Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn rheoli’r ffyrdd rydym yn berchen arnynt yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwella ein ffyrdd

Rydym yn defnyddio Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) i gynllunio mathau gwahanol o drafnidiaeth, gan gynnwys trenau a beicio. Rydym hefyd yn ei ddefnyddio pan fydd angen inni drwsio neu newid y ffyrdd.

Mae WelTAG yn rhan bwysig o’n Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae ein helpu ni i ystyried ffactorau pwysig fel:

Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy am y ffordd rydym yn defnyddio WelTAG ar gyfer ein prosiectau ffyrdd:

Ein cyfraniad ni

Rydym yn gyfrifol am tua 1516km o brif ffyrdd A (a elwir yn gefnffyrdd) a 178km o draffyrdd yng Nghymru.

Mae’n bwysig ein bod yn gofalu amdanynt ac yn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac yn ddiogel ar gyfer defnyddwyr.

Rydym yn defnyddio 2 sefydliad sector cyhoeddus o’r enw Asiantiaid Cefnffyrdd i weithredu ac i ofalu am ein ffyrdd ar ein rhan:

Maent yn gyfrifol am y canlynol:

Maent hefyd yn darparu Traffig Cymru sy’n ein helpu i gadw’r ffyrdd yn glir ac yn ddiogel. Maent yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am draffig ac yn darparu gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru.

Mae Swyddogion Traffig yn patrolio’r rhwydwaith ac yn helpu i gadw defnyddwyr ffyrdd yn ddiogel: map rhwydwaith ffyrdd.

Maent yn cael eu cefnogi gan weithredwyr ystafell reoli sy’n gosod arwyddion a signalau i rybuddio defnyddwyr ffyrdd am beryglon.

Adolygiad Ffyrdd

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu prosiectau ffyrdd. Darllenwch fwy am yr Adolygiad Ffyrdd.