Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae pandemig COVID-19 wedi newid y ffordd mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teithio. Mae cynifer â 42 y cant o bobl [troednodyn 1] wedi gweithio i ffwrdd o weithleoedd confensiynol yn ystod y cyfyngiadau symud. 

Er ei fod wedi bod yn gyfnod anodd inni gyd, mae’r patrymau gwaith newydd hyn hefyd wedi esgor ar lawer o effeithiau cadarnhaol, fel:

  • lleihau amser teithio a chostau teithio
  • mwy o hyblygrwydd, a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • cynhyrchiant uwch
  • llai o draffig ar adegau prysur
  • llai o lygredd aer a sŵn
  • effeithiau cadarnhaol ar economïau lleol

Am y rhesymau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi newid hirdymor i gael rhagor o bobl yn gweithio o bell. Mae’r term gweithio o bell yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw waith sy’n cael ei wneud yng nghartref rhywun neu gerllaw.  Rydym yn creu rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell mewn trefi a chymunedau ledled Cymru i dreialu’r dewis hwn yn y gweithle ac i asesu’r galw a’r dewisiadau darparu.  Y gobaith yw y bydd y canolfannau'n:

  • caniatáu i bobl weithio'n nes at eu cartref
  • caniatáu i unigolion gydweithio yn eu cymuned leol
  • darparu lle i’r rheini nad ydynt yn gallu gweithio gartref neu nad ydynt eisiau gweithio gartref

Mae canolfannau gweithio o bell yn rhoi trydydd dewis o ran lleoliad gwaith i weithwyr yn ogystal â’r swyddfa neu gartref.

Cefndir

Nod yr ymarfer hwn oedd deall beth allai’r galw fod am ganolfannau gweithio lleol. Fe wnaethom ofyn am fewnbwn gan y cyhoedd yng Nghymru er mwyn cyfrannu at ein sylfaen dystiolaeth.

Fe wnaethom weithio gyda chyflenwr o’r enw Commonplace i helpu gyda’n cynlluniau ymgysylltu. Mae Commonplace wedi datblygu platfform digidol sy’n golygu bod modd ymgysylltu â’r gymuned leol.

Roedd y platfform yn caniatáu i’r cyhoedd osod pin ar fap rhyngweithiol i ddangos lle hoffent gael canolfan gweithio leol. Yna gofynnwyd cyfres o gwestiynau iddynt am eu dewis. Roedd aelodau eraill o’r cyhoedd yn gallu ‘hoffi’ yr ardal honno gydag eicon codi bawd. Roedd yr wybodaeth a gasglwyd yn cynnwys cod post a manylion demograffig. Roedd y pinnau wedyn yn cynhyrchu map gwres o’r ardaloedd o ddiddordeb ar gyfer gweithio lleol, ac roedd modd i’r cyhoedd eu gweld. Mae hwn yn dal ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Eich barn am weithio o bell

Cafodd y platfform ymgysylltu pwrpasol hwn ei lansio ym mis Chwefror 2021 ac roedd ar waith tan ddiwedd mis Mawrth. Er nad yw’r ymarfer yn weithredol ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu mynd yn fyw eto gyda rhagor o waith ymgysylltu, boed hynny’n gyffredinol neu wedi’i dargedu, tan fis Ionawr 2022.

Roedd y brif dystiolaeth a gasglwyd yn cynnwys:

  1. agweddau cyffredinol at weithio o bell a’r senario gweithio a oedd yn cael ei ffafrio
  2. beth sy’n bwysig i bobl wrth weithio o bell (gofynion gwasanaeth)
  3. sut mae pobl yn teithio i’r gwaith
  4. gwybodaeth ddemograffig yr ymatebwyr

Crynodeb o’r canlyniadau

Mae’r ymatebwyr wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i weithio o bell a chanolfannau gweithio o bell.

Ychydig iawn o’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn ffafrio dychwelyd i’r swyddfa yn amser llawn.

Roedd cyfuniad o ffactorau wedi dylanwadu ar benderfyniadau pobl, gan gynnwys llai o amser a chostau teithio, cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith a ffactorau amgylcheddol, fel lleihau ôl troed carbon.

