Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r diwygiadau ar gyfer 2022 yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, awyru a gorgynhesu a fydd yn dod i rym ar 23/11/2022.

Cylchlythyr reoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr: WGC 003/2022    

Dyddiad cyhoeddi: 24/05/2022

Statws: Er gwybodaeth

Teitl: Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (diwygio) (Cymru) 2022

Cyhoeddwyd gan: Francois Samuel: Pennaeth Rheoliadau Adeiladu

Cyfeiriwyd at:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol (Anfonwch ymlaen at: Swyddogion Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Anfonwch ymlaen at: Aelodau’r Senedd

Cymdeithas Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol

Cyngor y Diwydiant Adeiladu

Fforwm Personau Cymwys

Crynodeb

Mae'r cylchlythyr hwn yn cyflwyno diwygiadau newydd 2022 o ran effeithlonrwydd ynni, awyru a gorgynhesu i'r Rheoliadau Adeiladu a Dogfennau Cymeradwy L1, F1 ac O i Gymru.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Paul Keepins
Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Llinell Uniongyrchol:    0300 062 8646
E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:    https://llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

 

Cyflwyniad

Rwyf wedi cael cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i dynnu eich sylw at Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/564 (Cy. 130) (“y Rheoliadau Diwygio”) a wnaed ar 20 Mai 2022 ac a ddaw i rym ar 23 Tachwedd 2022, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau y cyfeirir atynt isod.

Rwyf hefyd wedi cael cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i dynnu eich sylw at gyhoeddi Dogfen Gymeradwy F (Awyru), cyfrol 1; Dogfen Gymeradwy L (Arbed Tanwydd ac Ynni) cyfrol 1 a Dogfen Gymeradwy O (Gorgynhesu).

Yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984, gwnaed y Rheoliadau diwygio ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.

Diben y Cylchlythyr hwn yw gwneud y canlynol:

  • tynnu sylw at y diwygiadau ac esbonio'r newidiadau y maent yn eu gwneud i Reoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010;
  • tynnu sylw at gyhoeddi Dogfennau Cymeradwy newydd F, cyfrol 1; ac L, cyfrol 1, a Dogfen Gymeradwy newydd O;
  • tynnu sylw at y darpariaethau trosiannol, sy'n gymwys i adeiladau unigol.

Nid yw'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar ofynion technegol Rheoliadau Adeiladu 2010 gan fod Dogfennau Cymeradwy yn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae Atodiad A i'r Cylchlythyr hwn yn nodi ar ffurf tabl yr holl newidiadau i Reoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 a wneir gan O.S. 2022/564.

Cwmpas

Dim ond i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru y mae'r rheoliadau diwygio a Dogfennau Cymeradwy L (cyfrol 1), F (cyfrol 1) ac O yn berthnasol.

Diwygiadau i reoliadau

Mae'r Rheoliadau Diwygio yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 er mwyn gwneud y canlynol:

  • darparu ar gyfer ffyrdd newydd o fesur effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio metrigau perfformiad newydd;
  • newid y ffordd y caiff systemau cynhyrchu trydan ar safleoedd eu rheoleiddio;
  • cyflwyno rheoliadau ar gamau lliniaru mewn perthynas â gorgynhesu;
  • gwneud darpariaeth ynghylch safonau awyru pan fydd gwaith y mae Rhan L (arbed tanwydd ac ynni) yn gymwys iddo;
  • gwneud newidiadau cysylltiedig i Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010;
  • gwneud darpariaethau trosiannol;
  • gwneud mân newidiadau mewn perthynas â chynlluniau hunanardystio.

Dogfennau Cymeradwy

Mae Dogfen Gymeradwy F: awyru (argraffiad 2010 sy'n cynnwys diwygiadau 2010 a 2014) yn cael ei thynnu'n ôl yn rhannol mewn perthynas â chanllawiau ar gyfer anheddau newydd ac anheddau presennol a chaiff ei disodli gan Ddogfen Gymeradwy F, Cyfrol 1: Anheddau.

Mae Dogfennau Cymeradwy L1A: Arbed tanwydd ac ynni mewn anheddau newydd, argraffiad 2014 (yn cynnwys diwygiadau 2016); L1B: Arbed tanwydd ac ynni mewn anheddau presennol, argraffiad 2014 (yn cynnwys diwygiadau 2016) yn cael eu tynnu'n ôl. Cânt eu disodli gan Ddogfen Gymeradwy L, Cyfrol 1: Anheddau.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo canllawiau statudol newydd er mwyn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â Rhan O o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010 fel Dogfen Gymeradwy O.

Mae Atodiadau B a C i'r Cylchlythyr hwn yn rhoi'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth ar gyfer y Dogfennau Cymeradwy newydd a'r Hysbysiad Tynnu'n Ôl a Thynnu'n Ôl yn Rhannol ar gyfer argraffiadau blaenorol o'r Dogfennau Cymeradwy, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol.

