Bydd y gweithlyfr digidol hwn yn eich helpu i fodloni gofynion cadw cofnodion y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
Dogfennau

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: gweithlyfr fferm , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 487 KB
XLSX
487 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Rydym wedi cynllunio'r gweithlyfr digidol hwn i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir. Bydd yn eich helpu i fodloni gofynion cadw cofnodion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r gweithlyfr hwn. Ond mae'n rhaid i chi sicrhau:
- mae'r cyfrifiadau gofynnol wedi'u gwneud, a
- eich bod yn gallu darparu cofnodion pan ofynnir amdanynt at ddibenion arolygu
Sicrhewch eich bod wedi darllen y ddogfen ganllaw yn llawn. Bydd hyn yn eich helpu i nodi'r cyfrifiadau sy'n ofynnol ar gyfer eich daliad.