Er bod yr ymarfer yn llwyddiannus, mae dadansoddiad o leoliadau’r pinnau’n dangos nad oedd yn cyrraedd pob rhan o’r gymuned yn effeithiol, felly mae angen rhagor o waith ymgysylltu wedi’i dargedu.

Cafodd yr ymarfer hwn ei gynnal yn ystod y pandemig a’r cyfyngiadau symud, felly bydd angen parhau i fonitro barn y cyhoedd.

Bydd angen nodi ac arfarnu dewisiadau yn ystod y cyfnod peilot ar gyfer gofynion cyllido Canolfannau Gweithio o Bell yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy i’r dyfodol. 

Y prif ganfyddiadau ac argymhellion

Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ar blatfform Commonplace a chafodd ei hyrwyddo drwy www.llyw.cymru, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a rhwydweithiau’r sector cyhoeddus. Cafodd dolenni hefyd eu rhannu â sefydliadau yn y sector preifat a’r trydydd sector i’w rhaeadru i’w rhwydweithiau. 

Demograffeg

Ceir crynodeb isod o ddemograffeg yr ymatebwyr er mwyn rhoi cyd-destun i’r canfyddiadau. I weld yr wybodaeth lawn am ddemograffeg, edrychwch ar atodiad a: wybodaeth ddemograffig yr ymatebwyr.

  • roedd 1,841 o bobl wedi ymateb i’r ymarfer, ac roedd 7,524 o bobl wedi ymweld â’r dudalen.
  • mae canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyflwyno’n ddisgrifiadol, nid yw’r ymatebion wedi cael eu pwysoli mewn perthynas â data poblogaeth
  • roedd 62 y cant o’r ymatebwyr yn fenywod
  • roedd 62 y cant o’r ymatebwyr yn gweithio yn y Sector Cyhoeddus ac roedd 8 y cant yn gweithio yn y sector preifat. Roedd 4 y cant yn gweithio yn y trydydd sector, ac roedd 2 y cant yn hunangyflogedig.  Roedd gweddill yr ymatebwyr wedi dewis peidio ag ateb y cwestiwn.
  • roedd 7 y cant wedi dewis y Gymraeg fel eu prif iaith.
  • roedd 65 y cant yn gweithio’n amser llawn a 5 diwrnod yr wythnos
  • roedd 23 y cant o’r ymatebwyr yn dod o Gaerdydd a’r ardal gyfagos
  • dywedodd 20 y cant o’r ymatebwyr fod ganddynt gyflwr corfforol neu feddyliol y disgwylir iddo bara mwy na deuddeg mis.

Argymhelliad

Byddwn yn ymchwilio i’r angen am waith ymgysylltu wedi’i dargedu â grwpiau demograffig penodol.  

Agweddau at weithio o bell a’r senario gweithio sy’n cael ei ffafrio

Mae’r ymarfer hwn yn dangos bod gan ymatebwyr ddiddordeb mewn senario gweithio o bell a'u bod yn teimlo’n gadarnhaol am hynny, yn enwedig dull hybrid a allai gynnwys unrhyw gyfuniad o weithio gartref, gweithio mewn canolfan, a gweithio yn y swyddfa.

  • roedd 68 y cant o’r ymatebwyr naill ai’n gadarnhaol neu’n gadarnhaol ar y cyfan am y canolfannau gweithio o bell (28 y cant yn gadarnhaol a 40 y cant yn gadarnhaol ar y cyfan).  Dim ond 5% y cant ddywedodd eu bod yn negyddol, neu’n negyddol ar y cyfan.
  • roedd hyblygrwydd a dewis yn bwysig i bobl – o ran y senario gweithio roedd yr ymatebwyr yn ei ffafrio, dewisodd 47 y cant o bobl batrwm gweithio hybrid, a oedd yn golygu mai dyma oedd y dewis mwyaf poblogaidd. Gallai gweithio hybrid gynnwys unrhyw gyfuniad o weithio gartref, gweithio yn y swyddfa a gweithio mewn Canolfan Gweithio o Bell. 
  • nid oedd yr ymatebwyr yn fodlon talu i ddefnyddio cyfleuster canolfan gweithio o bell – dim ond 9 y cant o bobl a ddywedodd y byddent yn fodlon talu gyda 15 y cant arall yn dweud efallai y byddent yn fodlon talu gan ddibynnu ar lefel y gwasanaeth. Dywedodd 47 y cant eu bod yn teimlo y dylai’r cyflogwr dalu.

