Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi mesurau brys i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus drwy bandemig y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd staff y GIG yn cael teithio am ddim ar fysiau ledled Cymru yn gyfnewid am gronfa galedi gan Lywodraeth Cymru yn ystod y tri mis nesaf, gyda theithio am ddim ar gael eisoes ar drenau Trafnidiaeth Cymru. 

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn derbyn cefnogaeth ariannol ychwanegol ac mae cronfa galedi wedi cael ei sefydlu i helpu cwmnïau bysiau wrth i niferoedd teithwyr ostwng hyd at 90% wrth i deithwyr gadw at y rheolau aros gartref fel ymateb i bandemig y coronafeirws.

Mae’r gefnogaeth ar y cyd yn werth hyd at £69m.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Mae’r galw am drafnidiaeth gyhoeddus wedi lleihau’n sylweddol wrth i bobl ddilyn y rheolau aros gartref newydd i achub bywydau a gwarchod y GIG.        

“Mae ein darparwyr rheilffordd, cwmnïau bysiau a gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol – llawer ohonynt yn fusnesau ac elusennau bach – yn wynebu heriau ariannol sylweddol.               

“Bydd y gefnogaeth hon yn rhoi i weithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus y cyllid cychwynnol y mae arnyn nhw ei angen i barhau i ddarparu gwasanaethau a thalu i gyflogeion ac is-gontractwyr tra rydyn ni’n parhau i weithio gyda nhw i ddatblygu pecyn cynhwysfawr o fesurau i sicrhau rhwydwaith bysiau effeithlon, cynaliadwy a chadarn.” 

Bydd y gronfa galedi i fysiau’n cael ei thalu’n fisol ymlaen llaw am hyd at dri mis a bydd yn cymryd lle’r arian grant dros dro presennol sy’n cael ei ddarparu drwy’r grant cefnogi gwasanaethau bysiau, ffioedd rhatach gorfodol a MyTravelPass fel rhan o’u busnes arferol.  

Am y gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, bydd rhaid i gwmnïau bysiau ymrwymo i barhau i ddarparu gwasanaeth amserlen a bydd staff y GIG i gyd yn cael teithio am ddim. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn cynnig teithio am ddim i staff y GIG ar ei wasanaethau.

Hefyd mae’r Gweinidog wedi cadarnhau, tra bo’r rheolau aros gartref yn eu lle, bod y teithio am ddim ar benwythnosau ar rwydwaith Traws Cymru wedi’i ohirio dros dro a hefyd bydd gwasanaeth awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus Caerdydd i Ynys Môn yn cael ei ohirio am dri mis.  

Ychwanegodd Mr Skates:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a chynaliadwy ledled Cymru. 

“Ond ein blaenoriaeth ni ar hyn o bryd yw gwarchod y cyhoedd, pobl sy’n gweithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a’n GIG. Rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau pan fydd y pandemig wedi dod i ben y bydd gennym ni rwydwaith bysiau a rheilffordd sy’n galluogi i ni gyflawni’r uchelgais hwn.”