Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan y Gweinidog

Gwella llesiant pawb yng Nghymru yw'r genhadaeth sy'n llywio dull ein Llywodraeth ar gyfer gweithredu ar yr economi. Mae angen inni adfer o ddifrod economaidd y pandemig ac yna, ailadeiladu'r economi gyda'r nod sylfaenol o sicrhau llesiant hirdymor cynaliadwy gydag urddas a thegwch i bawb. Gan ddefnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae'r ddogfen hon yn nodi'n glir y gwerthoedd a'r blaenoriaethau a fydd yn llywio'r penderfyniadau y mae'n rhaid inni eu gwneud i ategu ein hadferiad economaidd.

Mae pandemig COVID-19 yn parhau i fod yr argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf a welwyd yn ein hoes ni. Mae'n cael effaith ddofn a niweidiol ar ein hiechyd a'n cymdeithas. Mae COVID-19 wedi cael effaith ar yr economi a'r farchnad lafur na welwyd mo’i thebyg o’r blaen, gan beri llawer o aflonyddu ac arwain at ostyngiad sydyn yn nifer y bobl mewn gwaith, nifer yr oriau y maent yn eu gweithio a nifer y swyddi gwag sydd ar gael. Goresgyn y feirws a cheisio atal a lliniaru difrod ychwanegol o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yw ein hamcanion allweddol. Mae’r ddau’n bygwth gwrthdroi'r cynnydd rydym wedi'i wneud wrth leihau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru dros y degawd diwethaf, a’r unigolion hynny sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol, er enghraifft, menywod, cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig, pobl a chanddynt anableddau a phobl ifanc sy’n dod i’r farchnad lafur am y tro cyntaf sydd wedi dioddef yr effeithiau mwyaf andwyol.

Mae’r DU wedi gadael Marchnad Sengl yr UE, ac nid ydym bellach yn gallu masnachu nwyddau neu wasanaethau ag aelod-wladwriaethau yr UE yn ddirwystr. Mae’r effeithiau ar fusnesau gweithgynhyrchu a’u gweithwyr, sy’n cyfrif am ran fwy o economi Cymru nag ym mannau eraill y DU, yn sylweddol. Bydd rhaid inni ddod i arfer â gwiriadau ar y ffin a gofynion gweinyddol newydd – yn ogystal â phatrymau mewnfudo newydd a newidiadau i fecanweithiau cyllido.

Ar yr un pryd, mae gennym gyfle heb ei ail i feddwl am y tymor hir ac edrych tua'r dyfodol – i fynd i'r afael â llawer o'r heriau ystyfnig y mae Cymru yn eu hwynebu ac i helpu ein pobl, ein busnesau a'n cymunedau i wella a ffynnu gydag egni newydd. Nid ceisio adennill y cynnydd a wnaed mewn perthynas â diweithdra ac anweithgarwch economaidd yn unig y byddwn ni. Rydym yn benderfynol o ymdrin â’r economi mewn modd gwahanol, i sicrhau bod y gweithwyr wir ar eu hennill o ganlyniad i’r buddsoddi, ac i fynd i’r afael â swyddi ansicr a thlodi mewn gwaith. Rhaid i’r dull hefyd ystyried yr heriau sylfaenol rydym yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.  Mae heriau a chyfleoedd ar gyfer yr economi sylfaen a’r economi fasnachu.

Rydym wedi ymateb yn gyflym, gan fanteisio ar gryfderau ein dull cydweithiol o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, sy’n cynnwys y Llywodraeth, cyflogwyr a’r Undebau Llafur, i liniaru’r effeithiau economaidd wrth gefnogi busnes a gweithwyr. Er hynny, dros y 12 mis nesaf disgwylir y bydd diweithdra, tangyflogaeth ac anweithgarwch economaidd yn cynyddu yng Nghymru a ledled y DU.  Mae’n hanfodol nad ydym yn caniatáu i’r amodau economaidd hyn arwain at sefyllfa lle y gall gwaith annheg ymwreiddio a lledaenu. Gan gydweithio gyda’n partneriaid cymdeithasol, byddwn yn sicrhau nad yw amodau economaidd anodd yn arwain at ras i’r gwaelod, nac yn  glastwreiddio ein huchelgais i weld gwlad sy’n hyrwyddo gwaith teg. 

Bydd pobl ifanc, menywod a chymunedau lleiafrif ethnig yn wynebu anawsterau penodol wrth ymuno ac ailymuno â'r farchnad lafur, ac o fewn y grwpiau hyn, y rhai â lefelau is o gymwysterau (ac anfanteision eraill) a fydd yn wynebu'r heriau mwyaf. Gyda chyfnod o ddiswyddiadau’n cael ei ddilyn, o bosibl, gan gyfnod gwan o greu swyddi, mae tystiolaeth gref y gallai diweithdra torfol gael effaith ddofn, andwyol hirdymor ar bobl, gan arwain at lefelau is o incwm a risgiau uwch o fod yn ddi-waith. Bydd yr effeithiau niweidiol hyn yn para am flynyddoedd lawer – degawdau hyd yn oed.

Gyda'i gilydd maent yn bygwth gwead ein cymunedau, rhai trefol a rhai gwledig, ac yn peri risg anuniongyrchol i’r pethau rydym yn eu gwerthfawrogi fel cenedl fel bywiogrwydd ein cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mewn cymunedau gwledig yn y gorllewin a'r gogledd-orllewin yn enwedig, lle mae cyfran y siaradwyr Cymraeg yn uchel, mae nifer o risgiau hirdymor yn parhau mewn perthynas â'r diwydiant amaethyddol, ochr yn ochr â risgiau tymor byrrach sy'n gysylltiedig ag effaith y pandemig ar y diwydiant twristiaeth a busnesau bach a chanolig gwledig.

Bydd effeithiau economaidd y pandemig yn cael effaith wahanol ar draws y gwahanol sectorau economaidd. Bydd angen i bob busnes newid er mwyn ymateb i’r symud tuag at economi fwy cylchol, gan gynnwys y diwydiannau y mae’n debygol y byddant yn adfer i’r un lefel o fasnachu ag o’r blaen, e.e. diwydiannau cynradd fel chwarela. Bydd eraill yn adfer ond bydd angen iddynt esblygu a dychwelyd mewn modd gwahanol a mwy cadarn, e.e. hedfanaeth a dur. Mae gan waith mentrau fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru ran i’w chwarae wrth sicrhau’r newid hwn. Gall ailgyflwyno cyfyngiadau, hyder defnyddwyr a chryfder llyfrau archebion hefyd olygu bod rhai rhannau o'r economi'n adfer yn llawer arafach, e.e. lletygarwch, ac adeiladu sy'n gysylltiedig â'r farchnad dai. Bydd yr effeithiau negyddol yn cael eu dwysáu gan ansicrwydd ynghylch perthynas fasnachu'r DU â'r UE yn y dyfodol ac effeithiau andwyol trefniadau newydd.

Mae effaith uniongyrchol COVID-19 ar yr economi wedi bod yn sylweddol, ond mae ein penderfyniad i weld ymateb integredig hefyd yn cydnabod y bydd angen rhoi sylw i effeithiau anuniongyrchol, megis canlyniadau iechyd meddwl ac emosiynol gwael ar draws gweithlu Cymru.

Wrth edrych i'r dyfodol, ni fydd ailadeiladu'r economi yn fater o ddychwelyd i fusnes fel arfer. Mae’r byd wedi newid am byth. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi cyflymu llawer o dueddiadau strwythurol o ran awtomeiddio, datgarboneiddio ac effaith poblogaeth sy'n heneiddio a oedd yn amlwg cyn yr argyfwng. Mae gan y newidiadau hyn oblygiadau difrifol i ddyfodol gwaith, cymunedau a llesiant. Mae COVID-19 wedi cael effaith ar yr economi a'r farchnad lafur na welwyd mo’i thebyg o’r blaen, gan beri llawer o aflonyddu ac arwain at ostyngiad sydyn yn nifer y bobl mewn gwaith, nifer yr oriau y maent yn eu gweithio a nifer y swyddi gwag sydd ar gael. Bydd datblygiadau arloesol ym maes technoleg ddigidol yn parhau i ysgogi newidiadau i strwythur a natur economi Cymru, gan greu heriau o ran awtomeiddio gwaith, ond byddant hefyd yn arwain at gyfleoedd ar gyfer busnes newydd, buddsoddiadau, gwaith llai dwys a chydbwysedd gwell rhwng gwaith y bywyd.   

