwaith arloesol
  • gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i elwa ar dechnolegau newydd fel sbardun ar gyfer buddsoddi ac i ddenu talent newydd i Gymru
  • cefnogi busnesau i fod yn rhan o glystyrau diwydiant i weithio mewn meysydd o arloesi a mabwysiadu digidol yn y dyfodol, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer denu swyddi o ansawdd uchel
  • ymateb i ofynion cyflogwyr yn y dyfodol o ran eu helpu i ddatblygu sgiliau digidol a newid swyddi, yn enwedig yn rhannau eraill yr economi wrth i ddiwydiant drawsnewid fwyfwy
  • gweithio gydag asiantaethau cyllido’r DU a phartneriaid eraill i feithrin galluoedd newydd sy’n bwysig i ddyfodol Cymru, fel seiber-ddiogelwch, deallusrwydd artiffisial a gwyddor data
  • cefnogi busnesau Cymru i sicrhau bod ganddynt y capasiti digidol sydd ei angen i allu gweithio’n hyblyg ac o bell, a helpu i sbarduno adfywiad a gweithgarwch economaidd ym mhob sector ac yn ein cymunedau.

Canlyniadau:

  • bydd cymuned fusnes Cymru’n ffynnu, yn gydnerth ac yn ddigidol alluog, gyda chymysgedd o fusnesau bach, canolig a mawr
  • bydd busnesau yn ymwybodol o seiber-ddiogelwch ac yn cael y gorau o offer a thechnolegau digidol
  • bydd arloesedd digidol Cymru yn amlwg yn y gystadleuaeth fyd-eang am farchnadoedd a diwydiannau newydd ac yn denu talentau newydd i Gymru
  • bydd gan bobl y sgiliau a’r cryfderau i allu cipio swyddi’r dyfodol
  • bydd gan gyflogwyr weithlu amrywiol a thalentog i fanteisio arno wrth recriwtio i lenwi swyddi digidol, data a thechnoleg
  • bydd arferion a pholisïau caffael yn cefnogi arloesedd a ffyniant economaidd, i fusnesau yng Nghmru allu ffynnu ac rydyn ni’n cefnogi’r sector cyhoeddus i weithio â marchnad ymatebol o gwmnïau
  • bydd opsiynau gweithio hyblyg ar gael i bobl, i wella’u lles ac i gefnogi adfywiad eu cymunedau a’u gweithgarwch economaidd

Cenhadaeth 5: cysylltedd digidol

Seilwaith cyflym a dibynadwy i gynnal gwasanaethau

Rhaid wrth seilwaith sylfaenol i gyflawni'r strategaeth hon. Y seilwaith hwn yw'r sylfaen ar gyfer datblygu cysylltedd digidol o ansawdd da i gefnogi popeth a wnawn yn ddigidol.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd digidol a pholisi telathrebu. Mae'r rhain yn dal i fod yn faterion a gadwyd yn ôl nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac nad ydynt yn cael unrhyw gyllid datganoledig.

Nid yw hyn yn newid ein cenhadaeth o blaid seilwaith o ansawdd da ledled Cymru i gefnogi ein huchelgeisiau. Byddwn yn buddsoddi i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau lle ceir achos o blaid hynny, fodd bynnag, rhaid inni ganolbwyntio hefyd ar sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ysgwyddo’i chyfrifoldebau yng Nghymru.

Er bod gan y mwyafrif helaeth o gartrefi a busnesau ledled Cymru gysylltiadau digidol o ansawdd da, mae yna rai sy'n parhau i frwydro i gael hyd yn oed y cysylltiadau mwyaf sylfaenol. Gall mynd i'r afael â'r materion hyn gymryd amser a bod yn ddrud, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'r dirwedd yn anoddach a'r boblogaeth yn fwy gwasgaredig. Rydym hefyd yn cydnabod y gall fforddiadwyedd cysylltu fod yn rhwystr i gynhwysiant digidol ac mae angen i ni ystyried sut y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn, fel yr amlinellir yng Nghenhadaeth 2 Cynhwysiant Digidol.

Nid oes gan rai rhannau o Gymru fand eang ond mewn ardaloedd eraill, mae band eang yn cael ei ddarparu’n fasnachol ac yn gyflym. Byddwn yn defnyddio'r cymhellion sydd ar gael i ni i gefnogi'r sector cyhoeddus, busnesau a chartrefi yng Nghymru i gael y cysylltedd sydd ei angen arnynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau digidol.

Gyda’n gilydd, byddwn yn:

  • gweithio gyda Llywodraeth y DU i fuddsoddi yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth
  • Ail-fuddsoddi arian a ddychwelwyd wrth gyflwyno band eang cyflym iawn i gefnogi ymyriadau wedi'u targedu yn y seilwaith cysylltedd
  • adeiladu ar Allwedd Band Eang Cymru a Chronfeydd Band Eang Lleol er mwyn gallu camu i mewn i feysydd sydd heb eu datganoli a darparu band eang cyflym mewn safleoedd lle ceir rhyngrwyd araf
  • creu’r amodau cywir ar gyfer buddsoddi ac arloesi yn y seilwaith band eang a symudol
  • ymchwilio i gyfleoedd i sbarduno arloesedd trwy ganolbwyntio ar dechnolegau’r rhyngrwyd pethau gan gynnwys y rhwydwaith diwifr a 5G
  • cefnogi anghenion cysylltedd y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru trwy gydweithio a chyfuno’r galw er mwyn cael y gwerth gorau

Canlyniadau:

  • bydd gan bobl Cymru gysylltiadau digidol cyflym a dibynadwy er mwyn gallu gweithio gartref, defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, dysgu ar-lein, cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a chael eu diddanu
  • bydd busnesau yng Nghymru’n gallu elwa ar gysylltiadau digidol cyflym a dibynadwy i ddenu cwsmeriaid newydd, gwerthu eu cynnyrch, dod yn fwy effeithiol ac arloesi
  • bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru’n gallu defnyddio cysylltiadau digidol cyflym a dibynadwy i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol effeithiol, caniatáu i bobl weithio gartref, dod yn fwy effeithiol ac arloesi

Cenhadaeth 6: data a chydweithredu

Mae data yn sail i bopeth a wnawn yn ddigidol. A rhan allweddol o'n huchelgais i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol gwell yw defnyddio data’n well. Bydd hynny’n sicrhau gwelliant ymatebol a pharhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn cefnogi gwasanaethau di-fwlch, yn galluogi arloesi digidol ac awtomeiddio, ac yn bwydo penderfyniadau da.

Rydym am wella'r gwasanaethau a ddarperir drwy gydweithio a sicrhau bod yr holl ddata'n cael eu defnyddio a'u rhannu'n effeithiol, bod eu safonau’n gyson, eu bod yn cael eu diogelu a'u bod yn cyrraedd y man lle mae angen iddynt fynd.

Gall hyn gynnwys defnyddio a dadansoddi data mewn ffordd arloesol gan roi dealltwriaeth newydd i ni allu trawsnewid yn sylweddol y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae Partneriaeth ADR Cymru  eisoes wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio i ddefnyddio data ar gyfer ymchwil. Byddwn yn hyrwyddo cysylltu data ac yn gwella gallu gwyddor data yn y sector cyhoeddus i drawsnewid sut y defnyddir ein gwybodaeth er budd y cyhoedd.

Mae hefyd yn golygu defnyddio arloesedd sy’n seiliedig ar ddata i fabwysiadu mwy o awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. Mae angen sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd foesegol a chyda gonestrwydd, ond o’i wneud yn dda, gall hefyd helpu i sicrhau arbedion, dileu baich tasgau ailadroddus a helpu pobl i ganolbwyntio ar yr hyn all ychwanegu'r gwerth mwyaf. Mae’r rhyngrwyd pethau’n codi potensial enfawr ar gyfer defnydd deallus o ddata i wella gwasanaethau cyhoeddus, arloesi economaidd a datgarboneiddio. Mae graddfa’r chwyldro data wedi codi cwestiynau pwysig am fynediad i ddata a sut defnyddir data. Rhaid i ni sicrhau bod moeseg data, tryloywder a ffydd wedi’u mewnosod drwy’r camau a gymerwn.

Ond yn fwy sylfaenol mae'n golygu rheoli ein data'n well, felly rydym yn datblygu ac yn defnyddio safonau data cyffredin i’r graddau eithaf posibl ac yn defnyddio safonau technegol sy'n caniatáu rhannu data’n ddi-fwlch rhwng un system a'r llall. Bydd hyn yn cefnogi gwasanaethau di-fwlch ac yn lleihau'r baich ar y dinesydd.

Gyda’n gilydd, byddwn yn:

  • creu cyd-uchelgais ar gyfer defnyddio data mewn ffordd foesegol a chydweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus
  • nodi cyfleoedd i weithio gyda’n gilydd ar fentrau digidol a chael y gorau o’n data
  • chwalu rhai o’r rhwystrau sy’n rhwystro neu’n arafu’r llif data. I leihau’r baich ar y dinesydd a hwyluso systemau digidol i gyfnewid gwybodaeth
  • sicrhau cysondeb trwy gytuno ar safonau data a phensaernïaeth gyffredin a’u mabwysiadu, a defnyddio platfformau a fydd yn ei gwneud yn bosibl ailddefnyddio data a chydweithio ar lefel mwy cyffredinol
  • nodi ffynonellau data newydd a all helpu i greu darlun cyfoethog a chynhwysol o gymdeithas
  • gweithio law yn llaw â diwydiant, academia a’r sector cyhoeddus i hyrwyddo arloesedd sy’n seiliedig ar ddata, gwyddor data a ffynonellau data newydd.

Canlyniadau:

  • bydd gan bobl a sefydliadau hyder llwyr bod eu data’n cael eu trin mewn ffordd gyfrifol a diogel a’u defnyddio’n foesegol
  • bydd pobl yn derbyn gwasanaethau gwell a di-fwlch a bydd canlyniadau’n well gan fod data’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac mewn ffordd arloesol
  • bydd gwasanaethau wedi’u cydgysylltu â’i gilydd a chyfyngir ar nifer y troeon y caiff yr un wybodaeth ei darparu i gyrff sector cyhoeddus gwahanol gan fod data’n cael eu hailddefnyddio mewn llif diogel
  • bydd data sector cyhoeddus ar gael ac yn cael eu cyhoeddi’n agored lle bo hynny’n briodol (h.y. nid data personol), mewn fformatau sy’n hybu hygyrchedd, ail-ddefnydd ac atebolrwydd
  • bydd y sianeli a’r diwylliant digidol cywir yn eu lle er mwyn i bob sector allu gweithio gyda’i gilydd a rhannu gwybodaeth yn briodol ac yn ddiogel i sicrhau canlyniadau gwell
  • bydd sefydliadau addysg uwch a bellach yn cydweithio â’r sectorau cyhoeddus a phreifat i feithrin galluoedd a datblygu defnydd arloesol o dechnoleg a data