Cymunedau dros Waith
Byddwn yn parhau i gefnogi unigolion Cymunedau dros Waith neu Cymunedau dros Waith a Mwy.
Bydd y rhaglenni yma'n parhau yn ystod yr adeg ddigynsail yma.
Gall timau Cymunedau dros Waith gefnogi unigolion, heb angen cael cyswllt wyneb yn wyneb.
Gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol drwy e-bostio c4w@llyw.cymru. Neu gall rhai sy'n cymryd rhan eisoes, gysylltu â'u mentor yn uniongyrchol.
Cofrestru
Dylai unigolion sydd am gofrestru ar gyfer Cymunedau dros Waith neu Cymunedau dros Waith a Mwy e-bostio c4w@llyw.cymru
Prosiect Rhieni Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)
Byddwn yn parhau i gefnogi unigolion ar y rhaglen PaCE.
Bydd y rhaglen hon yn parhau.
Gall tîm PaCE gefnogi unigolion, heb angen cael cyswllt wyneb yn wyneb.
Gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol drwy e-bostio PaCE@llyw.cymru. Neu gall rhai sy'n cymryd rhan eisoes, gysylltu â'u cynghorydd yn uniongyrchol.
Gofal plant
Bydd dyfarniadau darparwyr gofal plant presennol yn cael eu hanrhydeddu.
Cofrestru
Dylai rhieni nad ydynt yn gweithio nac mewn addysg ac sydd am gofrestru ar gyfer PaCE e-bostio PaCE@llyw.cymru.