Argymhelliad

Comisiynu pecyn i helpu sefydliadau i ganfod atebion posibl lle nad yw gweithwyr yn debygol o fod yn gadarnhaol ynghylch talu i weithio’n lleol. Drafftio templed o gytundeb dwyffordd ar gyfer rhannu gofod ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Lleoliadau sy’n cael eu ffafrio

Dyma’r pum gofyniad pwysicaf i’r ymatebwyr wrth ddewis lleoliad ar gyfer canolfan gweithio o bell. Cafodd deg dewis eu cyflwyno i’r ymatebwyr:

  • yn agos at eu cartref
  • yn agos at natur a mannau gwyrdd
  • yn agos at siopau
  • yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth
  • yn agos at lwybr beiciau

Dyma oedd y dewisiadau:

  1. yn agos at eu cartref
  2. yn agos at natur / mannau gwyrdd
  3. yn agos at siopau
  4. yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth
  5. yn agos at ofal plant / ysgolion
  6. yn agos at lwybr beiciau
  7. yn agos at gyfrifoldebau gofalu
  8. yn agos at gampfa / ffitrwydd
  9. yn agos at lefydd o ddiddordeb
  10. yn agos at fannau addoli.

Mae’r canlyniadau hyn yn dangos y newidiadau cadarnhaol y mae pobl wedi’u mabwysiadu i’w ffordd o fyw ers gweithio’n lleol, yn ogystal â phwysigrwydd lleoliad ffisegol yr adeilad. Mae’n galonogol gweld bod cysylltiadau trafnidiaeth yn ffactor pwysig, sy’n awgrymu bod gan yr ymatebwyr hyn ddiddordeb mewn peidio â defnyddio eu ceir.

Argymhelliad

Gweithio’n agos gyda’r Is-adran Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i hyrwyddo Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r agenda teithio llesol.

Cyfleusterau a gwasanaethau

O ran cyfleusterau canolfannau, roedd gofynion pobl yn ymarferol ac efallai’n ddisgwyliedig.  Band eang oedd y gwasanaeth pwysicaf i’r ymatebwyr, wedi’i ddilyn gan system archebu ar-lein, gweithfannau parod ac ystafelloedd cyfarfod.  Roedd yr awgrymiadau a gafwyd yn y blwch testun rhydd yn ymwneud yn fwy â ffordd o fyw, er enghraifft bod modd dod â chŵn i’r ganolfan a bod cyfleusterau cawod a choffi da yno.  

Manteision tybiedig gweithio mewn canolfan leol

Wrth holi pa fanteision roedd pobl yn eu gweld yn sgil gweithio mewn canolfan, dyma oedd yr atebion mwyaf poblogaidd ac roedden nhw’n weddol gyfartal:

  • cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith
  • mwy o hyblygrwydd
  • arbed costau teithio 
  • gwella ôl troed carbon

Mae’n galonogol gweld y cyhoedd yn nodi nifer o gymhellion ar gyfer gweithio o bell. 

Arferion cymudo cyn y pandemig

Gobeithir y bydd cadw 30 y cant o bobl yn gweithio gartref yn gwastatáu cromlin y traffig ar adegau prysur a thrwy hynny’n lleihau tagfeydd a llygredd.  Canfu’r arolwg fod 31 y cant o bobl wedi teithio dros 15 milltir i’r gwaith cyn Covid, gyda 28 y cant arall yn teithio rhwng 3 a 15 milltir.  Roedd 62 y cant o’r ymatebwyr yn teithio i’r gwaith mewn car. 