Er bod COVID-19 wedi dod yn sydyn ac wedi bod yn gostus iawn, rydym hefyd wedi gweld pobl a chymunedau’n dod at ei gilydd, yn ailgysylltu â’i gilydd ac â gwasanaethau lleol ac yn trefnu mewn ffyrdd nad ydym wedi eu gweld ers cof byw. Mae’r cyfnod heriol hwn i fusnesau a gweithwyr ledled Cymru yn parhau; ond yr ydym wedi gweld enghreifftiau rhagorol lle mae busnesau a gweithwyr wedi ailbwrpasu ac ymaddasu i fanteisio'n well ar dechnoleg ac i gyflenwi marchnadoedd newydd. 

Mae angen inni harneisio cyfleoedd fel sgiliau a galluoedd ein gweithlu, diwylliant entrepreneuraidd bywiog, ffocws newydd ar yr amgylchedd, gweithwyr allweddol a gwasanaethau cyhoeddus – sy’n cael eu gwerthfawrogi o’r newydd, awydd am ddysgu gydol oes a dysgu ar-lein, a’r ffordd mae technoleg ddigidol wedi ein cysylltu a'n galluogi i weithredu fel cymdeithas. Byddwn yn parhau i ddadlau o blaid gwerth yr Economi Sylfaenol, ac ni fyddwn byth yn ystyried y swyddi hynny sy’n ein cadw’n ddiogel ac yn waraidd yn swyddi di-sgil ac anghynhyrchiol.     

Er bod y genhadaeth adfer hon yn canolbwyntio ar ein hysgogiadau polisi, mae hefyd yn cydnabod yr integreiddio cynhenid rhwng economi Cymru ac economi ehangach y DU, ac nid yw’n dibrisio’r effaith sylweddol mae penderfyniadau Llywodraeth y DU, fel yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr, Bil y Farchnad Fewnol a’u hagenda lefelu sy’n seiliedig ar le yn ei chael ar Gymru.

Rwyf wedi myfyrio ar ehangder a natur gynyddol ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi presennol, Ffyniant i Bawb, ac wedi ailffocysu ein gweithgareddau ar sail yr amgylchiadau unigryw rydym yn eu hwynebu – nid cymaint fel her newydd ond her ddyfnach.  Byddwn yn adeiladu ar y cynnydd yr oeddem yn ei wneud o ran sicrhau economi fwy cynhwysol ac un sy’n edrych tuag at ddiwydiannau’r dyfodol.

Byddwn hefyd yn canolbwyntio'n glir ar ddylanwad Llywodraeth y DU ar yr adferiad yng Nghymru, yn ogystal â'n hysgogiadau ariannol a pholisi ein hunain. Rydym eisoes wedi dangos ein bod yn fedrus iawn wrth ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i fusnesau, ac wrth greu fframwaith sgiliau a hyfforddiant, sydd wedi cael ei roi ar waith ac sy'n ychwanegu gwerth at, er enghraifft, raglen Kickstart y DU. Mae gan Lywodraeth y DU gapasiti cyllidol a gwario mawr i fynd i'r afael â maint yr argyfwng economaidd rydym yn ei wynebu, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio'n benodol ar sicrhau ei bod yn darparu'r cyllid angenrheidiol i ategu’r gwaith o ailadeiladu economi Cymru.

O ganlyniad mae gennym genhadaeth glir, foesegol a chydlynol ar gyfer cryfhau ac ailadeiladu’r economi sy'n ymateb i'r argyfwng COVID-19 presennol, ac sy'n rhagweld canlyniadau ymadael â’r UE. Mae’n estyn ar draws yr economi sylfaenol a’r economi fasnachu i ddarparu platfform polisi blaengar ac arloesol tan ddiwedd tymor presennol y Senedd ym mis Ebrill 2021 a’r tu hwnt. Mae wedi'i gwreiddio yng Nghymru ac mae'r dulliau y mae'n eu cynnwys yn adlewyrchu'r heriau a'r cyfleoedd unigryw rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae ein cenhadaeth hefyd yn ymateb i gyflawni’r Nodau Llesiant ac i’r materion ehangach a thymor hwy rydym yn eu hwynebu, megis mynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, rhoi y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar waith fydd yn datblygu argymhellion y grŵp economaidd-gymdeithasol Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Covid 19, gwella profiadau pobl o weithio a sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu ac yn ffynnu.

Rhaid i’r genhadaeth hon fod yn genhadaeth a rennir gan bawb, lle mae pob dinesydd a sefydliad yn gallu cydweithio i  ailadeiladu economi ffyniannus, werdd a chyfartal.

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Ein cenhadaeth

Mae'r daith tuag at adfer economi Cymru yn gweithredu’r blaenoriaethau yn y ddogfen Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau (Hydref 2020). Mae’n adeiladu ar sylfeini Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Lluniodd y cynllun hwn raglen datblygu economaidd sy'n buddsoddi mewn pobl a busnesau ac yn ysgogi ffyniant ac yn lleihau anghydraddoldeb ledled Cymru. Mae’r genhadaeth yn adeiladau ar y cynnydd cynnar rydym wedi’i wneud wrth godi proffil yr Economi Sylfaenol ac ymdrin â’r heriau, gan gydnabod bod angen gwneud rhagor wrth ehangu a rhannu’r dull hwn. Mae pob ymyriad yn ystyried  mentrau allweddol eraill, gan gynnwys, Cymru Carbon Isel, Cymraeg 2050, y Cynllun Cyflogadwyedd, y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gweithgynhyrchu a’r agenda Gwaith Teg. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy’n unigryw i Gymru, yn darparu’r fframwaith ar gyfer ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol a’r heriau hirdymor y mae ein pobl a'n planed yn eu hwynebu. Mae wedi llywio ein dull o ailadeiladu gan sicrhau adferiad sy'n seiliedig ar werthoedd. Mae ein cenhadaeth wedi’i halinio’n agos â’n Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol, gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd yn ystod 20 mlynedd o bolisi cydlyniant yr UE, a gosod y llwybrau i, yn y pen draw, ddefnyddio’r cyllid oddi wrth Lywodraeth y DU sydd wedi disodli cyllid yr UE yn rhanbarthol. 

Ein bwriad yw creu Cymru lle mai gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yw ein prif ddiben, gan sicrhau adferiad economaidd ffyniannus, gwyrdd a chyfartal sy'n cydnabod bod buddsoddi mewn pobl a lleoedd o’r pwys mwyaf.

Un weledigaeth

Ein gweledigaeth yw economi llesiant sy'n ysgogi ffyniant, sy'n amgylcheddol gadarn, ac sy’n helpu pawb i wireddu eu potensial. Mae wedi'i gwreiddio yn ein cynllun gweithredu ar yr economi presennol, Ffyniant i Bawb, gyda'i ddibenion cynyddol o leihau anghydraddoldeb a rhannu cyfoeth a llesiant ledled Cymru. Heb os mae ein llesiant economaidd ynghlwm wrth ein llesiant amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol.

Nid yw'r ymgyrch dros economi llesiant bellach yn ddull sydd ar yr ymylon. Mae'r OECD wedi lansio ei Ganolfan Llesiant, Cynhwysiant, Cynaliadwyedd a Chyfle Cyfartal yn ddiweddar. Mae ein haelodaeth o rwydwaith Llywodraethau Economi Llesiant wedi atgyfnerthu ein lle ar flaen y gad yn y dull blaengar hwn o ymdrin â datblygu economaidd, a bydd ein hymdrechion i ailadeiladu’n dangos ein dylanwad a'n harweinyddiaeth ar yr agenda hon. Byddwn yn cyfrannau at syniadau a thrafodaethau blaengar sy’n dod i’r amlwg yn y maes hwn, gan fewnbynnu ein profiad a’r hyn rydym wedi ei ddysgu o arferion da rhyngwladol. 

Tri chanlyniad

Er mwyn rhoi ein gweledigaeth ar gyfer economi llesiant ar waith, ac i helpu pawb i ddeall beth mae’n ei olygu, mae’n seiliedig ar geisio tri chanlyniad: 

  1. Economi fwy llewyrchus sy'n gofyn am ffocws cyson ar gydnerthedd a'r gallu i drawsnewid. Byddwn yn cymryd camau i gefnogi'r Economi Sylfaenol a sail economaidd amrywiol, gydgysylltiedig sy’n cynnwys cwmnïau cadarn sy'n edrych tuag allan sydd â pherfformiad arloesi cadarnhaol, lefelau cynhyrchiant da a gweithlu ymrwymedig ac wedi’i rymuso sydd â'r sgiliau ar gyfer byd sy'n newid.

