Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddwn yn trin unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gais am arian grant.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i grantiau Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd ar ôl mis 4 Ionawr 2023.

Am grantiau a ddyfarnwyd cyn 4 Ionawr 2023 ewch i Archif We y DU.

Crynodeb

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn trin data personol ar draws pob cynllun grant at ddibenion:

  • asesu ceisiadau grant neu gais am arian grant
  • monitro perfformiad cynlluniau
  • sicrhau bod grantiau wedi'u talu yn unol â'r amodau cymhwystra a rheoli cymorthdaliadau ar gyfer y cynlluniau
  • gwerthuso ac adolygu effaith, perfformiad a chostau'r cynlluniau
  • ymchwilio i effeithiolrwydd y cynlluniau a chynorthwyo datblygiadau polisi yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach a mwy llewyrchus.

Cyn i ni ddarparu cyllid grant i chi ac yn ystod tymor y dyfarniad grant, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Mae'r gwiriadau hyn yn gofyn i ni brosesu data personol amdanoch chi. Mae ‘chi’ yn cyfeirio at unigolyn neu sefydliad. Os ydych yn sefydliad, mae cyfeiriad at ‘chi’ neu ‘eich’ yn cynnwys eich swyddogion.

Prosesu cyfreithlon

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus ac i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio hunaniaethau. Mae prosesu o’r fath hefyd yn ofyniad o’r cyllid grant yr ydych wedi gofyn amdano a byddyn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Beth rydym yn ei brosesu a'i rannu

Gellir rhannu'r data rydych chi'n ei ddarparu neu rydyn ni'n ei gasglu o ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd ag asiantaethau atal twyll os ydyn ni'n amau neu'n canfod twyll. Gall y data gynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i'ch:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriadau preswyl a hanes cyfeiriadau
  • manylion cyswllt fel cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
  • gwybodaeth ariannol
  • manylion cyflogaeth, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol.
  • manylion adnabod dyfais gan gynnwys eich cyfeiriad IP

Efallai y byddwn ni, ac asiantaethau atal twyll, yn defnyddio'r wybodaeth hon, gan gynnwys unrhyw ddata personol, i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Efallai y byddwn ni ac asiantaethau atal twyll hefyd yn galluogi asiantaethau gorfodaeth cyfraith i gael mynediad at eich data personol a'i ddefnyddio i ganfod, ymchwilio ac atal troseddu.

Gall asiantaethau atal twyll ddal eich data personol am wahanol gyfnodau o amser, yn dibynnu ar sut mae'r data hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. Os ystyrir eich bod yn peri risg twyll neu wyngalchu arian, gall asiantaethau atal twyll ddal eich data am hyd at chwe blynedd o'i dderbyn.

Canlyniadau prosesu

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant yr ydych wedi gofyn amdano, ac efallai y byddwn yn rhoi’r gorau i ddarparu cyllid grant presennol i chi. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth gan ddefnyddio'r manylion isod.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg twyll neu wyngalchu arian, a gall arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth gan ddefnyddio'r manylion isod.

Trosglwyddo data

Efallai y bydd rhai asiantaethau atal twyll yn trosglwyddo'ch data personol y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop. Lle maent yn gwneud hynny, maent yn gosod rhwymedigaethau cytundebol ar dderbynwyr y data hwnnw. Mae'r rhwymedigaethau hynny'n ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd amddiffyn eich data personol i'r safon sy'n ofynnol yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Efallai y byddant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd danysgrifio i ‘fframweithiau rhyngwladol’ gyda’r bwriad o alluogi rhannu data’n ddiogel.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn unol â'n polisi cadw. Os yw'ch cais yn llwyddiannus gellir cadw'ch data personol am hyd at 10 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd o'r holl amodau sy'n ymwneud â'r grant a ddyfarnwyd a bod yr holl daliadau wedi'u gwneud.

Os ydych yn aflwyddiannus, cedwir eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw arnoch chi
  • ei wneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • (mewn rhai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • (mewn rhai amgylchiadau) gwneud cais i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os ydych chi am arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk