Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30m ychwanegol i ddatblygu addysg Gymraeg.
Mae'r buddsoddiad cyfalaf yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, drwy gefnogi pob dysgwr i ddod yn siaradwyr Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.
Nod y buddsoddiad yw cynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, cefnogi trochi yn y Gymraeg yn gynnar drwy wella’r trosglwyddo o ofal plant i ysgolion cynradd, a helpu dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog i wella eu sgiliau a'u hyder yn y Gymraeg.
Am y tro cyntaf, bydd y cwricwlwm newydd i Gymru yn cyflwyno continwwm o ddilyniant a disgwyliadau o ran caffael y Gymraeg. Bydd ysgolion dwyieithog hefyd yn addysgu cyfran fwy o'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r cyllid yn ail ran o fuddsoddiad o'r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg, a sefydlwyd yn 2018. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £46 miliwn i awdurdodau lleol drwy'r cynllun, gan gefnogi 46 o brosiectau ledled Cymru hyd yma a chreu bron i 3,000 o leoedd mewn ysgolion a gofal plant.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
Mae darparu ysgolion o'r radd flaenaf i blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn allweddol i Brosiect 2050. Mae mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg yn sicrhau bod plant yn dod yn ddwyieithog o leiaf.
Mae angen i ni hefyd gynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog sy'n dysgu Cymraeg yn llwyddiannus. Rwyf am sicrhau bod mwy o ysgolion dwyieithog yn cyflwyno cyfran fwy o'r cwricwlwm newydd yn y Gymraeg, er mwyn rhoi sylfaen ieithyddol gref i ddysgwyr.
Mae'r cyllid yn ategu ein rhaglen wych Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, sydd wedi cwblhau 170 o brosiectau ysgolion neu golegau newydd yn ei cham cyntaf, gyda 43 o brosiectau newydd ar y gweill.
Rydym yn bwrw ymlaen â chyflawni prosiectau cyfalaf i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan helpu i gyflawni ein nod hirdymor o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.