  2. Economi wyrddach sy'n mynnu lefelau uchel o ailgylchu, lle mae adnoddau’n cael eu defnyddio dro ar ôl tro, gan ychwanegu gwerth economaidd, a lle mae gwastraff yn cael ei osgoi. Gall hyn greu cyfleoedd ar gyfer swyddi a sgiliau mewn diwydiannau newydd – o ynni adnewyddadwy i atgyweirio. Mae'r economi hon yn rhan annatod o gymdeithas carbon isel, felly byddwn yn buddsoddi mewn seilwaith carbon isel sy’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, atebion sy'n seiliedig ar natur, prosiectau ynni adnewyddadwy a chartrefi cynaliadwy.

  3. Economi fwy cyfartal sy’n golygu buddsoddi ym mhotensial cynhyrchiol pob aelod o gymuned, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ei ôl. Byddwn yn meithrin uchelgais, yn annog dysgu am oes ac yn cefnogi pobl i wireddu eu llawn potensial, lle mae gwaith yn foddhaus ac yn fuddiol. Bydd ein dull rhanbarthol yn sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu rhannu’n deg i gyflawni canlyniadau tecach, a byddwn yn parhau i fynnu a hyrwyddo gwaith teg.

Image
Un weledigaeth, tri chanlyniad, pum llusern

Pum llusern

Mae ein gweithgareddau yn canolbwyntio ar bum egwyddor ar gyfer goresgyn COVID-19, a sicrhau adferiad tymor canolig a thymor hwy. Nid yw'r llusernau’n brosiectau annibynnol. Yn hytrach maent yn gyfuniad o ymyriadau y byddwn yn eu defnyddio i ategu ein dull ar gyfer adfer yr economi. Mae pob un yn adeiladu ar sut rydym wedi addasu ein polisïau a'n hymyriadau'n gyflym ac mewn modd hyblyg i fynd i’r afael â’r heriau a achoswyd gan y pandemig, ac yn gweithio tuag at wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru a chanddi economi sy’n seiliedig ar lesiant. Mae ein hymrwymiad i greu lleoedd, ailadeiladu gwyrdd a gwaith teg, wedi'i ategu gan fuddsoddi mewn pobl a thrawsnewid digidol, yn rhan annatod o bob un ohonynt. Dyma nhw:

  1. Atgyfnerthu’r Economi Sylfaenol
  2. Ymrwymiad COVID i ddiogelu a galluogi sgiliau a swyddi 
  3. Cyflymu ymaddasu ar gyfer adfer a ffyniant yn y dyfodol
  4. Magneteiddio buddsoddiadau mewn adferiad gwyrdd  
  5. Ategu’r ymdrech i sicrhau gwerth cymdeithasol

Mae gan bob un ddiben integreiddio sy’n estyn ar draws y Llywodraeth ac maent yn cynnwys gweithio'n agos gyda phartneriaid cymdeithasol, gan adeiladu ar berthnasau cryf sydd wedi datblygu dros y misoedd diwethaf.

Llusern 1: Atgyfnerthu’r Economi Sylfaenol

Mae argyfwng COVID wedi gael gwared ar unrhyw amheuaeth ynghylch rôl hanfodol yr Economi Sylfaenol wrth sicrhau llesiant ein gwlad. Dyma’r rhan o’r economi yr roedd yn rhaid iddi barhau i weithredu, am ei bod yn darparu seilwaith bywyd bob dydd, gan ddiwallu anghenion pob dydd ein cartrefi, a’n cadw ni i gyd yn ddiogel ac yn waraidd. Rydym wedi hyrwyddo rôl yr Economi Sylfaenol, gan geisio cydbwysedd mwy effeithiol rhwng y ffocws ar yr economi fasnachu gystadleuol a’r economi sylfaenol nad yw, at ei gilydd, yr un mor gystadleuol, sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau pob dydd sydd eu hangen er mwyn inni fyw ein bywydau, a hynny mewn modd cynaliadwy. Ond mae nifer o rwystrau o hyd, o ran strwythur ac agweddau, sy’n ein hatal rhag gwireddu’r dull hwn. Byddwn yn atgyfnerthu’r Economi Sylfaenol i helpu cymunedau i gynyddu eu gallu i wrthsefyll sgil-effeithiau economaidd y pandemig a gadael yr Undeb Ewropeaidd. 

Cynyddu arferion da yn yr Economi Sylfaenol

Yn cael ei anwybyddu yn rhy aml ym maes datblygu economaidd, dyma'r rhan o'r economi sy'n darparu hanfodion bywyd pob dydd fel trydan, dŵr, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol . Yn ôl amcangyfrifon gan y Ganolfan Ymchwil ar Newid Economaidd-ddiwylliannol mae’r Economi Sylfaenol yn cyfrif am tua phedair swydd o bob deg a thua £1 o bob £3 sy’n cael ei wario gan aelwydydd yng Nghymru. Mae'n darparu'r swyddi sydd wrth wraidd cymunedau lleol ar draws sectorau fel gofal a gwasanaethau iechyd, gofal plant, bwyd, tai, ynni, adeiladu, gwastraff ac ailgylchu. Mae pobl yn dibynnu ar y gwasanaethau a'r cynhyrchion hyn – maent yn hanfodol wrth greu Cymru o gymunedau cydlynus sy’n ddeniadol, yn ddiogel, yn hyfyw ac wedi eu cysylltu’n dda. Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol yn yr economi, gan helpu’r rheini a chanddynt gyfrifoldebau gofal i gael swyddi, i ddychwelyd i’r gwaith neu i gadw eu swyddi. Mae’r sector ei hun hefyd yn darparu nifer cynyddol y gyfleoedd cyflogaeth. Yn ôl ymchwil ddiweddar, y sector gofal cymdeithasol yw’r seithfed cyflogwr mwyaf yng Nghymru, gan gyfrannu £2.2bn at economi Cymru.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ymgorffori’r Economi Economaidd ar draws pob rhan o Lywodraeth Cymru, gan dangos arweinyddiaeth i sector cyhoeddus ehangach Cymru, ac egluro ei bod yn flaenoriaeth drawsbynciol. 

Drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol rydym wedi cefnogi partneriaid i arbrofi a chynnig atebion arloesol i broblemau ystyfnig o fewn yr Economi Sylfaenol. Byddwn yn defnyddio rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli, fel y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, i ledaenu ac i gynyddu canlyniadau cadarnhaol o’r Gronfa Her, er mwyn sicrhau bod manteision defnyddio’r dulliau newydd hyn yn cael eu lluosi yn gyflym ac ar raddfa fawr, er budd cymunedau ledled Cymru.

Byddwn yn cefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i weithredu rhaglenni caffael ar sail perthynas sy’n bodloni blaenoriaethau cynlluniau llesiant lleol. Bydd y cynlluniau yn canolbwyntio ar ddulliau newydd o weithredu sy’n canolbwyntio ar gyfran fwy o gaffael cyhoeddus, gan greu cadwyni cyflenwi yng Nghymru sy’n gryfach ac yn fwy cadarn, a fydd, mewn llawer o achosion, yn cynnig nwyddau a gwasanaethau carbon is. Rhoddir sylw penodol i gefnogi mentrau cymdeithasol, sefydliadau dan reolaeth cyflogeion a busnesau bach a chanolig sydd wedi ymwreiddio yn eu cymunedau i ddefnyddio caffael cyhoeddus, gan helpu i gynnal a chreu cyfleoedd lleol ar gyfer swyddi, gan arwain at gymunedau iachach.

Mae sefydliad angor yn un sydd, ochr yn ochr â’i brif swyddogaeth, yn chwarae rôl arwyddocaol mewn lleoliad drwy wneud cyfraniad strategol i’r economi leol, fel ysbytai, prifysgolion a chynghorau lleol. Rydym yn gweithio gyda GIG Cymru i sefydlu egwyddorion a gweithgareddau’r Economi Sylfaenol ar draws pob maes cyflawni. I ddechrau bydd hyn yn canolbwyntio ar gaffael bwyd, sy’n sector economaidd â blaenoriaeth, ac ar atgyfnerthu cadwyni cyflenwi hir, ansicr sy’n cyflenwi nwyddau hanfodol fel Cyfarpar Diogelu Personol. Mae bwyd yn sector â blaenoriaeth yn yr economi, a gallai cynyddu cyfran y cynnyrch lleol yn ein cadwyni cyflenwi sector gyhoeddus arwain at gyfleoedd ar gyfer datblygu busnesau canolig yn y sector hwn. 