Mae'r Dogfennau Cymeradwy ar gael yn: Rheoliadau adeiladu: dogfennau cymeradwy | LLYW.CYMRU

Trefniadau Trosiannol

Nid yw'r Rheoliadau Diwygio na'r Dogfennau Cymeradwy newydd yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu ar adeilad penodol lle mae'r gwaith adeiladu wedi cael ei ddechrau'n unol â darpariaeth o dan hysbysiad perthnasol, ar yr amod bod y gwaith adeiladu ar yr adeilad hwnnw eisoes wedi dechrau neu y caiff ei ddechrau o fewn 12 mis i'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mewn rhai achosion, bydd ceisiadau yn gysylltiedig â nifer o adeiladau ar safle, er enghraifft, nifer o dai. Mewn achosion o'r fath, dim ond yr adeiladau unigol hynny y mae gwaith wedi dechrau arnynt all fanteisio ar y darpariaethau trosiannol.

Rhagor o Wybodaeth

Ymholiadau

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:

Francois Samuel, Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Ffôn: 03000 628232.

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Atodiad A

O.S. 2010/2214

Rheoliad Rhif

O.S. 2022/564

Rheoliad Rhif

Cam Gweithredu

2(1)

3

Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2(1) (dehongli) y Rheoliadau Adeiladu i gyflwyno gofyniad cyfradd ynni cynradd darged newydd a'r wybodaeth am ofyniad gynhyrchu trydan ar safleoedd i'r diffiniad o “ofynion effeithlonrwydd ynni” ac ychwanegu diffiniad o "system ar gyfer cynhyrchu trydan ar safleoedd".

 

4

Mae Rheoliad 4 yn cyflwyno gofyniad lle y caiff gwaith adeiladu ei wneud mewn perthynas â Rhan L o'r Rheoliadau Adeiladu, bod yn rhaid i systemau awyru'r adeilad gydymffurfio â'r safon a nodir yn Rhan F o Atodlen 1 neu beidio â bod yn waeth na'r safon cyn ymgymryd â'r gwaith o dan Ran L.

17(2A)

5

Tystysgrifau cwblhau. Yn ychwanegu rheoliad 26C (cyfraddau ynni cynradd targed ar gyfer adeiladau newydd) at y rhestr o ddarpariaethau perthnasol i'w bodloni cyn y gellir rhoi tystysgrif gwblhau ac yn dileu'r gair 'consumption' o is-baragraff c.

25C

6

Gofynion sylfaenol o ran perfformiad ynni. Diwygiwyd er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo'r cyfraddau ynni cynradd targed pan gaiff annedd ei chodi.

 

7

Yn mewnosod Rheoliad 25D newydd i'r Rheoliadau Adeiladu er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo cyfraddau effeithlonrwydd ynni ar gyfer anheddau newydd.

26A

8

Adeiladau newydd: Cyfraddau ynni cynradd. Diwygiwyd er mwyn cynnwys hefyd pan gaiff annedd newydd ei chodi ac yn dileu'r gair “consumption”.

 

9

Sgoriau effeithlonrwydd ynni gofynnol. Yn mewnosod Rheoliad 26C newydd i'r Rheoliadau Adeiladu i'w gwneud yn ofynnol i anheddau newydd gyflawni'r sgôr effeithlonrwydd ynni ofynnol ar gyfer yr annedd neu ragori ar y sgôr honno.

27A

10

Cyfrifiadau cyfraddau ynni cynradd. Diwygiwyd er mwyn cynnwys pan gaiff annedd ei chodi'n unol â'r gofyniad ac yn dileu'r gair “consumption”.

27C

11

Cyfrifiadau sgoriau effeithlonrwydd ynni: Yn mewnosod Rheoliad 27C newydd i'r Rheoliadau Adeiladu sy'n nodi'r weithdrefn i'w dilyn i gyflwyno tystiolaeth o'r sgôr effeithlonrwydd ynni i'r awdurdod lleol.

 

12

Mae Rheoliad 12 yn mewnosod gofynion newydd i'r person sy'n ymgymryd â'r gwaith adeiladu roi gwybodaeth i'r perchennog am y systemau ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle.

Mae'r rheoliad hefyd yn mewnosod darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n ymgymryd â'r gwaith roi digon o wybodaeth i'r perchennog am darpariaethau a wnaed yn unol â Rhan O ar gorgynhesu.

42

13

Caiff Rheoliad 13 ei ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol cynnal profion cyfradd llif awyr ar systemau awyru mecanyddol mewn anheddau presennol lle gwneir gwaith adeiladu hysbysadwy i ddarparu neu ehangu unrhyw system adeilad sefydlog ar gyfer system awyru fecanyddol.

43

14

Mae Rheoliad 14 yn diweddaru enw cwmni.

 

 

15

Mae Rheoliad 15 yn mewnosod gofyniad newydd i gadarnhau gydag awdurdod lleol bod system ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle wedi cael ei chomisiynu.