Er nad yw’r ffigurau hyn yn rhai cadarn, mae hyn yn dangos y gallai gweithio o bell gyfrannu’n gadarnhaol at yr agenda teithio llesol.

Dadansoddiad manwl o’r ymatebion

Agweddau

Roedd yr holl ymatebwyr yn gadarnhaol ynghylch y canolfannau gweithio o bell.  Gweithwyr yn y sector preifat oedd y rhai mwyaf cadarnhaol, gyda 75 y cant ohonynt yn dweud eu bod yn teimlo’n gadarnhaol neu’n gadarnhaol ar y cyfan am y Canolfannau Gweithio o Bell. (44 y cant yn gadarnhaol ar y cyfan, 31 y cant yn gadarnhaol).

Y grŵp â’r ganran isaf o atebion cadarnhaol neu gadarnhaol ar y cyfan oedd pobl 55-64, sef 62 y cant, ond roedd hwn yn un o’r grwpiau gyda’r lefel isaf o ymatebwyr (13% o’r holl ymatebwyr)

Roedd 74 y cant o’r bobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol, dinasoedd neu drefi (gweler y fethodoleg) hefyd yn teimlo’n gadarnhaol am y polisi

Ym mhob grŵp, dywedodd nifer isel (o dan 4 y cant) eu bod yn teimlo’n negyddol am y polisi.

Argymhelliad

Er bod pobl wedi gallu dewis cymryd rhan yn yr arolwg eu hunain a bod y niferoedd yn isel ar gyfer pobl 18 i 24 oed, mae’n bosibl bod y data yma yn dangos y byddai’n ddefnyddiol cael rhagor o ymchwil i agweddau pobl ifanc at weithio gartref, oherwydd tybir yn aml fod hynny’n negyddol.

Senario Gweithio sy’n cael ei Ffafrio

Roedd pob grŵp o blaid dull gweithio hybrid. Roedd gweithio hybrid yn fwyaf poblogaidd ymysg gweithwyr yn y sector preifat, gyda 51 y cant o’r ymatebwyr yn ffafrio’r dewis hwn.

Y senario lleiaf poblogaidd ymysg pob grŵp oedd dychwelyd i swyddfa gonfensiynol, gyda rhwng 5 a 5.5 y cant o’r holl grwpiau’n dewis hwn.

Roedd rhwng 19 y cant a 23 y cant wedi dewis canolfan gweithio o bell leol fel eu dewis gorau. Roedd pob grŵp yn gadarnhaol am ddewisiadau eraill yn lle swyddfa heb fawr o wahaniaeth rhwng gwahanol grwpiau.

Fyddech chi’n talu?

Dywedodd y rhan fwyaf o’r holl grwpiau y byddent yn amharod i dalu i ddefnyddio canolfan. Dim ond 9 y cant o’r holl ymatebwyr a ddywedodd y byddent yn fodlon talu. Fodd bynnag, dyma’r maes sydd â’r gwahaniaeth mwyaf rhwng gwahanol grwpiau o ymatebwyr gyda 26 o weithwyr yn y sector preifat yn dweud y byddent yn fodlon talu, ond dim ond 5 y cant o weithwyr y sector cyhoeddus fyddai’n fodlon talu.

Roedd y rhan fwyaf o’r holl grwpiau oedran wedi mynegi amharodrwydd i dalu i ddefnyddio canolfan, gyda rhwng 7 ac 11 y cant yn dweud y byddent yn fodlon talu.  

Bydd darparu canolfannau gweithio lleol y mae modd eu defnyddio am ddim yn gorfod bod yn rhan o’r cynnig yn y dyfodol. Bydd y cynlluniau peilot yn casglu data er mwyn i ni allu llunio dewisiadau ymarferol i roi canolfannau gweithio o bell ar waith, a sut bydd y rhain yn cael eu hariannu.  