Byddwn yn bwydo dadansoddiadau o ddata ar wariant a blaenoriaethau gwariant ar gyfer y dyfodol i’n gwaith o gefnogi busnesau i ddatblygu, er mwyn datblygu gallu busnesau brodorol i gystadlu am gontractau newydd ac i lenwi bylchau yn y cyflenwad, i sicrhau bod gwariant sy’n mynd y tu allan i Gymru ar hyn o bryd yn cael ei ailgyfeirio i’n heconomi a’n cymunedau. 

Ochr yn ochr â’r gweithgareddau neilltuedig hyn mae’r Economi Sylfaenol wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y dull ar gyfer ailadeiladu’r economi. Nid yn unig mae buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, gofal plant, tai, ynni a thechnoleg carbon isel, a thechnoleg ddigidol yn darparu’r pethau sydd eu hangen i sicrhau bywyd gwaraidd yng Nghymru, mae hefyd yn gallu cynnig gyrfaoedd ystyrlon a boddhaus a chael ei harneisio ar gyfer datblygu economaidd. 

Canol trefi

Mae cyflwr trist llawer o ganol trefi yn galw am weithredu brys. Fel rhan o’n hagenda Trawsnewid Trefi, mae’r Egwyddor Canol Trefi’n Gyntaf yn dangos rôl y sector cyhoeddus fel catalydd i anadlu bywyd a phwrpas newydd i strydoedd lleol. Ond nid yw wedi’i chyfyngu i’r sector cyhoeddus. Rydym yn gwybod nad ydym bellach yn gallu dibynnu ar fanwerthu yn unig. Felly, rhaid inni sicrhau ein bod yn defnyddio cyfleoedd i fod yn greadigol er mwyn dod â swyddi’n ôl i ganol ein trefi fel rhan o amrediad ehangach o weithgareddau a defnyddiau, gan gynnwys hamdden, dysgu, gwasanaethau lleol a gweithgareddau diwylliannol. Mae cyfle i ailbwrpasu adeiladau i greu mannau cyd-weithio ac annog sgiliau gwyrdd newydd a chyfleoedd fel caffis trwsio, manwerthu ailddefnyddio ac ail-lenwi ac arloesedd ail-wneud i anadlu bywyd yn ôl i ganolfannau siopa sy'n ei chael yn anodd.  Bydd creu mannau gwyrddach mewn trefi lle mae ansawdd yr aer yn well, o fewn cymdogaethau sydd addas ar gyfer cerdded o le i le, yn helpu’r Economi Sylfaenol i ffynnu a sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu’n lleol.

Mae ein cynllun strategol 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020‑2025' yn cyfeirio at ganol trefi ac adfywio cymunedol lleol - drwy greu cyrchfannau lleol sy'n adlewyrchu cymeriad, atyniadau a chyfleusterau unigryw y bydd ymwelwyr y dyfodol yn chwilio amdanynt.

Bydd y creadigrwydd a’r ailbwrpasu hwn yn hanfodol i ddenu pobl yn ôl i ganol trefi gwag, i adfer eu bywiogrwydd, i’w hailgysylltu â’r cefn gwlad o’u hamgylch – wedi’u cefnogi gan deithio llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy. Rhaid inni sicrhau bod effeithiau cadarnhaol y pandemig yn parhau – fel llai o draffig, tagfeydd ac allyriadau, a rhaid i ganol trefi yfory fod yn wyrdd ac yn lân, mannau sy’n ddeniadol i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw.

Ein huchelgais hirdymor yw i 30% o weithwyr Cymru weithio’n hyblyg ac o bell, er mwyn helpu i sbarduno adfywio a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau. Byddwn yn datblygu canolfannau cyd-weithio rhanbarthol yng nghanol trefi ac, fel llywodraeth sy'n arwain y ffordd, yn adleoli ein gweithlu ein hunain a’i symud o’r prif ganolfannau yn ôl i ganol trefi. Bydd hyn hefyd yn dod â newidiadau cadarnhaol i ddiwylliant gwaith Cymru drwy cynyddu cynhyrchiant gweithwyr yn ogystal â'u cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Cynhwysiant digidol

Rydym yn creu strategaeth ddigidol i Gymru oherwydd ein bod am i bobl yng Nghymru elwa ar wasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon a symlach, ac ar yr un pryd ysgogi arloesedd yn ein heconomi a chefnogi canlyniadau heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rydym yn gwybod bod cyfran fawr o bobl ledled Cymru nad ydynt yn hyderus ynghylch technoleg ddigidol – naill ai nid ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol, nid oes ganddynt y sgiliau digidol sylfaenol i gael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth hanfodol ac efallai nad oes ganddynt fynediad at ddyfais a/neu gysylltiad. Fel Llywodraeth byddwn yn gweithio i sicrhau nad oes yn un dinesydd yn cael ei adael ar ei ôl wrth inni fabwysiadu dull sy’n rhoi blaenoriaeth i dechnoleg ddigidol, a bydd cynhwysiant digidol wrth wraidd popeth rydym yn ei ddarparu. Mae angen i'n dinasyddion fod yn hyderus ynghylch technoleg ddigidol, fel y gallant fanteisio ar y dechnoleg hon ac elwa ar ein buddsoddiadau mewn arloesi digidol.

Byddwn hefyd yn darparu rhaglen seilwaith digidol fawr a buddsoddi i gefnogi canolfannau gweithio aml-le.  Byddwn yn galluogi'r newid hwn drwy gyflymu'r gwaith ar fynediad at fand eang drwy roi hwb i'n Rhaglen Band Eang Cyflym Iawn a datblygu dulliau newydd o ategu cysylltedd symudol a mynediad cyffredinol at ddarpariaeth TG.

Yr ymateb i argyfwng COVID-19: Cyflenwi cyfarpar diogelu personol (PPE)

Mae'r profiad o gaffael PPE yn ystod y pandemig wedi dysgu gwersi pwysig inni a fydd yn ddefnyddiol wrth inni ddechrau ar y gwaith ailadeiladu. Drwy gydweithio, gwnaeth Cydwasanaethau'r GIG a Llywodraethau Lleol waith rhagorol wrth sicrhau cyflenwadau a'u dosbarthu i'r mannau lle roedd eu hangen. Erbyn hyn mae gennym stociau sylweddol o bob math o PPE. Hefyd cododd busnesau Cymru i'r her o ailbwrpasu i gyflenwi PPE i weithwyr rheng flaen. 

Dangosodd yr argyfwng hefyd ansicrwydd y gadwyn gyflenwi fyd-eang a'r cyfleoedd economaidd sy’n gysylltiedig â chaffael cynhyrchion pob dydd sy’n cael eu mewnforio ar hyn o bryd o ffynonellau domestig. Wrth sicrhau cyflenwadau o’r PPE sy'n rhoi mwy o gydnerthedd i GIG Cymru, gallwn hefyd helpu rhagor o gwmnïau lleol i dyfu. Mae Cynllun Gaeaf PPE ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys ymrwymiad i archebu cyfran o Fasgiau Math IIR gan weithgynhyrchwyr yng Nghymru, ac mae cyfleoedd da i gaffael rhagor o gynhyrchion PPE o ffynonellau domestig yn y dyfodol.

Caffael cyhoeddus

Mae rhyw 48% o gyllideb flynyddol GIG Cymru sy'n gysylltiedig â bwyd, sy’n  werth £22 miliwn, yn cael ei wario y tu allan i Gymru. Mae rhannau helaeth o gadwyn gyflenwi'r sector cyhoeddus lle mae i’w gweld fel pe bai’r arian sy’n cael ei wario’n aros yng Nghymru,  ond mewn gwirionedd mae’r tarddiad y tu allan i Gymru. Mae gennym gyfle i weithio gyda'n cyflenwyr i ddatblygu cadwyni cyflenwi byrrach yng Nghymru a chadw gwerth yn ein heconomi genedlaethol.  Mae’r gwaith hwn ar gadwyni cyflenwi yn elfen allweddol o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Gweithgynhyrchu, gan y bydd yn rhoi cyfleoedd i gynhyrchu rhagor o ddeunyddiau crai, cydrannau a nwyddau gorffenedig yng Nghymru, a’u cyflenwi nhw i’r sector cyhoeddus. 