Atodlen 1

16

Mae Rheoliad 16 yn diwygio Atodlen 1 o'r Rheoliadau Adeiladu i ddynodi bod yn rhaid i wasanaethau adeilad sefydlog gyrraedd safon resymol o effeithlonrwydd ynni; i gyflwyno gofynion ar gyfer gosod systemau cynhyrchu trydan ar y safle ac i fewnosod Rhan O newydd i sicrhau bod camau lliniaru mewn perthynas â gorgynhesu yn ofynnol.

Atodlen 3

17

Mae Rheoliad 17 yn diwygio Atodlen 3 i'r Rheoliadau Diweddaru i ddiweddaru enwau cwmni gweithredwyr cynlluniau personau cymwys awdurdodedig a'r meysydd gwaith a gwmpesir ganddynt.

 

21

Darpariaethau Trosiannol. Yn nodi'r darpariaethau trosiannol ar gyfer y rheoliadau diwygio.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r holl newidiadau a wnaed gan O.S. 2022/564 (Cy. 130) i Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (O.S. 2010/2215):

O.S. 2010/2215 Rheoliad Rhif

 

O.S. 2022/564

Rheoliad Rhif

Cam Gweithredu

8

19

Mae Rheoliad 19 yn diwygio Rheoliad 8 o Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 i'w gwneud yn ofynnol i arolygwyr cymeradwy sicrhau bod gwaith adeiladu sy'n destun hysbysiad cychwynnol yn cydymffurfio â'r gofynion newydd a fewnosodwyd i Reoliadau Adeiladu 2010 gan y Rheoliadau Diwygio.

20

20

Mae Rheoliad 20 yn diwygio Rheoliad 20 o Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 er mwyn sicrhau y gellir rhoi'r ddogfennaeth y mae angen ei rhoi i Awdurdod Lleol yn unol â'r Rheoliadau Diwygio i arolygydd cymeradwy pan fydd y gwaith yn destun hysbysiad cychwynnol.

Atodiad B

Deddf Adeiladu 1984

HYSBYSIAD O GYMERADWYAETH I DDIWYGIO DOGFENNAU SY'N RHOI CANLLAWIAU YMARFEROL AR OFYNION RHEOLIADAU ADEILADU 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a nodir o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Dogfennau Cymeradwy a restrir isod at ddibenion rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd) yng Nghymru yn unig.

Daw'r gymeradwyaeth i rym ar 23 Tachwedd 2022 ac eithrio mewn perthynas â gwaith y rhoddwyd hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol ar ei gyfer neu gynlluniau llawn a gyflwynwyd cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod y gwaith wedi dechrau cyn 23 Tachwedd 2023.

Dogfen Gymeradwy

Gofynion y Rheoliadau Adeiladu y caiff y ddogfen ei chymeradwyo mewn perthynas â nhw

Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym

Dogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1: Anheddau – argraffiad 2022

Rheoliadau 39, 42, 44 ac Atodlen 1: Rhan F

23 Tachwedd 2022

Dogfen Gymeradwy L, Arbed tanwydd ac ynni, Cyfrol 1: Anheddau – argraffiad 2022

Rheoliadau 4, 6, 21, 22, 23, 24, 25, 25A, 25B, 25C, 26, 26A, 26B, 26C, 27,27A, 27B, 27C, 28, 40, 40A, 43, 44, 44ZA ac Atodlen 1, Rhan L

23 Tachwedd 2022

Dogfen Gymeradwy O, Gorgynhesu – argraffiad 2022

Rheoliad 40B ac Atodlen 1 Rhan O

23 Tachwedd 2022

Atodiad C

Deddf Adeiladu 1984

HYSBYSIAD O DYNNU CYMERADWYAETH I DDOGFENNAU SY'N RHOI CANLLAWIAU YMARFEROL AR OFYNION RHEOLIADAU ADEILADU 2010 YN ÔL

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a nodir o dan adran 6, wedi tynnu cymeradwyaeth a chymeradwyaeth rannol i'r dogfennau a restrir isod at ddibenion rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010 yn ôl.

Daw hyn yn weithredol ar 23 Tachwedd 2022. Nid oes unrhyw drefniadau trosiannol.

Dogfen Gymeradwy

Dogfen Gymeradwy L1A – Argraffiad 2014 – Arbed tanwydd ac ynni mewn anheddau newydd a'r holl ddiwygiadau iddi.

Dogfen Gymeradwy L1A – Argraffiad 2014 – Arbed tanwydd ac ynni mewn anheddau presennol a'r holl ddiwygiadau iddi.

Tynnu Dogfen Gymeradwy yn Ôl yn Rhannol

Adrannau 5 a 7 o’r Ddogfen Gymeradwy  F – Awyru – Argraffiad 2010 – Canllawiau a diwygiadau iddi ar gyfer anheddau newydd ac anheddau presennol.