Neidio i'r prif gynnwy

I nodi Dydd Gwŷl Dewi, mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi 11 o brosiectau cyfalaf newydd i gefnogi twf yr iaith Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • 11 o brosiectau cyfalaf ledled Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg
  • £1.2m i roi cymorth i’r Urdd ar ôl y pandemig

Mae’r prosiectau’n cael eu henwi yn sgil proses ymgeisio a fydd bellach yn golygu eu bod yn symud ymlaen i’r cam nesaf yn y broses achos busnes ac yn gwneud cais am gyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg, sydd werth dros £30 miliwn, yn dilyn y cyhoeddiad am y cyllid y llynedd.

Mae’r cyllid wedi anelu at gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sefydlu darpariaeth Cyfrwng Cymraeg newydd a chefnogi’r gwaith o drochi disgyblion yn yr iaith yn gynnar yn ogystal â helpu dysgwyr o bob oed i wella’u sgiliau a meithrin hyder yn ymdrin â’r Gymraeg.

Bydd y prosiectau o fewn naw ardal awdurdod lleol yng Nghymru:

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerdydd
  • Caerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Sir Benfro
  • Wrecsam

Mae’r cynlluniau’n cynnwys sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, cynyddu capasiti mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli, sefydlu Canolfannau Trochi Cymraeg ac yn ehangu capasiti’r ddarpariaeth drochi iaith Gymraeg bresennol. 

Mae £1.2m ychwanegol hefyd yn cael ei roi i’r Urdd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, a hynny er mwyn rhoi  cymorth i’r sefydliad ieuenctid i barhau â’i weithgareddau ar ôl i Covid-19 effeithio’n fawr arnynt.

Bydd y cyllid yn cefnogi rhwydwaith o swyddogion datblygu yn yr Urdd ledled Cymru, ac yn rhoi cymorth i gynnal prentisiaethau cyfrwng Cymraeg o fewn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r cyllid yn ychwanegol at gyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mynediad i’r Eisteddfod yn Sir Ddinbych eleni yn rhad ac am ddim yr haf hwn.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae cynyddu’r cyfleoedd i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn hollol ganolog i feithrin twf y Gymraeg a’i defnyddio fwyfwy yn ein bywyd bob dydd.

Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i fodloni’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, drwy gynyddu capasiti mewn ysgolion a throchi iaith. Bydd y buddsoddiad yn ategu ein cynlluniau i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg staff mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Mae creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn bwysig hefyd, boed hynny’n cystadlu yn gelfyddydol neu mewn chwaraeon, neu ymweld â’r Eisteddfod. Rwy’n falch, felly, o roi cymorth i’r Urdd dros y flwyddyn nesaf er mwyn iddynt allu parhau â’r gwaith arbennig o agor drysau a rhoi cyfleoedd gwych i bobl ifanc.

Bydd yr holl weithgareddau hyn yn helpu i ni gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.