Fel rhan o'n gwaith yn cefnogi'r Economi Sylfaenol mae pob categori o wariant gan y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei ddadansoddi am y potensial i’w arallgyfeirio i gefnogi economïau lleol a rhanbarthol. Byddwn yn atgyfnerthu'r proffesiwn caffael ac yn cefnogi trawsnewid cadwyn gyflenwi Cymru er mwyn galluogi busnesau bach a chanolig i fanteisio ar y cyfle hwn. 

Arfor

Mae Rhaglen Arfor (2019 i 2021) yn darparu’r sail ar gyfer amrediad o brosiectau arloesol yng Ngheredigion, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn. Mae’n rhoi pwyslais ar ddatblygu’r seilwaith economaidd, gyda’r nod o hefyd hybu’r Gymraeg drwy ddarparu cyfleoedd economaidd mewn cymunedau lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg, neu mewn trefi sy’n gwasanaethu’r cymunedau hynny. Mae’r rhaglen wedi cefnogi busnesau ac wedi ysgogi unigolion i fentro am y tro cyntaf. Mae hefyd wedi datblygu prosiectau sy’n cefnogi entrepreneuriaeth ieuenctid fel Llwyddo’n Lleol, prosiect sy’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu syniadau busnes ac yn eu cefnogi ar eu ffordd. Mae Her Cymunedau Mentrus, prosiect sy’n cael ei gyflawni drwy Arfor, hefyd yn gweithio gyda thair cymuned, gan gynnig cyfleoedd newydd i ddatblygu syniadau a fydd yn cylchredeg arian o fewn eu cymunedau ac yn creu swyddi. 

Llusern 2: Ymrwymiad COVID i ddiogelu a galluogi sgiliau a swyddi 

Mae cyflogadwyedd a chefnogi sgiliau yn hollbwysig mewn cyfnodau o ansicrwydd economaidd, ac mae’n amlwg bod y pandemig Covid-19 yn bygwth i ddad-wneud y cynnydd a wnaethpwyd i leihau diweithdra a segurdod economaidd yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf.  Gan weithio ar draws Llywodraeth, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi pobl ledled Cymru i waith heddiw, tra hefyd yn paratoi’r gweithlu am yr heriau sydd ar hyn o bryd a heriau hirdymor y dyfodol fel a amlinellir yn Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.   

Ein nod yw creu unigolion gwydn sydd meddu ar y sgiliau, y brwdfrydedd, yr ysgogiad a’r creadigrwydd i wireddu eu potensial mewn byd sy’n newid yn gyflym, lle nad yw gallu, cefndir, rhyw nac ethnigrwydd yn rhwystr i sicrhau gwaith teg.

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gryf i gefnogi pobl i gael mynediad at hyfforddiant, addysg uwch ac addysg bellach, gan arwain at gael a chadw gwaith teg neu hunangyflogaeth, gan sicrhau parhad ar gyfer dysgu a dilyniant yn y farchnad lafur ar yr adeg gritigol hon.

Gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghyfartaledd economaidd a chefnogi’r rhai hynny yr effeithiwyd arnynt waethaf gan yr argyfwng Covid – yn enwedig pobl ifanc, y rhai hynny mewn gwaith sydd â chyflog isel ac sy’n ansicr, cymunedau o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. 

Ymrwymiad COVID

Byddwn yn parhau i roi cymorth hanfodol i bobl a allai fod wedi colli eu swydd neu eu cyfle hyfforddi oherwydd y pandemig, i helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd sy’n addas at y dyfodol ac i ddod o hyd i waith newydd.

Bydd pobl ifanc yn cael eu cefnogi i barhau i ddysgu, magu sgiliau hanafodol ar gyfer gwaith, dechrau dysgu yn seiliedig ar waith, neu ymuno â’r gweithlu am y tro cyntaf.

Bydd cyflogwyr yn cael ein cefnogaeth i recriwtio talent newydd, cadw ac uwchsgilio eu gweithlu presennol a gwella iechyd a lles yn y gweithle. 

Ein haddewid "Ymrwymiad Covid" yw sicrhau bod unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gyngor a chymorth i ddod o hyd i waith, mynd ar drywydd hunangyflogaeth neu ddod o hyd i le mewn addysg neu hyfforddiant, wedi'i dargedu at unigolion ym marchnad lafur Cymru sydd fwyaf tebygol o gael effaith negyddol. Mae cyfres o fesurau yn sail i'r ymrwymiad.

Yn ogystal, mae prifysgolion a cholegau'n cael eu cefnogi i gynnal addysgu, dysgu a sgiliau, gan gynnwys cymorth wedi'i dargedu i alluogi sefydliadau i ddarparu dysgu cyfunol ac ar-lein yn ystod y pandemig.

Mae cymorth i unigolion yn cynnwys:

  • Ehangu gwasanaethau rheng flaen i bobl 16+ o fewn Cymru'n Gweithio a Chymunedau am Waith a Mwy i roi cyngor ac arweiniad, cynorthwyo i baru cyfranogwyr â chyfleoedd marchnad lafur lleol, cefnogi chwilio am swydd, sgiliau cyflogadwyedd a hyfforddiant.
  • Ehangu'r ddarpariaeth mentoriaid drwy Raglenni Cyflogadwyedd Cymunedol ar gyfer unigolion di-waith sydd angen cymorth mwy dwys wedi'i deilwra, gydag atgyfeirio ymlaen, lle y bo'n briodol, at y cynnig cyflogadwyedd ehangach gan gynnwys gwasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau.
  • Hwb i gymorth ailhyfforddi i'r gweithlu presennol ddod o hyd i gyflogaeth newydd neu well, newid sectorau a galwedigaethau, a chael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd gwaith mewn meysydd lle mae galw am sgiliau drwy gyflwyno Rhaglen y Cyfrif Dysgu Personol, ReAct, y Pecyn Cymorth Sgiliau Ar-lein a'r Gronfa Ddysgu Undebau Cymru. 
  • Cymhellion cyflogwyr newydd o hyd at £3,000 i annog cyflogwyr i greu cyfleoedd Prentisiaeth, i bobl o bob oed ddysgu ac ymgymryd â chymwysterau tra'n ennill cyflog.
  • Cymorth cyflogadwyedd hanfodol a phrofiad gwaith i bobl ifanc 16-18 oed drwy'r Rhaglen Hyfforddeiaeth. Yn ogystal â chymorth i fwy o raddedigion gael profiad gwaith, sesiynau blasu gwaith a lleoliadau gwaith â thâl pan fyddant yn gadael y Brifysgol drwy Go Wales.
  • Cwnsela a arweinir gan iechyd a gwasanaethau therapiwtig i'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith oherwydd problemau cyhyrysgerbydol neu iechyd meddwl gyda chymorth mentora cymheiriaid estynedig i'r rhai sy'n ddi-waith sydd â phroblemau iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau o ganlyniad i Covid-19.
  • Mae cronfa rhwystrau hunangyflogaeth newydd, sy'n cynnig hyd at £2,000 i gefnogi busnesau newydd ar gael drwy Busnes Cymru.

