Neidio i'r prif gynnwy

Bydd nifer o drefi a dinasoedd Prifysgol yng Nghymru’n elwa ar Safleoedd Profi Lleol Galw i Mewn newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi agorodd y Safle Profi Lleol cyntaf ym Mhontypridd ger Prifysgol De Cymru.

Bydd pob un o'r Safleoedd Profi Lleol newydd yn darparu mynediad at brofion ar gyfer y myfyrwyr sy'n dychwelyd a'r poblogaethau lleol.
Heddiw mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn cadarnhau y bydd rhagor o Safleoedd Profi Lleol yn agor mis yma yn Abertawe, Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth.

Mae'r rhain yn rhan o gytundeb gan Lywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU i greu Safleoedd Profi Lleol yng Nghymru a chynyddu capasiti profi.  Mae'r LTS yn safle galw i mewn a gellir archebu profion yn y ffordd arferol drwy ffonio 119 neu ar-lein yn llyw.cymru

Dim ond i'r rhai â symptomau’r coronafeirws y bydd profion ar gael:

  • tymheredd uchel
  • peswch cyson newydd neu
  • golled neu newid i’r synnwyr arogli neu flasu

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae'n bwysig bod unrhyw un sy'n dangos symptomau’r coronafeirws yn cael prawf i sicrhau ein bod yn atal y feirws rhag lledaenu. Bydd y Safleoedd Profi Lleol newydd yn cael eu lleoli ledled Cymru a byddant yn rhan allweddol o raglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru."

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Wrth i fyfyrwyr prifysgol ddychwelyd i ddinasoedd a threfi ledled Cymru rydym am sicrhau bod profion cadarn ar waith ar gyfer myfyrwyr a thrigolion lleol. Rwy'n falch y bydd y Safleoedd Profi Lleol yn rhoi sicrwydd ychwanegol i'r rhai sy'n dychwelyd neu'n dechrau yn y brifysgol.”