Mae canfyddiadau newydd o’r pathogen hwn sy’n debyg i ffwng, ac y gwyddys ei fod yn effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed, wedi eu canfod yng Nghymru.
![](/sites/default/files/styles/600x400/public/announcements/2022-01/220131-trees.jpg?itok=C1xMV2sp)
Mae Phytophthora pluvialis yn gallu effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed, gan gynnwys hemlog y gorllewin, ffynidwydd Douglas a sawl rhywogaeth o binwydd.
Yn dilyn canfyddiadau yn Nghoedwig Dyfi ac yng Nghrychan, Llanymddyfri, mae achosion newydd wedi’u cadarnhau yn Nhal-y-bont ar Wysg, Mynydd Du a Maesyfed.
Mae’r clefyd bellach wedi effeithio ar saith safle yng Nghymru.
Mae canllaw symptomau wedi’i lunio sy’n darparu rhagor o wybodaeth am Phytophthora pluvialis.
Anogir pobl i roi gwybod os ydyn nhw’n gweld achos o’r clefyd drwy borthol ar-lein TreeAlert.
Bydd achosion pellach yng Nghymru yn cael eu cofnodi ar-lein bellach a gellir eu gweld yn: Phytophthora pluvialis.