Mae cymorth i Gyflogwyr yn cynnwys:

  • Cymorth recriwtio newydd a chymhellion i gefnogi cyflogi Prentisiaid ifanc 16 i 24 oed, i annog ail-gyflogi prentisiaid a ddiswyddwyd, a Phrentisiaethau Cyflogwyr a Rennir a yrrir gan y sector.
  • Cymorth hyfforddi i gyflogwyr uwchsgilio a datblygu eu pobl drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, ynghyd â phrosiectau partneriaeth penodol gyda'r diwydiannau creadigol, lletygarwch a thwristiaeth, lled-ddargludyddion, peirianneg uwch, gweithgynhyrchu a digidol drwy'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg a Phrentisiaethau Gradd.
  • Cymorth penodol i helpu i recriwtio a chadw Pobl Anabl. Bydd chwe Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl yn ymgysylltu ag arweinwyr busnes ledled Cymru i ysbrydoli, arwain a chychwyn y newid sydd ei angen i gau'r bwlch cyflogaeth. Bydd pecyn cymorth i gyflogwyr yn arwain cyflogwyr drwy'r daith recriwtio o achos busnes i gadw, chwalu mythau ar hyd y ffordd, yn ogystal â chyflwyno modiwl e-ddysgu ar y model cymdeithasol o anabledd.
  • Cymorth ar gyfer Lles yn y Gweithle drwy ehangu'r Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith. Mae'n darparu mynediad cyflym at ffisiotherapi, seicotherapi a chymorth galwedigaethol i bobl â chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol, ac mae'n chwarae rhan hanfodol i helpu'r rhai sydd ar absenoldeb oherwydd salwch i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflymach, gan gefnogi cadw gweithwyr a lleihau absenoldeb i'r rhai sydd mewn perygl o ddiweithdra. Yn ogystal â hyfforddiant i fusnesau i'w helpu i wella eu harferion, eu harweiniad a'u polisïau lles yn y gweithle, gydag adnoddau newydd i helpu i gefnogi'r heriau sy'n wynebu busnesau a staff ar ffyrlo.
  • Cymorth i gyflogwyr a gweithwyr drwy wasanaeth Cymru Iach ar Waith, sy'n darparu lleoliad un stop ar gyfer canllawiau ac adnoddau sy'n gysylltiedig â COVID-19 i gefnogi amgylcheddau gwaith diogel, pecyn cymorth pwrpasol i gyflogwyr o ran iechyd meddwl ac effeithiau COVID-19, gydag ymgyrch Amser i Newid Cymru yn helpu pobl i wynebu sgyrsiau anodd am iechyd meddwl a stigma yn y gweithle.

Edrych ymlaen

Byddwn yn bwrw ymlaen â'n diwygiadau i'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac yn cynnal ein bwriad i gyflwyno Bil Addysg ac Ymchwil Trydyddol yn gynnar yn nhymor newydd y Senedd. Byddwn yn gweithio gyda'r sector i wireddu ein gweledigaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer addysg drydyddol, gan ymateb i heriau'r dyfodol ar hyn o bryd a thymor hwy sydd wedi'u trawsnewid gan y pandemig. Byddwn yn sicrhau dull mwy strategol, cydlynol ac effeithlon o oruchwylio addysg drydyddol ac ymchwil, o dan un Comisiwn, gyda chylch gwaith clir i lunio system sy'n gweithio i bobl Cymru ac economi Cymru.

Bydd caffael yn mynd yn fyw ar gyfer Twf Swyddi Cymru newydd yn gynnar yn 2021.  Bydd y rhaglen newydd yn darparu dull cyfannol o helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer byd gwaith a'i brofi, yn ogystal â chefnogi cyflogwyr i gyflogi phobl ifanc.  

Rydym yn ailedrych ar ein cynlluniau cyflogadwyedd eraill ac mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda i ddatblygu rhaglen newydd i ddarparu cymorth i bobl dros 18 oed i oresgyn rhwystrau i waith, a mynd i gyflogaeth gynaliadwy o safon. Felly, rydym yn gwneud mwy i ddeall effeithiau Coronafeirws ar y farchnad lafur, a chanolbwyntio ar y ffordd orau o gefnogi'r grwpiau mwyaf difreintiedig ac ymylol. 

Mae cyflogaeth ac incwm yn thema flaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol sydd ar ddod a byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig i ddatblygu camau ystyrlon o fewn y cynllun hwnnw sy'n mynd i'r afael â materion cyflogaeth sy'n gysylltiedig ag effaith anghymesur y pandemig ochr yn ochr â'r anfantais gynhenid a achosir gan hiliaeth strwythurol a systemig.

Bydd ein cefnogaeth yn seiliedig ar strategaeth gyrfa Cymru newydd a fydd yn sicrhau y darperir gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfa a hyfforddiant dwyieithog, cynhwysol a diduedd i bobl Cymru. Cefnogi pobl ifanc ac oedolion i bontio'n gadarnhaol i ddysgu a gweithio, gan ddeall y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y farchnad lafur a chyfrannu at economi Cymru yn y dyfodol. Yn ogystal â datblygu eu gwaith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion sgiliau a'u cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion.

Ochr yn ochr â hyn rydym yn parhau i fynd i'r afael â rhwystrau i gael gwaith fel gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel. Mae gan ein Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch gyllid eisoes ar waith i helpu rhieni i dalu costau gofal plant i'w galluogi i astudio. Mae ein Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu 30 awr o ddarpariaeth addysg gynnar a gofal plant i rieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio ac rydym wrthi'n ystyried a ddylid ymestyn hyn i rieni mewn addysg a hyfforddiant ai peidio.   

Galluogi adferiad gwyrdd a theg

Disgwylir i gyfleoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol barhau i gynyddu o ran  y galw yn y dyfodol. O'r herwydd, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru, ein rheoleiddiwr gweithlu gofal cymdeithasol, yn parhau i gefnogi pobl sydd â'r gwerthoedd cywir i'r sector. Mae ymgyrch 'Gofalwn.Cymru' yn arddangos rolau a gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol. Mae porth swyddi newydd yn cefnogi recriwtio a chadw staff yn y sector, er mwyn rhoi blas i bobl o sut brofiad yw gweithio mewn rôl gofal. Mae'r porth swyddi hefyd yn rhoi cyfle i bobl ymgymryd â hyfforddiant sylfaenol i'w hatodi i'w ceisiadau i gyflogwyr eu gweld cyn eu cyfweld drwy nodwedd newydd 'Cwestiwn Gofal'.

Mae gan sgiliau a chyflogadwyedd rôl allweddol i'w chwarae o ran ategu uchelgeisiau Datgarboneiddio Cymru. Yr her i'r Llywodraeth a chyflogwyr fel ei gilydd yw uwchsgilio'r gweithlu presennol ac ehangu'r gweithlu mewn sectorau twf gwyrdd. Mae buddsoddi mewn tai carbon isel ar raddfa fawr ac uwchraddio stoc tai, yn enwedig tai cymdeithasol, yn debygol o fod yn elfen ganolog o adferiad i gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, lleihau tlodi tanwydd a chreu swyddi. Wrth ymateb i Adroddiad Tasglu Adferiad Gwyrdd y Gweinidog, rydym yn cydnabod y bydd optimeiddio rhaglenni presennol, addasu'r hyfforddiant a darparu mwy o ran carbon isel yn hollbwysig.

Gallai annog gwirfoddoli ieuenctid mewn meysydd fel adfer natur ddarparu cyfleoedd i feithrin sgiliau, cyfalaf cymdeithasol a dynol, a rhoi ymdeimlad o bwrpas a gallu i bobl ifanc wneud gwahaniaeth ar y materion y maent yn poeni amdanynt – yn enwedig yr amgylchedd a chyfiawnder cymdeithasol.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl cyhoeddodd yr Athro Phil Brown ei adroddiad terfynol ar effaith arloesi digidol ar yr economi a dyfodol gwaith yng Nghymru. Er mwyn ymateb i gyflymder a graddfa trawsnewid digidol ac amharu ar ddiwydiant traddodiadol, bydd angen cydweithio â diwydiant er mwyn ymateb i'w gofynion yn y dyfodol i gefnogi datblygu sgiliau digidol a throsglwyddo swyddi, yn enwedig o rannau eraill o'r economi wrth i drawsnewid diwydiannol pellach ddigwydd.

Llusern 3: Cyflymu ymaddasu ar gyfer adfer a ffyniant yn y dyfodol

Byddwn yn helpu busnesau i ymateb i heriau deuol ymadael â’r UE a COVID-19, yn ogystal â heriau tymor hir yr argyfwng hinsawdd a byd sy’n fwy cysylltiedig yn ddigidol.  Er mwyn sicrhau cadernid economaidd mae angen amrediad amrywiol o gwmnïau. Byddwn yn cynyddu nifer a maint y cwmnïau lleol, gan ddarparu mynediad at gyngor a chymorth drwy Fusnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, i’w galluogi greu swyddi ac i addasu i’r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Bydd hyn yn cynnwys y ffordd rydym yn cefnogi cwmnïau i weithio gyda chlystyrau allweddol i ysgogi meysydd ar gyfer arloesi digidol – nawr ac yn y dyfodol, gan arwain at gyfleoedd i gynyddu nifer y swydd o ansawdd uchel nad ydynt mewn perygl gan awtomeiddio.  

Oherwydd yr heriau eithafol y mae'r economi ymwelwyr wedi'u hwynebu o ddechrau'r pandemig, byddwn yn gweithio gyda'r sector twristiaeth a lletygarwch i ddatblygu Cynllun Adfer sy'n eu cefnogi yn y tymor byr gyda'r nod o feithrin gwydnwch, cynaliadwyedd a phroffidioldeb ar gyfer y tymor hir.

