Sut i wneud cais am arian i wella cyfleusterau cymunedol.
Yn y casgliad hwn
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi’i gordanysgrifio'n sylweddol. Mae hyn yn golygu bod gennym nifer fawr o geisiadau ar ein gweill.
Er mwyn rheoli o fewn i’r gyllideb sydd ar gael, yn anffodus byddwn yn oedi’r rhaglen i geisiadau newydd o 15 Tachwedd 2024.
Bydd pob cais sydd ar y gweill ar hyn o bryd a'r rhai a dderbynnir hyd at 15 Tachwedd yn cael eu prosesu yn y ffordd arferol. Gall asesu'r ceisiadau hyn gymryd mwy o amser na'r arfer. Bydd tîm y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gweithio cyn gynted ag y gallant.
Bydd y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ailagor i geisiadau newydd yn 2025. Byddwn yn cyhoeddi'r dyddiad o leiaf fis cyn i’r rhaglen ail-agor.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni ar communityfacilitiesproghelp@llyw.cymru.
Sut i wneud cais
Dychwelwch eich ffurflen gais a'r holl ddogfennau ategol yn electronig i: CommunityFacilitiesProgHelp@llyw.cymru.