Gofynion gwasanaeth

Dyma oedd y pedwar prif ofyniad gwasanaeth, o restr o ddeuddeg:

  • cartref
  • natur/mannau gwyrdd
  • yn agos at siopau
  • cysylltiadau trafnidiaeth

Roedd y pedwar uchaf yr un fath ar gyfer pob grŵp oedran, gyda rhai newidiadau bach i drefn blaenoriaeth yr ymatebwyr hynaf ac ieuengaf.  Mae maint y boblogaeth ar gyfer y ddau grŵp hyn yn fach iawn, felly bydd angen rhagor o waith ymgysylltu i sicrhau bod ystod lawn o safbwyntiau’n cael eu hystyried. Yr hynaf yw pobl yr uchaf yw’r gyfran a oedd eisiau bod yn nes at eu cartref, ac nid oedd y ffactorau eraill mor bwysig.

Roedd pob sector wedi dewis ‘Yn agos at eu cartref’ fel dewis cyntaf, gyda’r un pedwar prif reswm dros ddewis y lleoliad. Roedd y ganran ar gyfer pob categori yn debyg ar gyfer pob sector.  I’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu, bod yn agos at ofal plant a chartref oedd bwysicaf - roedd bod yn agos at natur/mannau gwyrdd a siopau hefyd yn bwysig i’r grŵp hwn.

Bydd angen monitro dull teithio yn ofalus iawn.  Os yw’n bwysig i bobl fod yn agos at siopau, gallai hyn awgrymu y bydd pobl yn defnyddio ceir. Fodd bynnag, mae’n galonogol gweld cysylltiadau trafnidiaeth fel un o’r prif atebion, a bod yn agos at lwybr beiciau oedd y pumed dewis yn y rhan fwyaf o’r categorïau oedran.

Wrth ofyn ‘beth fyddech chi’n hoffi ei weld yn y ganolfan’, dyma oedd y pedwar prif ateb:

  • band eang
  • system archebu
  • gweithfannau parod
  • ystafelloedd cyfarfod

Band eang da oedd y dewis cyntaf ar gyfer pob oed, sector, grŵp incwm, pobl a ddewisodd y Gymraeg fel eu prif iaith a’r rheini sydd ag ymrwymiadau gofalu.

Roedd mwy o bobl hunangyflogedig wedi dweud bod ystafelloedd cyfarfod a mannau i gydweithio yn bwysig iddynt.

Roedd sylwadau ychwanegol yn awgrymu y byddai ymatebwyr yn hoffi gweld cyfleusterau coffi/lluniaeth da, canolfannau sy’n addas i gŵn, cyfleusterau parcio beiciau a chawodydd yn y canolfannau gweithio o bell.

Argymhelliad

Ymchwilio i ateb digidol ar gyfer system archebu unedig.

Manteision gweithio mewn canolfannau gweithio o bell

Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith oedd y prif ateb gan bob grŵp oedran yn y categori hwn; fodd bynnag, mae gwahaniaethau bach iawn rhwng y pedwar prif ateb:

  • cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • gweithio’n hyblyg
  • arbed costau teithio
  • gwella fy ôl troed carbon

Efallai fod hyn yn arwydd cynnar bod ffactorau ariannol ac amgylcheddol yn bwysig, yn ogystal â’r rheini sy’n ymwneud â llesiant a hwylustod personol.

Trafnidiaeth a theithio  

Gobeithir y bydd y polisi gweithio o bell yn lleihau’r defnydd o geir, ac yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau lleol.  

Nid oedd llawer o newid ar draws y grwpiau incwm gyda niferoedd tebyg yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae categorïau grwpiau oedran 35 i 44 a 45 i 54 yn fwy tebygol o ddefnyddio’r car. Mae pobl iau a hŷn yn fwy tebygol o gerdded, ond bach iawn oedd maint y sampl ar gyfer y ddau grŵp hynny.

Roedd mwy o weithwyr yn y sector preifat yn defnyddio’r trên, sef 15 y cant, wrth gymharu â chanolrif o 9 y cant. Pobl 35 i 44 oed oedd y mwyaf tebygol o gerdded.

O ran arferion teithio cyn covid, ychydig iawn o wahaniaeth a welwyd ar draws grwpiau oedran – pobl 35 i 44 oed oedd yn teithio bellaf, gyda’r ganran uchaf o bobl yn y categori teithio 15 milltir a phellach.