Y Gronfa Cadernid Economaidd

Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant y Gronfa Cadernid Economaidd lle mae'r ffocws wedi symud rhwng cymorth ariannol uniongyrchol i adfer a chymorth i ddatblygu, yn unol â’r amgylchiadau. Rydym yn cefnogi busnesau i esblygu i fynd i’r afael â heriau deuol COVID-19 ac ymadael â’r UE, wrth eu helpu hefyd i baratoi ar gyfer y dyfodol.  

Byddwn yn rhoi ffocws penodol ar greu'r amodau cywir i gynnal, pontio a thyfu'r sail weithgynhyrchu yng Nghymru mewn ffordd sy'n cefnu ar y tanwyddau ffosil roeddem yn dibynnu arnynt yn y gorffennol, drwy ddilyn Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru – Fframwaith Gweithredu. 

Bydd trydydd cam y Gronfa yn  allweddol wrth wneud hyn, gan sicrhau bod cyllid ar gael i fusnesau i ddelio â heriau economaidd COVID-19, a chydnabod yr her ychwanegol a ddaw yn sgil ymadael â’r UE. Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith emosiynol a meddyliol y mae COVID-19 wedi'i chael, a bydd y Gronfa yn helpu busnesau i addasu wrth iddynt ddatblygu, gan gynnwys darparu hyfforddiant iechyd meddwl a chymorth sgiliau. 

Bydd cyllid parod a hyblyg drwy Fanc Datblygu Cymru a chyngor gan Fusnes Cymru yn parhau i gefnogi busnesau rheng flaen Cymru. 

Economi gylchol

Mae Cymru yn un o arweinwyr y byd ym maes ailgylchu, ac yn cael ei chydnabod fel gwlad lle mae gan gynaliadwyedd ran ganolog. Rydym yn cydnabod y cyfleoedd economaidd sy’n bodloni wrth ddefnyddio adnoddau wedi eu hailgylchu ac ychwanegu gwerth atynt, a’r potensial sy’n cael ei gynnig i wella cadernid y gadwyn gyflenwi drwy ddefnyddio dulliau’r economi gylchol wrth inni ddatblygu ein economi.  

Mae'n hanfodol bod yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur yn cael ei integreiddio ar draws yr holl weithgarwch economaidd, gydag ymrwymiad penodol i symud i economi sy'n fwy cylchol ac effeithlon o ran adnoddau, a newid i gysylltiadau a buddsoddiadau sy’n seiliedig ar economi carbon isel. Mae’r economi gylchol yn cysylltu’n uniongyrchol â’n cyfrifoldeb byd-eang fel gwlad sy’n defnyddio llawer o adnoddau o dramor, sy’n cyfrannu at ddatgoedwigo a llawer o fathau o lygredd – ac amryw problemau amgylcheddol.

Bydd y trafodaeth ynghylch y Cynllun Cyflawni Carbon Isel nesaf yn ffordd o gyflymu’r cynnydd ar ddatgarboneiddio diwydiannol, yn ogystal ag ar strategaeth yr economi gylchol.

Rydym eisoes wedi buddsoddi biliwn o bunnoedd mewn seilwaith gwastraff ac ailgylchu, a byddwn yn parhau i ehangu cyllid ar gyfer seilwaith rhanbarthol ledled Cymru, i sicrhau bod deunyddiau’n cael eu cyflenwi i ddiwallu anghenion busnesau a dinasyddion. Bydd hyn yn cynnwys seilwaith cymunedol fel cyfleusterau trwsio ac ailddefnyddio a'r capasiti i ailbrosesu ac ailgylchu rhagor o ddeunyddiau. Bydd hyn yn gweithio i gadw gwerth y deunyddiau hyn yma yng Nghymru, ac yn creu rhagor o gyfleoedd ar gyfer swyddi cadarn drwy gysylltu’n well y broses o gasglu a phrosesu’r adnoddau â’r busnesau a’r mentrau y mae eu hangen arnynt. 

Uwchraddio tai

Bydd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio newydd, sy'n gosod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn hyd at 1,000 o gartrefi, yn mynd i'r afael â defnyddio carbon yn ddomestig a thlodi tanwydd, newid ymddygiad o ran effeithlonrwydd ynni, ysgogi sgiliau newydd, hyfforddiant ac arloesedd, a chynyddu capasiti’r gadwyn gyflenwi leol. Bydd y buddsoddi hwn yn gwneud trefi a dinasoedd yn gymunedau iachach a hapusach yn ogystal ag atgyfnerthu sylfeini'r economi. . Bydd hefyd yn ein helpu i ddysgu gwersi wrth inni geisio ymgymryd â’r her ehangach o lawer i ddatgarboneiddio miliynau o adeiladu breswyl a masnachol ledled Cymru.  

Byddwn yn buddsoddi mewn adeiladu tai cymdeithasol i ddarparu’r tai fforddiadwy o ansawdd uchel y mae eu hangen yn fawr iawn, ac i roi cyfleoedd i’n hadeiladwyr tai bach a chanolig. Byddwn hefyd yn rhoi hwb i’n cymorth ar gyfer Adeiladwyr Cartrefi Bach i sicrhau bod rhagor o'n cartrefi'n cael eu hadeiladu gan amrywiaeth eang o adeiladwyr cartrefi yng Nghymru i hyrwyddo cystadleuaeth, arloesedd a dewis i ddefnyddwyr. Ochr yn ochr â hyn byddwn yn buddsoddi mewn Dulliau Modern o Adeiladu (MMC) a Gweithgynhyrchu oddi ar y Safle, a’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig, a rhoi chymhellion i hyrwyddo’r dulliau hynny, i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n garbon isel ac yn defnyddio ynni'n effeithlon – yn benodol y strategaeth gaffael ar gyfer tai cymdeithasol sy'n symud tuag at gyfran uwch o gartrefi a adeiladwyd mewn ffatrïoedd fel y nodir yn ein Strategaeth Dulliau Modern o Adeiladu ar gyfer Tai Cymdeithasol.

Rydym wedi sefydlu Fforwm Adeiladu Cymru yr oedd ei gynllun gweithredu 12 pwynt ar gyfer y tymor byr “Ailgodi Cymru’n Gryfach” yn canolbwyntio ar lif gwaith a llif arian ar gyfer busnesau adeiladu, cefnogi busnesau bach a chanolig, cynyddu’r Economi Sylfaenol a datblygu dyfodol carbon isel. Bydd yn rhoi hyder i fusnesau yn y sector i barhau i gyflogi a hyfforddi pobl, gan symleiddio’r broses o dendro ar gyfer gwaith sector cyhoeddus, a sicrhau bod y sector yn datblygu systemau diogel i roi mesurau ar waith i gadw pellter cymdeithasol yn y gweithle.

Cefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn y gweithle – Amser i Newid Cymru

Mae ymchwil gan y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl wedi dod i’r casgliad bod effaith anghyfartal y feirws a'r cyfyngiadau symud wedi rhoi mwy o bwysau ar rai grwpiau a chymunedau, yn enwedig cymunedau lleiafrif ethnig, pobl anabl a phobl ifanc yr oedd eu hiechyd meddwl eisoes yn waeth ac yn fwy bregus cyn i'r pandemig ddechrau. Mae'r cyfuniad o anghydraddoldebau strwythurol presennol ac effeithiau anghyfartal y feirws yn golygu bod y bobl yr oedd eu hiechyd meddwl y mwyaf bregus cyn COVID-19 yn debygol o ddioddef effeithiau mwyaf niweidiol yr argyfwng yn y tymor hwy hefyd.

Mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl fydd un o'r heriau mwyaf o ran cefnogi Cymru i adfer o COVID-19 yn seicolegol, gan sicrhau y gall dinasyddion cyffredin, gweithwyr a chyflogwyr gael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Mae Amser i Newid Cymru wedi bod yn cyflawni dros Lywodraeth Cymru ers 2012, gan ymgyrchu i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl yng Nghymru. Maent wedi bod yn addasu eu model darparu gwasanaethau mewn modd deinamig ers i’r feirws ddod i’r amlwg i hyrwyddo’r adferiad, ailwerthuso anghenion iechyd meddwl ledled Cymru ac ailflaenoriaethu eu hymdrechion yn unol â nodau Llywodraeth Cymru, gan dargedu'r rhai sy'n dioddef amddifadedd cymdeithasol ac economaidd gwirioneddol.  Mewn arolwg diweddar (Mehefin 2020) gan Amser i Newid Cymru i ddeall lefel y stigma iechyd meddwl yng Nghymru yn ystod y cyfyngiadau symud, dywedodd  54% o ymatebwyr fod y stigma roedden nhw’n ei deimlo ynghylch eu hunain wedi gwaethygu, a dywedodd 22% eu bod wedi profi stigma yn y gweithle.
 
Mae gan Amser i Newid Cymru gryn brofiad eisoes o weithio gyda chyflogwyr yng Nghymru, gyda bron i 200 o gyflogwyr cyhoeddus a phreifat yng Nghymru yn llofnodi'r Adduned Amser i Newid. Mae hyn yn cynrychioli dros 300,000 o weithwyr yng Nghymru (bron i un o bob pedwar o weithwyr yng Nghymru). Gan addasu i anghenion gweithwyr, mae’r rhaglen wedi symud ei ddarpariaeth i blatfformau digidol, yn ogystal â sefydlu perthnasau newydd â rhaglenni eraill sy’n rhoi cymorth i gyflogwyr (y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, Cymru Iach ar Waith)  Mae eu Pecyn Cymorth i Gyflogwyr a'u hyfforddiant i Hyrwyddwyr Gweithwyr yn meithrin capasiti o fewn sefydliadau. Yn ystod y cyfyngiadau symud maent wedi cynnal momentwm drwy ddigwyddiadau ar-lein ar yr arferion gorau a hyfforddiant rhithwir i Hyrwyddwyr Gweithwyr, yn ogystal â chlywed gan gyflogwyr ynghylch yr hyn a weithiodd yn dda wrth fynd i’r afael â stigma yn y gweithle yn ystod pandemig.

Cynllun Adfer Swyddi

Ochr yn ochr â datblygu olynydd ein Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru nesaf, byddwn hefyd yn diweddaru ein rhaglen flynyddol o brosiectau, a pharhau â’n ymrwymiad i rannu â diwydiant adeiladu Cymru. Bydd y diweddariadau hyn i’r rhaglen o brosiectau’n helpu'r sector adeiladu i ddeall ein bwriadau ar gyfer y dyfodol, ac yn eu helpu nhw i gynllunio ymlaen llaw. Mae hyn yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyfalaf eraill y sector cyhoeddus, gyda'i gilydd, yn ei wneud at yr economi. Fel Llywodraeth, rydym yn creu ac yn cynnal gwaith drwy, er enghraifft, adeiladu ysbytai, Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, seilwaith trafnidiaeth, a llawer o weithgareddau eraill. Bydd y diweddariadau hyn hefyd yn ddefnyddiol wrth adolygu i ba raddau y cedwir y buddsoddiadau hyn yng Nghymru a beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

Mae ymgorffori gwerth cymdeithasol yn ganolog i nod y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gweithgynhyrchu o symud i "weithgareddau gwerth uchel" sef gweithgareddau gweithgynhyrchu sy’n cael effaith gadarnhaol ar lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion Cymru.  Bydd ein Cynllun Gweithredu yn ymgorffori’r canlyniadau hyn yn y gwaith rydym yn ei wneud i baratoi’r sector ar gyfer y dyfodol. 

 

Cipolwg ar y Genhadaeth i Adfer ac Ailadeiladu’r Economaidd

Economi lesiant:

Gwyrdd

  • economi carbon isel
  • economi gylchol: mwy o gylchu ac arloesi a
  • defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol

Cyfartal

  • cenedl gwaith teg
  • mae gan bobl waith diogel a theilwng
  • gwasgaru cyfleoedd yn decach

Ffyniannus

  • cael busnesau i gystadlu’n hyderus
  • busnesau brodorol cryf a mewnfuddsoddi
  • defnyddio a masnacholi dyfeisiau a darganfyddiadau blaengar
  • newydd
  • diwylliant entrepreneuraidd
  • mwy o fusnesau newydd, sector BBaChau bywiog a mentrau
  • arloesol
  • ar agor ac yn croesawu mewnfuddsoddwyr o bedwar ban byd
  • cyfleoedd allforio newydd ym marchnadoedd y byd

Economi lles gyda:

  • integreiddio trafnidiaeth yn well
  • tai fforddiadwy o ansawdd da
  • gweithlu medrus
  • defnyddio talentau ein holl bobl, am hirach
  • cadwyni cyflenwi lleol a rhanbarthol cryfach
  • lleoedd atyniadol

Mesur Llwyddiant 

Mae’r hyn rydym yn ei fesur yn arwydd o’r hyn rydym yn ei werthfawrogi. Mae’r angen i fesur allbynnau a chanlyniadau ac i werthuso effeithiau’n parhau i fod yn rhan hanfodol o’r awydd i wella perfformiad, ac mae o ddiddordeb i’r cyfryngau a’r cyhoedd o ran sicrhau bod llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus yn atebol. Mae'r genhadaeth ar gyfer ailadeiladu’r economi yn nodi mai economi sy’n seiliedig ar lesiant yw’r uchelgais ar gyfer economi'r dyfodol. Mae dull cyfannol o ymdrin â'r economi, gan gydnabod ei photensial ar gyfer niwed yn ogystal â lles, yn gofyn am ffordd gyfannol o fesur cynnydd.

Ni all Gwerth Ychwanegol Gros (GYC) fod y prif fesur o lwyddiant a ffyniant mwyach. Mae ein ffocws ar weld cynnydd yn y dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru, sy'n adlewyrchu'r weledigaeth ar gyfer llesiant fel ein piler canolog. Mae hyn yn golygu ysgogi gwelliannau i'n heffeithiau amgylcheddol, ein lles yn y gwaith a chynnydd y gymdeithas ehangach yn ei chyfanrwydd. Nid yw mesur cyfoeth cyffredinol cenedl wrth anwybyddu anghydraddoldeb neu ddirywiad amgylcheddol canlyniadol yn ddigon. 

Mae'r dangosyddion llesiant canlynol yn enghraifft o ehangder y metrigau sy'n llywio ein dull gweithredu, ac yn ein galluogi i fonitro ac olrhain ein cynnydd fel cenedl. Bydd polisïau penodol yn mynnu haenau eraill o fesurau. Er enghraifft, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu dangosyddion canlyniadau wedi eu mapio i bob nodwedd gwaith teg a bennwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg. Rydym yn bwriadu defnyddio’r dangosyddion hyn at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys mesur canlyniadau gwaith teg dros amser a helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu a thargedu polisïau’r dyfodol.

Metrigau Adfer ac Ailadeiladu’r Economi

Mae gan Gymru dangosyddion cenedlaethol i asesu'r cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Cyhoeddwyd 46 o ddangosyddion cenedlaethol mis Mawrth 2016 ac mae’r rhifau isod yn adlewyrchu’r rhestr hon. Ceir disgrifiad llawn o'r dangosyddion cenedlaethol gan gynnwys eu diffiniad technegol a gwybodaeth am ffynonellau data ac amlder ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Llesiant Amgylcheddol

04 Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer

12 Capasiti (yn MW) offer ynni adnewyddadwy a osodwyd

14  Ôl traed Ecolegol Cymru

15 Faint o wastraff a gynhyrchir nad yw'n cael ei ailgylchu, fesul person

41 Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru

43 Ardaloedd lle mae ecosystemau iach yng Nghymru

Llesiant Economaidd

09 Gwerth Ychwanegol Gros (GYC) yr awr a weithir (o'i gymharu â chyfartaledd y DU)

11 Canran y busnesau sy'n arloesi mewn modd gweithredol

16 Canran y bobl mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio cyflogaeth barhaol) ac sy'n ennill mwy na dau draean o gyflog canolrif y DU

17 Y blwch cyflog rhwng y rhywiau

22 Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran

Llesiant Cymunedol

08 Canran yr oedolion â chymwysterau ar wahanol lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol

10 Incwm Gwario Gros yr Aelwydydd y pen

18 Canran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o'i chymharu â chanolrif y DU: wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl oedran gweithio a phobl oedran pensiwn

23 Y ganran sy'n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol

29 Sgôr llesiant meddyliol gymedrig i bobl

33 Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol

Ceir disgrifiad llawn o'r dangosyddion cenedlaethol gan gynnwys eu diffiniad technegol a gwybodaeth am ffynonellau data ac amlder ar wefan Llywodraeth Cymru.