Roedd 42 y cant o'r gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn teithio dros bymtheg milltir, felly byddai effaith gadarnhaol petai’r bobl hyn yn gweithio’n nes at eu cartref. Roedd 55 y cant o'r gweithwyr yn y trydydd sector yn teithio dros bymtheg milltir, a 45 y cant o’r gweithwyr yn y sector preifat, serch hynny roedd y rhain yn samplau bach.

Roedd gan bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu ganran ychydig yn llai o bobl yn teithio dros bymtheg milltir (47 y cant) wrth gymharu â phobl heb gyfrifoldebau gofalu (50 y cant)                  

Roedd pobl a oedd yn byw mewn lleoliad trefol yn fwy tebygol o deithio dros 15 milltir i weithio cyn COVID-19, sef 49 y cant, o’i gymharu â 34 y cant o’r rheini sy’n byw mewn lleoliad gwledig.

Dadansoddi lleoliadau

Gofynnwyd i’r ymatebwyr osod pin lle bydden nhw’n hoffi cael canolfan gweithio o bell. Gweler atodiad b: map gwres o’r ymatebion.

Caerdydd oedd yr ardal gyda’r nifer fwyaf o binnau a’r ardal gyda’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r arolwg. Roedd wyth pin mewn un lleoliad - Canolfan Celfyddydau Chapter yn Nhreganna.

Roedd wyth pin yn Llaneirwg, sy’n awgrymu diddordeb ar gyrion y ddinas lle ceir llai o wasanaethau.

Roedd y rhan fwyaf o’r pinnau mewn maestrefi cyfoethocach fel Llandaf a’r Eglwys Newydd, gydag ychydig iawn ohonynt mewn ardaloedd mwy difreintiedig fel Trelái a Thremorfa. 

Yng Ngogledd Cymru, roedd naw deg pin ar y map ym Mhorthaethwy, Ynys Môn a Chaernarfon, ardal o ryw ddeugain milltir sgwâr, sy’n dangos diddordeb. Bydd angen gwneud rhagor o waith manwl i weld sut byddai canolfan gweithio o bell o fudd i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal ag unrhyw rai eraill lle mae’r ymatebwyr wedi dangos diddordeb.

Roedd Llandudno a’r ardal gyfagos yn ddewis poblogaidd arall, er bod y pinnau wedi’u gwasgaru ar draws sir Conwy, ac roedd naw yn adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.  Gan symud pymtheg milltir i’r tir, mae clwstwr o chwe phin yn nhref fach Llanrwst.  Gallai lleoliadau fel hyn fod yn addas iawn ar gyfer ychwanegu cyfleusterau at gyfleusterau cymunedol presennol fel canolfannau cymunedol neu lyfrgelloedd.

Roedd dros 100 pin ar y map yn y Barri, Penarth a’r ardal gyfagos.

Dim ond ugain pin oedd yng Nghasnewydd, felly mae angen rhagor o waith ymgysylltu i asesu’r diddordeb yn yr ardal hon.

Ar lefel leol, roedd hi’n amlwg bod llai o lawer o binnau’n cael eu rhoi mewn ardaloedd difreintiedig. Er enghraifft, roedd ugain o binnau wedi cael eu rhoi yn ardaloedd Treganna a Phontcanna yng Nghaerdydd, a dim ond un yr un a gafodd Trelái a Phentre-baen. Yn yr un modd, cafodd deuddeg o binnau eu rhoi yng nghanol Casnewydd, a dim ond un o’r rheini oedd yn ardal Pillgwenlli.

Mae nifer o esboniadau posibl. Fodd bynnag, mae’n dangos yn glir bod angen gwneud mwy o waith i ymgysylltu gweithwyr a busnesau ym mhob ardal â’r polisi.

Gofynnwyd i bobl nodi lle bydden nhw’n hoffi gweithio’n lleol. Gan nad oes rhaid i hyn fod yng nghyffiniau eu cartref, efallai fod rhai o'r ymatebwyr wedi dewis lleoliad sydd eisoes ar gael y tu allan i’w hardal leol, ond sy’n dal yn weddol leol. Mae ffactorau eraill sy’n effeithio ar y data hwn yn cynnwys diffyg mannau addas mewn ardal, cyrhaeddiad cyhoeddus yr ymarfer, cyfansoddiad y gweithlu lleol a diffyg ymgysylltu â’r llywodraeth mewn rhai ardaloedd daearyddol.

Bylchau yn y data a gwendidau

Yr ymarfer ymgysylltu cyntaf oedd hwn i gasglu’r brif dystiolaeth am y polisi gweithio o bell.  Cysylltwyd â rhanddeiliaid allweddol drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol ar-lein fel e-bost, cyfryngau cymdeithasol, Busnes Cymru a gwefannau Llywodraeth Cymru.  Dylid cofio bod yr ymarfer hwn wedi cael ei gynnal yn ystod y pandemig ac amodau'r cyfyngiadau symud, felly nid oedd hi mor hawdd defnyddio rhai sianeli i gyfeirio pobl at yr arolwg.  Roedd yr ymatebwyr yn cael dewis os oeddent am ymateb ai peidio ac felly efallai eu bod yn tueddu i fod o blaid gweithio o bell.

Roedd nifer dda wedi cymryd rhan yn ein harolwg cyhoeddus cyntaf (cafwyd dros 2,500 o sylwadau yn ystod y 6 wythnos) er y cydnabyddir y bydd angen rhagor o waith ymgysylltu wedi’i dargedu.  Roedd hi’n amlwg ein bod wedi cael llai o ymatebion o rai lleoliadau yng Nghymru – yn enwedig ardaloedd mwy difreintiedig.  Mae’n gwneud synnwyr felly ein bod yn canolbwyntio’r gwaith ymgysylltu i sicrhau bod unrhyw negeseuon, deunyddiau cefnogi ac ymgyrchoedd yn cyrraedd pob gweithiwr a busnes.  Bydd hyn yn cynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, y rheini sy’n siarad Cymraeg nawr a’r rheini a allai siarad Cymraeg yn y dyfodol.

Mae hi’n bwysig cyrraedd pobl nad ydynt wedi gweithio o bell yn draddodiadol wrth ystyried dyfodol y ffordd hon o weithio. Cynigir y bydd defnyddio gwahanol gyfryngau a thechnegau, ac efallai rhoi rhannau o’r rhaglen ymgysylltu ar gontract allanol, yn helpu i gyflawni hyn.

Gall hyn gynnwys deunydd ymgyrchu sy’n briodol ar gyfer gwahanol grwpiau, fel YouTube, Blogiau yn ogystal â gofyn am wybodaeth gan aelodau amlwg o wahanol gymunedau. Bydd paneli dinasyddion, stondinau ymgysylltu ar strydoedd, holiaduron a gweithgareddau allgymorth eraill hefyd yn helpu i gasglu ymatebion sy’n adlewyrchu ein cymunedau’n well.

Dewisiadau ar gyfer gweithredu ac ymgysylltu yn y dyfodol

  1. cynnal dadansoddiad o’r bylchau i ganfod lle mae angen rhagor o waith ymgysylltu yn ôl grwpiau demograffig.
  2. sefydlu dulliau ar gyfer cam nesaf y gwaith ymgysylltu.
  3. parhau i gynnal a gwerthuso cynlluniau peilot.
  4. sefydlu ac arfarnu dewisiadau i ariannu unrhyw ddatblygiadau arfaethedig.
  5. gweithio gyda chydweithwyr ar ddatrysiad digidol i’r system archebu.
  6. cynnal ymchwil i agweddau pobl ifanc at weithio o bell.
  7. gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr adran drafnidiaeth i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i weithredu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r agenda Teithio Llesol.
  8. ymchwilio i’r angen am waith ymgysylltu wedi’i dargedu â grwpiau demograffig penodol. 

Atodiad a: wybodaeth ddemograffig yr ymatebwyr

Ble ydych yn gweithio fel arfer (yn ol awdurdod lleol)? 

Awdurdod lleol Canran yr ymatebwyr
Anhysbys 22%
Y Bont ar Ogwr 2%
Caerphilly 1%
Caerfyrddin 7%
Ceredigion 3%
Caerfyrddin 29%
Conwy 2%
Sir Ddinbych 2%
Sir y Flint 1%
Gwynedd 6%
Ynys Mon 1%
Merthyr Tydfil 2%
Sir Fynwy 1%
Aberafan 2%
Casnewydd 2%
Sir Benfro 2%
Powys 9%
Rhondda Cynon Taf 4%
Abertawe 2%
Torfaen 1%
Sir Forgannwg 3%
Wrecsam 0%
Y tu allan i Cymru 2%

Grŵp oedran yr ymatebwyr

Grŵp oedran Canran yr ymatebwyr
Anhysbys 22%
18 i 24 2%
25 i 34 13%
35 i 44 22%
45 i 54 26%
55 i 64 13%
65+ 1%

Incwm cartref

Incwm cartref Canran yr ymatebwyr
Anhysbys 24%
£14,999 neu iau 1%
£15,000 i £19,999 1%
£20,000 i £29,999 8%
£30,000 i £39,999 11%
£40,000 i £49,999 10%
£50,000 i £59,999 10%
£60,000 i £69,999 8%
£70,000 i £79,999 6%
£80,000 i £89,999 4%
£90,000 throsodd 6%
Dewis peidio dweud 11%

Prif iaith

Prif iaith Canran yr ymatebwyr
Heb ymateb 22%
Saesneg 69%
Cymraeg 7%
Iaith arall 1%

Rhyw yr Ymatebwyr

Rhywedd Canran yr ymatebwyr
Gwryw 62%
Benyw 37%
Dewis peidio dweud 1%

Cyfeiriadedd Rhywiol

Cyfeiriadedd Rhywiol Canran yr ymatebwyr
Stret/heterorywiol 93%
Deurywiol 2%
Hoyw neu lesbiaidd 2%
LHDT 2%
Anrhywiol 0.4%
Parywiol 0.4%
Dewis peidio dweud 0.2%

A oes gennych gyflwr corfforol neu feddyliol y mae disgwyl iddo barhau am fyw na 12 mis

A oes gennych gyflwr corfforol neu feddyliol y mae disgwyl iddo barhau am fyw na 12 mis Canran yr ymatebwyr
Ydw 80%
Nac ydw 20%

Ethnigrwydd

Ethnigrwydd Cyfanswm yr ymatebwyr
Gwyn, Cymreig / Seisnig / Albanaidd / Gwyddelig Gogledd Iwerddon / Prydeinig

1031

Gwyn, Gwyddelig 

7

Gwyn, unrhyw gefndir arall

35

Cymysg, Gwyn ac Asiaidd

5

Cymysg, Gwyn a Du Caribïaidd

3

Asiaidd, Asiaidd Cymreig, neu Asiaidd Prydeinig

7

Du, Caribïaidd

1

Unrhyw gefndir cymysg arall neu luosog

1

Cymysg, Gwyn a Du Affricanaidd

4

Gwyn, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig

1

Unrhyw gefndir ethnig arall

5

Mae’n well gen i beidio â dweud

1

Crefydd neu gred

Crefydd neu gred Cyfanswm 
Cristion     414
Dim crefydd 582
Pagan 3
Mae’n well gen i beidio â dweud 56
Crefydd arall 13
Iddew 3
Ysbrydol nid crefyddol 3
Shintöydd  1
Dyneiddiwr 4
Hindŵ     2
Agnostig 3
Mwslim     3
Bwdhydd 4
Dim 4

Atodiad b: map gwres o’r ymatebion

Ble hoffech chi weld canolfan gweithio o bell?

Image
Map of Wales showing preferred remote working hub locations

Footnotes

[1] Yn seiliedig ar ymchwil gan yr Athro Alan Felstead, a ddyfynnwyd yn  “Polisi Gweithio o Bell - Llywodraeth Cymru. Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau”, Ionawr 2021.